Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

FFYRDD PERYGLUS AT YSGOLION

Rhoi rheolau a chanllawiau ar waith wrth benderfynu ar ddiogelwch ffyrdd at ysgolion fel maen nhw’n berthnasol yng nghyd-destun Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd a'r Peiriannydd Diogelwch ar y Ffyrdd yr adroddiad a'r atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn esbonio'r fframwaith deddfwriaethol sy'n llywodraethu’r llwybrau peryglus i'r ysgol.  Gwnaethant hefyd amlinellu'r broses asesu a ddilynwyd, yn unol â chanllawiau statudol, wrth asesu diogelwch llwybr cerdded i'r ysgol.  Byddai unrhyw newidiadau i lif neu faint traffig yn achosi adolygiad yn awtomatig.  Mae hyn wedi digwydd yn Rhuddlan yn ddiweddar, ac o ganlyniad wedi arwain at osod ynys draffig i gynorthwyo disgyblion sy’n cerdded i’r ysgol groesi’r briffordd yn ddiogel. 

 

Er y byddai cyflwyno mesurau gostegu traffig yn cynorthwyo i arafu traffig, ni fyddai byth yn atal damweiniau, gan fod y rhan fwyaf o ddamweiniau’n wall dynol ar ran un parti.  Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y swyddogion:

·         byddai cost unrhyw addasiadau i'r briffordd i sicrhau diogelwch y disgyblion yn destun trafodaethau cyllidebol rhwng gwasanaethau perthnasol e.e. addysg a phriffyrdd.  Gellid trosglwyddo arian o gyllideb cludiant yr ysgol i'r gyllideb priffyrdd, tuag at gost addasiadau ac ati pe bai angen;

·         er y cydnabuwyd bod rhai ffyrdd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn cael eu hystyried yn beryglus i'r plant gerdded i'r ysgol, cafwyd manteision ychwanegol ar y llwybr ysgol yn y llefydd oedd yn ddiogel iddynt gerdded. Roedd yn cyfrannu at iechyd a lles y disgybl gan fod ymarfer corff yn cael ei gydnabod fel ffordd o leihau gordewdra;  

·         pe ceid hysbysiad o newid mewn maint neu lif traffig ar unrhyw lwybrau ysgol, neu pe ceid cais am gludiant ysgol oherwydd bod y llwybr cerdded wedi dod yn beryglus, byddai asesiad llwybr peryglus yn cael ei gynnal.  Anogwyd cynghorwyr i roi gwybod i swyddogion pe bai unrhyw newidiadau i faint neu lif yn eu wardiau;

·         pe bai aelodau yn dymuno hynny, gallai swyddogion roi gwybod i Grwpiau Ardal Aelodau yn flynyddol o lwybrau i’w hadolygu o fewn eu hardaloedd, a chynnwys cynghorwyr yn y broses ymgynghori.  Cytunodd yr Aelodau â'r awgrym hwn a chytunodd y swyddogion i fabwysiadu'r dull hwn o hyn ymlaen;

·         mewn perthynas â llwybrau sy’n amodol ar drefn torri glaswellt bioamrywiol, gweithredodd y swyddogion yn ofalus wrth asesu llwybrau a rhoi blaenoriaeth i fywyd dynol dros fywyd gwyllt.  Fodd bynnag, gwnaethant gydnabod y gellid seilio’r asesiad yn unig ar y dystiolaeth weledol a oedd ar gael ar yr adeg y cafodd ei wneud.  Os oedd tyfiannau ar ymylon yn peri perygl, byddai Tîm Strydwedd yn delio gyda hyn fel mater o frys, ac os mai tirfeddianwyr oedd yn gyfrifol am wrychoedd ac ati, byddent yn gofyn iddynt eu torri ar sail diogelwch.  Os na fyddai'r perchennog / unigolyn cyfrifol yn ymateb i'r cais, byddai Tîm Strydwedd yn torri’r tyfiant am resymau diogelwch, ac yn adennill y costau yn ddiweddarach gan yr unigolyn cyfrifol.

Cyfeiriodd yr Aelodau at nifer o enghreifftiau ar draws y sir lle bu help swyddogion i leihau cyflymder traffig neu gyflwyno mesurau gostegu traffig, yn enwedig o amgylch ysgolion, yn amhrisiadwy.  Roedd gwaith yn parhau yn yr ardaloedd hynny gyda'r bwriad o gael swyddogion gorfodi i orfodi'r mesurau mewn ardaloedd yr ymddengys bod rhai defnyddwyr ffyrdd yn diystyru'r cyfyngiadau.

 

Cyn diwedd y drafodaeth, gofynnodd y Pwyllgor i swyddogion Diogelwch y Ffyrdd e-bostio pob cynghorydd sir sydd â llwybrau nad ydynt yn beryglus yn eu wardiau, gan ofyn iddynt roi gwybod i swyddogion yn syth os dônt yn ymwybodol o lwybr cerdded i’r ysgol nad yw'n un diogel mwyach, er mwyn galluogi swyddogion i’w asesu cyn gynted ag y bo modd.    Dylid gofyn i Gynghorwyr hefyd hysbysu swyddogion Gwasanaethau’r Amgylchedd a Phriffyrdd ar unwaith os byddant yn dod yn ymwybodol o lystyfiant yn amharu ar welededd arwyddion ffyrdd yn eu hardal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

 

yn amodol ar y sylwadau uchod -

(i)            cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a'r dull y mae Cyngor Sir Ddinbych yn cymhwyso canllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru o ran asesu risg llwybrau cerdded i ysgolion;

(ii)          argymell bod llwybrau ysgol o fewn ardaloedd sydd angen amserlenni torri gwair bioamrywiaeth, ac nad ydynt wedi cael eu hasesu o fewn y 12 mis diwethaf, yn cael eu hasesu ar y cyfle cyntaf posibl;

(iii)         bod holl Grwpiau Ardal Yr Aelodau yn cael eu hysbysu ac yr ymgynghorir â hwy yn flynyddol ar y llwybrau i'w hadolygu yn eu hardal; a

(iv)         chefnogi'r cynnig i gynnal adolygiadau cyfnodol o lwybrau cerdded o’r cartref i'r ysgol bob pum mlynedd, oni bai yr adroddir am newidiadau sylweddol i faint neu lif traffig, neu y ceir ceisiadau am gynnal adolygiad.

 

 

 

Dogfennau ategol: