Mater - penderfyniadau

Mater - penderfyniadau

LAND AT TIRIONFA, MELIDEN ROAD, RHUDDLAN

26/01/2017 - LAND AT TIRIONFA, MELIDEN ROAD, RHUDDLAN

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo

 

(a)       datgan bod y tir glas ( fel y manylir yn Atodiad 1 ynghlwm wrth yr adroddiad) yn weddill i anghenion y Cyngor a chael gwared ohono ar y farchnad agored;

 

(b)       llunio Cytundeb Perchnogaeth Tir gyda pherchennog y tir coch  (fel y manylir yn Atodiad 1 ynghlwm wrth yr adroddiad) a rhyddhau’r cyfamod ar y tir coch sy’n eiddo i drydydd parti yn gyfnewid am hawl tramwy dros y tir coch a fydd o fudd i’r tir glas a melyn sy’n eiddo i'r Cyngor, a

 

(c)        chael gwared ar y tiroedd coch, gwyrdd a glas (fel y manylir yn Atodiad A ynghlwm wrth yr adroddiad) ar y cyd gyda’r perchennog cyfagos a bydd y Cyngor yn derbyn 66.05% o elw net y gwerthiant, yn dilyn tynnu costau cytunedig ar gyfer sicrhau caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y tir coch a glas yn unig.