Mater - penderfyniadau

Mater - penderfyniadau

BETSI CADWALADR UNIVERSITY HEALTH BOARD HEART FAILURE SERVICES IN DENBIGHSHIRE AND ITS IMPACT ON THE COUNCIL'S SOCIAL CARE SERVICES

01/09/2021 - BETSI CADWALADR UNIVERSITY HEALTH BOARD HEART FAILURE SERVICES IN DENBIGHSHIRE AND ITS IMPACT ON THE COUNCIL'S SOCIAL CARE SERVICES

Cyflwynodd Dr Gary Francis, Cyfarwyddwr Meddygol Gofal Eilaidd (Dros Dro) yr adroddiad ar y cyd a baratowyd gan Phil Gilroy a Helen Wilkinson (wedi'i rannu ymlaen llaw) a oedd yn rhoi gwybodaeth am sefyllfa bresennol Gwasanaethau Methiant y Galon Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd yn cael eu darparu yn Sir Ddinbych ac ar draws Gogledd Cymru.

 

Eglurodd Dr Francis fod rhai agweddau ar Wasanaethau Methiant y Galon BIPBC yn y gorffennol wedi bod yn dibynnu ar ffynonellau cyllid dros dro; roedd hyn wedi achosi peth ansicrwydd i’r cyhoedd ynglŷn â darpariaeth y gwasanaethau hyn yn y dyfodol ac roedd wedi arwain at gais i'r Pwyllgor Craffu ystyried ymarferoldeb y Gwasanaethau yn y dyfodol a'r effaith bosib' o ddod â nhw i ben ar wasanaethau gofal cymdeithasol y Cyngor.  Cadarnhaodd Dr Francis fod y Bwrdd Iechyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaethau methiant y galon o fis Ebrill 2020 hyd y gellir rhagweld.

 

Roedd BIPBC yn llwyr gydnabod gwerth Gwasanaethau Methiant y Galon ledled Gogledd Cymru, a byddent yn parhau i gefnogi eu datblygiad heb unrhyw gynlluniau i leihau’r ddarpariaeth bresennol.  Roedd y Bwrdd Iechyd yn cydnabod rôl allweddol gwasanaethau iechyd yn y gymuned i gefnogi iechyd a lles ar draws y rhanbarth, ac roedd yn eu cyfrif yn rhan greiddiol o ddarpariaeth eu gwasanaeth.  Roedd hefyd yn cydnabod bod angen ariannu gwasanaethau o’r fath yn ddigonol, a darparu sicrwydd tymor byr i ganolig iddynt y byddai cyllid yn cael ei ddarparu.

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –

 

·         O ran yr heriau oedd yn deillio o ofal yn y gymuned, gofynnwyd a allai mwy o wybodaeth gael ei rhannu gyda gofalwyr pan oedd cleifion yn cael eu rhyddhau o ysbytai.  Roedd BIPBC yn cydnabod yr heriau wrth ddarparu gofal yn y gymuned.  Roedd ar hyn o bryd yn gweithio ar welliannau gyda gwasanaethau gofal yn y gymuned ac roedd yn awyddus i glywed barn gofalwyr ynglŷn â sut y gallai'r gwasanaethau gael eu gwella.

·         Roedd y Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod rhai achosion o oedi cyn rhyddhau cleifion o ysbytai, ond roedd yn gweithio'n galed i fynd i'r afael ag unrhyw oedi, ond y flaenoriaeth fwyaf fyddai sicrhau diogelwch a lles y claf/unigolyn dan sylw.

·         Gofynnwyd faint o gyllid fyddai ar gael ar gyfer Gwasanaeth Methiant y Galon ac am ba hyd y byddai’r cyllid ar gael.  Dywedodd cynrychiolwyr BIPBC y byddai’r cyllid ar gael cyhyd ag oedd y gwasanaethau oedd yn cael eu darparu’n diwallu anghenion y gymuned a'u bod y ffordd orau oedd ar gael i ddarparu'r gwasanaethau hynny'n ymarferol.  Gallai datblygiadau meddygol yn y dyfodol olygu bod angen adolygu a newid y ffordd o ddarparu'r gwasanaethau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr BIPBC am ddod i’r cyfarfod.  Cadarnhaodd fod y manylion oedd wedi'u darparu yn yr adroddiad ac wedi'u cyflwyno gan gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd yn y cyfarfod wedi lleddfu pryderon a godwyd yn flaenorol pan ofynnwyd am graffu ar y mater.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn y wybodaeth a ddarparwyd a

 

(i)   chroesawu’r sicrwydd a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn perthynas â'r cyllid presennol a thymor canolig ar gyfer Gwasanaethau Methiant y Galon yn Sir Ddinbych; a

(ii)  chydnabyddiaeth y Bwrdd Iechyd i bwysigrwydd gwasanaethau iechyd yn y gymuned a’r angen am eu hariannu a’u cefnogi’n ddigonol.