Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
29/09/2022 - FORMATION OF A NUTRIENT MANAGEMENT BOARD TO TACKLE PHOSPHORUS POLLUTION IN THE "RIVER DEE AND BALA LAKE" SPECIAL AREA OF CONSERVATION ref: 2080 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/09/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/10/2022
Yn effeithiol o: 29/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno:
(a) bod Cyngor Sir Ddinbych yn ymuno â’r
Bwrdd Rheoli Maethynnau ac yn cydweithio gyda’i bartneriaid i fynd i’r afael â
llygredd ffosfforws yn nalgylch Afon Dyfrdwy a
(b) bod
Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yn cynrychioli’r Cyngor, gyda’r Aelod
Arweiniol Cynllunio a Datblygu Lleol yn ddirprwy.
29/09/2022 - PHASE 2 SOCIAL HOUSING RETROFIT WORKS - RHYDWEN DRIVE, RHYL ref: 2079 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/09/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/10/2022
Yn effeithiol o: 29/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:
(a) dyfarnu’r contract yn uniongyrchol i’r
contractwr sy’n ymgymryd â cham 1 y gwaith ar hyn o bryd yn seiliedig ar y
cyfraddau cystadleuol a geir drwy Fframwaith Ynni’r Gynghrair Caffael Gymreig
fel y cytunwyd arnynt gan yr Adain Gaffael, a
(b) bod y cyfnod galw i mewn 5 diwrnod sydd ei
angen cyn gweithredu penderfyniad y Cabinet yn cael ei hepgor ar y sail bod y
contract presennol yn dod i ben ar 30 Medi 2022 ac y bydd unrhyw oedi o ran
dyfarnu’r contract yn arwain at gostau ychwanegol ac oedi yn y rhaglen gan
arwain at y risg o fethu dyddiadau cau a nodwyd wrth amodi bod rhaid gwario
grantiau erbyn dyddiadau penodol.
29/09/2022 - BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET ref: 2081 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/09/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/10/2022
Yn effeithiol o: 29/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet.
29/09/2022 - ADRODDIAD CYLLID ref: 2078 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/09/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/10/2022
Yn effeithiol o: 29/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:
(a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn
erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb;
(b) cymeradwyo’r cyfleusterau storio halen newydd yn
safleoedd depos Corwen a Lôn Parcwr, Rhuthun
fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad,
a
(c) chymeradwyo datblygu ac adeiladu cyfleusterau lles, storio cerbydau a chyfarpar newydd yng Ngerddi Botanegol
y Rhyl, fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad.
29/09/2022 - Cofnodion ref: 2077 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/09/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/10/2022
Yn effeithiol o: 29/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2022 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir.
29/09/2022 - Materion Brys ref: 2076 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/09/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/10/2022
Yn effeithiol o: 29/09/2022
Penderfyniad:
Ni chodwyd unrhyw fater brys.
29/09/2022 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 2075 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/09/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/10/2022
Yn effeithiol o: 29/09/2022
Penderfyniad:
Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.
29/09/2022 - YMDDIHEURIADAU ref: 2074 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/09/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/10/2022
Yn effeithiol o: 29/09/2022
Penderfyniad:
Y Cynghorydd Elen Heaton
Byddai’r Cynghorydd Julie Matthews ychydig yn hwyr i’r cyfarfod o ganlyniad i ymrwymiad cynharach.
03/10/2022 - ADRODDIAD AR SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD DRAFFT 2022 ref: 2082 Argymhellion a gymeradwywyd
I roi trosolwg o Adroddiad ar
Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru 2022 (gweler Atodiad 1), sydd wedi cael
ei lunio fel gofyniad dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
2014.
Mae’n rhaid llunio un
Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad rhanbarthol drafft ar gyfer Rhanbarth
Gogledd Cymru a’i gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ar gyfer pob un o’r 6 ardal
Awdurdod Lleol a Bwrdd y Bwrdd Iechyd Lleol.
Bydd fersiwn terfynol yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yn mynd
i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i’w gymeradwyo’n derfynol ym mis Tachwedd
2022 cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/10/2022
Yn effeithiol o: 03/10/2022
Penderfyniad:
Bod yr Aelod Arweiniol yn cymeradwyo Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru 2022 ar frys er mwyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn er cymeradwyaeth, yn sgil yr oedi a achoswyd gan y cyfnod o alaru.
28/09/2022 - DIDDYMU DIRWYON COSBOL AM DDYCHWELYD LLYFRAU BENTHYG AC EITEMAU ERAILL YN HWYR. ref: 2073 Argymhellion a gymeradwywyd
Bydd y penderfyniad yn dileu rhwystr sylweddol i’r
defnydd o lyfrgelloedd - dirwyon cosbol hwyr a godir am ddychwelyd llyfrau
benthyg ac eitemau eraill yn hwyr.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/09/2022
Yn effeithiol o: 28/09/2022
Penderfyniad:
Dileu'r dirwyon cosbol hwyr a godir am ddychwelyd llyfrau benthyg ac eitemau eraill yn hwyr.
26/09/2022 - PENODI I BANEL MAETHU SIR DDINBYCH AC I GYD-BANEL MABWYSIADU CONWY A SIR DDINBYCH ref: 2072 For Determination
Penodi Cynghorydd i fod ar Banel Maethu Sir
Ddinbych a Chynghorydd i fod ar Gyd-banel Mabwysiadu Conwy a Sir Ddinbych.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/09/2022
Yn effeithiol o: 26/09/2022
Penderfyniad:
I.
Penodi’r Cynghorydd Andrea
Tomlin i fod ar Banel Maethu Sir Ddinbych;
II.
Penodi’r Cynghorydd
Jeanette Chamberlain-Jones i fod ar Gyd-banel Mabwysiadu Conwy a Sir Ddinbych;
a
III.
Bod cyfnod y penodiadau hyn
yn cyd-fynd â thymor y Cyngor presennol oni phenodir rhywun neu rywrai newydd.
22/09/2022 - CAFFAEL CYNWYSYDDION AR GYFER PROSIECT AILFODELU GWASTRAFF ref: 2070 Argymhellion a gymeradwywyd
Mae’r penderfyniad yn ymwneud â
chaffael cynwysyddion ailgylchu sych (troli bocs) i gefnogi’r model gwastraff newydd
(didoli ar garreg y drws). Mae’r penderfyniad yn galluogi dyfarnu contract yn
uniongyrchol i’r cyflenwr yn dilyn ymarfer Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw ym
Mawrth 2022.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/09/2022
Yn effeithiol o: 22/09/2022
Penderfyniad:
Cytunwyd i ddyfarnu contract yn uniongyrchol ar gyfer cynwysyddion ailgylchu sych i gefnogi’r model gwastraff newydd a bod y penderfyniad yn cael ei weithredu’n syth oherwydd y risg o’r gost yn cynyddu neu oedi oherwydd ffactorau marchnad ansicr.
22/09/2022 - CAFFAEL CONTRACT AROLYGU A DADANSODDI ASBESTOS ref: 2071 Argymhellion a gymeradwywyd
Roedd y penderfyniad yn
ymwneud â chael cymeradwyaeth i Gyngor Sir Ddinbych ddechrau proses gaffael ac ymrwymo
i gontract gwaith gyda Chontractwr Arolygu a Dadansoddi Asbestos. Y rheswm dros
ofyn am y gymeradwyaeth oedd oherwydd bod y contract yn un pwrpasol ac wedi’i
drefnu am gyfnod o 12 mis gyda chyfle i’w ymestyn wedyn bob 12 mis hyd uchafswm
o 10 mlynedd yn ddibynnol ar berfformiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/09/2022
Yn effeithiol o: 22/09/2022
Penderfyniad: