Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaethau ar gyfer 2016/17.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig drafft (Atodiad 5);

 

(c)        cymeradwyo’r camau gweithredu sy’n cael eu hargymell i liniaru effeithiau alldro ariannol yr arbedion sydd naill ai'n cael eu gohirio tan 2017/18 neu ddim yn cael eu cyflawni o gwbl fel sy’n cael ei nodi ym mharagraff 6 yr adroddiad, ac yn

 

(d)       cymeradwyo argymhelliad y Grŵp Buddsoddiad Strategol i fuddsoddi £4.4 miliwn yng ngham cyntaf prosiect datblygu glan y môr yn y Rhyl. Mae’r argymhelliad yn cynnwys cymeradwyo pecyn cyllido sy’n cynnwys clustnodi’r cyfalaf y disgwylir ei dderbyn o werthu cyn safle’r Honey Club yn y Rhyl (fel y nodir yn y tablau ym mharagraff 6 yr adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaeth ar gyfer 2016/17. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        rhagwelwyd gorwariant net o £0.351 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        roedd 60% o arbedion wedi'u cyflawni hyd yn hyn (targed 5.2m) gyda 10% arall yn gwneud cynnydd da; byddai 25% yn cael ei ohirio a’i gyflawni yn 2017/18, gyda dim ond 5% o arbedion ddim yn cael eu cyflawni o fewn yr amserlen

·        tynnwyd sylw at risgiau cyfredol a rhagdybiaethau sy'n ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol

·        diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar faterion ariannol eraill o fewn yr adroddiad a gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig drafft; camau gweithredu i liniaru effeithiau ar alldro ariannol arbedion sydd naill ai'n cael eu gohirio neu heb eu cyflawni, ac argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol i fuddsoddi £4.4 miliwn yng ngham cyntaf prosiect datblygu glan y môr y Rhyl.

 

Cafodd y materion canlynol eu trafod yn ystod y drafodaeth  -

 

·         Tynnodd y Cynghorydd Eryl Williams sylw at yr effaith ar gyllideb y Cyngor yn deillio o doriadau i gyllid grant gan Lywodraeth Cymru, a oedd y tu allan i reolaeth y Cyngor - gofynnodd fod manylion y toriadau ariannol hynny yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer tryloywder (tudalen 71, Tabl 4 Cyllideb Llywodraeth Cymru).  Nododd y Swyddogion fod y driniaeth o grantiau wedi’i chynnwys yn y cyflwyniad i Gomisiwn Cyllid Llywodraeth Leol fel rhan o'r adolygiad cyllid 

·         Roedd Cabinet yn falch o nodi’r buddsoddiad sylweddol mewn prosiectau mawr, gan gynnwys Glan y Môr y Rhyl a hefyd fe dynnwyd sylw at lwyddiant y Nova.  Roedd y Cynghorydd Eryl Williams yn falch o adrodd ar y cynnydd gyda phrosiectau mawr o ran y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan roi gwybod bod Sir Ddinbych ar flaen y gad o ran buddsoddi mewn moderneiddio ysgolion, a oedd yn wahanol i gynghorau eraill nad oeddent mewn sefyllfa i fuddsoddi.  Rhoddodd glod i'r cyngor blaenorol a'r cyngor cyfredol am y weledigaeth strategol tymor hir ar gyfer ysgolion, a’i bod wedi’i gwireddu.  O ran argaeledd arian yn y dyfodol, roedd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi bron i £2 biliwn mewn ysgolion newydd ac wedi'u hadnewyddu, a fyddai'n rhoi cyfle i barhau â'r rhaglen foderneiddio

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd David Smith at yr angen i fynd i'r afael â'r gorwariant parhaus ar y gyllideb Cludiant Ysgol, gyda'r bwriad o ddarparu cyllid ychwanegol i gwrdd â chost lawn y ddarpariaeth yn y gyllideb sylfaenol - roedd hefyd angen cwrdd â'r gost ychwanegol o £175k, yn dilyn cwymp GHA Coaches

·         Lleisiodd y Cynghorydd Jason McLellan ei bryderon ynghylch y broses gosod cyllideb ac amserlen.  Dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill a swyddogion bod proses y gyllideb yn gadarn gan ymateb i'r pryderon a godwyd yn manylu ar y broses cyllideb hyd yma a'r camau nesaf arfaethedig er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2017/18. Nodwyd y byddai proses y gyllideb yn cael ei thrafod yn fwy manwl yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd a wnaed o ran strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni;

 

(b)       cymeradwyo'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig drafft (yn amgaeedig fel Atodiad 5 i'r adroddiad)

 

(c)        cymeradwyo’r camau gweithredu sy’n cael eu hargymell i liniaru effeithiau alldro ariannol yr arbedion sydd unai'n cael eu gohirio tan 2017/18, neu ddim yn cael eu cyflawni o gwbl fel sy’n cael ei nodi yn y tabl ym mharagraff 6 yr adroddiad, a

 

(d)       cymeradwyo argymhelliad y Grŵp Buddsoddiad Strategol i fuddsoddi £4.4m yng ngham cyntaf prosiect datblygu glan y môr y Rhyl.  Mae’r argymhelliad yn ymgorffori cymeradwyo pecyn cyllido sy’n cynnwys clustnodi’r derbyniad cyfalaf y disgwylir ei dderbyn o werthu cyn safle’r Honey Club yn y Rhyl (fel y manylir yn nhablau paragraff 6 yr adroddiad).

 

Ar y pwynt hwn (hanner dydd) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth ac fe wnaeth yr Arweinydd – y Cynghorydd Hugh Evans, adael y cyfarfod.  Wedi ailddechrau'r trafodion, fe wnaeth y Dirprwy Arweinydd - y Cynghorydd Eryl Williams, gadeirio.

 

 

Dogfennau ategol: