Mater - penderfyniadau
PERFORMANCE SELF-ASSESSMENT UPDATE, QUARTER 2 2022 TO 2023
16/01/2023 - PERFORMANCE SELF-ASSESSMENT UPDATE, QUARTER 2 2022 TO 2023
Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad, ac Asedau Strategol, y
Cynghorydd Gwyneth Ellis, yr adroddiad Chwarter 2 Diweddariad ar Hunanasesiad
Perfformiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol).
Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch
perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2, 2022 i
2023, gan gynnwys amcanion y Cynllun Corfforaethol a Chydraddoldeb Strategol,
a’r saith maes llywodraethu allweddol.
Mae adroddiadau rheolaidd yn
un o ofynion monitro hanfodol Fframwaith Rheoli Perfformiad y Cyngor. Caiff
adroddiadau perfformiad chwarterol eu rhannu’n rheolaidd â’r Uwch Dîm
Arweinyddiaeth, y Cabinet a Phwyllgor Craffu Perfformiad, er mwyn cefnogi trafodaeth
adeiladol ynghylch ein perfformiad a nodi ymyraethau, lle bo angen.
Cyflwynwyd yr adroddiad mewn dau ran i geisio amlinellu cynnydd yn erbyn y
meysydd allweddol canlynol -
·
Amcanion Perfformiad - yn cynnwys Amcanion y Cynllun Corfforaethol/ Cydraddoldeb
Strategol.
·
Meysydd Llywodraethu – Saith maes llywodraethu sydd wedi’u pennu ymlaen llaw
gan y Canllawiau Statudol ar berfformiad o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021.
Roedd y gwerthusiad crynodeb wedi’i benderfynu gan statws o fesurau a
phrosiectau i bob un o’r blaenoriaethau canlynol:
·
Tai: Cafodd pawb eu cefnogi i fyw mewn cartrefi a oedd
yn diwallu eu hanghenion
·
Clymu Cymunedau: Roedd y Cymunedau
wedi eu cysylltu, ac mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau yn lleol,
ar-lein a thrwy gysylltiadau cludiant da
·
Cymunedau Cryf: Bu i’r Cyngor
weithio gyda phobl a chymunedau i gynyddu annibyniaeth a chadernid
·
Yr Amgylchedd: Deniadol ac wedi’i
ddiogelu, gan gefnogi lles a ffyniant economaidd
·
Pobl Ifanc: Man lle bydd pobl
iau am fyw a gweithio ynddo, a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny
Iechyd Corfforaethol: Roedd y Cyngor yn
effeithlon, wedi’i reoli’n dda ac yn amgylcheddol gynaliadwy
Cynghorwyd yr Aelodau mai’r adroddiad a gyflwynwyd iddynt oedd yr adroddiad
terfynol ar y Cynllun Corfforaethol 2017-2022.
O hyn ymlaen bydd yr adroddiadau perfformiad yn ffocysu ar gyflwyniad a
gweithrediad y Cynllun Corfforaethol newydd, rhwng 2022 - 2027.
Cafodd y pwyntiau canlynol eu crynhoi yn ystod y drafodaeth –
·
Nifer uchel o unedau tai
wedi’u clustnodi ar gyfer datblygiad dan y Cynllun Corfforaethol 2017-22 bron
â’u cwblhau tuag at ddiwedd hyd fywyd y Cynllun.
·
Nid oedd ffyrdd a
phalmentydd wedi’u difrodi o fewn yr adroddiad gan mai’r mater oedd mynd i’r
afael â’r gwasanaeth perthnasol.
·
Camdriniaeth Domestig - Bu
gostyngiad o 34.3% yn nifer dioddefwyr eildro troseddau domestig yn Sir
Ddinbych ym mis Gorffennaf, Awst a Medi 2022 o gymharu â’r un cyfnod y
llynedd. Gostyngodd y niferoedd o 405 i
266. Ar y cyfan, mae Gogledd Cymru wedi
gweld gostyngiad o 7.5% mewn trais domestig gyda dioddefwyr eildro ar gyfer mis
Gorffennaf i fis Medi . Mae nifer y rhai sy’n aildroseddu gyda thrais domestig
hefyd wedi gostwng yn Sir Ddinbych o 33 y llynedd i 28 y flwyddyn hon,
gostyngiad o 15.2%. Mae hyn yn debyg i’r darlun cyffredinol ar gyfer Gogledd
Cymru sydd â gostyngiad o 8.1% ar gyfer yr un cyfnod.
·
Cynhaliwyd 100 o asesiadau
gofalwyr rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, gan ddod â chyfanswm y flwyddyn
ariannol i 197 (cronnus ers mis Ebrill).
Mae’r ffigwr, fodd bynnag, yn ostyngiad o 11% ar gyfer yr un cyfnod y
llynedd (221). Dywedodd swyddogion
efallai bod aelodau yn dymuno craffu’r maes penodol hwn yn fuan iawn.
·
Mae’r data ar gyfer y
cyfnod cyfartalog mae oedolion (65 oed a throsodd) yn cael eu cefnogi mewn
cartrefi gofal preswyl wedi gostwng o 1,059 (mis Ebrill i fis Mehefin) i 1,043
diwrnod ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf i fis Medi. Y ffigwr ar gyfer yr
un cyfnod y llynedd oedd 1050 diwrnod.
·
Roedd y data diweddaraf a
gyhoeddwyd am gyfanswm effaith economaidd twristiaeth yn Sir Ddinbych wedi
gweld cynnydd sylweddol o £213m yn 2020 i £432m yn 2021. Er bod hyn yn is na’r ffigyrau cyn y pandemig
(£552m yn 2019), mae’r cynnydd yn galonogol ac yn nodi gwydnwch y sector
twristiaeth a’i arwyddocâd economaidd parhaus yn y sir.
·
Blaenoriaeth Pobl Ifanc -
Roedd dim ond un diweddariad i roi o fewn yr adroddiad i’r fframwaith data i
Bobl Ifanc. Mae hyn yn berthnasol i 18 i 24 cyfrif hawlydd. Mae’r data ar gyfer
mis Gorffennaf i fis Medi yn nodi ychydig o gynnydd yng nghyfrif hawlwyr Sir
Ddinbych, yn awr yn 5.3% (i fyny o 4.9% ym mis Mehefin). Mae’r cynnydd yn adlewyrchu tueddiadau
cenedlaethol, gyda chyfartaledd Cymru a’r DU hefyd yn cynyddu. Rydym yn parhau i fod y tu ôl i gyfartaledd
Cymru, sef 4.3% (i fyny o 4.1%). Nid yw
cyfrif hawlwyr y DU wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig (a oedd yn is na
Chymru yn y gorffennol), nawr yn 4.6%, (i fyny o 4.3% ym mis Mehefin). Byddai’r Cynllun Corfforaethol newydd yn
ffocysu ar ffyrdd o gael pobl ifanc i’r math cywir o waith a llwybrau gyrfa.
·
Mae dechrau gwaith wedi
newid i fod “mewn perygl”. Roedd y prosiect mewn perygl gan fod oedi
parhaus i gyhoeddiad Y Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Roedd hyn yn ddyledus ym mis Awst ond yn awr
nid oed disgwyl tan ddiwedd mis Hydref bellach. Ni chytunwyd ar unrhyw gyllid
ychwanegol i gefnogi’r prosiect y tu hwnt i fis Rhagfyr, sy’n cyflwyno perygl y
bydd staff yn colli swyddi. Fodd
bynnag, rydym yn parhau i fod ar y trywydd cywir i gyflawni’r targedau
presennol tan ddiwedd fis Rhagfyr 2022.
Roedd y Tîm Gweithredol Corfforaethol y Cyngor wedi cytuno i bontio’r
bwlch cyllid dros dro, tan fydd ffrydiau ariannu yn y dyfodol wedi’u sicrhau.
·
Roedd yr ail ran o’r
adroddiad yn egluro’r pwysau iechyd corfforaethol ar gyllid.
·
Mae recriwtio a chadw staff
yn fater parhaus. Dengys yr adroddiad
cynhyrchiant a chynnydd y Cyngor. Roedd
y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu eisoes wedi gwneud cais am
adroddiad gwybodaeth yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol ar recriwtio
a chadw staff yn Sir Ddinbych, gyda’r bwriad o benderfynu os oedd y maes hwn
angen ei graffu’n fanwl.
·
Cymunedau Cysylltiedig -
Roedd BT Openreach wedi mynychu’r cyfarfod Pwyllgor Craffu yn y gorffennol ac
awgrymwyd bod Swyddog Digidol Sir Ddinbych yn mynychu cyfarfod yn y dyfodol.
·
Mewn perthynas â Chyngor
Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, cadarnhawyd bod y Cyfarwyddwr Rheoli
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn mynychu’r Pwyllgor Craffu
Partneriaeth ar 15 Rhagfyr 2022 i drafod ei berthynas a gwaith gyda Chyngor Sir
Ddinbych.
·
Cytunodd yr Aelodau
ddarparu rhagor o wybodaeth i aelodau ar ohiriad y Polisi Dyrannu ar gyfer Tai
Cymdeithasol ac ar ganran gwariant diweddar y Cyngor gyda chyflenwyr o fewn Sir
Ddinbych.
Eglurodd awduron yr adroddiad hwn na ellir defnyddio
darluniadau a graffiau ayyb o fewn yr adroddiad oherwydd rheolau
hygyrchedd. Fodd bynnag, mae’r
fframwaith perfformiad newydd sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i
gefnogi’r Cynllun Corfforaethol newydd yn gyfle i swyddogion i archwilio gyda
chydweithwyr cyfathrebu’r ffyrdd gwahanol o adrodd data, megis ailgyflwyno
statws lliw a dadansoddiad tueddiadau.
Byddwn yn ceisio mewnbwn Aelodau drwy adroddiadau yn y dyfodol.
Ar ddiwedd trafodaeth fanwl ar y materion a godwyd o fewn
yr adroddiad diweddaru Hunanasesu Perfformiad, anogodd y Cadeirydd yr aelodau i
gyfeirio at feysydd a oedd yn achosi pryder penodol iddynt i’r Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ystyried fel pynciau posibl yn y dyfodol
ar gyfer eu craffu’n fanwl. Felly:
Penderfynodd y Pwyllgor: - yn
amodol ar y sylwadau uchod –
(i)
i dderbyn cynnwys yr adroddiad Diweddaru Hunanasesu
Perfformiad ar gyfer Chwarter 2 2022 tan 2023; a
(ii) Bod yr
aelodau yn llenwi ffurflenni cynnig craffu ar unrhyw feysydd o bryder a’u
cyflwyno i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu i’w hystyried i’w
cynnwys yn y rhaglen waith i’r dyfodol y pwyllgor craffu ar gyfer archwiliad
manwl yn y dyfodol.