Mater - penderfyniadau
FEEDBACK FROM COMMITTEE REPRESENTATIVES
23/05/2022 - FEEDBACK FROM COMMITTEE REPRESENTATIVES
Hysbysodd y Cynghorydd Hugh Irving y Pwyllgor ei fod wedi
mynychu cyfarfodydd Bwrdd Prosiect Adeilad y Frenhines yn rheolaidd, ac yn
seiliedig ar waith y Bwrdd Prosiect, roedd y Cabinet wedi cymeradwyo cam nesaf
y prosiect.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Scott wrth y Pwyllgor fod y
Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogaeth Tir Glannau
Afon wedi gorffen ei waith ac wedi cyflwyno ei adroddiad terfynol i’r Pwyllgor
Craffu Cymunedau yr wythnos flaenorol.
Roedd canfyddiadau, casgliadau ac argymhellion y Grŵp mewn
perthynas â chryfhau perthnasau gwaith a sicrhau sianeli rhannu gwybodaeth a
chyfathrebu cadarn rhwng holl awdurdodau rheoli perygl llifogydd, perchnogion
tir glannau afon a’r cyhoedd, wedi cael eu croesawu. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi cefnogi
argymhelliad y Grŵp Tasg a Gorffen y dylai Gweithgor o’r holl sefydliadau
sy’n rhan o’r gwaith, barhau i gyfarfod yn flynyddol er mwyn amlygu unrhyw
broblemau mawr a wynebwyd, ac i rannu gwybodaeth ar brosiectau mawr a oedd yn
cael eu cynllunio.
Felly:
Penderfynwyd: derbyn a nodi’r adborth a dderbyniwyd gan
gynrychiolwyr yn dilyn eu presenoldeb mewn cyfarfodydd amrywiol ar ran y
Pwyllgor.
Daeth y cyfarfod i ben am 11:30am