Mater - penderfyniadau
PROMOTE SCHOOL ATTENDANCE AND ENGAGEMENT IN EDUCATION
27/02/2024 - PROMOTE SCHOOL ATTENDANCE AND ENGAGEMENT IN EDUCATION
Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Gill German adroddiad ar
Hyrwyddo Presenoldeb yn yr Ysgol ac Ymgysylltiad Mewn Addysg (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw). Eglurodd nad oedd lefelau presenoldeb yn yr ysgol wedi cyrraedd y
lefelau cyn y pandemig, felly roedd angen mwy o waith i wella ymgysylltiad a
lefelau presenoldeb.
Rhoddwyd gwybodaeth ac
eglurwyd y mesurau i gefnogi disgyblion diamddiffyn i ail-ymgysylltu gyda’u
haddysg a dyfnhau dealltwriaeth o’r cyd-destun rhanbarthol a chenedlaethol wrth
ymdrin â’r lefel gyfredol o bryder yn genedlaethol.
Roedd cyfraddau presenoldeb
dros y tair blynedd ddiwethaf wedi gostwng ar hyd a lled Cymru a’r cyfartaledd
cyffredinol ar draws awdurdodau oedd 88.9% Cynradd/Uwchradd wedi’u cyfuno.
Roedd dadansoddiad manylach o’r patrwm presennol yn Atodiad 3 ac roedd y
ffigurau hyn yn dangos bod ffigurau presenoldeb cyfartalog Sir Ddinbych yn 90.1%
yn ystod tymor yr hydref 2023 o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 91.3%.
Roedd Gweinidog dros Addysg
a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau yn ddiweddar i ddod â
Chymru yn unol â Lloegr ble mae absenoldeb cyson yn cael ei ddiffinio fel colli
10% o sesiynau hanner diwrnod (30 sesiwn) yn hytrach na’r gyfradd absenoldeb
gyfredol o 20% o absenoldeb cyson sy’n gyfwerth â 60 sesiwn hanner diwrnod y
flwyddyn.
Roedd Sir Ddinbych wedi
cael cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Addysg Awdurdod Lleol
i ymdrin ag addysg ac ysgolion a’u cefnogi.
Roedd gwaith wedi bod yn
cael ei wneud gydag ysgolion ar yr agwedd allweddol o deuluoedd oedd mewn
trafferthion â thai gwael, byw mewn tlodi neu’n ei chael yn anodd gyda’r
argyfwng costau byw, gan y byddai hyn yn cael effaith ar y plant. Byddai ymgysylltu ag ysgolion a theuluoedd
yn hollbwysig i wella presenoldeb.
Roedd swyddogion yn ymweld â theuluoedd mewn ymgais i ddeall pam nad
oedd disgyblion yn mynd i’r ysgol ac yn ymgysylltu â’u haddysg, roedd
cefnogaeth yn cael ei chynnig er mwyn annog ail-ymgysylltu a gwella lefelau
presenoldeb.
Gan ymateb i gwestiynau’r
aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd a’r swyddogion:
·
Roedd ymyriadau’n hanfodol,
ond y prif anawsterau oedd nad oedd lefelau staff yn cynyddu i ymdopi â
chynnydd mewn galw a phwysau. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid
ychwanegol ond roedd wedi bod yn anodd penodi.
·
Roedd ymyriadau’n amrywio o
un ysgol i’r llall hefyd gan fod presenoldeb da mewn rhai ysgolion, oedd cystal
os nad gwell na’r lefelau cyn y pandemig, ond roedd ar eraill angen cefnogaeth
ac adnoddau ychwanegol i wireddu gwelliannau.
·
Roedd gwaith ar y gweill
gyda theuluoedd plant ag anghenion dysgu ychwanegol, rhai sy’n cael prydau
ysgol am ddim, ffoaduriaid, teuluoedd Sipsi, Roma a theithwyr, plant sy'n
derbyn gofal ac ati gan eu bod yn ddisgyblion â nodweddion diamddiffyn.
·
O ran y rhai sy’n cael
prydau ysgol am ddim, yn aml roedd gan y plant a theuluoedd hyn anghenion tai
ac roedd yn bwysig bod y plant yn dod i’r ysgol i fod mewn amgylchedd diogel ac
i gael un pryd poeth y dydd o leiaf.
·
Roedd gan lawer o blant
anghenion lles ac iechyd meddwl, ond nid oedd hyn yn esgus iddynt beidio â dod
i’r ysgol. Roedd rhai plant hefyd yn gofalu am aelodau’r teulu, felly roedd yn
bwysig bod eu hanghenion yn cael eu bodloni i’w galluogi i fynd i’r ysgol i
wella eu canlyniadau i’r dyfodol. Mae pob plentyn ar ei ennill o fynd i’r
ysgol. Roedd dull Un Cyngor ar waith er mwyn annog presenoldeb, ymgysylltiad a
lles disgyblion. Roedd hyn yn cael ei ymestyn i sefydliadau allanol hefyd,
hynny ydi ymarferwyr iechyd sy’n rhan o fywydau plant a’u teuluoedd/gofalwyr.
·
Roedd strategaeth
gyfathrebu wedi ei llunio yn dilyn adroddiad Estyn a thrafodaethau mewn
cynadleddau Penaethiaid. Roedd y strategaeth hon yn bwydo negeseuon ar y
cyfryngau cymdeithasol ac ati ar ba mor bwysig oedd hi i ddisgyblion fynd i’r
ysgol yn rheolaidd, peidio cyrraedd yr ysgol yn hwyr a bod teuluoedd ddim yn
mynd ar wyliau yn ystod y tymor ysgol. Nid bwriad y negeseuon hyn oedd
gelyniaethu rhieni a theuluoedd, eu pwyslais oedd bod yr Awdurdod yn malio am
bob plentyn, eu lles, eu dyheadau a’u dyfodol.
Roedd y strategaeth gyfathrebu yn cael ei gwerthuso a’i hadolygu bob mis
i sicrhau bod y dull yr oedd yn ei dargedu yn berthnasol i’r tueddiadau
diweddaraf.
·
Roedd gweithlu addysg y sir
yn greadigol iawn wrth feddwl am ffyrdd o ddileu rhwystrau fel bod disgyblion
yn ymgysylltu â’u dysgu a bod ganddynt ddiddordeb ynddo.
·
Roedd y cyllid ychwanegol
gan LlC wedi galluogi’r Tîm Gwaith Cymdeithasol Addysg i ehangu o 4 i 7 aelod o
staff. Er hynny, roedd y galw am gefnogaeth yn dal yn fwy na’r hyn y gallai’r
tîm ei ddarparu ar hyn o bryd.
·
Roedd dull ‘ysgol gyfan at
les emosiynol a meddyliol’ wedi cael ei roi ar waith yn holl ysgolion y sir.
Roedd y dull hwn wedi cael ei amlinellu mewn adroddiad i’r Pwyllgor ym mis Medi
2023.
·
Rhoddwyd Rhybuddion Cosb
Benodedig i rieni neu ofalwyr plant nad oedd yn mynd i’r ysgol gan eu bod yn
torri’r gyfraith. Yn anffodus, nid oedd y Rhybuddion Cosb Benodedig yn
effeithiol bob amser ond dyma’r drefn oedd ar waith gan mai dyma’r canllawiau
presennol i’w dilyn. Dim ond os nad oes unrhyw ddewis arall oedd y Rhybuddion
yn cael eu rhoi, pan oedd pob ffordd arall o gyfathrebu, ymgysylltu ac annog
rhieni neu ofalwyr wedi methu.
·
Roedd yr adroddiad a
gyhoeddwyd gan Estyn yr wythnos flaenorol ar ‘Wella presenoldeb mewn ysgolion
uwchradd’ yn cynnwys nifer o argymhellion i ysgolion, awdurdodau addysg lleol a
hefyd i Lywodraeth Cymru. Roedd Sir Ddinbych a’i hysgolion eisoes yn defnyddio
mwyafrif y dulliau a restrwyd yn yr argymhellion, ond byddai’n datblygu rhai
ohonynt ymhellach eto yn y dyfodol.
·
Ni fyddai’r cyllid ychwanegol
trwy’r Grant Addysg Awdurdod Lleol yn gallu cael ei ddefnyddio ar gludiant i’r
ysgol i fyfyrwyr. Roedd telerau ac amodau’r cyllid hwn yn nodi mai dim ond at
ddibenion lles a chefnogaeth addysgol oedd i gael ei ddefnyddio.
·
Roedd LlC wrthi’n adolygu
ei bolisi cludiant i’r ysgol ar hyn o bryd, o ran y pellter cymwys o gartref i
ysgol agosaf fwyaf addas disgyblion. Rydym yn dal i aros am ganlyniad yr
adolygiad hwn.
·
Byddai’r newidiadau
arfaethedig i’r trothwy ‘absenoldebau parhaus’ yn rhoi mwy o bwysau ar staff
ysgolion, staff addysg a gwasanaethau lles addysg. Byddai disgwyl i Lywodraeth Cymru drafod
gweithredu’r newidiadau hyn a’r effaith a ragwelir ar awdurdodau addysg lleol a
staff â deiliaid portffolio addysg a swyddogion addysg yng Nghymru. Roedd Sir
Ddinbych yn dibynnu llawer iawn ar gyllid grant LlC i dalu am wasanaethau lles
addysg.
·
Roedd yn well gan yr
Awdurdod fod yn rhagweithiol a defnyddio dull o atal yn hytrach nag ymyrryd o
reoli presenoldeb yn yr ysgol. Roedd pob ysgol yn dilyn system godio
genedlaethol, oedd yn darparu data am y rhesymau dros yr absenoldeb e.e. ‘M’
(apwyntiad meddygol) ‘S’ (neu ‘I’ yn Saesneg am salwch - hunan-ardystiad gan
riant/gofalwr). Os oedd cod ‘N’ (dim rheswm wedi’i roi), byddai’r ysgol yn cael
ei holi, gan y dylai fod yna reswm am bob absenoldeb. Roedd ysgolion yn cael eu
monitro bob dydd/wythnos/mis/tymor drwy’r System Rheoli Gwybodaeth Ysgol.
Holodd Aelodau a
fyddai’n bosibl llunio ffeithlun fyddai’n dangos yn syml faint a goblygiadau
diffyg presenoldeb disgyblion yn ysgolion y sir, fel y gallant ei rannu’n hawdd
â phreswylwyr i dynnu sylw at unrhyw broblemau a chael eu cefnogaeth i annog
disgyblion i ymgysylltu â’u haddysg. Wrth ymateb i gwestiwn gan aelod o’r
Pwyllgor am beth allai aelodau etholedig ei wneud yn eu rôl fel Rhieni
Corfforaethol i gefnogi swyddogion ac annog disgyblion i fynd i’r ysgol ac
ymgysylltu â’u haddysg, dywedodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y byddent yn
ddiolchgar pe gallai’r aelodau atgyfnerthu a rhannu’r negeseuon sy’n cael eu
hanfon gan y Gwasanaeth Addysg a Thîm Cyfathrebu’r Cyngor yn pwysleisio
pwysigrwydd mynd i’r ysgol â theuluoedd yn eu hardal ac ar gyrff llywodraethu’r
ysgolion yr oeddent yn aelodau ohonynt. Wrth rannu’r negeseuon hyn, gofynnwyd i
aelodau bwysleisio bod y Cyngor yn annog presenoldeb yn yr ysgol ac ymgysylltu
nid oherwydd eu bod yn beio teuluoedd am beidio â sicrhau bod eu plant yn mynd
i’r ysgol, ond oherwydd eu bod yn malio am ddisgyblion a’u teuluoedd.
Ar y pwynt hwn, diolchodd y
Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a’r holl swyddogion am fynychu ac am eu holl
waith.
Ar ddiwedd y drafodaeth drylwyr:
Penderfynwyd: yn amodol ar y
sylwadau uchod –
(i)
derbyn yr adroddiad ynghyd â’r wybodaeth a rannwyd
yn ystod y cyfarfod a chydnabod yr ymdrechion a wnaed hyd yma i hyrwyddo
presenoldeb yn yr ysgol ac ymgysylltiad disgyblion yn eu haddysg; a
(ii) gofyn am i
adroddiad arall gael ei gyflwyno i’r aelodau ym mis Medi 2024 yn trafod y cynnydd a wnaed i wella cyfraddau presenoldeb
ac ymgysylltiad ag addysg yn holl ysgolion y sir yn ystod blwyddyn academaidd
2023/24 yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru.