Mater - penderfyniadau

Mater - penderfyniadau

Rhaglen Waith Archwilio

27/03/2023 - Rhaglen Waith Archwilio

Tywysodd y Cydgysylltydd Craffu yr Aelodau drwy'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Craffu (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Eglurwyd bod Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi cyfarfod ar 19 Ionawr 2023 a bu iddynt ystyried nifer o geisiadau am Graffu yn y cyfarfod hwnnw. O’r ceisiadau a ystyriwyd, gofynnodd y Grŵp i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau drefnu i gael dwy eitem ar ei Raglen Gwaith Cychwynnol ar gyfer mis Mai 2023.

 

Sef:-

·       Yr ail bleidlais ar gyfer Ardal Gwelliannau Busnes Posibl y Rhyl

·       Ansawdd a Chyflwr Stoc Tai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn Sir Ddinbych.

 

Mewn perthynas â'r rhaglen ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a oedd i'w gynnal ar 30 Mawrth 2023, nodwyd nad oedd unrhyw eitemau i'w trafod yn y cyfarfod hwnnw ar hyn o bryd. Awgrymodd y Cydlynydd Craffu y dylid cadw dyddiad cyfarfod mis Mawrth rhag ofn y byddai unrhyw faterion brys yn codi.  Os na cheir unrhyw fusnes brys, dylid canslo'r cyfarfod hwnnw.

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu fod y Cabinet ym mis Rhagfyr 2022 wedi cymeradwyo Proses Gyfalaf Newydd ac wedi cefnogi'r Cylch Gorchwyl ar gyfer Grŵp Craffu Cyfalaf newydd.  Byddai hyn yn debyg i'r hen Grŵp Buddsoddi Strategol a oedd mewn bodolaeth yn ystod tymor y Cyngor blaenorol.  Cafwyd cais y dylai un cynrychiolydd o bob Pwyllgor Craffu gael ei benodi i wasanaethu ar y Grŵp hwn.  Byddai chwe chyfarfod y flwyddyn a disgwylir i'r cynrychiolydd adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar ôl iddo/iddi fod yn y cyfarfod. Felly, gofynnwyd i un cynrychiolydd ac un dirprwy gynrychiolydd gael eu henwebu, eu dewis a'u cytuno gan y Pwyllgor.

 

Croesawodd y Cadeirydd enwebiadau gan y Pwyllgor.

 

Enwebwyd y Cynghorydd Peter Scott i fod yn gynrychiolydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, a'r Cynghorydd Joan Butterfield yn cael ei henwebu fel dirprwy. Eiliwyd y ddau enwebiad a phleidleisiodd yr Aelodau o blaid y penodiadau.  Ar ddiwedd y drafodaeth,  

 

Bu i’r Pwyllgor

 

Benderfynu:

 

(i)             yn amodol ar gynnwys adroddiad cynnydd ar Brosiect Datblygu Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych/Ysbyty Brenhinol Alexandra ar gyfer cyfarfod mis Medi 2023, cadarnhau ei flaenraglen waith fel y manylir arni yn Atodiad 1 i'r adroddiad;

(ii)           os na fydd unrhyw fusnes wedi'i gyflwyno yn nes at ddyddiad y cyfarfod arferol nesaf ar 30 Mawrth 2023, bod y cyfarfod yn cael ei ganslo; a

(iii)         penodi'r Cynghorydd Peter Scott i wasanaethu fel y cynrychiolydd ar y Grŵp Craffu Cyfalaf, gyda'r Cynghorydd Joan Butterfield i wasanaethu fel y dirprwy.

 

Ar y pwynt hwn, gohiriwyd y Pwyllgor am egwyl, gan ailddechrau am 11.10am