Mater - penderfyniadau

Mater - penderfyniadau

DENBIGHSHIRE'S GYPSY AND TRAVELLER ACCOMMODATION ASSESSMENT (2021)

13/01/2022 - DENBIGHSHIRE'S GYPSY AND TRAVELLER ACCOMMODATION ASSESSMENT (2021)

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Mwy Diogel a Cham-drin Domestig ochr yn ochr â’r Pennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad, y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai a'r Cynghorydd Barry Mellor, Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Asesu Anghenion Llety Sipsiwn a Theithiwyr adroddiad  ar y broses a ddilynwyd i ymgymryd ag Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych (2021). Hefyd ynghlwm â'r adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) roedd yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft ar gyfer Sir Ddinbych.

 

Rhoddodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Mwy Diogel a Cham-drin Domestig ychydig o gefndir i’r Pwyllgor ar gynhyrchiad yr adroddiad. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd gyfreithiol ar Awdurdodau Lleol i asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr (Adran 101) ac yna bodloni’r anghenion hynny (Adran 103).  Mae yna ofyniad cyfreithiol (Deddf Tai (Cymru) 2014 i gynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr o leiaf bob 5 mlynedd felly roedd yn ofynnol yn awr i’r Cyngor gynnal Asesiad newydd. Mae Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr diweddar hefyd yn ofynnol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru yw 24 Chwefror 2022.

 

Mae dull rheoli prosiectau cadarn wedi’i fabwysiadu drwy sefydliad Bwrdd Prosiect o dan arweiniad Aelod, gyda’r Arweinydd a’r Aelod Arweiniol yn gweithio gydag Uwch Swyddogion i gyfeirio’r gwaith i sicrhau ymgysylltiad Aelodau, agoredrwydd a thryloywder drwy gydol y broses.

 

Roedd Aelodau Etholedig a’r Pwyllgor Craffu wedi codi pryderon eisoes ynghylch y lefel o ymgynghoriad gyda chymunedau Sipsiwn a Theithwyr a’r angen i ymgysylltu’n gynnar gyda’r Aelodau. O ganlyniad i hyn, yn ei gyfarfod ar 13 Mai 2021, cytunodd y Pwyllgor Craffu Cymunedau y dylid sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen i ddarparu cefnogaeth ar gyfer datblygiad y Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr newydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Caderydd y Grŵp Tasg a Gorffen wrth y Pwyllgor bod y Grwŵp Tasg a Gorffen wedi cyfarfod chwe gwaith. Roedd ei drafodaethau wedi cynnwys pob agwedd ar fethodoleg Llywodraeth Cymru. Edrychwyd ar ar gynnydd yr asesiad, cyfathrebiadau â rhanddeiliaid a chasgliadau’r adroddiad Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft. Roedd eu hadroddiad terfynol ynghlwm wrth yr adroddiad fel Atodiad 1.

 

Roedd y Briff Gwaith a'r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn cynnwys gweithgareddau i ddiwallu gofynion methodoleg Llywodraeth Cymru yn ogystal â gweithgareddau ychwanegol a ddynodwyd fel rhai pwysig i'r Cyngor, Roedd y rhain yn darparu’r fframwaith ar gyfer ymgymryd â’r Asesiad o Anghenion Llety. Roedd yr amrywiaeth o weithgareddau ychwanegol yn cynnwys arolwg ar-lein ar gyfer aelodau ac aelodau’n chware rhan mewn hyrwyddo’r arolwg – sicrhau bod aelodau’n fwy ymgysylltiedig o’r camau cynharaf. Fe wnaeth penodiad Swyddog Cyswllt Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ystod mis Awst hefyd sicrhau bod teuluoedd teithiol oedd yn y sir yn ystod cyfnod yr Asesiad wedi cael gwybod amdano.

 

I gloi dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor bod casgliadau ac argymhellion drafft yr Asesiad o Anghenion wedi’u cyflwyno i’r Grŵp Tasg a Gorffen yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd.  Yn y cyfarfod hwnnw cytunodd y Grŵp eu bod yn fodlon y defnyddiwyd methodoleg Llywodraeth Cymru yn briodol wrth ddadansoddi’r angen a bod y gweithgareddau ychwanegol a nododd Craffu eisoes wedi'u hymgymryd â nhw.  Er bod y gwaith wedi gofyn am gryn ymrwymiad gan y Grŵp Tasg a Gorffen yn ystod y misoedd diwethaf, roedd pawb yn teimlo bod y dull o weithredu wedi gweithio'n dda.  O ganlyniad, roedd y Grŵp wedi gwneud cais bod dull tebyg cael ei fabwysiadu yn y dyfodol wrth ystyried safleoedd posibl ar gyfer lleiniau.    

 

Diolchodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Mwy Diogel a Cham-drin Domestig i'r Cynghorydd Mellor a'r Grŵp Tasg a Gorffen am eu holl waith caled.  Aeth ati wedyn i gyflwyno casgliadau’r Asesiad sef:

 

·         bod angen 8 llain breswyl i ddiwallu anghenion dynodedig 3 aelwyd/grwpiau teulu estynedig yn y sir, a

·         nad oes tystiolaeth o’r angen am safle tramwy parhaol oherwydd niferoedd isel gwersylloedd diawdurdod, natur tymor byr y math yma o wersylloedd a'r ffaith nad oedd cyfweliadau gyda’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr wedi dynodi’r angen am ddarpariaeth dramwy barhaol yn lleol. Argymhellwyd y gellid datblygu ymhellach y dull seiliedig ar reolaeth a ddefnyddir gyda gwersylloedd diawdurdod yn seiliedig ar arfer gorau o bob rhan o’r DU, a allai gynnwys ‘aros drwy drafodaeth’.

·         Rhagwelir mai’r twf mewn teuluoedd yn y dyfodol fydd 4 teulu ychwanegol o 2026 i 2033.

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd, Cymunedau Mwy Diogel a Cham-drin Domestig y byddai'r trafodaethau yn y cyfarfod presennol  yn cael eu hadrodd i’r Cabinet ar 14 Rhagfyr a’r bwriad oedd ceisio cymeradwyaeth yn y cyfarfod hwnnw i gyflwyno’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Drafft i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth.

 

Trafododd Aelodau’r canlynol mewn mwy o fanylder:

 

·         Holodd y pwyllgor ynghylch is-bennawd 7.5 'Mynd i'r Afael ag Anghenion a Ddynodwyd' yn yr Asesiad o Anghenion Drafft.  Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch yr hyn yr oedd 'dymuniad i ddiwallu eu hanghenion eu hunain’ yn ei olygu. Dywedodd yr Aelod Arweiniol bod y cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi dweud y byddai'n well ganddynt ddewis eu safleoedd eu hunain yn hytrach na byw ar safleoedd cyhoeddus.

·         Holodd y Pwyllgor a allai’r grŵp Tasg a Gorffen barhau â’i waith yn y dyfodol i helpu’r Cyngor i ddewis safleoedd posibl, oherwydd bod gan aelodau'r Grŵp fewnwelediad i anghenion a dymuniadau'r cymunedau hyn. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd bod cynhyrchu'r Asesiad o Anghenion a dewis safleoedd posibl yn ddwy broses ar wahân. Dywedodd pe bai Grŵp Tasg a Gorffen yn rhan o’r  gwaith yna  byddai’n rhaid penderfynu yn ystod tymor y Cyngor newydd pa bryd y byddai’r broses honno'n digwydd.

·         Eglurodd yr Aelod Arweiniol bod Travelling Ahead (Sefydliad Eiriolaeth Sipsiwn a Theithwyr) yn sefydliad cenedlaethol ond bod ganddo gynrychiolaeth ranbarthol.  Roedd y sefydliad wedi ymgysylltu â'r broses asesu ac roedd yn parhau i gysylltu â’r Cyngor.

·         Cadarnhawyd unwaith eto mai casgliad yr asesiad oedd nad oes angen safle tramwy parhaol yn yr ardal.

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd yn unfrydol: -

 

(i)   y dylid cymeradwyo casgliadau’r Grŵp Tasg a Gorffen -

(a)  bod gwaith ar yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr wedi cwrdd â gofynion y Briff Gwaith a'r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid fel y’i cymeradwywyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 26 Gorffennaf; a

(b)  bod methodoleg Llywodraeth Cymru wedi’i roi ar waith yn briodol ar yr asesiad o anghenion

(ii)   cadarnhau ei gefnogaeth i’r dull o fabwysiadwyd i gyflawni Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych fel un cadarn ac un a oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru;

(iii)                 cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau, ac

(iv)   argymell i’r Cabinet y dylid cymeradwyo’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft  i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Mynegodd y Cadeirydd a’r holl aelodau etholedig a oedd yn bresennol eu diolch i’r Cadeirydd ac aelodau’r Grŵp Tasg a Gorffen am eu gwaith diwyd yn cefnogi cyflawniad y gwaith uchod.  Cydnabu’r aelodau bod y broses asesu gyfan wedi cymryd cryn amser ac ymdrech ar ran swyddogion ac aelodau i’w gynllunio, ei fonitro a'i ddarparu i'r safon angenrheidiol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.30pm