Mater - penderfyniadau
NEW WELSH CURRICULUM ITEM
06/07/2021 - IMPLEMENTATION OF THE DONALDSON REPORT 'SUCCESSFUL FUTURES' - CURRICULUM FOR WALES
{0><}0{>Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts (Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r
Cyhoedd) a’r Pennaeth Addysg Dros Dro, ynghyd â Mair Herbert a Jacqueline Chan
(cynrychiolwyr GwE).<0} {0><}0{>Mae GwE, fel y Gwasanaeth Rhanbarthol
Gwella Ysgolion, yn arwain ar ddatblygu a chefnogi ysgolion i weithredu
Cwricwlwm Cymru yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Donaldson – ‘Dyfodol Llwyddiannus’.<0}
{0><}0{>Cyflwynodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts
yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar sut mae’r consortiwm rhanbarthol,
mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol, yn cefnogi ysgolion i roi’r cwricwlwm
newydd ar waith, gan fanylu ar y gwaith sylweddol sydd wedi’i wneud er mwyn darparu
sicrwydd o hynny i’r Pwyllgor.<0} {0><}0{>Cyfeiriodd at y cwricwlwm newydd fel cam cadarnhaol ymlaen ar gyfer addysgu
ac at y pedwar prif nod i helpu plant a phobl ifanc i fod yn: ddysgwyr uchelgeisiol
a medrus, yn fentrus a chreadigol, yn ddinasyddion moesegol a gwybodus ac yn
iach a hyderus. {0><}0{>Amlygwyd effaith Covid-19 ar ysgolion a’u
paratoadau i roi’r cwricwlwm newydd ar waith, ynghyd â’r gwaith sy’n cael ei
wneud ar lefelau amrywiol, o ysgolion unigol a chlystyrau i waith traws-sirol,
rhanbarthol a chenedlaethol, er mwyn rhannu arfer orau. {0><}0{>Ychwanegodd y Pennaeth Addysg Dros Dro fod
y cwricwlwm newydd yn ganolbwyntio ar ganiatáu i bob plentyn ddysgu yn y ffordd
sy’n gywir iddyn nhw.<0} {0><}0{>Mae’r gwelliant a’r gefnogaeth a gynigir i ysgolion yn ceisio cefnogi pob
ymarferydd, gan ganolbwyntio ar themâu allweddol yn ymwneud ag arwain,
cynllunio, gweledigaeth, addysgeg a dysgu proffesiynol. {0><}0{>Mae gweithdai ymgynghorol wedi’u cynnal i
sicrhau bod y cynnig gorau yn cael ei ddarparu i ysgolion, a chafwyd ymateb ac
adborth cadarnhaol gan benaethiaid cynradd ac uwchradd sy’n awyddus i
gydweithio a sicrhau cysondeb. {0><}0{>Mae’r gwaith a wnaed gan GwE yn allweddol
i sicrhau bod ysgolion yn barod i roi’r cwricwlwm newydd ar waith ym mis Medi
2022.<0}
{0><}0{>Mae’r ymdrechion i gefnogi ysgolion wedi’u
nodi’n fanwl yn yr adroddiad ac yn cynnwys: <0}
·
{0><}0{>Gweithio gyda chonsortia rhanbarthol
eraill i ddatblygu cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol sy’n integreiddio pob
agwedd ar y diwygiad ehangach.<0}
·
{0><}0{>Cyfres o sesiynau hyfforddiant a dysgu
proffesiynol ar draws y rhanbarth, gyda sesiynau clwstwr ar gael i ysgolion. <0}
·
{0><}0{>Hwyluso sesiynau i ysgolion o fewn clwstwr
i gydweithio i gynllunio’n strategol ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm gyda
gweithgareddau i gefnogi’r paratoadau hynny wedi’u nodi o fewn Cynlluniau
Datblygu’r ysgolion.<0}
·
{0><}0{>Darparu enghreifftiau o weithgareddau
arfaethedig i baratoi ymhellach ar gyfer y cwricwlwm newydd, yn cynnwys datblygu
gweledigaeth a rennir; gan gydweithio ar ddulliau cyffredin i addysgu a dysgu
ac o fewn Maes Dysgu a Phrofiad penodol.<0}
·
{0><}0{>Bydd cymorth ychwanegol ar gael yn ôl yr
angen gan GwE i helpu ysgolion gael mynediad at gymorth pwrpasol wedi’i deilwra
ar lefel clwstwr ac ysgol.<0}
·
{0><}0{>Cymorth pellach i ysgolion ar ffurf cyfres
o ‘Ddarnau Meddwl’ wedi’u hysgrifennu gan GwE, fel rhan o’r sesiynau wythnosol
ar y diwygio gyda’r Athro Donaldson sy’n ymdrin ag agweddau allweddol ar y
cwricwlwm.<0}
·
{0><}0{>Yn barod ar gyfer mis Medi 2022, mae
gwaith yn mynd rhagddo gyda phartneriaid i ddatblygu ystod eang o ddangosyddion
ansoddol i ganiatáu i ysgolion fyfyrio ar sut maen nhw’n gweithredu pedwar nod
y cwricwlwm newydd.<0}
·
{0><}0{>Cyn y cyfnod clo nododd dros 90% o’r
ysgolion eu bod ar y trywydd cywir o ran eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r
fframwaith newydd; dywedodd bron pob ysgol eu bod ar y trywydd cywir o ran
paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.<0}
{0><}0{>Mae’r gwaith wedi parhau ers hyn i sicrhau
bod y cynnydd i weithredu'r cwricwlwm newydd ar y trywydd cywir.<0}
{0><}0{>Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebodd
yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro a chynrychiolwyr GwE i
sylwadau a chwestiynau’r aelodau:<0}
·
{0><}0{>Rhoddwyd cydnabyddiaeth i waith a chyfrifoldebau
llywodraethwyr ysgol.<0}
{0><}0{>O ran pwysau, rhoddwyd sicrwydd bod
cefnogaeth yn cael ei darparu fel y bo’n briodol gyda chyfarfodydd rheolaidd i
drafod unrhyw fater neu bryder a bod perthynas wych rhwng yr ysgolion, yr
awdurdod lleol a GwE.<0} {0><}0{>Mae’r dull a ddefnyddir yn sicrhau bod
materion yn cael eu nodi a’u trin ar gam cynnar, gan atal problemau rhag
gwaethygu.
·
{0><}0{>Mae chwe chlwstwr ysgol yn Sir Ddinbych (Prestatyn,
y Rhyl, Dinbych, Ruthin, Llangollen a Glan Clwyd) sy’n cydweithio ac
ailadroddwyd fod cymorth ychwanegol ar gael i ysgolion sy’n gweithio mewn
clwstwr. <0}
·
{0><}0{>Mae dwy ysgol wedi dod allan o fesurau
arbennig yn ystod y pandemig, a chafodd y pwysau ychwanegol ar yr ysgolion
hynny i wella yn erbyn argymhellion Estyn eu cydnabod.<0}
{0><}0{>Yn ogystal â’r gefnogaeth gyffredinol a gynigir i
ysgolion i roi’r cwricwlwm newydd ar waith, mae cymorth pwrpasol pellach ar
gael i ysgolion unigol yn ôl yr angen.<0}
·
{0><}0{>Er gwaethaf diffyg rheolaethau
deddfwriaethol ar gyfer addysg yn y cartref, mae proses gadarn yn ei lle i gefnogi
disgyblion sy’n derbyn addysg gartref; fodd bynnag, ni ellir gorfodi
rheini/gofalwyr i weithredu’r cwricwlwm newydd pan fyddan nhw’n dewis cwricwlwm
i’w ddilyn gartref. <0}
·
{0><}0{>Mae addysg grefyddol yn rhan o Faes Dysgu
a Phrofiad y Dyniaethau yn y cwricwlwm newydd, sy’n cynnwys crefydd, gwerthoedd
a moeseg, a rhoddwyd sicrwydd bod addysg grefyddol yn cael ei chynnwys a’i
diogelu. <0}
·
{0><}0{>Fel rhan o’r paratoadau dylai ysgolion
gydweithio i sicrhau bod aliniad yn y broses drosglwyddo ar draws continwwm
grŵp oedran 3-16 a pharhad dysgu gydag eglurder ar feysydd dysgu penodol o
fewn y grwpiau oedran i sicrhau nad oes ailadrodd a bod dysgwyr yn gwneud
cynnydd. <0}
·
{0><}0{>Mae’r gyfres a’r amserlen arfaethedig ar gyfer
dysgu a hyfforddiant proffesiynol ar gael yn yr adroddiad. <0}
·
{0><}0{>Bydd ysgolion yn treialu eu cwricwlwm eu hunain a
bydd cymorth yn cael ei ddarparu i werthuso hynny a bydd unrhyw addasiad
angenrheidiol yn cael ei wneud cyn gweithredu’r cwricwlwm newydd yn ffurfiol
fis medi 2022.<0}
·
{0><}0{>Cadarnhawyd fod Cymwysterau Cymru yn
ymgynghori ynghylch diwygio TGAU i ddod â rhywfaint o elfennau a naws y
cwricwlwm newydd i’r asesiadau hynny; does dim sôn am newidiadau i Safon
UG/Safon Uwch.<0}
·
{0><}0{>Ceir 27 o ddatganiadau ‘Beth sy’n Bwysig'
ar draws y cwricwlwm, sy’n ddatganiadau statudol a fydd yn rhan annatod o’r
fframwaith ac yn hysbysu'r darparu. <0}
·
{0><}0{>Mae Ieithoedd Tramor Modern yn rhan o Faes
Dysgu a Phrofiad Llythrennedd a Chyfathrebu, ac hyderir y bydd ieithoedd modern
yn derbyn gwell sylw a mwy o amser yn nhermau’r cwricwlwm.<0}
·
{0><}0{>Cytunwyd bod awgrym y Cynghorydd Graham
Timms yn un da o ran darparu banc o wybodaeth leol ar newid hinsawdd i
ysgolion, ac adroddodd ar y llwyfannau digidol sydd eisoes yn cael eu
defnyddio’n fewnol gan yr awdurdod lleol drwy’r hwb ac yn allanol ar wefan GwE
fel dull o gydweithio a rhannu adnoddau er budd pob awdurdod. <0}
·
{0><}0{>Mewn ymateb i bryderon ynghylch defnydd amhriodol o ffonau symudol mewn
rhai ysgolion yn Lloegr, sicrhaodd y swyddogion nad oes pryderon sylweddol yn
lleol ond bod defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn faes pryder yn y
sector a fydd yn parhau i gael ei fonitro’n ofalus.<0}
{0><}0{>Ar ddiwedd y drafodaeth diolchodd y Cadeirydd am
yr adroddiad cynhwysfawr ac i’r rheiny a ymatebodd i’r materion a godwyd.<0}
{0><}96{>PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod:<0}
{0><}100{>(a)<0} {0><}0{>Derbyn yr wybodaeth a geir yn yr adroddiad a’r atodiadau cysylltiedig,
ynghyd â’r wybodaeth a gafwyd yn ystod y drafodaeth, ar waith sydd wedi’i wneud
gan GwE mewn partneriaeth â’r Awdurdod Lleol i gefnogi ysgolion i weithredu
Cwricwlwm Cymru yn dilyn cyhoeddi adroddiad Donaldson – ‘Dyfodol Llwyddiannus’;
a<0}
{0><}100{>(b)<0} {0><}0{>Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad cynnydd pellach yn ystod gwanwyn 2022
sy’n manylu ar barodrwydd pob sefydliad a staff addysgol i roi’r cwricwlwm
newydd ar waith fis Medi 2022.<0}