Mater - penderfyniadau
CONTRACT AWARD AND POLICY CHANGES FOR A NEW CONTRACT TO MANAGE OUR HOUSEHOLD WASTE RECYCLING CENTRES
21/10/2021 - CONTRACT AWARD AND POLICY CHANGES FOR A NEW CONTRACT TO MANAGE OUR HOUSEHOLD WASTE RECYCLING CENTRES
PENDERFYNWYD bod -
(a) Y Cabinet yn
awdurdodi dyfarnu’r contract i’r Cynigydd A Ffafrir sydd wedi’i gynnwys yn yr
Adroddiad Gwerthuso Tendr Caffael ar y cyd (Atodiad 1 o’r adroddiad) sydd wedi
arddangos eu bod wedi cyflwyno’r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd ac yn
nodi bod y contract yn cael ei ddyfarnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel
yr awdurdod arweiniol;
(b) aelodau yn
cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau ac yn nodi y bydd yn
cael ei ddiweddaru ar ôl dyfarnu’r contract;
(c) Polisi Canolfan
Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar y Cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
(Atodiad 2 o’r adroddiad) yn cael ei fabwysiadu o ddyddiad dechrau’r contract;
(d) Arwystlon Gwastraff
Adeiladu DIY (Atodiad 3 o’r adroddiad) yn cael eu mabwysiadu yn ffurfiol o
ddyddiad dechrau’r contract;
(e) system archebu
ar gyfer Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar y cyd yn cael ei ddatblygu’n fewnol gan Gyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn cael ei fabwysiadu'n barhaol;
(f) yr adroddiad yn
mynd yn ôl i Bwyllgor Craffu Partneriaethau er mwyn adolygu blwyddyn gyntaf o
weithrediad y contract newydd, a
(g) y Cabinet yn nodi
bod angen cytuno ar Gontract Awdurdodau ar y Cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy a Chyngor Sir Ddinbych, gan ofyn i’r Gwasanaethau Cyfreithiol i gefnogi’r
gwasanaeth gyda pharatoi’r contract hwn.