Mater - penderfyniadau
CORPORATE RISK REGISTER REVIEW, SEPTEMBER 2022
16/01/2023 - CORPORATE RISK REGISTER REVIEW, SEPTEMBER 2022
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth
Gorfforaethol, y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad i roi diweddariad ar yr
Adolygiad o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, mis Medi 2022.
Yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Cabinet sydd yn datblygu a pherchen ar y
Gofrestr Risg Gorfforaethol. Caiff ei hadolygu ddwywaith y flwyddyn gan y
Cabinet yn ystod sesiwn Friffio’r Cabinet.
Yn dilyn pob adolygiad, caiff y gofrestr ddiwygiedig ei chyflwyno i’r
Pwyllgor Craffu Perfformiad ac unwaith bob blwyddyn, i’r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio. Eglurodd swyddogion rôl a ffocws gwahanol pob Pwyllgor mewn
perthynas â’r Gofrestr Risg.
Crynhodd y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad, Emma Horan, y
risgiau o fewn yr adroddiad fel a ganlyn -
·
Risg 01: Roedd y risg o
wall diogelu neu ymarfer difrifol, ble roedd gan y Cyngor gyfrifoldeb, gan
olygu niwed difrifol neu farwolaeth, wedi cynyddu yn ei sgôr cynhenid (A1 -
Risg Critigol Bron yn Sicr / Effaith uchel iawn) a’i sgôr gweddilliol (A1 -
Risg Critigol Bron yn Sicr / Effaith uchel iawn). Cafodd sgôr y risg ei gynyddu
ar sail asesiad fod y siawns o hyn yn digwydd yn uwch ar hyn o bryd nag oedd yn
flaenorol. Er nad yw’r Cyngor yn ystyried y tebygolrwydd fel “bron iawn yn sicr
o ddigwydd yn y rhan fwyaf o amgylchiadau” (sef y diffiniad o Debygolrwydd Risg
A yn methodoleg risg yr awdurdod), mae’r risg yn sicr wedi cynyddu. Felly
teimlir ei bod yn briodol i gynyddu’r sgôr Tebygolrwydd Risg, ac roedd hynny’n
golygu ei gynyddu o B i A. Mae cynyddu sgôr y risg yn galluogi i’r risg i gael
ei flaenoriaethu a’i uwch gyfeirio ymhellach, sy’n teimlo’n briodol ac yn
angenrheidiol ar hyn o bryd.
Nodwyd bod y Tîm Gweithredol
Corfforaethol (CET) wedi cynnal adolygiad o Risg 01. Byddai Tîm Gweithredol
Corfforaethol yn adolygu'r risg hwn yn fisol, a byddai'r Cabinet yn derbyn
diweddariad ar lafar bob mis yng Nghyfarfod Briffio'r Cabinet.
·
Risg 12: Y risg o
adroddiad(au) hynod o negyddol gan reoleiddwyr allanol. Roedd sgôr y risg wedi
cynyddu i C3 - Risg Cymedrol: Effaith Posib / Canolig.
·
Risg 36: Y risg bod yr
amgylchedd economaidd ac ariannol wedi gwaethygu y tu hwnt i ddisgwyliadau
cyfredol, a chafodd effaith niweidiol ar fusnesau lleol a chaledi economaidd
i’r gymuned leol. Roedd y sgoriau risg cynhenid a gweddilliol wedi cynyddu.
·
Risg 43: Y risg nad oedd
gan y Cyngor y cronfeydd neu’r adnoddau i fodloni ei oblygiadau statudol o dan
y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Roedd y
cynnig a amlygwyd yn adolygiad mis Medi 2022 i ddad-uwchgyfeirio’r risg hon i’w
rheoli gan y Gwasanaethau Plant ac Addysg wedi’i gytuno gan y Cabinet mewn
Cyfarfod Briffio Cabinet ar 14 Tachwedd, 2022.
·
Risg 44: Y risg o Glefyd Coed Ynn (ADB) yn Sir
Ddinbych yn arwain at achosion iechyd a diogelwch sylweddol a oedd yn
cynrychioli risg posib i fywyd. Perchennog y risg yn awr oedd Pennaeth
Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad. Ar sail gwybodaeth well, roedd y
sgoriau risg cynhenid a gweddilliol wedi gostwng (ond yn parhau y tu hwnt i
barodrwydd y cyngor i dderbyn risg).
·
Risg 47: Roedd y risg y byddai Cydbwyllgor
Corfforedig Gogledd Cymru (CJC) newydd yn golygu bod gan y Cyngor llai o
ddylanwad a rheolaeth ar lefel leol. Y cynnig oedd dad-uwchgyfeirio’r risg hwn
er mwyn iddo gael ei reoli gan Wasanaeth(au). Roedd y cynnig a amlygwyd yn
adolygiad mis Medi 2022 – i ddad-uwchgyfeirio’r risg hwn i’w rheoli gan y
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd – wedi’i gytuno gan y
Cabinet yng nghyfarfod Briffio’r Cabinet ar 14 Tachwedd, 2022.
Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol:
·
Roedd effaith gronnus
materion recriwtio a chadw ym maes gofal cymdeithasol yn effeithio'n sylweddol
ar allu'r Cyngor i gyflawni swyddogaethau gofal cymdeithasol statudol. Roedd
yna argyfwng recriwtio a chadw cenedlaethol ym maes gofal cymdeithasol. Roedd
gofal cymdeithasol yn aml yn colli staff oherwydd y tâl ac amodau gwell a
gynigir gan asiantaethau recriwtio, awdurdodau lleol eraill a'r Bwrdd Iechyd,
yn aml ar gyfer rolau tebyg ond llai beichus. Yn aml roedd gwasanaethau Gofal
Cymdeithasol ond yn gallu disodli staff profiadol gyda gweithwyr newydd
gymhwyso neu ddibrofiad a oedd angen cymorth sylweddol ac nad oeddent yn gallu
gweithio’n annibynnol gyda’r achosion cynyddol gymhleth a gyfeiriwyd at y gwasanaeth.
Roedd llawer o ddechreuwyr newydd yn staff iau,
newydd gymhwyso ac roedd cyfraddau absenoldeb mamolaeth mewn rhai timau
yn uchel. Roedd effaith Covid-19 yn symudiad sylweddol yn y gweithlu oddi wrth
ofal cymdeithasol ac iechyd. Roedd llai
o weithwyr cymdeithasol yn ymuno â'r proffesiwn nag oedd yn gadael. Roedd y
farchnad yn hynod gystadleuol ac nid oedd strwythur tâl cenedlaethol ar waith
yn y sector.
Ar yr un pryd, roedd llwyth achosion yn cynyddu ac yn dod yn fwy
cymhleth. Roedd risg na fyddai pobl yn
cael eu cefnogi, neu nad oeddent yn cael eu gweld â'r dwyster cywir. Roedd hyn
yn effeithio ar allu gwasanaethau gofal cymdeithasol i gyflawni eu
cyfrifoldebau statudol a oedd yn rhoi mwy o bwysau ar staff ac yn effeithio’n negyddol
ar eu lles ac yn achosi lefelau uwch o absenoldeb heb ei gynllunio. I gefnogi
trafodaeth ar y gofrestr risg, cyflwynodd swyddogion o’r Gwasanaethau Cymorth
Cymunedol a Gwasanaethau Plant trosolwg byr ar nifer y rolau mewn gwahanol
dimau a rhywfaint o wybodaeth am swyddi gwag. . Gofynnwyd i'r
wybodaeth fanwl am staffio a swyddi gwag o fewn timau gofal cymdeithasol a
ddarparwyd yn y dyfodol gael ei rhannu o ran Gwasanaethau Oedolion a Phlant.
Roedd mater recriwtio a chadw staff yn broblem genedlaethol. Roedd y broblem y
tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod Lleol. Roedd cyfarfodydd wedi'u cynnal gyda
Llywodraethau Cymru a'r DU i drafod y pryderon a sut yr oedd y risg wedi
cynyddu. Roedd cyfarfodydd mewnol yn cael eu cynnal yn cynnwys y Tîm
Gweithredol Corfforaethol, yr Arweinydd a'r Aelodau Arweiniol. Bu rhywfaint o
symudiad yn y dyfodol ar femorandwm drafft, a oedd yn cael ei arwain gan Ofal
Cymdeithasol Cymru. Amlinellodd swyddogion Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau
Oedolion y gweithdrefnau a’r amserlenni yr oeddent yn cadw atynt pan oeddent yn
derbyn atgyfeiriadau at eu Gwasanaethau.
Amlinellwyd hefyd yr holl ddulliau yr oeddent wedi'u defnyddio i geisio
recriwtio gweithwyr ar bob lefel a'r berthynas waith da oedd ganddynt ag
ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol. Roedd telerau ac amodau cenedlaethol
yn fater o fewn gallu LlC, a oedd wedi sefydlu fforwm i archwilio’r potensial o
sefydlu telerau ac amodau cenedlaethol.
·
Risg 45 – y risg bod
y Cyngor yn methu â dod yn gyngor di-garbon net ac ecolegol gadarnhaol erbyn
2030. Gan fod y risg yn B2 – Risg Critigol: Tebygol/Uchel, gofynnodd yr aelodau
a oedd trefniadau cadarn ar waith i sicrhau ein bod yn bodloni’r targed.
Eglurodd swyddogion ein bod wedi ymrwymo i adolygu ein rhaglen ar ôl dwy
flynedd i fapio buddion yn erbyn adnoddau. Bydd yr adolygiad hwn yn darparu
tystiolaeth ynghylch a ydym, yn seiliedig ar yr ymdrech a’r cynnydd a wnaeth
hyd yma, ar y trywydd iawn i fodloni ein targed ar gyfer 2030.
·
Risg 36 - y risg bod yr
amgylchedd economaidd ac ariannol yn gwaethygu y tu hwnt i ddisgwyliadau
cyfredol, ac yn cael effaith niweidiol ar fusnesau lleol a chaledi economaidd
i’r gymuned leol. Gofynnodd yr aelodau sut yr oedd Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru (NWEAB) yn cynorthwyo gyda hyn.
Cadarnhawyd bod adroddiad ar weithgareddau a pherfformiad y Bwrdd
Uchelgais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau bob
chwarter. Pe bai'r aelodau'n teimlo bod
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn haeddu cael ei wahodd i'r Pwyllgor
Craffu yn gynharach na'i ymweliad blynyddol, dylid cyflwyno ffurflen gynnig er
mwyn i Gadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu ei hasesu.
·
Gofynnodd yr Aelodau i swyddogion
ystyried ffyrdd o gyflwyno crynodeb risg, a allai gynnwys gwybodaeth am
dueddiadau a statws mewn lliw, fel rhan o drafodaethau ynghylch cyflwyno
gwybodaeth am berfformiad. Byddwn yn ceisio mewnbwn Aelodau drwy adroddiadau yn y
dyfodol.
Ar y pwynt hwn, diolchwyd i'r Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a
Pherfformiad a'r Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad am eu hadroddiad
manwl a'u cyflwyniad ac i'r Aelod Arweiniol a swyddogion Gwasanaethau
Cymdeithasol am eu hymateb manwl i'r cwestiynau a godwyd.
Ar ddiwedd dadansoddiad a thrafodaeth drylwyr:
Penderfynodd: y Pwyllgor yn
amodol ar y sylwadau uchod -
(i)
ar ôl trafod y risgiau, y sgoriau a’r rheolaethau
sydd wedi’u cynnwys yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol (Atodiad 1), gan gynnwys
statws pob risg yn erbyn Datganiad Parodrwydd y Cyngor i Dderbyn Risg (Atodiad
2), a derbyn y diweddariad ar lafar a ddarparwyd ar newidiadau diweddar i’r
datganiad parodrwydd i dderbyn risg, i dderbyn a chymeradwyo'r wybodaeth a
ddarparwyd; a
(ii) gofyn
i aelodau sydd â phryderon arbennig am risgiau penodol sydd wedi'u cynnwys yn y
Gofrestr Risg Gorfforaethol ynghyd â'r rheolaethau sydd ar waith i reoli'r
risgiau hynny eu huwch gyfeirio i gael ei
harchwilio'n fanwl trwy gyflwyno ffurflen Cynnig Craffu gan Aelodau i
Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Grŵp Craffu.