Mater - penderfyniadau

Mater - penderfyniadau

MANAGED SERVICE FOR THE PROVISION OF AGENCY WORKERS

13/12/2017 - MANAGED SERVICE FOR THE PROVISION OF AGENCY WORKERS

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo –

 

(a)       dechrau’r broses gaffael yn defnyddio Fframwaith ESPO MSTAR2, Rhif 653F;

 

(b)       bod Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio gyda Chyngor Sir y Fflint i arwain a rheoli’r broses gaffael;

 

(c)        bod y pwyllgor archwilio priodol yn derbyn adroddiad gan y swyddogion perthnasol ym mis Ionawr 2018 o ran y broses gaffael a’r dewisiadau amgen sydd ar gael i’r Cyngor yn seiliedig ar y gwerth gorau, a

 

(d)       bod y Cabinet yn derbyn adroddiad i ddyfarnu’r contract i’r cynigiwr sy’n cynnig y budd economaidd mwyaf ym mis Chwefror 2018.