Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
22/10/2020 - NORTH EAST WALES ARCHIVES AND RUTHIN GAOL ref: 1513 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 6 o blaid, 1 yn erbyn, 0 ymatal.
Ar ôl rhoi ystyriaeth i’r adroddiad am Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a
Charchar Rhuthun, gwnaeth y Pwyllgor:
Benderfynu:
(i)
nodi’r
cynnydd a wnaed hyd yma a chefnogi’r cynigion ar gyfer defnyddio Carchar
Rhuthun yn y dyfodol;
(ii)
cofnodi
pryderon nad oedd unrhyw gynlluniau wrth gefn yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer yr
Archifau na’r cynnig treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun, pe na bai’r cais i
Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gyllid i ddatblygu Hyb yn yr
Wyddgrug ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn llwyddiannus; a
(iii)
bod canlyniadau Ymgynghoriad Mynediad
presennol Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu dosbarthu i aelodau er
gwybodaeth.
22/10/2020 - COMMUNITY BENEFITS POLICY ref: 1512 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr
argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw
un eu bod eisiau atal eu pleidlais.
Penderfynodd y Pwyllgor: - ar ôl ystyried y polisi -
(i)
cefnogi ei nodau a’i amcanion;
(ii)
cadarnhau, fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2); ac
(iii)
argymell o
ran tudalen 4 y polisi, dan yr adran ‘Mentrau Cynaliadwyedd Amgylcheddol’, bod
y geiriau “cyfyngu ar lygredd” yn cael eu disodli â “cyfyngu ar lygredd lle
bo’n bosibl”.
22/10/2020 - IMPACT OF RUTHIN PRIMARY REVIEW ref: 1511 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 10 o blaid, 0 yn erbyn, 1 ymatal.
Penderfynodd y
Pwyllgor:
ar ôl ystyried y
canfyddiadau yn yr adroddiad ac a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth -
(i)
derbyn
y wybodaeth am effaith Adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun fel y’i haseswyd yn
erbyn saith nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
(ii)
cadarnhau,
fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r
Effaith ar Les (Atodiad 1);
(iii)
bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei baratoi
i’w ddosbarthu i aelodau am yr effaith economaidd ar Rhewl yn dilyn cau’r ysgol
fel rhan o adolygiad addysg gynradd Rhuthun;
(iv)
bod
gwybodaeth yn cael ei darparu i aelodau sy’n cynnwys ystadegau’r Arolwg o’r
Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar draws Sir Ddinbych yn ddiweddar; a
(v)
bod
diolchgarwch aelodau yn cael ei gyfleu i holl staff yr ysgol, y Gwasanaeth
Addysg a Gwasanaethau eraill y Cyngor am eu hymdrechion a’u hymrwymiad o ran
sicrhau darpariaeth addysg a chefnogaeth i ddisgyblion y sir trwy gydol
pandemig COVID-19.
22/10/2020 - FEEDBACK FROM COMMITTEE REPRESENTATIVES ref: 1515 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Ni chafwyd
adborth.
22/10/2020 - Rhaglen Waith Archwilio ref: 1514 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr
argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw
un eu bod eisiau atal eu pleidlais.
Penderfynwyd: ar ôl rhoi
ystyriaeth i’r wybodaeth a ddarparwyd, ac yn amodol ar yr arsylwadau a’r
awgrymiadau uchod -
(i)
cymeradwyo
rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor; a
(ii)
bod
cyfarfod ychwanegol yn cael ei drefnu ar gyfer dechrau mis Chwefror 2021 i
ystyried materion sy’n ymwneud â Phrosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff
22/10/2020 - Cofnodion ref: 1509 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni
chymerwyd pleidlais ffurfiol. Dywedodd
pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei
erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.
Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a
gynhaliwyd ar 3 Medi 2020 fel cofnod cywir.
22/10/2020 - MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD ref: 1510 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Adolygu Penderfyniad y Cabinet o ran Gwaredu Tir
Wrth Ymyl Ysgol Pendref, Dinbych: Gwahoddodd y Cadeirydd yr Is-Gadeirydd i
annerch y Pwyllgor o ran ymateb y Cabinet i argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei
archwiliad o’r penderfyniad uchod. Er
bod y Cabinet wedi trafod argymhellion y Pwyllgor yn fanwl ac roedd hanner
aelodau’r Cabinet wedi cefnogi argymhellion y Pwyllgor, roedd y Weithrediaeth
wedi cadarnhau ei benderfyniad gwreiddiol, ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd. Nododd Is-Gadeirydd y Pwyllgor ei siom gyda’r
canlyniad, a holodd a allai’r Pwyllgorau Craffu fyth berswadio’r Cabinet i
adolygu eu penderfyniadau.
Dywedodd aelodau
Gweithrediaethau a oedd yn bresennol yn y cyfarfod presennol eu bod o’r farn
bod y Pwyllgor Craffu wedi dal y sawl sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif a’u
bod wedi creu trafodaeth adeiladol.
Roedd nifer o faterion wedi codi a oedd yn debygol o gael eu hystyried
wrth benderfynu ar bolisi cynllunio yn y dyfodol. Roedd defnyddio’r bleidlais fwrw wedi amlygu
bod Cabinet y Cyngor yn gytbwys, a’i fod yn cynnwys aelodau â gwahanol
safbwyntiau.
22/10/2020 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1508 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Datganodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol ag eitem 4 ar y rhaglen, ‘Cofnodion’
gan ei fod yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen, ‘Effaith
Adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun’:
Y Cynghorydd Huw
O Williams – mae’n rhiant i ddisgybl sy’n mynychu un o’r ysgolion
Y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Cefn Meiriadog
Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts – mae’n Rhiant a Llywodraethwr yn Ysgol Pen Barras
Y Cynghorydd
Merfyn Parry – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor
Aelod
Cyfetholedig Neil Roberts – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Borthyn
Y Cynghorydd
Cheryl Williams – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Crist y Gair
Y Cynghorydd
Emrys Wynne – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn
Y Cynghorydd
Martyn Holland – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Bro Famau
Y Cynghorydd Andrew Thomas – mae’n llywodraethwr yn un o ysgolion y sir
Y Cynghorydd Tina Jones – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Melyd
Y Cynghorydd Graham Timms – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Dinas Brân,
Llangollen
22/10/2020 - Ymddiheuriadau ref: 1507 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Anton Sampson a’r Cynghorydd
Glenn Swingler.
20/10/2020 - PROPOSED APPROACH TO TENDERING FOR PHASE 1 / ENABLING WORKS CONTRACT FOR COLOMENDY INDUSTRIAL ESTATE EXPANSION INCLUDING NEW DCC WASTE TRANSFER STATION (WTS) ref: 1501 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/10/2020
Yn effeithiol o: 20/10/2020
Penderfyniad:
Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) Caniatau’r ymarfer tendro arfaethedig, a
(b) Nodi y bydd adroddiad arall yn cael ei roi gerbron y Cabinet (drwy'r
Grŵp Buddsoddi Strategol) i geisio cymeradwyaeth i'r Dyfarniad Contract
dilynol ar ôl yr ymarfer tendro, a fydd hefyd yn cadarnhau'r trefniadau rheoli
contract, costau'r tendr a manylion y contract.
20/10/2020 - ASBESTOS REMOVAL CONTRACT ref: 1504 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/10/2020
Yn effeithiol o: 20/10/2020
Penderfyniad:
Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) Cytuno i gychwyn y broses gaffael a hysbysebu ar gyfer y contract gwaith
hwn gyda Chontractwr Cael Gwared ar Asbestos
(b) Cytuno y dylid gweithredu ar unwaith yn dilyn y penderfyniad uchod er mwyn
rhwystro unrhyw oedi o ran dyfarnu’r contract, a
(c) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau;
20/10/2020 - EXTENSION OF THE COUNCIL'S UK LEISURE FRAMEWORK ref: 1503 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/10/2020
Yn effeithiol o: 20/10/2020
Penderfyniad:
Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo estyniad i Fframwaith Hamdden y DU tan Ionawr 2022 ar
yr un telerau ag y cafodd ei ddyfarnu, ac mewn unrhyw achos bydd y fath gyfnod
o estyniad wedi’i gyfyngu i 50% o werth y cytundeb fframwaith gwreiddiol yn
unol â Rheoliad 72 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.
20/10/2020 - ITEM FROM SCRUTINY COMMITTEE - REVIEW OF CABINET DECISION RELATING TO DISPOSAL OF LAND ADJACENT TO YSGOL PENDREF, DENBIGH ref: 1502 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/10/2020
Yn effeithiol o: 20/10/2020
Penderfyniad:
Pleidlais: 4 o
blaid, 4 yn erbyn, 0 ymataliad; Defnyddiodd yr Arweinydd ei bleidlais fwrw i
bleidleisio o blaid y penderfyniad.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) Yn cydnabod casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn
ei adolygiad o benderfyniadau’r Cabinet ar 22 Medi 2020;
(b) Ar ôl adolygu eu penderfyniad ac ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu
Cymunedau, gadarnhau penderfyniad y Cabinet ar 22 Medi i:
(i) cymeradwyo
gwaredu tir wrth ymyl Ysgol Pendref, Dinbych a amlinellir mewn coch ar y
cynllun (Atodiad A yr adroddiad) nad oes ei angen ar y Cyngor, ar y farchnad
agored ar gyfer datblygiad preswyl, a dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol i gymeradwyo’r gwerthiant terfynol, a
(ii) cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o Effaith ar Les i ystyriaeth
(Atodiad B o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad.
20/10/2020 - Cofnodion ref: 1500 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/10/2020
Yn effeithiol o: 20/10/2020
Penderfyniad:
Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad
PENDERFYNWYD y
dylid, yn amodol ar un pwynt o gywirdeb, derbyn cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 22 Medi 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.
20/10/2020 - Materion Brys ref: 1499 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/10/2020
Yn effeithiol o: 20/10/2020
Penderfyniad:
Rhoddodd y Prif
Weithredwr ddiweddariad yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y diwrnod cynt y
bydd Cymru i gyd yn cael ei rhoi dan gyfyngiadau cyfnod clo byr mewn ymdrech i
geisio ailafael mewn rheolaeth ar y coronafeirws.
20/10/2020 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1498 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/10/2020
Yn effeithiol o: 20/10/2020
Penderfyniad:
Datganodd y
Cynghorwyr Bobby Feeley a Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn eitem 7 –
Ymestyn Fframwaith Hamdden DU y Cyngor,
oherwydd eu bod yn Gyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyf.
20/10/2020 - Ymddiheuriadau ref: 1497 For Determination
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/10/2020
Yn effeithiol o: 20/10/2020
Penderfyniad:
Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau.
20/10/2020 - BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET ref: 1506 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/10/2020
Yn effeithiol o: 20/10/2020
Penderfyniad:
Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad
PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.
20/10/2020 - ADRODDIAD CYLLID ref: 1505 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/10/2020
Yn effeithiol o: 20/10/2020
Penderfyniad:
Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol a gytunwyd.
02/10/2020 - COMMITTEE TIMETABLE 2021 ref: 1481 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/10/2020
Yn effeithiol o: 02/10/2020
Penderfyniad:
Roedd
cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd
holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu
bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal.
Penderfynodd y
Pwyllgor: -
Bod y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd yn argymell wrth y Cyngor Llawn y dylid cymeradwyo’r
amserlen bwyllgorau drafft ar gyfer 2021.
02/10/2020 - ANNUAL REPORT OF THE COUNCIL'S SCRUTINY COMMITTEE 2019/20 ref: 1483 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/10/2020
Yn effeithiol o: 02/10/2020
Penderfyniad:
Roedd
cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.
Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw
un eu bod yn erbyn. Felly:
PENDERFYNWYD:- Bod y Pwyllgor Gwasanaethu Democrataidd yn nodi
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2019/20.
02/10/2020 - ANNUAL REVIEW OF POLITICAL BALANCE AND APPOINTMENT OF SCRUTINY CHAIRS ref: 1482 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/10/2020
Yn effeithiol o: 02/10/2020
Penderfyniad:
Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl
aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod
yn erbyn. Felly:
Penderfynwyd:- Bod y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd yn ystyried safle cydbwysedd gwleidyddol ar gyfer dyrannu seddi
pwyllgor. |
02/10/2020 - INDEPENDENT REMUNERATION PANEL FOR WALES ANNUAL REPORT 2020 / 2021 ref: 1478 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/10/2020
Yn effeithiol o: 02/10/2020
Penderfyniad:
Gofynnodd yr
aelodau bod rhagor o waith yn cael ei gynnal ar ddyrannu uwch gyflogau a
chyflwyno’r gwaith yn ôl i’r pwyllgor yn ddiweddarach. Roedd cytundeb ar yr
argymhelliad trwy gonsensws. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr
argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn. Felly: |
PENDERFYNWYD -
I.
Bod y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd yn nodi penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2020/21 mewn perthynas â thalu cyflogau
sylfaenol, uwch a dinesig a thaliadau i aelodau cyfetholedig.
II.
Bod y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd yn nodiadau lefel y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i
aelodau i ymgymryd â'u dyletswyddau, o ran 'Penderfyniadau' 9 a 10 yr Adroddiad
Blynyddol.
III.
Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn i'r
Grŵp 'Ffyrdd Newydd o Weithio' edrych ar ddyrannu
uwch gyflogau ac adrodd yn ôl
i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ddiweddarach.
02/10/2020 - COVID-19 RECOVERY PLAN FOR DEMOCRATIC SERVICES ref: 1480 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/10/2020
Yn effeithiol o: 02/10/2020
Penderfyniad:
Roedd cytundeb
ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Mynegodd
aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad. Y Pwyllgor:
PENDERFYNODD:- yn amodol ar yr arsylwadau uchod, cefnogi’r
cynllun adfer ar gyfer trefniadau democrataidd, fel yr amlinellir yn Atodiad 1
i’r adroddiad.
02/10/2020 - FORWARD WORK PROGRAMME ref: 1477 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/10/2020
Yn effeithiol o: 02/10/2020
Penderfyniad:
Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. |
|
Ni
chymerwyd pleidlais ffurfiol. Felly: |
|
PENDERFYNWYD – nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
02/10/2020 - Cofnodion ref: 1476 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/10/2020
Yn effeithiol o: 02/10/2020
Penderfyniad:
Dywedodd y
Cynghorydd Rachel Flynn ei bod wedi anfon ei hymddiheuriadau i’r cyfarfod
blaenorol ond nad oeddynt wedi cael eu cofnodi. Roedd cytundeb ar yr
argymhelliad trwy gonsensws. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr
argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu
bod yn dymuno ymatal. Felly: Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 04
Hydref 2019 fel cofnod cywir. |
02/10/2020 - Materion Brys ref: 1475 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/10/2020
Yn effeithiol o: 02/10/2020
Penderfyniad:
Ni chodwyd unrhyw
fater brys.
02/10/2020 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1479 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/10/2020
Yn effeithiol o: 02/10/2020
Penderfyniad:
Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n rhaid i bob
aelod ddatgan cysylltiad personol yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru
ar Gydnabyddiaeth Ariannol, gan ei fod yn pennu cyflogau’r Cyflogwyr.
Datganodd bob Cynghorydd oedd yn bresennol
gysylltiad personol yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol 2020/21.
02/10/2020 - Ymddiheuriadau ref: 1474 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/10/2020
Yn effeithiol o: 02/10/2020
Penderfyniad:
Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Joe Welch.