Mater - penderfyniadau
APPROVAL OF PREFERRED BIDDER, AND THE SECOND INTER-AUTHORITY AGREEMENT - NORTH WALES RESIDUAL WASTE PROJECT (NWRWTP)
19/02/2014 - APPROVAL OF PREFERRED BIDDER, AND THE SECOND INTER-AUTHORITY AGREEMENT - NORTH WALES RESIDUAL WASTE PROJECT (NWRWTP)
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo
dyfarnu statws Cynigydd o Ddewis i Wheelabrator Technologies Inc (WTI)
oherwydd, yn dilyn trafodaethau gyda'r WTI, bod eu Cais am Dendr Terfynol yn
werth am arian ar gyfer y bartneriaeth ac, yn dilyn gwerthusiad ariannol,
cyfreithiol a thechnegol manwl o’u cais, bod y bartneriaeth yn fodlon ar y
cydbwysedd risg arfaethedig gyda'r contract 'Cytundeb Prosiect';
(b) rhoi caniatâd i Gydbwyllgor Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru i gymryd yr
holl gamau angenrheidiol i fwrw ymlaen â’r broses - o’r Cynigydd o Ddewis hyd
at Gau’n Ariannol, a dyfarnu’r contract;
(c) ymrwymo i'r
Bartneriaeth a'r Prosiect drwy fabwysiadu, ynghyd â 4 Cyngor arall, yr egwyddorion
yn yr Ail Cytundeb Rhyng-Awdurdod sy'n adlewyrchu termau allweddol y Cytundeb
Prosiect sydd i’w wneud rhwng y Cyngor Arweiniol a’r Cynigydd o Ddewis wrth
Ddyfarnu’r Contract;
(d) dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr Arweiniol i gwblhau'r Ail Gytundeb
Rhyng-Awdurdod sydd i’w lofnodi gan yr awdurdodau cyfansoddol, ac i gylchredeg
y cytundeb terfynol i Swyddogion Monitro’r 5 Awdurdod er mwyn derbyn barn yr
holl Awdurdodau cyfansoddol ac i gyfeirio'r cytundeb yn ôl at y Cydbwyllgor er
mwyn iddynt gymeradwyo unrhyw wyriad o’r egwyddorion y cytunwyd arnynt;
(e) cytuno i
lofnodi'r Ail Gytundeb Rhyng-Awdurdod unwaith y bydd wedi ei gwblhau yn unol
â'r drefn uchod;
(f) cymeradwyo'r gyllideb ddiwygiedig arfaethedig 2013/14 ar gyfer £595,558
(fel y nodir yn Atodiad 5 i'r adroddiad);
(g) cymeradwyo
gwariant 2014/15 (£321,066) i fynd â'r broses gaffael gau’r broses gaffael yn
ariannol (fel y nodir yn Atodiad 5 i'r adroddiad), a
(h) bod aelodau’r Cydbwyllgor yn cymeradwyo gofynion parhaus cyllideb y
prosiect (paragraff 3.5, Atodiad 5).