Penderfyniadau

Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.

Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

23/04/2024 - SUSTAINABLE COMMUNITIES FOR LEARNING - ROLLING PROGRAMME ref: 2547    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 23/04/2024 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/04/2024

Yn effeithiol o: 23/04/2024

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo bod y Rhaglen Amlinellol Strategol ddrafft ar gyfer y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, (Atodiad 1 yr adroddiad), yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w hystyried, a       

 

(b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 


23/04/2024 - NORTH EAST WALES ARCHIVE PROJECT ref: 2546    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 23/04/2024 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/04/2024

Yn effeithiol o: 23/04/2024

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cadarnhau ei gefnogaeth i Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru i dderbyn cynnig grant Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol o £7,371,397, yn amodol bod Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn gwneud yr un fath;

 

(b)      cadarnhau’r ymrwymiad i Gyngor Sir Ddinbych gyfrannu cyllid cyfatebol o £2,052,358 o gyllid cyfalaf a fyddai’n cael ei dalu drwy fenthyca darbodus yn amodol bod Cyngor Sir y Fflint yn cadarnhau eu bod yn derbyn y grant a’u cyfraniad cyfalaf hwythau.  Disgwyliwyd mai’r uchafswm cost refeniw i Gyngor Sir Ddinbych fyddai tua £136,000;

 

(c)      rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr ac Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, i lofnodi Cytundeb Cydweithio sy’n cynnwys adeiladu’r cyfleuster newydd, gweithrediad Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Phenawdau’r Telerau ar gyfer prydlesu’r adeilad newydd, cyn belled nad yw’r gost yn fwy na’r gyllideb gyffredinol o £12,892,294, a

 

(d)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 


23/04/2024 - BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET ref: 2549    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 23/04/2024 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/04/2024

Yn effeithiol o: 23/04/2024

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 


23/04/2024 - UPDATE TO MEDIUM TERM FINANCIAL STRATEGY AND PLAN FOR 2025/26 - 2027/28 AND REVIEW OF THE COUNCIL'S FINANCIAL RESILIENCE AND SUSTAINABILITY ref: 2548    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 23/04/2024 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/04/2024

Yn effeithiol o: 23/04/2024

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r diweddariadau fel a restrir yn adran 2.1 yr adroddiad, a

 

(b)      chymeradwyo cychwyn y cyfnod dylunio ar gyfer prosiectau Ysgol Bro Elwern, Ysgol Henllan, Ysgol Bro Cinmeirch ac Ysgol y Llys i alluogi i’r Achos Busnes Llawn gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo fel y manylir arno yn adran 4.7 ac Atodiadau 6 i 9 yr adroddiad.

 


23/04/2024 - Cofnodion ref: 2545    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 23/04/2024 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/04/2024

Yn effeithiol o: 23/04/2024

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 


23/04/2024 - Materion Brys ref: 2544    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 23/04/2024 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/04/2024

Yn effeithiol o: 23/04/2024

Penderfyniad:


23/04/2024 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 2543    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 23/04/2024 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/04/2024

Yn effeithiol o: 23/04/2024

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Jason McLellan – Cysylltiad Personol sy’n Rhagfarnu – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Rhys Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Pauline Edwards – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Mark Young – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Jason McLellan – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen

 


23/04/2024 - YMDDIHEURIADAU ref: 2542    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 23/04/2024 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/04/2024

Yn effeithiol o: 23/04/2024

Penderfyniad: