Mater - penderfyniadau
Mater - penderfyniadau
AIL ADOLYGIAD O'R DATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL: DATGANIAD CYDWEITHIO IS-RANBARTHOL
22/04/2021 - AIL ADOLYGIAD O'R DATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL: DATGANIAD CYDWEITHIO IS-RANBARTHOL
Mae’r Aelodau’n cefnogi
cydweithio rhwng awdurdodau mewn perthynas â chyflenwi mwynau agregau yn
is-ranbarth Gogledd Ddwyrain Cymru, drwy gymeradwyo’r Datganiad o
Gydweithrediad Is-ranbarthol (DGIR).
Rhoddir pwerau dirprwyedig i’r
Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel mewn
perthynas â diwygiadau golygyddol, h.y. ansylweddol, i’r DGIR DRAFFT pe bai’r
angen yn codi o ganlyniad i argymhellion a wneir gan Sir y Fflint neu Wrecsam
ar ôl cwblhau’r adroddiad hwn.