Mater - penderfyniadau
BUDGET 2024/25 - FINAL PROPOSALS
25/01/2024 - COUNCIL BUDGET 2024/25
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) yn nodi effaith y Setliad
Dros Dro ar gyfer 2024/25;
(b) cefnogi’r cynigion a
amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr
adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn
derfynol ar gyfer 2024/25;
(c) argymell i’r Cyngor y cynnydd
cyfartalog o 8.23% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor ynghyd ag
1.11% yn ychwanegol ar gyfer y cynnydd yn yr ardoll i Awdurdod Tân ac Achub
Gogledd Cymru; mae hyn yn hafal i gynnydd cyffredinol o 9.34% a gynigir;
(d) argymell i’r Cyngor bod
awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Bennaeth Cyllid ac Archwilio mewn ymgynghoriad
ag Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian wrth gefn sydd wedi’i
gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500,000 os oes yna symud rhwng
ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y
Cyngor yn amserol;
(e) cefnogi’r strategaeth i
ddefnyddio arian wrth gefn fel y nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad a’i
hargymell i’r Cyngor llawn; a
(f) chadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel y nodir yn Adran 7
yr adroddiad.