Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
27/04/2021 - PHASE 1 ENABLING WORKS - COLOMENDY INDUSTRIAL ESTATE EXPANSION INCLUDING DCC WASTE TRANSFER STATION - CONTRACT AWARD ref: 1677 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/04/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/04/2021
Yn effeithiol o: 27/04/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn –
(a) cymeradwyo
dyfarnu Contract ar gyfer Cam 1 Gwaith Galluogi – Estyniad Ystâd Ddiwydiannol
Colomendy gan gynnwys Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff CSDd i’r contractwr a enwyd
fel yr argymhellwyd o fewn yr adroddiad ac yn unol â’r Adroddiad Argymhellion
Dyfarnu Contract (Atodiad 1 i’r adroddiad), a
(b) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.
27/04/2021 - QUEENS BUILDINGS RHYL - PHASE 1 PROCUREMENT ref: 1674 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/04/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/04/2021
Yn effeithiol o: 27/04/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r strategaeth gaffael i benodi prif gontractwr ar gyfer Cam 1
datblygiad Adeiladau’r Frenhines y Rhyl.
27/04/2021 - BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET ref: 1676 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/04/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/04/2021
Yn effeithiol o: 27/04/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.
27/04/2021 - ADRODDIAD CYLLID ref: 1675 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/04/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/04/2021
Yn effeithiol o: 27/04/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn –
(a) nodi’r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth
gyllidebol y cytunwyd arni;
(b) cymeradwyo
sefydlu cronfa wrth gefn benodol a throsglwyddo £200,000 i helpu i ariannu'r
gwaith dros yr haf fel rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfan (nodir yn adran 6.3 yr
adroddiad), a
(c) cymeradwyo sefydlu cronfa wrth gefn benodol a
throsglwyddo £59,000 i helpu i ariannu costau prosiect yn ymwneud â’r prosiect
Ffyrdd Newydd o Weithio (nodir yn adran 6.4 yr adroddiad).
27/04/2021 - Cofnodion ref: 1673 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/04/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/04/2021
Yn effeithiol o: 27/04/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir.
27/04/2021 - Materion Brys ref: 1672 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/04/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/04/2021
Yn effeithiol o: 27/04/2021
Penderfyniad:
Ni chodwyd unrhyw
fater brys.
27/04/2021 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1671 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/04/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/04/2021
Yn effeithiol o: 27/04/2021
Penderfyniad:
Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad.
27/04/2021 - Ymddiheuriadau ref: 1670 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/04/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/04/2021
Yn effeithiol o: 27/04/2021
Penderfyniad:
Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau.
22/04/2021 - AIL ADOLYGIAD O'R DATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL: DATGANIAD CYDWEITHIO IS-RANBARTHOL ref: 1669 Argymhellion a gymeradwywyd
Bu i Gyngor Sir Ddinbych (CSDd
) gefnogi Ail Adolygiad y Datganiad Technegol Rhanbarthol (DTRh 2) ar 26 Ionawr
2021. Mae DTRh 2 yn rhagweld y galw am agregau yn y dyfodol er mwyn i Awdurdodau
Cynllunio Lleol (ACLl) allu cynllunio datblygiad mwynau mewn modd rheoledig a
chymesur. Mae’n darparu argymhellion strategol i bob ACLl o ran eu dosraniadau,
ac yn dynodi tebygolrwydd unrhyw ddyraniadau newydd allai fod angen eu gwneud
yn y CDLl nesaf, er mwyn diwallu’r galw a ragwelir yn y dyfodol drwy gydol
cyfnod perthnasol y cynllun.
Er diben cynllunio mwynau’n strategol, mae DTRh 2 yn nodi
set o is-ranbarthau yng Nghymru sydd wedi’u seilio ar nifer o ffactorau, megis
math o fwynau, patrymau cyflenwi, symud cyn lleied ag sy’n bosib ar yr agregau
neu feysydd marchnad neilltuol. Mae Siroedd Dinbych, Fflint a Wrecsam yn llunio
is-ranbarth ‘Gogledd Ddwyrain Cymru’, ac mae Siroedd Conwy, Gwynedd, Ynys Môr
ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi’u grwpio fel is-ranbarth ‘Gogledd
Orllewin Cymru’.
Mae DTRh 2, gweler paragraff 1.27, yn cyflwyno’r gofyniad
ar bob ACLl ym mhob is-ranbarth i baratoi Datganiad o Gydweithrediad
Is-ranbarthol (DGIS), sydd nid yn unig yn sicrhau bod y dosraniadau isranbarthol
cyffredinol, fel y’u nodir yn y ddogfen ar gyfer pob sir gyfansoddol, yn cael
eu bodloni, ond eu bod hefyd yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth hanfodol i
ddangos y bydd y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd (neu sydd ar ddod) yn
cyflenwi’r angen a aseswyd yn wrthrychol am fwynau dros gyfnod y cynllun. Bydd
unrhyw Ddatganiad o Gydweithrediad Is-ranbarthol yn ystyriaeth gynllunio
faterol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/04/2021
Yn effeithiol o: 22/04/2021
Penderfyniad:
Mae’r Aelodau’n cefnogi
cydweithio rhwng awdurdodau mewn perthynas â chyflenwi mwynau agregau yn
is-ranbarth Gogledd Ddwyrain Cymru, drwy gymeradwyo’r Datganiad o
Gydweithrediad Is-ranbarthol (DGIR).
Rhoddir pwerau dirprwyedig i’r
Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel mewn
perthynas â diwygiadau golygyddol, h.y. ansylweddol, i’r DGIR DRAFFT pe bai’r
angen yn codi o ganlyniad i argymhellion a wneir gan Sir y Fflint neu Wrecsam
ar ôl cwblhau’r adroddiad hwn.