Penderfyniadau

Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.

Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

19/10/2021 - CONTRACT AWARD AND POLICY CHANGES FOR A NEW CONTRACT TO MANAGE OUR HOUSEHOLD WASTE RECYCLING CENTRES ref: 1813    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021

Yn effeithiol o: 19/10/2021

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod -

 

 (a)      Y Cabinet yn awdurdodi dyfarnu’r contract i’r Cynigydd A Ffafrir sydd wedi’i gynnwys yn yr Adroddiad Gwerthuso Tendr Caffael ar y cyd (Atodiad 1 o’r adroddiad) sydd wedi arddangos eu bod wedi cyflwyno’r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd ac yn nodi bod y contract yn cael ei ddyfarnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel yr awdurdod arweiniol;

 

 (b)      aelodau yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau ac yn nodi y bydd yn cael ei ddiweddaru ar ôl dyfarnu’r contract;

 

 (c)       Polisi Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar y Cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Atodiad 2 o’r adroddiad) yn cael ei fabwysiadu o ddyddiad dechrau’r contract;

 

 (d)      Arwystlon Gwastraff Adeiladu DIY (Atodiad 3 o’r adroddiad) yn cael eu mabwysiadu yn ffurfiol o ddyddiad dechrau’r contract;

 

 (e)      system archebu ar gyfer Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar y cyd  yn cael ei ddatblygu’n fewnol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn cael ei fabwysiadu'n barhaol;

 

 (f)        yr adroddiad yn mynd yn ôl i Bwyllgor Craffu Partneriaethau er mwyn adolygu blwyddyn gyntaf o weithrediad y contract newydd, a

 

 (g)      y Cabinet yn nodi bod angen cytuno ar Gontract Awdurdodau ar y Cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych, gan ofyn i’r Gwasanaethau Cyfreithiol i gefnogi’r gwasanaeth gyda pharatoi’r contract hwn.

 


19/10/2021 - PROPOSED APPROACH TO TENDERING FOR PHASE 2 NEW DCC WASTE TRANSFER STATION (WTS) AT COLOMENDY INDUSTRIAL ESTATE, DENBIGH ref: 1812    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021

Yn effeithiol o: 19/10/2021

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      Cymeradwyo’r ymarfer tendro arfaethedig fel y manylir yn yr adroddiad, ac yn

 

 (b)      cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 


19/10/2021 - GRAPHIC DESIGN AND PRINT FRAMEWORK DYNAMIC PURCHASING SYSTEM ref: 1811    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021

Yn effeithiol o: 19/10/2021

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r rhestr o gyflenwyr sydd wedi cael eu monitro ar gyfer y Fframwaith System Brynu Ddynamig newydd fel y’i manylir yn yr adroddiad.

 


19/10/2021 - BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET ref: 1815    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021

Yn effeithiol o: 19/10/2021

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 


19/10/2021 - ADRODDIAD CYLLID ref: 1814    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021

Yn effeithiol o: 19/10/2021

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      cymeradwyo defnyddio’r Grant Cynnal a Chadw Ysgolion sydd wedi’i ddyfarnu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (a fanylir arno yn Adran 6.7 o’r adroddiad ac Atodiadau 5, 6 a 7 o’r adroddiad).

 


19/10/2021 - Cofnodion ref: 1810    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021

Yn effeithiol o: 19/10/2021

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 


19/10/2021 - Materion Brys ref: 1809    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021

Yn effeithiol o: 19/10/2021

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 


19/10/2021 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1808    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021

Yn effeithiol o: 19/10/2021

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 


19/10/2021 - Ymddiheuriadau ref: 1807    Argymhellion a gymeradwywyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021

Yn effeithiol o: 19/10/2021

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Arweiniol dros yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol

 


20/10/2021 - CYFLWYNO FFIOEDD AR GYFER DARPARU CYNWYSYDDION GWASTRAFF AC AILGYLCHU: PENDERFYNIAD DIRPRWYEDIG AELOD ARWEINIOL ref: 1816    Argymhellion a gymeradwywyd

Cyflwynwyd y cynnig o arbed £40,000 drwy adfer costau llawn y ddarpariaeth biniau olwynion yn ystod y broses o osod cyllideb 2021/22, a byddai hynny’n cael ei gyflawni drwy godi tâl am gynwysyddion gwastraff domestig newydd ac ychwanegol.  Cynigir gweithredu’r newid hwn cyn gynted ag y bydd hynny’n ymarferol er mwyn i’r Gwasanaeth gyflawni’r arbedion y cytunwyd arnynt.

Mae Adran 46 Deddf Diogelu'r Amgylchedd (1990) yn galluogi awdurdod lleol i ddiffinio’r math o fin y dylid ei ddefnyddio i gyflwyno gwastraff domestig, ac i ofyn i’r preswylydd dalu am y bin.  Nid oes raid i breswylwyr nad oes ganddynt fin ar eu cyfer eu hunain yn unig (h.y. os ydynt yn rhannu cyfleusterau cymunol) dalu am y biniau, ond mae’n rhaid i’r biniau gael eu darparu gan gwmni rheoli’r eiddo, y datblygwr, y landlord neu’r darparwr tai, a gellir adfer y gost hon gan y preswylwyr drwy dâl gwasanaeth.

Bydd pob cynhwysydd gwastraff newydd a ddarperir gan y cyngor fel rhan o gyflwyniad y dull casglu gwastraff newydd yn cael eu darparu’n rhad ac am ddim.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 20/10/2021

Yn effeithiol o: 20/10/2021

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn cyflwyno’r atodlen codi tâl am gynwysyddion gwastraff (fel y nodir yn Atodiad 1 o’r adroddiad sydd ynghlwm) a’i bod yn cael ei gweithredu ar unwaith. 

 

Bod y Cyngor yn mabwysiadu Polisi Codi Tâl am Finiau newydd (gweler Atodiad 2 i’r adroddiad sydd ynghlwm) a’i fod yn cael ei weithredu ar unwaith.


13/10/2021 - CYMERADWYO YMESTYN CONTRACTAU HIGHBURY SUPPORT SERVICES AR GYFER POBL AG ANABLEDDAU DYSGU ref: 1806    Argymhellion a gymeradwywyd

Y penderfyniad yw i'r Aelod Arweiniol ddyfarnu estyniadau i dri chontract i Highbury Support Services.

 

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/10/2021

Yn effeithiol o: 13/10/2021

Penderfyniad:

Cymeradwyo ymestyn tri chontract i Highbury Support Services ar gyfer pobl ag anableddau dysgu - Erw Goch yn Rhuthun, Ffordd Russell yn y Rhyl a Pharêd y Dwyrain yn y Rhyl.