Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ABSENOLIAETH YSGOLION CYNRADD AC UWCHRADD

Manylu ar weithredu polisi’r sir mewn perthynas â phresenoldeb ysgolion

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm Gwaith Cymdeithasol Addysg yr adroddiad a'r atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn manylu ar eu cynnwys.  Eglurodd y gwahaniaeth rhwng absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig a'r broses a ddilynwyd cyn cyflwyno Rhybuddion Cosb Benodedig.  Cafodd yr holl brosesau yn ymwneud ag absenoldebau ysgol eu hamlygu mewn cyhoeddiadau ysgol i sicrhau bod pob rhiant yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau ac o ganlyniadau peidio anfon eu plentyn i'r ysgol. 

 

Cafodd system rheoli absenoldebau ysgol ei ddatganoli i bob ysgol unigol.  Fodd bynnag, bu'r Cyngor yn monitro absenoldebau yn rheolaidd ac, fel rhan o broses Grŵp Monitro Safon Ysgolion, cafodd penaethiaid a chadeiryddion llywodraethwyr eu dal yn atebol am berfformiad eu hysgolion mewn perthynas â rheoli absenoldebau a chyrhaeddiad academaidd.  Bu’r Tîm Gwaith Cymdeithasol Addysg hefyd yn monitro cyfraddau absenoldeb ysgol yn fisol, gan ystyried ffactor Prydau Ysgol am Ddim a Phlant sy’n Derbyn Gofal.

 

Dywedodd yr Aelodau eu bod wedi gofyn am adroddiad ar sail y wybodaeth ystadegol a datganiad i'r wasg y gwelsant beth amser yn ôl, gan eu bod yn pryderu na fyddai lefelau tlodi yn y sir yn gwella os yw disgyblion yn absennol o'r ysgol am gyfnodau hir ar y tro.  Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y swyddogion:

·         Ni chafodd cofnodion eu cadw ar lefel sirol o ran 'absenoldebau awdurdodedig', gan fod absenoldebau o'r fath wedi eu caniatáu gan benaethiaid;

·         roedd penaethiaid wedi bod yn awyddus i'r Cyngor gymhwyso Hysbysiadau Cosb Benodedig yn gyson ar draws y sir.  Ers y dyddiad y cafodd hyn ei roi ar waith yn llym, bu cynnydd sylweddol yn y nifer o lythyrau rhybudd/Hysbysiadau Cosb Benodedig a gyhoeddwyd.  Fodd bynnag, roedd disgwyl i hyn ddisgyn ar ôl i rieni sylweddoli na fyddai'r Cyngor yn oedi wrth orfodi'r polisi;

·         bu’r Sir yn monitro ac yn gwirio’n rheolaidd p’un a oedd ysgolion yn cymhwyso’r holl bolisïau a gweithdrefnau.  Roedd presenoldeb yn yr ysgol yn allweddol gan ei fod yn effeithio ar ganlyniadau bywyd ar gyfer y disgyblion;

·         cafodd diffyg presenoldeb rheolaidd heb awdurdod yn yr ysgol ei archwilio'n fanwl i sefydlu'r rhesymau sylfaenol dros absenoldeb plentyn.  Mewn achosion o'r fath, byddai'r Cyngor wedyn yn cynnig cymorth priodol a pherthnasol i'r plentyn a'r teulu i helpu i oresgyn unrhyw rwystrau, a’u hymgysylltu gyda'r system addysg;

·         ar gyfer y disgyblion mwyaf heriol, roedd cyfleoedd ar gael drwy Brosiect TRAC.  Bu hwn yn Brosiect llwyddiannus iawn yn Sir Ddinbych ac wedi helpu'r sir i symud o safle 19 i safle 16 yng Nghymru.  Ymgysylltu disgyblion â'r Prosiect oedd prif gyfrifoldeb yr ysgol, a chawsant eu cefnogi gan y Tîm GCA Corfforaethol;

·         mae nifer o ysgolion bellach yn cyflogi eu Swyddogion Presenoldeb eu hunain;

·         o dan Fframwaith Presenoldeb Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru, roedd gan benaethiaid ddisgresiwn i ganiatáu hyd at 10 diwrnod o absenoldeb awdurdodedig.  Bu apêl yn yr Uchel Lys yn erbyn Cyngor Ynys Wyth yn ddiweddar, a oedd wedi rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig i Riant am gymryd ei ferch allan o'r ysgol ar wyliau er gwaethaf cais am 'absenoldeb awdurdodedig' yn cael ei wrthod.  Cafodd yr apêl ei chadarnhau ac ers hynny, mae timau cyfreithiol ar draws y DU wedi bod yn edrych ar y dyfarniad i benderfynu a ddylid tynhau polisïau a gweithdrefnau;

·         er gwaethaf y ffaith bod nifer o rieni wedi bod yn amharod ar y dechrau i swyddogion eu ffonio am bresenoldeb eu plentyn yn yr ysgol, yn y mwyafrif o achosion yn ôl casgliad y sgwrs, roeddent yn deall rhesymau a phryderon y Cyngor;

·         roedd perfformiad yn gwella yn yr ardal hon, a byddai'n parhau i gael ei fonitro gyda’r nod o wella perfformiad hyd yn oed ymhellach er lles yr holl ddisgyblion; a

·         tra bod y Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan yn berthnasol i bob awdurdod addysg yng Nghymru, ni chafodd y polisïau a'r gweithdrefnau yn y maes hwn eu cymhwyso'n gyson ar draws y wlad.

 

Cyn dod i gasgliad am y drafodaeth, cytunodd y swyddogion i ddosbarthu gwybodaeth i aelodau am absenoldebau anawdurdodedig a data prydau ysgol am ddim ym mhob un o ysgolion y Sir. Cododd yr Aelodau bryderon mewn perthynas â'r pwynt olaf uchod a gofynnwyd am gael nodi eu pryderon mewn perthynas â hyn, gan eu bod yn teimlo y gallai effeithio ar safle Sir Ddinbych yn y tabl perfformiad.   Ar ôl adolygu'r wybodaeth a ddarparwyd i'r Pwyllgor:

 

 

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)            cadarnhau'r polisïau a’r strategaethau a ddefnyddir i wella presenoldeb disgyblion yn ysgolion Sir Ddinbych;

(ii)          nodi’r perfformiad gwell sydd wedi’i gyrraedd hyd yn hyn; a

(iii)         chofrestru eu pryderon nad yw pob awdurdod ar draws Cymru yn cymhwyso'r polisïau a’r gweithdrefnau mewn perthynas ag absenoldebau anawdurdodedig mor llym â Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ategol: