Manylion Pwyllgor

Manylion Pwyllgor

Gweithgor Newid Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol

Diben y Pwyllgor

Penderfynwyd Cyngor Sir Ddinbych y cynnig canlynol ar y 2 Gorffennaf 2019:

 

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn:

         Datgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol ar unwaith

         Ymrwymo i sicrhau bod yr awdurdod yn ddi-garbon net erbyn 2030 fan bellaf.

         Sefydlu grŵp tasg a gorffen i lunio cynllun clir o fewn 6 mis i gyflawni’r uchod, gan gynnwys dulliau o wella bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.

         Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ac adnoddau i’n galluogi i leihau allyriadau nwyon gwydr a gwella bioamrywiaeth; a

         Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i gynorthwyo i ddatrys yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol hwn.

 

Mae'r Gweithgor yn gorff ymgynghorol nad yw'n gwneud penderfyniadau ond gall wneud argymhellion neu geisiadau i bwyllgorau, paneli, aelodau arweiniol neu swyddogion Cyngor Sir Ddinbych fel y bo'n briodol.

Ei ddiben yw:

i.      Bod yn grŵp cyfeirio gwleidyddol trawsbleidiol ar gyfer swyddogion ar yr agenda newid hinsawdd ac adfer natur

ii.      Darparu her i sicrhau y cyflawnir Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol 2021/22 - 2029/2030

iii.     Hyrwyddo'r agenda newid hinsawdd ac adfer natur ymhlith Cynghorwyr, o fewn Grwpiau Gwleidyddol a chydag etholwyr.

Aelodaeth