Eitem ar yr agenda
AROLWG PRESWYLWYR
Archwilio canlyniadau’r Arolwg Preswylwyr mwyaf
diweddar a pha mor effeithiol yw methodoleg newydd yr arolwg i fesur barn
dinasyddion o’r Cyngor
Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) yn hysbysu'r Pwyllgor o ganfyddiadau allweddol yr Arolwg Trigolion,
a rhoddodd gyfle iddynt roi sylwadau ar y canlyniadau.
Esboniodd yr
Aelod Arweiniol fod yr arolwg wedi'i ddarparu’n allanol i ymgynghorwyr yn 2011,
ac er bod yr ymateb yn wych, roedd wedi costio £25000 i’r Awdurdod. Yn dilyn
hynny yn 2013, roedd yr arolwg wedi'i ddosbarthu gyda Llais y Sir, roedd hyn yn
llai costus ond cafwyd llai o ymatebion. Cafodd yr arolwg diweddaraf a
gynhaliwyd yn 2015 ei ddosbarthu yn electronig, a arweiniodd at ddim ond 711 o
ymatebion - llai na maint y sampl a fwriadwyd o 1000. Er bod gwasanaethau wedi
bod yn defnyddio'r wybodaeth a gynhwysir yn yr arolwg, roedd rhywfaint gyda
pheth amheuaeth.
Yn absenoldeb
awdur yr adroddiad, bu i’r Rheolwr – Swyddfa'r Rhaglen Gorfforaethol, roi
manylion dadansoddiad canlyniadau'r arolwg.
Dywedodd y swyddogion:
·
bu
cyfradd ymateb i'r arolwg yn siomedig o isel.
Yn ôl pob tebyg, roedd hyn oherwydd bod yr ymarfer wedi ei gynnal yn
electronig (ar wahân i'r rhai a gwblhawyd gan ysgolion) gyda’r bwriad o leihau
costau;
·
roedd
yn bwysig cofio bod canlyniadau'r arolwg yn mesur canfyddiadau pobl o'r Cyngor,
a all ar adegau wrth-ddweud data a ddilyswyd ar berfformiad y Cyngor; ac
·
nid
oedd yr holl ymatebwyr wedi ateb pob cwestiwn, roedd unigolion yn tueddu i ateb
cwestiynau mewn perthynas â meysydd a oedd fwyaf perthnasol i'w hamgylchiadau
personol.
Wrth ymateb
i gwestiynau ac arsylwadau'r swyddogion, bu i swyddogion wneud y canlynol:
·
cydnabod nad oedd cyfyngu'r arolwg i holiadur electronig
wedi cyflawni’r canlyniad a ddymunir. Serch hynny, mae'r wybodaeth a gafwyd o'r
ymatebion wedi darparu gwybodaeth werthfawr i'r Cyngor a fyddai'n helpu i
gynllunio a gwella'r gwasanaethau a ddarperir;
·
dweud
na fyddai’r arolwg nesaf, sydd i fod i’w gynnal yn ystod 2017, yn cael ei wneud
drwy ddulliau electronig yn unig, ac y byddai dulliau eraill hefyd yn cael eu
defnyddio er mwyn ei wneud yn hawdd i'r holl drigolion;
·
cytuno
mai cynnwys ac ansawdd y cwestiynau a ofynnwyd oedd o'r pwys mwyaf;
·
amlygu
pwysigrwydd cydnabod bod y canlyniadau’n mesur canfyddiadau pobl a allai
ymddangos yn groes i ddangosyddion perfformiad yr Awdurdod
·
dweud
bod y Pennaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata yn edrych ar ddewisiadau ar
gyfer System newydd Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid ar hyn o bryd, a fyddai'n
diwallu y rhan fwyaf o anghenion y Cyngor;
·
trafod
gyda'r swyddogion perthnasol pam na fyddai’r ymarfer 'Sgwrs y Sir’ sydd ar y
gweill ar hyn o bryd yn cynnal digwyddiad cyhoeddus yn y Rhyl, ac archwilio a
ellid trefnu un ar gyfer y dref; ac
·
amlinellu'r
broses a fyddai'n dilyn ymlaen o ymarfer 'Sgwrs y Sir’ at ddiben penderfynu ar
flaenoriaethau corfforaethol a Chynllun Corfforaethol 'newydd' y Cyngor.
Pwysleisiodd yr Aelodau bwysigrwydd y Cyngor yn defnyddio'r holl offer sydd
ar gael ar ei gyfer, er mwyn ceisio barn trigolion ar faterion, e.e. cynghorwyr
sir, grwpiau trigolion ac ati, gan ei bod yn bosibl iddynt estyn allan at
wahanol sectorau o'r gymuned a gofyn am eu barn. Gall caniatáu i breswylwyr alw i mewn i
swyddfeydd dinesig ac ati i lenwi holiaduron ac ati hefyd helpu i wella
rhyngweithio cyhoeddus gydag arolygon yn y dyfodol.
Cytunodd y Pwyllgor fod cynllunio gofalus yn gwella ymarferion megis
arolygon trigolion yn fawr - er mwyn iddynt fod yn effeithiol, roedd yn bwysig
i'r trefnydd bennu beth mae'r sefydliad angen ei wybod, pam oedd angen iddynt
ei wybod ac i ba bwrpas y byddai’r wybodaeth a dderbyniwyd yn cael ei
defnyddio.
Awgrymodd yr Arweinydd, gan y byddai tymor y Cyngor presennol yn dod i ben
ym mis Mai 2017, efallai y byddai’n ddefnyddiol i bob cynghorydd gael eu
cyfweld cyn yr etholiad (proses debyg i gyfweliadau 'ymadael' a gynigir i
staff) i geisio eu barn ar ba feysydd y maent yn teimlo sy’n gweithio'n dda, pa
feysydd sydd angen eu gwella, a cheisio unrhyw syniadau sydd ganddynt ar gyfer
gwella yn y dyfodol. Ar ddiwedd y
drafodaeth:
Penderfynwyd: - yn
amodol ar y sylwadau uchod -
(i) bod
adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn gynnar yn 2017 yn amlinellu
cynnwys a chwestiynau y bwriedir eu cynnwys yn Arolwg Preswylwyr 2017, ynghyd
â'r fethodoleg(au) dan ystyriaeth ar gyfer ymgymryd â'r arolwg; a’r
(ii) Arweinydd
i gynnal trafodaeth gydag Arweinwyr grŵp i drafod ymarferoldeb cynnal
cyfweliadau 'arddull ymadael' gyda chynghorwyr sir cyn etholiadau awdurdodau
lleol y flwyddyn nesaf, er mwyn gofyn am eu barn ar yr hyn y mae'r Cyngor yn ei
wneud yn dda a pha feysydd sydd angen eu gwella
Dogfennau ategol:
- Residents Survey Report 080916, Eitem 6. PDF 82 KB
- Residents Survey Report - App 080916, Eitem 6. PDF 213 KB