Mater - penderfyniadau
TENDER OF NEW FLEET VEHICLES FOR THE NEW WASTE MODEL
25/11/2021 - TENDER OF NEW FLEET VEHICLES FOR THE NEW WASTE MODEL
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) yn cymeradwyo’r ymarferiad
tendro arfaethedig fel ag y nodwyd yn yr adroddiad;
(b) yn cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1 yr
adroddiad), Ffurflen Comisiynu’r Fflyd (Atodiad 2 yr adroddiad), a’r Llinell
Amser (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau;
(c) yn cadarnhau y caiff y
penderfyniad ei weithredu yn syth oherwydd bod angen cychwyn y Gwahoddiad i
Dendro yn nechrau Rhagfyr 2021 i sicrhau y derbynnir y nwyddau mewn da bryd ar
gyfer lansio’r model gwasanaeth newydd. Mae hyn oherwydd bod amser arwain y
cerbydau hyn yn hir, a
(d) yn nodi y bydd adroddiad pellach
yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn Ionawr 2022 i gymeradwyo’r Dyfarnu Contract
yn dilyn wedi’r ymarferiad tendro, bydd hefyd yn cadarnhau trefniadau rheoli
contractau, costau wedi eu tendro, a manylion contractau.