Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
26/01/2021 - DATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL AGREGAU, AIL ADOLYGIAD - ARDYSTIO DOGFEN ref: 1570 Argymhellion a gymeradwywyd
Mae Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru wedi cynnal ail adolygiad o Ddatganiad Technegol Rhanbarthol Cymru. Mae’r Datganiad Technegol Rhanbarthol yn rhagamcanu galw am agregau yn y dyfodol er mwyn i Awdurdodau Cynllunio Lleol gynllunio datblygiad mwynol mewn modd rheoledig a chymesur.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/01/2021
Yn effeithiol o: 26/01/2021
Penderfyniad:
Mae’r Cyngor yn cefnogi’r Datganiad Technegol
Rhanbarthol (Ail Adolygiad)
19/01/2021 - BUDGET 2021/22 - FINAL PROPOSALS ref: 1592 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/01/2021
Yn effeithiol o: 19/01/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn –
(a) nodi effaith
Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2021/22;
(b) cefnogi’r
cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran
4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb
yn derfynol ar gyfer 2021/22;
(c) argymell i’r
Cyngor y cynnydd cyfartalog arfaethedig o 3.8% yn Nhreth y Cyngor;
(d) argymell i’r
Cyngor fod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn
ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian sydd wedi’i
gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500mil os oes yna symud rhwng
ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y
Cyngor yn amserol, a
(e) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les a gyflwynwyd fel
rhan o’r adroddiad hwn.
19/01/2021 - HOUSING RENT SETTING & HOUSING REVENUE AND CAPITAL BUDGETS 2021/22 ref: 1591 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/01/2021
Yn effeithiol o: 19/01/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) mabwysiadu
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a
Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad);
(b) cynyddu rhent
anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai
Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £93.89 i’w weithredu o ddydd Llun 5
Ebrill 2021;
(c) nodi’r adroddiad
ychwanegol (Atodiad 3 i’r adroddiad) ar Arbedion Effeithlonrwydd,
Fforddiadwyedd a gwerth am arian, a
(d) bod y Cabinet yn
cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar
Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.
19/01/2021 - ESTABLISHMENT OF SPORT NORTH WALES PARTNERSHIP ref: 1590 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/01/2021
Yn effeithiol o: 19/01/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –
(a) cefnogi,
mewn egwyddor, sefydliad Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru ac yn dirprwyo
awdurdod i Bennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd mewn
ymgynghoriad gydag Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth a Swyddog Adran 151 i
gymeradwyo telerau y Cytundeb Rhwng Awdurdodau Terfynol, a
(b) bod Hamdden Sir
Ddinbych Cyfyngedig yn cael ei benodi i gynrychioli’r Cyngor ar Fwrdd
Llywodraethu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru gan weithredu fel asiant i’r
Cyngor.
19/01/2021 - BUS EMERGENCY SCHEME ref: 1589 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/01/2021
Yn effeithiol o: 19/01/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –
(a) cytuno ag
egwyddorion cytundeb Cynllun Brys ar gyfer Bysiau 2 (Atodiad 2 yr adroddiad) i
sicrhau cymorth ariannol (amodol) i'r
sector bysiau ac i sefydlu perthynas â Chyngor Sir y Fflint fel yr awdurdod
arweiniol rhanbarthol a'r llofnodwr, sy'n sicrhau bod yr arian brys parhaus yn
bodloni blaenoriaethau'r awdurdod ac yn cael ei ddarparu ar ei ran, ac
(b) maes o law, i
alw am adroddiad pellach ar gynigion i ddiwygio bysiau mewn perthynas â rheoli
gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn y dyfodol.
19/01/2021 - BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET ref: 1594 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/01/2021
Yn effeithiol o: 19/01/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.
19/01/2021 - ADRODDIAD CYLLID ref: 1593 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/01/2021
Yn effeithiol o: 19/01/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.
19/01/2021 - Cofnodion ref: 1588 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/01/2021
Yn effeithiol o: 19/01/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020 fel cofnod
cywir.
19/01/2021 - Materion Brys ref: 1586 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/01/2021
Yn effeithiol o: 19/01/2021
Penderfyniad:
Ni chodwyd unrhyw
faterion brys.
19/01/2021 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1587 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/01/2021
Yn effeithiol o: 19/01/2021
Penderfyniad:
Datganodd y
Cynghorwyr Bobby Feeley a Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol ag eitem 6
ar y rhaglen – Sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru, gan eu bod ill
dau’n Gyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig.
19/01/2021 - Ymddiheuriadau ref: 1585 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/01/2021
Yn effeithiol o: 19/01/2021
Penderfyniad:
Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau.