Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
13/09/2023 - APPLICATION FOR A PRIVATE HIRE VEHICLE LICENCE ref: 2370 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Trwyddedu
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2023
Yn effeithiol o: 13/09/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn amodol ar amodau
ychwanegol fel y nodwyd yn Atodiad 3 o’r adroddiad.
13/09/2023 - LICENSING COMMITTEE FORWARD WORK PROGRAMME 2023 ref: 2369 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Trwyddedu
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2023
Yn effeithiol o: 13/09/2023
Penderfyniad:
(a) nodi
cynnwys yr adroddiad, a
(b) chymeradwyo’r
rhaglen gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig ar gyfer 2023 fel yr amlinellir yn
Atodiad A yr Adroddiad.
13/09/2023 - REVIEW OF HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE DRIVER MEDICAL REQUIREMENTS ref: 2368 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Trwyddedu
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2023
Yn effeithiol o: 13/09/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) rhoi awdurdod i swyddogion
ymgynghori â gyrwyr trwyddedig a gweithredwyr a pherchnogion trwyddedig
ynghylch gweithredu safonau meddygol Grŵp 2; a
(b) lle na dderbyniwyd unrhyw
wrthwynebiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori, rhoi awdurdod i swyddogion
weithredu gofyniad am dystysgrifau meddygol Grŵp 2 ar gyfer gyrwyr
trwyddedig fel a nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad, a ddaw i rym o 1 Rhagfyr
2023 ar gyfer ymgeiswyr newydd, ac 1 Mehefin 2024 ar gyfer deiliaid trwydded
presennol, a
(c) os bydd unrhyw un yn
gwrthwynebu’r cynigion yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd swyddogion yn cael
cyfarwyddyd i baratoi adroddiad i’w gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu
er mwyn ystyried y gwrthwynebiadau.
13/09/2023 - PROPOSED REVISED HACKNEY CARRIAGE BYELAWS ref: 2367 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Trwyddedu
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2023
Yn effeithiol o: 13/09/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) bod Is-ddeddfau Enghreifftiol
arfaethedig yr Adran Drafnidiaeth (fel a nodir yn Atodiad A yr adroddiad) yn
cael eu cefnogi, a
(b) rhoi awdurdod i swyddogion
ddechrau ymgynghoriad ffurfiol gyda phob perchennog cerbyd hacni a gyrwyr
trwyddedig.
13/09/2023 - PROPOSED CHANGES TO HACKNEY CARRIAGE VEHICLES TABLE OF FARES AND CHARGES ref: 2366 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Trwyddedu
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2023
Yn effeithiol o: 13/09/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD, trwy bleidlais fwyafrifol –
(a) bod yr Aelodau'n cyfarwyddo'r
swyddogion i ymgynghori ar weithredu cynnydd i'r tariff o 5% (wedi'i dalgrynnu
i'r ganran gyfan agosaf) yn unol â'r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro;
(b) awdurdodi swyddogion i fwrw
ymlaen â hysbysiad statudol sydd â dyddiad gweithredu o leiaf 28 diwrnod ar ôl
cyhoeddi'r hysbysiad, a
(c) rhoi cyfarwyddyd i swyddogion
baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu os ceir unrhyw
wrthwynebiadau i’r hysbysiad statudol.
13/09/2023 - Cofnodion y cyfarfod diwethaf ref: 2365 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Trwyddedu
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2023
Yn effeithiol o: 13/09/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.
13/09/2023 - MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD ref: 2364 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Trwyddedu
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2023
Yn effeithiol o: 13/09/2023
Penderfyniad:
Ni
chodwyd unrhyw faterion brys.
13/09/2023 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 2363 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Trwyddedu
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2023
Yn effeithiol o: 13/09/2023
Penderfyniad:
Y
Cynghorydd Brian Jones – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen: Newidiadau
arfaethedig i Dabl Ffioedd Cerbydau Hacni.
13/09/2023 - Ymddiheuriadau ref: 2362 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Trwyddedu
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2023
Yn effeithiol o: 13/09/2023
Penderfyniad:
Y Cynghorydd Delyth Jones
Byddai’r Cynghorydd Win Mullen-James yn hwyr yn cyrraedd
y cyfarfod.
27/09/2023 - YMESTYN CONTRACT ADFERIAD LAKE AVENUE- WEDI'I ARIANNU DRWY GRANT CYMORTH TAI ref: 2391 For Determination
Cymeradwyaeth i ymestyn prosiect Adferiad Lake Avenue ymhellach er mwyn i ni ystyried cyfleoedd ailfodelu gwasanaethau iechyd meddwl a ariennir gan y Grant Cymorth Tai. Mae hyn yn golygu edrych ar yr opsiwn o uno nifer o gontractau iechyd meddwl mewn i un, er mwyn cynnig gwasanaeth mwy hyblyg sy’n cael ei arwain gan anghenion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2023
Yn effeithiol o: 27/09/2023
Penderfyniad:
Cymeradwyo ymestyn prosiect tai â chymorth Adferiad Lake Avenue a ariennir gan y Grant Cymorth Tai
26/09/2023 - GORCHYMYN (AMRYW FFYRDD) (TERFYNAU CYFLYMDER 30MYA) CYNGOR SIR DDINBYCH 2023 ref: 2392 Argymhellion a gymeradwywyd
Y gwrthwynebiadau a gafwyd mewn cysylltiad â’r Gorchymyn Traffig
arfaethedig uchod. Mae’r Gorchymyn Traffig yn cynnwys cynigion i wneud y terfyn
cyflymder yn 30mya ar gyfer y ffyrdd a restrir yn Atodiad A yr adroddiad hwn.
Bydd y darnau hyn o ffyrdd yn Eithriadau i’r terfyn amser 20 mya diofyn sy’n
dod i rym ar draws Cymru ar 17 Medi 2023.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/09/2023
Yn effeithiol o: 26/09/2023
Penderfyniad:
Gwrthod gwrthwynebiadau i Orchymyn (Amryw Ffyrdd) (Terfynau Cyflymder 30mya) Cyngor Sir Ddinbych 2023, sef y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig sy’n cynnwys eithriadau i’r terfyn cyflymder 20 mya diofyn.
19/09/2023 - ANNUAL TREASURY MANAGEMENT REPORT 2022/23 ref: 2388 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/09/2023
Yn effeithiol o: 19/09/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) nodi perfformiad swyddogaeth
Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2022/23 a’i chydymffurfiaeth â’r
Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys
Blynyddol 2022/23 (Atodiad 1 yr adroddiad), a
(b) chadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad)
fel rhan o’i ystyriaethau.
19/09/2023 - DENBIGHSHIRE PROCUREMENT STRATEGY ref: 2387 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/09/2023
Yn effeithiol o: 19/09/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau, a
(b) chymeradwyo’r Strategaeth Gaffael
ddiweddaraf (Atodiad 1 yr adroddiad) sy’n cefnogi blaenoriaethau a nodau lles
Sir Ddinbych, a’i rôl ym mharatoadau Sir Ddinbych ar gyfer y newidiadau i
reoliadau caffael cyhoeddus sydd ar y gweill.
19/09/2023 - NORTH WALES REGIONAL PARTNERSHIP BOARD 10 YEAR STRATEGIC CAPITAL PLAN DRAFT ref: 2386 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/09/2023
Yn effeithiol o: 19/09/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a chytuno gyda blaenoriaethau cyfalaf
Sir Ddinbych ar gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol integredig i ddiwallu
anghenion y dyfodol.
19/09/2023 - YSGOL PLAS BRONDYFFRYN PROJECT - PROPOSED NEW BUILD OF SCHOOL ref: 2385 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/09/2023
Yn effeithiol o: 19/09/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD, trwy
bleidlais fwyafrifol, bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo’r
safle a ffefrir ar gyfer adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn
ar safle Ffordd Ystrad, a ddangosir fel safle A ar y cynllun atodedig yn
Atodiad 2 yr adroddiad a chytuno i gefnogi symud ymlaen trwy gyflwyno cais
cynllunio;
(b) cytuno
bod yn rhaid i’r cais cynllunio ddangos yn glir y bydd darpariaeth awyr agored
amgen o fudd cymunedol cyfwerth neu fwy yn cael ei hadeiladu yn lle’r gofod
hamdden a gollir drwy ddatblygu ar gae chwarae’r ysgol, a
(d) chadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les, yn Atodiad
3 yr adroddiad, fel rhan o’i ystyriaethau.
19/09/2023 - RHYL BUSINESS IMPROVEMENT DISTRICT (BID) RE-BALLOT ref: 2384 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/09/2023
Yn effeithiol o: 19/09/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) nodi cynnwys Cynllun Busnes yr AGB
(Atodiad 1 yr adroddiad) ac yn cefnogi’r argymhelliad nad oes unrhyw sail i roi
feto ar y cynigion o dan Ddeddfwriaeth AGB Cymru (2005) (gweler paragraffau 4.8
a 4.9 yr adroddiad);
(b) awdurdodi swyddogion i gyflawni unrhyw
gytundebau cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer gweithredu Ardoll yr AGB,
trefniadau gwasanaeth a’r bleidlais ac unrhyw faterion angenrheidiol eraill ar
gyfer yr AGB arfaethedig;
(c) cadarnhau y bydd CSDd yn defnyddio un o’i
bleidleisiau ym mhleidlais AGB o blaid yr AGB, a
(d) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad II yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau.
19/09/2023 - BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET ref: 2390 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/09/2023
Yn effeithiol o: 19/09/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i’r dyfodol y Cabinet.
19/09/2023 - ADRODDIAD CYLLID ref: 2389 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/09/2023
Yn effeithiol o: 19/09/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd
yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni.
19/09/2023 - Cofnodion ref: 2383 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/09/2023
Yn effeithiol o: 19/09/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.
19/09/2023 - Materion Brys ref: 2382 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/09/2023
Yn effeithiol o: 19/09/2023
Penderfyniad:
Caniataodd yr Arweinydd gwestiwn mewn perthynas â
fandaliaeth ar yr arwyddion ffordd 20mya a gyflwynwyd yn ddiweddar.
19/09/2023 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 2381 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/09/2023
Yn effeithiol o: 19/09/2023
Penderfyniad:
Y Cynghorydd Gill German – Cysylltiad Personol – Eitem 6
ar y Rhaglen
Y Cynghorydd Pauline Edwards – Cysylltiad Personol –
Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen
Y Cynghorydd Brian Jones – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 5 ar y Rhaglen
Y Cynghorydd Rhys Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 6 ar y Rhaglen
Y Cynghorydd Emrys Wynne – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 6 ar y Rhaglen
Y Cynghorydd Mark Young – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 6 ar y Rhaglen
19/09/2023 - YMDDIHEURIADAU ref: 2380 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/09/2023
Yn effeithiol o: 19/09/2023
Penderfyniad:
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad.
19/09/2023 - POLISI CASGLIADAU GWASTRAFF DIWEDDARAF 2023 ref: 2379 Argymhellion a gymeradwywyd
Mae Polisi Casgliadau
Gwastraff diweddaraf wedi’i gynhyrchu gan y Gwasanaeth Gwastraff. Mae’r polisi
wedi’i ddiweddaru ar gyfer y gwasanaeth cyfredol i gadarnhau agweddau o gynnig
y gwasanaeth, hefyd mae wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r model gwasanaeth
newydd sydd heb ei weithredu hyd yma. Mae’r Polisi wedi’i rannu i wasanaeth
cyfredol a gwasanaeth newydd.
Mae’r prif newidiadau i’r
polisi cyfredol yn cynnwys cryfhau cyfrifoldebau / egluro’r polisi a’r
newidiadau sylweddol i’r gwasanaeth, fel a ganlyn:
a)
Mae adrannau 1a ac 1b yn
manylu ar amlder y gwasanaeth casglu ailgylchu a heb fod yn ailgylchu a’r math
o gynwysyddion a ddefnyddir. Mae adran 2
yn ymwneud â chasgliadau amgen ar gyfer eiddo sy’n anaddas ar gyfer y
gwasanaeth safonol. Mae adran 3 yn
ymwneud â biniau cymunedol swmpus.
b)
Mae adran 4 yn egluro’r
gofyniad cyfreithiol yng Nghymru i ailgylchu gwastraff bwyd (o fis Hydref 2023
ymlaen). Mae adran 5 yn ymwneud â’r gwasanaeth casglu cyfarpar electronig a
thrydanol a’r gwasanaeth casglu batris.
c)
Mae Adran 7 ‘cyflwyno’
ac Adran 8 ‘ffyrdd preifat heb eu mabwysiadu’ wedi’u hatgyfnerthu yn nhermau
beth sy’n dderbyniol a’r hysbysiad ffurfiol o fannau casglu ar gyfer eiddo gyda
mynediad wedi’i gyfyngu.
d)
Mae adran 18 yn egluro’r
gwasanaeth Gwastraff Hylendid nad yw’n Heintus o 2024 ymlaen.
e)
Mae adran 22 yn
amlinellu’r newidiadau i’r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 19/09/2023
Yn effeithiol o: 19/09/2023
Penderfyniad:
I gymeradwyo’r Polisi
Casgliadau Gwastraff wedi’i ddiweddaru fel ei fod yn gallu dod i rym.