Mater - penderfyniadau
Rhaglen Waith Archwilio
14/08/2024 - Rhaglen Waith Archwilio
Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen
waith.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod gohirio cyflwyno adroddiad
cynnydd Ysgol Crist y Gair o raglen fusnes y cyfarfod hwn i gyfarfod mis
Tachwedd wedi golygu bod gormod o eitemau i’w trafod ar raglen fusnes y
cyfarfod hwnnw i roi digon o amser i bob pwnc.
Gan fod rhai o’r eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfod mis
Tachwedd angen eu trafod ar frys, awgrymodd yr aelodau y dylid cynnal sesiwn
fore a phrynhawn, neu ddau gyfarfod ar wahân, i drafod y busnes angenrheidiol.
Fodd bynnag, dywedodd y swyddogion y byddai pwysau ar amserlen cyfarfodydd
pwyllgorau’r Cyngor ac adnoddau staffio i gefnogi sesiynau/cyfarfodydd
ychwanegol yn ei gwneud yn anodd iawn i drefnu a chefnogi cynnal dau
gyfarfod/dwy sesiwn yn yr un mis.
Awgrymwyd felly y dylid holi Cadeirydd y Pwyllgor Craffu
Cymunedau i weld a allai’r pwyllgor hwnnw gymryd y gwaith o fonitro Cynllun
Gweithredu Strategaeth Tai a Digartrefedd y Cyngor, gan fod yr aelodau’n teimlo
bod y Strategaeth yn cyd-fynd yn well â chylch gwaith y Pwyllgor Craffu
Cymunedau na’r Pwyllgor Craffu Perfformiad.
Os bydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cytuno i wneud hyn, byddai’n
golygu bod llwyth gwaith y Pwyllgor Craffu Perfformiad yn haws ei reoli ar
gyfer gweddill y flwyddyn galendr. Cytunodd y Cydlynydd Craffu i holi ar ran y
Pwyllgor.
Dywedwyd wrth yr aelodau y bydd cyfarfod nesaf y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu ar 16 Medi ac felly dylid
cyflwyno unrhyw geisiadau am archwilio eitemau i’r Cydlynydd Craffu ar y
ffurflen sydd ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad mewn da bryd cyn y cyfarfod
hwnnw. Roedd Atodiad 3 yn cynnwys Rhaglen Waith y Cabinet er gwybodaeth i
aelodau ac roedd Atodiad 4 yn rhoi trosolwg o’r cynnydd a wnaed hyd yma ar
argymhellion y Pwyllgor o’i gyfarfod blaenorol.
Felly:
Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod -
(i) er mwyn lliniaru’r pwysau ar amser a Rhaglen Waith y
Pwyllgor, cyflwyno cais i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau i ystyried yr adroddiad
cynnydd ar Gynllun Gweithredu Strategaeth Tai Digartrefedd Sir Ddinbych; a
(ii) chadarnhau rhaglen waith y Pwyllgor fel y nodir yn
Atodiad 1 yr adroddiad.