Mater - penderfyniadau
REVIEW OF CABINET DECISION RELATING TO THE PROPOSES SCHEME OF DELEGATED DECISION MAKING FOR LAND ACQUISITION (FREEHOLD AND LEASEHOLD) FOR CARBON SEQUESTRATION AND ECOLOGICAL IMPROVEMENT PURPOSES
23/06/2022 - REVIEW OF CABINET DECISION RELATING TO THE PROPOSES SCHEME OF DELEGATED DECISION MAKING FOR LAND ACQUISITION (FREEHOLD AND LEASEHOLD) FOR CARBON SEQUESTRATION AND ECOLOGICAL IMPROVEMENT PURPOSES
Cyn i’r drafodaeth ar yr eitem hon o fusnes ddechrau
gadawodd y Cynghorydd Huw Williams y Gadair oherwydd ei fod yn un o lofnodwyr y
cais galw i mewn ac am y rheswm hwnnw roedd yn ofynnol iddo gyfrannu at y
drafodaeth. Cymerodd yr Is-gadeirydd, y
Cynghorydd Graham Timms, y Gadair ar gyfer yr eitem hon o fusnes.
Dywedodd yr Is-gadeirdd wrth y Pwyllgor bod rhybudd
o ‘alw i mewn’’ wedi’i gyflwyno gan 6 chynghorydd nad ydynt yn aelodau o’r
Cabinet yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor. Roedd y rhybudd yn galw am adolygiad
gan un o Bwyllgorau Craffu’r Cyngor o benderfyniad a wnaeth y Cabinet ar 14
Chwefror 2022 mewn perthynas â chynllun gwneud penderfyniadau dirprwyedig
arfaethedig ar gyfer caffael tir i dibenion amgylcheddol ac ecolegol. Aeth ymlaen i egluro y cyhoeddwyd
penderfyniad y Cabinet ar 17 Chwefror 2022. Mae’r weithdrefn ‘galw i mewn’ yn
caniatáu 5 diwrnod gwaith i gynghorwyr nad ydynt yn aelodau o’r Cabinet
gyflwyno rhybudd o ‘alw i mewn’ yn gofyn bod Craffu’n adolygu’r
penderfyniad. Unwaith y derbynnir rhybudd
galw i mewn nid oes gan y gwneuthurwr penderfyniadau hawl i roi’r penderfyniad
ar waith hyd nes bod Craffu wedi adolygu’r penderfyniad ac wedi adrodd yn ôl
i’r gwneuthurwr penderfyniadau ar ganlyniad yr adolygiad. Mae disgwyl i Craffu gynnal cyfarfod i
adolygu’r penderfyniad o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn hysbysiad dilys o alw
i mewn. Fodd bynnag oherwydd nad oedd
unrhyw frys uniongyrchol i weithredu’r penderfyniad, roedd y Cabinet, sef y
gwneuthurwr penderfyniad, wedi cytuno y
gellid oedi’r adolygiad tan y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Craffu, sef y
cyfarfod hwn. Cyflwynodd y Cynghorydd
Merfyn Parry rybudd o ‘alw i mewn’ yn electronig ar 23 Chwefror. Cefnogwyd y cais (drwy e-byst unigol) gan 5
cynghorydd arall nad ydynt yn aelodau o’r Cabinet, sef y Cynghorwyr David G
Williams, Melvyn Mile, Huw O Williams, Rhys Thomas a Peter Evans, gyda phob un
ohonynt wedi’u gwahodd i fynychu’r cyfarfod Pwyllgor i amlinellu eu rhesymau
dros gefnogi’r cais galw i mewn.
Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu, Rhian Evans, yr
adroddiad a’r atodiadau (wedi’u dosbarthu eisoes) a oedd yn egluro’r cefndir i
benderfyniad y Cabinet a’r sail dros ei alw i mewn am adolygiad gan Bwyllgor
Craffu. Aeth ymlaen wedyn i sôn am y
drefn a fyddai’n cael ei dilyn yn y cyfarfod i ystyried y penderfyniad a alwyd
i mewn am adolygiad.
Gwahoddwyd y Cynghorydd Merfyn Parry, fel llofnodwr
arweiniol y galw i mewn, i gyflwyno rhesymau’r llofnodwyr dros y cais am
adolygiad o’r penderfyniad. Yn ei
anerchiad dywedodd bod gan y llofnodwyr bryderon y byddai’r Cyngor, pe
cadarnhawyd y penderfyniad, mewn sefyllfa i ‘gipio tir’ mewn ocsiwn drwy o
bosibl gynnig mwy amdano na ffermwyr a pherchnogion tir lleol. Er yn deall na
fyddai gan y Cyngor ddiddordeb mewn prynu’r tir amaethyddol gorau, roeddent
fodd bynnag yn teimlo bod angen trafod penderfyniadau i brynu tir i ddibenion
dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol gydag aelodau lleol a’r Grwpiau
Aelodau Ardal Lleol cyn gwneud unrhyw gais, gan ei bod yn bwysig i’r Awdurdod
ddeall y wybodaeth leol ac angen lleol cyn gwneud cais am barsel o dir.
Yna gwahoddwyd yr Aelod Arweiniol Gwastraff,
Cludiant a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, i grynhoi’r drafodaeth a
gafwyd a’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet at 15 Chwefror 2022. Rhoddodd amlinelliad o’r ymgynghori a oedd
wedi digwydd hyd yma a chadarnhaodd nad oedd unrhyw gynlluniau i brynu tir
amaethyddol Gradd 1 i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau
ecolegol.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol mai pwrpas y broses gwneud
penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig i’r diben penodol hwn oedd i wneud newid
bach i’r cynllun presennol er mwyn galluogi’r Cyngor i weithredu’n gynt yn y
dyfodol. Rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor
y byddai aelodau lleol yn cael eu hymgynghori â hwy’n awtomatig mewn perthynas
â phob caffaeliad arfaethedig fel mater o drefn oni bai bod amser yn arbennig o
brin, a hyd yn oed wedyn byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i gysylltu ag
aelod(au) lleol. Oherwydd y gellid rhoi
tir ar ocsiwn ar unrhyw bryd mae’n rhaid delio â’r broses yn gyflym dros
ben. Rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor na
fyddai’r Cyngor yn cymryd rhan mewn ‘rhyfel ceisiadau’ gyda phrynwyr allanol
gan y byddai’r Prisiwr Dosbarth yn gosod pris uchaf na all y Cyngor fynd drosto
oherwydd bod yn rhaid i’r Cyngor ddangos ei fod yn gwneud defnydd doeth o arian
cyhoeddus. Pwysleisiwyd fodd bynnag, os
yw’r Cyngor i gyrraedd ei darged di-garbon net, y bydd yn angenrheidiol prynu
tir i’w osod yn erbyn ei ddefnydd o garbon.
Tynnodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio sylw’r aelodau at yr adroddiad
a’r Asesiad o Effaith ar Les sy’n datgan sut yr ymgynghorwyd ag aelodau lleol a
rhanddeiliaid lleol eraill ynglŷn â thir addas i ddibenion dal a storio
carbon a gwelliannau ecolegol. Hyd yma
mae pob un ond un o’r safleoedd sydd wedi’u dynodi fel rhai a fydd o bosibl yn
addas i ddibenion dal a storio carbon wedi’u cynnig gan gymunedau neu aelodau
lleol.
Rhoddodd y Cynghorydd Merfyn Parry fwy o wybodaeth
ynghylch y rhesymau pam yr oedd ef a’i gyd-aelodau wedi galw penderfyniad y
Cabinet i mewn:
·
roeddent yn teimlo bod y broses penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig i’r
diben hwn yn ffordd o osgoi’r broses ddemocrataidd, er enghraifft y defnydd o
gyfarfodydd y Grŵp Rheoli Asedau i drafod unrhyw bryniannau arfaethedig
a’r cyfiawnhad drostynt.
·
roeddent yn cydnabod yr angen am wneud penderfyniadau cyflymach o ran prynu
tir ond yn teimlo y gallai Cyngor Sir Ddinbych o bosib gyflymu’r prosesau
presennol ar gyfer gwneud y fath benderfyniadau. Nid yw ocsiynau tir yn digwydd dros nos, mae
asiantau’n hysbysebu parseli o dir ar werth am nifer o wythnosau cyn y cynhelir
ocsiwn neu cyn i dendrau gau, sydd yn rhoi digon o amser i’r Cyngor wneud
penderfyniad ynghylch pryniant posibl.
Efallai y bydd achlysuron prin pan fydd perchennog preifat yn rhoi darn
o dir ar y farchnad am werthiant cyflym, ond anaml iawn y bydd hyn yn
digwydd.
·
roedd yr adroddiad i’r Cabinet a’i atodiadau’n cyfeirio at gynnwys aelodau
lleol, Cynghorau Cymuned a Grwpiau Aelodau Ardal, fodd bynnag mae rhai o’r
cyfeiriadau hyn yn nodi mai cael eu hysbysu, nid eu hymgynghori â nhw, fyddai’r
aelodau. Gellid dehongli hyn i olygu y
bydd aelodau lleol yn cael eu hysbysu ynghylch pryniant tir ond na fyddent hwy
na’r Grŵp Ardal Aelodau Lleol yn cael unrhyw fewnbwn na dylanwad ar y
broses. Byddai’n dal yn bosibl gwneud penderfyniadau cyflym drwy gynnwys
aelodau.
·
mae’n ymddangos bod y Cyngor yn bryderus na all gwrdd a’i darged di-garbon
net i ddiwallu gofynion her yr hinsawdd a’r argyfwng ecolegol heb brynu parseli
o dir. Os mai dyma yw’r achos yna mae’r
Cyngor mewn perygl o gael ei weld fel un sy’n mabwysiadu ymdriniaeth debyg i
rai corfforaethau cenedlaethol a rhyngwladol penodol drwy geisio mynd i’r afael
â’r broblem o’i ôl-troed carbon drwy brynu tir i blannu coed yn lle mynd ati’n
weithredol i fabwysiadu mesurau ac arferion carbon isel.
·
roeddent yn bryderus pe bai asiantau lleol yn dod yn ymwybodol fod gan y
Cyngor gyllideb ddynodedig ar gyfer prynu tir i’r pwrpas hwn, ei bod y bosibl y
bydd gwerth tir o’r fath yn chwyddo. Pe
bai hynny’n digwydd byddai’n niweidiol i ffermwyr mynydd a fyddai’n cael eu
prisio allan o’r farchnad pe baent yn dymuno prynu parseli o dir ger eu
daliadau er mwyn gwella ac ehangu eu busnes.
·
ychydig iawn o gyfeiriad sydd yn yr adroddiad at yr ymatebion a dderbyniwyd
i’r ymarfer ymgynghori gan Undebau Ffermio a Chlybiau Ffermwyr Ifanc. Faint oedd wedi ymateb a beth oedd cynnwys yr
ymatebion hynny, ac a roddwyd digon o amser a gwybodaeth iddynt allu darparu
ymatebion cynhwysfawr?
Gwahoddodd yr Is-gadeirydd lofnodwyr eraill y cais
galw i mewn i annerch y Pwyllgor ynghylch eu pryderon a’u rhesymau dros y
penderfyniad galw i mewn. Am nad oedd yn
bosibl i’r Cynghorydd Melvyn Mile fynychu’r cyfarfod roedd wedi anfon datganiad
ysgrifenedig a ddarllenwyd gan yr Is-gadeirydd.
Yn ei ddatganiad dywedodd y Cynghorydd Mile:
·
ei fod yn sylweddoli bod y Cyngor
angen cyflymu prosesau caffael tir ond bod ganddo bryderon na roddwyd digon o
amser i ymgynghori ag aelodau lleol ar y mater.
·
er na fyddai’r Cyngor yn prynu tir ffermio o’r safonau uchaf i blannu coed,
gallai cynhyrchiant bwyd fod yr un mor bwysig yn y dyfodol i leihau allyriadau
carbon felly mae’n rhaid i ffermwyr gael cyfle teg i brynu tir.
·
mae aelodau lleol yn adnabod eu hardaloedd a’u preswylwyr ac mae angen
sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gaffaeliad posibl yn
eu hardal er mwyn iddynt fod yn rhan o unrhyw drafodaethau ar y camau cynharaf.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Williams:
·
mai ychydig iawn o dir amaethyddol Gradd 1 sydd ar gael ac y dylai pobl fod
yn ymwybodol o hynny.
·
mae ffermwyr a pherchnogion tir preifat eisoes yn ymwybodol o’u
dyletswyddau dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol ac yn plannu coed eu
hunain ac yn cefnogi cynlluniau amgylcheddol ble bynnag bosibl;
·
mae angen cyflymu prosesau o fewn y Cyngor.
·
Mae angen hefyd codi proffil cynhyrchu bwyd a diogelwch ar frys yn enwedig
o ystyried effaith posibl y rhyfel yn Wcráin a chyflenwad y byd o rawn.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas mai ei bryderon
ef ynglŷn â’r penderfyniad oedd:
·
nad yw polisïau lleihau carbon y Cyngor yn mynd i lwyddo.
·
y gallai arwain at or-chwyddo gwerth tir amaethyddol o radd is ar y
farchnad (graddau 4 a 5) ac y bydd felly y tu hwnt i gyrraedd ffermwyr lleol.
·
mae posibilrwydd y bydd dylanwad aelodau lleol a grwpiau aelodau ardal yn
cael ei ymyleiddio. Cynghorwyr lleol yw
cynrychiolwyr trigolion lleol felly dylent fod yn rhan o brosesau gwneud
penderfyniadau yn hytrach na chael gwybod beth oedd y canlyniad ar y diwedd heb
fod wedi cael unrhyw gyfle i ddylanwadu arno.
·
nid oes gan Wasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor ddigon o staff i roi gwybod am
gaffaeliadau addas posibl nac i gefnogi cyflawniad uchelgeisiau ecolegol a lleihau
carbon y Cyngor.
Nid oedd y Cynghorydd Peter Evans na’r Cynghorydd
Dave Williams yn bresennol ac nid oeddent wedi anfon unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig.
Cyn gofyn i’r Pwyllgor benderfynu a ddylid argymell
bod y Cabinet yn adolygu ei benderfyniad gwreiddiol yng ngoleuni’r pwyntiau a
godwyd, gwahoddodd yr Is-gadeirydd yr Aelodau Arweiniol a’r Swyddogion i ymateb
i’r pwyntiau a godwyd.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r
Amgylchedd a’r Aelod Arweiniol Eiddo a
Cyllid:
·
bod lefelau staffio yn y Gwasanaethau Cefn Gwlad ar hyn o bryd yn ddigonol
i gefnogi gwaith ar yr hinsawdd a gwelliannau ecolegol. Fodd bynnag roedd pwysau posibl wrth symud
ymlaen eisoes wedi’i adnabod a bydd angen rheoli hyn drwy brosesau gosod
cyllideb y Cyngor.
·
cafwyd sicrwydd pellach y byddai ymgysylltiad y Prisiwr Dosbarth â’r broses
yn sicrhau na fydd y Cyngor yn talu dros bris y farchnad am unrhyw dir. Byddai hefyd yn sicrhau nad yw’r Cyngor yn
gyfrifol am chwyddo pris unrhyw dir.
·
cydnabuwyd nad oedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth fanwl ar yr adborth a
gafwyd fel rhan o’r broses ymgysylltu.
Er nad oedd nifer yr ymatebion yn uchel, roedd y sylwadau a dderbyniwyd
yn gadarnhaol. Cymerir yn gyffredinol
bod cyfraddau ymateb isel i ymarferion ymgynghori’n golygu nad yw’r rhai yr
ymgynghorwyd â hwy yn erbyn y cynigion a gyflwynwyd, mae pobl a sefydliadau’n
fwy tebygol o ymateb os ydynt wirioneddol yn erbyn neu os oes ganddynt bryderon
am gynigion.
·
dywedwyd y byddai mewnbwn y Grwpiau Ardal a’r Grŵp Buddsoddi Strategol
yn gyffredinol wedi’i gyfyngu i osod y cyfeiriad strategol a phennu’r
egwyddorion er mwyn darparu’r polisi, nhw fyddai’n edrych ar rinweddau prynu
parseli unigol o dir. Dyma felly pam y mae angen cyflymu prosesau’r Cyngor mewn
perthynas â hwyluso arferion prynu tir;
·
cadarnhawyd nad oes unrhyw un maes o waith ar ei ben ei hun yn ddigon i
sicrhau y bydd y Cyngor yn cyflawni ei uchelgeisiau di-garbon net. Byddai angen ystod o wahanol gynlluniau
e.e. gwella fflyd y Cyngor, dulliau
lleihau carbon yn adeiladau’r Cyngor ac ati.
Fodd bynnag, mae’r ffaith fod gan, ac y bydd gan yr Awdurdod adeiladau,
yn golygu y bydd ganddo ôl-troed carbon gan fod carbon wedi’i ymgorffori yn yr
adeiladau. Cafodd yr angen i’r Awdurdod
brynu tir ychwanegol i bwrpas dal a storio carbon ei amlygu yn ystod siwrnai’r
Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol drwy brosesau democrataidd y Cyngor gan
na fyddai’r Cyngor yn gwireddu ei amcanion di-garbon net heb hynny; a
·
chydnabuwyd y gallai prisiau tir godi gyda’r Cyngor yn brynwr ychwanegol
posibl yn y farchnad, ond nid y Cyngor fyddai’r unig brynwr ychwanegol yn y
farchnad. Bydd prynwyr masnachol hefyd
yn dod i’r farchnad a phe bai prisiau’n cael eu gwthio i fyny, awdurdodau lleol
fyddai’r rhai cyntaf i gael eu gwasgu allan o’r strwythur prisio gan nad oes
hawl ganddynt i wario dros werth y farchnad.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwella Busnes a
Moderneiddio, y Rheolwr Gwasanaethau
Cefn Gwlad a Threftadaeth, y Pennaeth Cyllid ac Eiddo a’r Swyddog Arweiniol
Eiddo Corfforaethol a’r Stoc Tai (Landlord Corfforaethol y Cyngor):
·
er na chynhyrchodd yr ymarfer ymgynghori ar y cynigion nifer fawr o
ymatebion, mae swyddogion ar hyn o bryd yn cysylltu ag unigolion i geisio eu
barn ar y cynigion; dywedwyd mai un o nodweddion calonogol yr ymatebion a gafwyd
oedd eu bod yn croesawu cyfranogiad y Cyngor mewn rheolaeth tir gan eu bod yn
gweld perchnogaeth gyhoeddus tir yn stiwardiaeth gyfrifol.
·
cydnabuwyd bod angen mwy o waith
cysylltiedig ag ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau lleol ynghylch yr hyn
sydd ei eisiau arnynt, yr hyn sy’n gweithio’n dda iddyn nhw a pha
benderfyniadau ymarferol y mae angen eu cymryd.
·
gwerthfawrogir pryderon aelodau ynghylch capasiti o fewn y Gwasanaethau
Cefn Gwlad i reoli’r rhaglen newydd.
Roedd nifer o drafodaethau eisoes wedi digwydd yn y Bwrdd Newid Hinsawdd
a’r Argyfwng Ecolegol ar y mater ac nid oes unrhyw broblemau capasiti ar hyn o
bryd er y bydd y sefyllfa’n cael ei monitro wrth i ni symud ymlaen;
·
cadarnhawyd bod y Cyngor wedi cydnabod y bydd angen adnoddau ychwanegol bob
blwyddyn am 9 mlynedd er mwyn darparu’r rhaglen. Fel rhan o’r broses o osod y gyllideb ar
gyfer 2022/23 mae staffio ychwanegol wedi’i gymeradwyo ar gyfer cyflawni
elfennau arbedion effeithlonrwydd y rhaglen.
Bydd darpariaeth y rhaglen yn nodwedd o broses gosod y gyllideb y Cyngor
am oes y rhaglen;
·
cafwyd sicrwydd bod matrics yn ei le a fyddai’n atal prynu tir amaethyddol
o safon dda i ddibenion plannu coed. Ròl
y Landlord Corfforaethol mewn perthynas â phrynu tir yw sicrhau bod cyfiawnhad
dilys a sail dros ei brynu gyda chyllid cyhoeddus. Disgwylir y bydd y rhan fwyaf o’r safleoedd
arfaethedig i’w prynu’n cael eu cynnig gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad. Defnyddir y Cynllun Dirprwyo dim ond os a
phan y bydd yr angen yn codi, a byddai’n rhaid cael cymeradwyaeth y
Cabinet. Ysbryd y cynllun dirprwyo
penderfyniadau arfaethedig yw galluogi’r Cyngor i brynu’r math cywir o dir am y
rhesymau cywir pan fo angen iddo wneud hynny; ac
·
Mae’r Cyngor yn archwilio’r
posibilrwydd o sefydlu grŵp ffocws gyda’r undebau ffermio a’r Ffederasiwn
Clybiau Ffermwyr Ifanc fel ffordd o ymgysylltu â nhw ar wahanol faterion.
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r pwyllgor ac arsylwyr
ofyn cwestiynau ategol i’r Aelodau Arweiniol a’r swyddogion a rhoddwyd yr
atebion canlynol:
·
cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd/Swyddog
Monitro na fydd angen newid Cyfansoddiad y Cyngor er mwyn gallu cynnal
cyfarfodydd Grwpiau Ardal Aelodau brys/arbennig oherwydd nad yw’r GAA yn
bwyllgorau gwneud penderfyniadau ond yn hytrach yn fforymau trafod ac
ymgynghori
·
cynghorodd y Rheolwr Cefn Gwlad a Gwasanaethau Treftadaeth bod 6 dosbarth o
safonau tir amaethyddol yn amrywio o 1 (rhagorol) i 5 (gwael iawn) - mae dau
ddosbarth gradd 3 (3a - da i ganolig a 3b - canolig)
Diolchodd yr Is-gadeirydd i holl lofnodwyr yr alwad
i mewn am amlinellu eu rhesymau dros geisio adolygiad o benderfyniad y Cabinet
ac i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am ymateb ac ateb y pwyntiau a godwyd yn
ystod y drafodaeth, cyn mynd ymlaen i ofyn i’r Pwyllgor benderfynu, ar ôl
gwrando ar y sylwadau a wnaed, a oedd yn
dymuno cyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r Cabinet i ofyn iddo ailystyried ei
benderfyniad gwreiddiol. Pwysleisiodd os
oedd y Pwyllgor yn dymuno gofyn i’r Cabinet ailystyried ei benderfyniad gwreiddiol
bod angen i’r aelodau nodi’n glir y rhesymau pam y dylid ei adolygu.
Roedd y Cynghorydd Gwyneth Elis o’r farn, oherwydd
bod yr Aelodau’n teimlo mor gryf ynghylch y mater, y dylid gofyn i’r Cabinet
adolygu’r penderfyniad gan ystyried pryderon yr aelodau ynglŷn ag
ymgynghori â nhw, ceisio sicrwydd y bydd yr aelodau lleol yn cael eu
hymgynghori'n llawn â nhw fel rhan o’r broses a sicrhau mai caffael tir i
ddibenion dal a storio carbon yw’r peth cywir i’w wneud a pheidio a’i
ddefnyddio fel modd o lenwi bylchau ym mesurau lleihau carbon y Cyngor ei
hun. Cynigiodd y Cynghorydd Ellis y
dylid cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w ailystyried ac eiliwyd y cynnig
gan y Cynghorydd Merfyn Parry. Yna
cafwyd trafodaeth bellach ar eiriad terfynol yr argymhellion i’r Cabinet, cyn
i’r Cynghorydd Merfyn Parry gynnig y geiriad ac i’r Cynghorydd Huw Williams ei
eilio.
Yn dilyn trafodaeth fanwl ac
ar ôl i’r Pwyllgor ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd iddo:
Penderfynwyd yn unfrydol gofyn i’r Cabinet yn y cyfarfod priodol nesaf
ailystyried ei benderfyniad gwreiddiol ynghylch y Cynllun Gwneud Penderfyniadau Dirprwyedig Arfaethedig
ar gyfer Caffael Tir (Rhydd-ddaliadol a Lesddaliadol) i ddibenion Dal a Storio
Carbon a Gwelliannau Ecolegol.
Gyda’r nod o gyflymu’r broses
o wneud penderfyniadau ar gyfer prynu tir -
(i)
y dylai’r
Cabinet, cyn adolygu ei benderfyniad, weithio gyda’r Undebau Ffermio a’r
Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc i geisio ymatebion cynhwysfawr gan y sefydliadau
hynny ar y Cynllun Arfaethedig
(ii)
bod
y Cabinet y newid geiriad y Cynllun Penderfyniadau Dirprwyedig arfaethedig (ac
unrhyw ddogfennaeth gysylltiedig) sy’n ymwneud â chysylltu ag aelodau lleol a
Grwpiau Ardal Aelodau fel ei fod yn darllen: ymgynghori/ymgynghoriad yn hytrach na hysbysu/hysbysiad’;
(iii)
bod adolygiad
yn cael ei gynnal ar yr adeg priodol o adnoddau staffio Gwasanaeth Cefn Gwlad y
Cyngor i sicrhau bod ganddo gapasiti digonol i ymdrin â’r dyletswyddau
ychwanegol a fydd yn disgyn ar y gwasanaeth yn y dyfodol cysylltiedig a gwaith
storio carbon a gwelliannau ecolegol; a
(iv)
bod gwybodaeth fanwl ar
raddio tir amaethyddol yn Sir Ddinbych (yn cynnwys mapiau darluniadol) yn cael
eu darparu i’r gwneuthurwyr penderfyniadau wrth adolygu’r penderfyniad
Llywyddodd y Cadeirydd dros y
cyfarfod o’r pwynt hwn ymlaen.