Mater - penderfyniadau

Mater - penderfyniadau

FINANCIAL UPDATE REPORT

22/02/2013 - FINANCIAL UPDATE REPORT

Cyflwynodd y Cynghorydd J. Thompson Hill yr adroddiad a oedd yn manylu ar gyllideb refeniw a chynilion y Cyngor fel y’u cytunwyd ar gyfer 2012/13, fel ag ar ddiwedd Ionawr 2013.  Roedd yn darparu diweddariad cryno o’r Cynllun Cyfalaf,  safle ariannol cyfredol y Cyngor a cheisiai gymeradwyaeth i argymhellion a wnaethpwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol.

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet:-

 

(a)          Yn nodi’r cyllidebau a’r targedau arbedion am y flwyddyn, fel y’u nodir yn yr adroddiad, a’r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd

(b)          Yn cytuno i’r ariannu gwaith dichonolrwydd o ran Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Gymunedol Bodnant, Prestatyn hyd y swm o £1.8 miliwn