Mater - penderfyniadau

Mater - penderfyniadau

FLOOD RISK MANAGEMENT AND RIPERIAN LAND OWNERSHIP TASK AND FINISH GROUP

23/06/2022 - FLOOD RISK MANAGEMENT AND RIPERIAN LAND OWNERSHIP TASK AND FINISH GROUP

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor yr adroddiad (eisoes wedi’i ddosbarthu) yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogaeth Glannau Afonydd a oedd yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar weithgareddau’r Grŵp.  Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd adroddiad terfynol y Grŵp Tasg a Gorffen a oedd yn rhoi manylion ei gasgliadau a’i argymhellion ac yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer yr argymhellion hynny.

 

Ar y pwynt hwn, diolchodd y Cynghorydd Huw Williams (Cadeirydd) i holl aelodau mewnol ac allanol y grŵp am eu gwaith diwyd.  Diolchodd hefyd i Karen Evans, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, am y gwaith yr oedd wedi’i wneud ac am yr adroddiad rhagorol a ddrafftiwyd ar ran y Grŵp.

 

Amlinellodd y Cadeirydd gefndir sefydlu’r y Grŵp Tasg a Gorffen gan y Pwyllgor, a sefydlwyd yn  bennaf i archwilio dulliau i gryfhau ymhellach y rhyngweithio a’r berthynas waith rhwng awdurdodau rheoli perygl llifogydd cyhoeddus a pherchnogion glannau afonydd.  Dywedodd bod holl aelodau’r Grŵp wedi dysgu cryn dipyn am swyddogaethau, cyfrifoldebau ac arferion gwaith y naill a’r llall yn ystod y gwaith.  O ganlyniad i hyn roedd pawb yn cytuno bod cydweithio a chyd-ymddiriedaeth wedi cryfhau o ganlyniad i fodolaeth y Grŵp.  Roedd y Grŵp hefyd wedi chwalu sawl myth cysylltiedig â chyfrifoldebau am, a’r caniatâd a geisir am waith cynnal a chadw afonydd a glannau afonydd, megis gwir nifer y ceisiadau a dderbynnir am Hawlenni Gweithgaredd Atal Perygl Llifogydd gan berchnogion tir, cyfrifoldebau  o ran perchnogaeth glannau afonydd yn nalgylch Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn ac ati, sydd i gyd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.  Mae gwaith y Grŵp hefyd wedi tynnu sylw at yr ystod eang o wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd ar wefannau pob awdurdod rheoli perygl llifogydd yn cynnwys adran cwestiynau cyffredin hynod ddefnyddiol ar wefan Dŵr Cymru.  O ganlyniad i hyn, un o argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen oedd, er mwyn hwyluso mynediad at wybodaeth i’r cyhoedd, y dylid ail-lansio tudalen Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y Cyngor ei hun ac y dylai gynnwys dolenni at we-dudalennau perthnasol Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.  Dylai’r tudalennau  newydd hefyd gynnwys gwybodaeth am gyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd a chyfrifoldebau perchnogion glannau afonydd. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, dywedodd y Cadeirydd, aelodau’r Grŵp Tasg a Gorffen a swyddogion:

 

·           bod dealltwriaeth yr holl randdeiliaid o gyfrifoldebau’r naill a’r llall  a’u perthynas waith wedi gwella yn ystod gweithrediad y Grŵp Tasg a Gorffen. 

·           gwnaed yr argymhelliad i weithio mewn partneriaeth i gynhyrchu a chyflwyno taflen wybodaeth gyffredinol ar rolau a chyfrifoldebau awdurdodau rheoli risg a pherchnogion eiddo ar hyd Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn o ganlyniad i’r cymhlethdodau cysylltiedig â pherchnogaeth luosog glannau afon mewn ardal boblog dros ben, a chamsyniad eang mai CNC sy’n gyfrifol am ffiniau preifat sy’n cyffinio â chyrsiau dŵr.  Bernir nad oes angen ymarferion tebyg mewn rhannau eraill o’r sir lle mae perchnogion tir mwy yn gyfarwydd â’u cyfrifoldebau;

·           mae gan yr awdurdod lleol bwerau o dan y Ddeddf Draenio Tir i ymyrryd mewn rhai amgylchiadau.  Fodd bynnag er bod y pŵer hwn i ymyrryd gan yr Awdurdod Lleol, nid oes dyletswydd arno i wneud hynny.

·           mae gan berchnogion tir glannau afonydd gyfrifoldebau penodol o ran peidio â rhwystro cyrsiau dŵr ac ati, ac mae hawl ddigolledu am dorri cyflenwadau dŵr naturiol yn ôl y gyfraith gyffredin.

·           mae’n rhaid gwasanaethu datblygiadau newydd gyda systemau draenio dŵr wyneb a dŵr budr ar wahân, nid dyma’r achos gyda datblygiadau preswyl hŷn lle caiff dŵr wyneb a dŵr budr yn y pen-draw ei sianelu i’r un system garthffosiaeth;

·           byddai dosbarthu’r adroddiad i bob cyngor dinas, tref a chymuned yn helpu i drosglwyddo gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â chyfrifoldebau  rheoli perygl llifogydd i bob preswylydd a busnes yn y sir.

 

Pwysleisiodd aelodau’r Grŵp Tasg a Gorffen fanteision gwaith y Grŵp, lle cafodd problemau y tynnwyd sylw atynt  mewn nifer o grwpiau a phwyllgorau eraill eu trafod yn agored gyda’r holl randdeiliaid.  Cynhyrchodd hyn drafodaeth dda, agored ac adeiladol a arweiniodd at well dealltwriaeth o swyddogaethau’r naill a’r llall yn ogystal ag o’r cyfyngiadau y mae’n rhaid i bawb weithio oddi tanynt.  Roedd teimlad ymysg pawb a oedd yn gysylltiedig â gwaith y Grŵp bod lefel uchel o gyd-ymddiriedaeth a dealltwriaeth wedi’i feithrin rhyngddynt.  Mae’r Grŵp felly’n dymuno parhau i gyfarfod o leiaf bob blwyddyn i drafod materion sy’n peri pryder a chynlluniau’r dyfodol. 

 

Diolchodd aelodau’r Pwyllgor i’r Grŵp Tasg a Gorffen am ei waith ac am yr adroddiad cynhwysfawr.  Roedd y Pwyllgor yn cefnogi brwdfrydedd y Grŵp dros barhau i gyfarfod ar sail flynyddol a’i awch i weithio gyda’r holl randdeiliaid tua’r dyfodol.  Awgrymwyd felly bod y Grŵp yn adrodd i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau bob blwyddyn ar ei drafodaethau.  Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd yn unfrydol, yn amodol ar y sylwadau uchod, diolch i’r Grŵp Tasg a Gorffen am ei waith, derbyn ei adroddiad a chymeradwyo ei gynnwys ynghyd â’r argymhellion canlynol:

 

(i)                 Bod Gweithgor Perygl Llifogydd yn cynnwys yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd a chynrychiolwyr perchnogion tir yn parhau i gyfarfod y flynyddol er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw faterion a disgwyliadau ac adrodd yn ôl ar y trafodaethau hyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau

(ii)               Bod y dudalen Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ar wefan y Cyngor yn cael ei hail-lansio i gynnwys:

(a)  Dolenni at we-dudalennau perthnasol Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, ac

(b)  eglurhad ar gyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Risg a Pherchnogion Glannau Afonydd,

(iii)             a gan weithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru bod taflen wybodaeth gyffredinol yn cael ei chreu ar gyfrifoldebau perchnogion glannau afonydd a’i dosbarthu i eiddo ger Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, a

(iv)        bod yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn cael ei gyfieithu a’i anfon at Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned i’w gynnwys ar eu gwefannau.