Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED EIDDO NEWYDD – PB’S, 17 – 19 STRYD Y DŴR, Y RHYL
I ystyried cais
am Drwydded Eiddo newydd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
(amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).
Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor
(sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
Drwydded Eiddo, yn amodol ar amodau ac oriau agor fel y'u diwygiwyd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
ynglŷn â –
(i)
chais a dderbyniwyd gan Mr. Jonathon
Ashley Benbow am Drwydded Eiddo newydd mewn perthynas â PB’S, 17 – 19 Stryd y
Dŵr, y Rhyl yn ogystal ag Amserlen Weithredol (Atodiad A i’r adroddiad);
(ii)
yn dilyn gwrthwynebiadau gan Heddlu’r Gogledd mae’r
Ymgeisydd wedi diwygio’r oriau agor arfaethedig a geisiwyd yn wreiddiol ar
gyfer darparu gweithrediadau trwyddedig fel a ganlyn -
GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG |
DYDDIAU A GEISIWYD YN WREIDDIOL |
ORIAU WEDI EU DIWYGIO |
||
Darparu cerddoriaeth
fyw (Dan do yn unig) Nosweithiau Band Byw
Achlysurol |
Dydd Llun – Dydd Sul |
08:00 – 03:00 |
Dydd Sul - Dydd Iau Dydd Gwener - Dydd
Sadwrn |
11:00 – 00:00 11:00 – 02:00 |
Darparu Cerddoriaeth
wedi’i Recordio yn ystod oriau agor (Dan do yn unig) |
Dydd Llun – Dydd Sul |
08:00 – 03:00 |
Dydd Sul - Dydd Iau Dydd Gwener - Dydd
Sadwrn |
11:00 – 00:00 11:00 – 02:00 |
Gwerthu Alcohol (i’w
yfed yn a thu allan i’r eiddo) |
Dydd Llun – Dydd Sul |
08:00 – 03:00 |
Dydd Sul - Dydd Iau Dydd Gwener - Dydd
Sadwrn |
11:00 – 00:00 11:00 – 02:00 |
Oriau y bydd yr eiddo
ar agor i’r cyhoedd |
Dydd Llun – Dydd Sul |
08:00 – 03:00 |
Dydd Sul - Dydd Iau Dydd Gwener - Dydd
Sadwrn |
11:00 – 00:00 11:00 – 02:00 |
(iii)
un sylw ysgrifenedig (Atodiad B i’r adroddiad) wedi ei
dderbyn gan aelod o’r cyhoedd sy’n byw gerllaw'r eiddo - tra bod y rhan fwyaf
o'r sylw yn cyfeirio at eiddo sydd eisoes yn gweithredu o fewn y cyffiniau,
roedd y preswylydd yn gwrthwynebu i’r cais gael ei gymeradwyo yn ddiamod;
(iv)
Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cyflwyno
sylwadau (Atodiad C i'r adroddiad) ynglŷn â materion heb eu datrys yn
ymwneud â’r ddarpariaeth o ran diogelwch tân yn yr eiddo;
(v)
Heddlu’r Gogledd wedi cyflwyno sylwadau ar y cais yn
ogystal â chynnig nifer o amodau i gael eu hymgorffori o fewn Amserlen
Weithredol pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo (Atodiad D i’r adroddiad) – tra
bod yr Ymgeisydd wedi cadarnhau ei fod yn barod i dderbyn yr amodau ychwanegol
nid oedd cytundeb terfynol wedi ei wneud;
(vi)
Adran Reoli Llygredd y Cyngor wedi cyflwyno sylwadau
(Atodiad E i’r adroddiad) yn codi pryderon yn ymwneud â pha mor agos yw'r eiddo
i eiddo preswyl ac mae'n cynnig nifer o amodau (sydd wedi eu cytuno gan yr
Ymgeisydd) i gael eu gweithredu pe bai'r drwydded yn cael ei chaniatáu er mwyn
helpu i atal niwsans cyhoeddus;
(vii)
mae’r Ymgeisydd wedi dangos ei barodrwydd i weithio gydag
Awdurdodau Cyfrifol a hyd yma wedi cytuno i’r holl amodau sydd wedi eu cynnig;
(viii)
yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i
Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; i Ganllawiau a gyhoeddwyd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol; i ddeddfwriaeth arall berthnasol ac i sylwadau perthnasol
a dderbyniwyd, a’r
(ix)
opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y
cais.
Arweiniodd Rheolwr
Gwarchod y Cyhoedd yr aelodau drwy'r adroddiad a rhoi diweddariad ar y sefyllfa
ar hyn o bryd. Cynghorwyd Aelodau fod y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi
tynnu eu sylwadau yn ôl yn dilyn archwiliad diweddar o'r eiddo a oedd yn
cadarnhau fod yr holl ddiffygion a nodwyd yn flaenorol wedi eu datrys a bod y
ddarpariaeth ar gyfer diogelwch tân sy’n effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd
bellach yn cael eu hystyried yn foddhaol.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD
Roedd yr Ymgeisydd, Mr.
Jonathon Benbow, yn bresennol er mwyn cefnogi ei gais a hefyd ei wraig, Mrs.
Holley Benbow, a chynrychiolaeth gyfreithiol Ms. Rebecca Boswell o gwmni
Cyfreithwyr Gamlins. Hefyd yn bresennol roedd y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig –
Mr. Ryan Hassett.
Atgoffodd Ms. Boswell yr
aelodau fod sylwadau’r Gwasanaeth Tân bellach wedi eu datrys. O ran y pryderon am
broblem sŵn roedd yr Ymgeisydd wedi cytuno i gydymffurfio â’r holl amodau
a gynigwyd gan Swyddog Rheoli Llygredd y Cyngor er mwyn lleihau sŵn yn dod
o’r eiddo a chyfeiriodd at waith sydd eisoes wedi ei wneud o ran hynny gan
gynnwys gosod drysau sy'n cau eu hunain a system awyru. Hefyd nododd fod yr
Ymgeisydd wedi cydweithredu’n llawn gyda Heddlu'r Gogledd ac wedi cytuno i’r
holl fesurau a gynigwyd ganddynt er mwyn hybu’r amcanion trwyddedu ac ymdrin ag
unrhyw feysydd o bryder hyd nes eu bod yn fodlon. Roedd un pryder heb ei
ddatrys yn ymwneud â pha mor addas yw'r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig sydd mewn
grym. O ystyried diffyg profiad yr Ymgeisydd yn y diwydiant trwyddedu cynigwyd
y byddai Mr. Ryan Hassett, oedd newydd ei recriwtio, yn cael ei benodi yn
Oruchwyliwr Eiddo Dynodedig ar ôl cwblhau’r cais perthnasol yn ymwneud â’i
Drwydded Bersonol. Er mwyn rhoi sicrwydd ynglŷn ag addasrwydd Mr.
Hassett fel Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig ymhelaethodd Ms. Boswell ar y cyrsiau
hyfforddi a fynychodd a rhoddodd fanylion am ei brofiad sylweddol yn y
diwydiant trwyddedu, yn y wlad yma a thramor.
SYLWADAU GWASANAETH TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU
Nododd Aelodau fod y
gwaith ar ddiogelwch tân a nodwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi
eu datrys a’u bod yn fodlon. O ganlyniad mae’r sylwadau hynny wedi eu tynnu yn ôl.
CYFLWYNIAD HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Roedd Mr. Ian Williams,
Swyddog Trwyddedu’r Heddlu (Gwynedd/Ynys Môn) yn cynrychioli Heddlu Gogledd
Cymru yn lle Mr. Aaron Haggas, Swyddog Trwyddedu’r Heddlu Conwy/Sir Ddinbych,
nad oedd yn gallu mynychu.
Mae’r Heddlu wedi mynegi
rhai pryderon nad oedd gan yr Ymgeisydd (sydd ar hyn o bryd yn cael ei gynnig
fel Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig ar y cais) y profiad a’r wybodaeth berthnasol
i sicrhau hybu’r amcanion trwyddedu, yn arbennig o ystyried lleoliad yr eiddo
sy'n agos i nifer o safleoedd trwyddedig eraill. Ond roedd yr Heddlu wedi
cydnabod y dylid ymdrin â phob cais yn ôl ei rinweddau ei hun a doedd dim
tystiolaeth yn ymwneud â’r eiddo cyn y cais. Yn dilyn pryderon yr
Heddlu roedd yr Ymgeisydd wedi gostwng yr oriau a gynigwyd ac wedi cytuno i’r
holl amodau a gyflwynwyd gan yr Heddlu er mwyn hybu’r amcanion trwyddedu
ymhellach (fel y nodir yn Atodiad D yr adroddiad). O ran sefyllfa’r
Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig rhoddwyd gwybod i’r Heddlu yn ddiweddar
ynglŷn â’r cynnig i gyflwyno enw Mr
Hassett ar gyfer y rôl hwnnw. Nododd yr Heddlu nad oedd Mr Hassett eto wedi cael ei
Drwydded Bersonol oedd yn ofyniad i Oruchwyliwr Eiddo Dynodedig a bod yr
Ymgeisydd ar hyn o bryd yn cael ei gynnig fel Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig ar y
cais. O ganlyniad os oedd yr aelodau i roi’r Drwydded Eiddo
byddai angen cais dilynol i newid y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig a fyddai’n
rhoi cyfle i’r Heddlu wneud sylwadau ynglŷn â pha mor addas yw’r
Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig a gynigir. Roedd yr Heddlu wedi
gofyn, os yw aelodau yn caniatáu’r cais, eu bod yn ystyried ymgorffori’r
amodau, fel y cytunwyd, o fewn yr Amserlen Weithredu er mwyn helpu i leddfu eu
pryderon yn ymwneud â’r cais.
Mewn ymateb i gwestiwn
aelod cadarnhaodd Mr Williams fod yr Heddlu mor fodlon ag y gallant fod gyda’r
mesurau arfaethedig a gytunwyd i ymdrin â’r meysydd o bryder a hybu’r amcanion
trwyddedu.
SYLWADAU RHEOLI LLYGREDD
Cyfeiriodd Mr. Sean
Awbery o Adran Rheoli Llygredd y Cyngor at ei sylwadau ysgrifenedig (Atodiad E
yr adroddiad) yn cynnig nifer o amodau i'w gosod ar y drwydded, pe bai'n cael
ei ganiatáu, er mwyn lleihau’r risg o niwsans cyhoeddus. Ers cyflwyno’r amodau
arfaethedig hynny mae trafodaethau pellach wedi bod gyda’r Grŵp â
Diddordeb (Mr. N.G.Moorcroft) a’r Ymgeisydd ynglŷn â phryderon am sŵn
a soniodd Mr. Awbery am nifer o amodau
oedd wedi eu diwygio a’u haileirio er mwyn adlewyrchu’r mesurau a fwriadwyd i
ymdrin â phroblem sŵn yn well, ac roedd yr Ymgeisydd hefyd wedi cytuno i'r
rhain. Pe bai’r aelodau yn caniatáu’r cais yna byddai gwaith yn
cael ei gwneud i osod lefel y cyfyngydd sŵn fel yn briodol.
Ymatebodd yr Ymgeisydd
a’i gynrychiolydd i gwestiynau’r aelodau fel a ganlyn -
·
cyfaddefwyd fod yr Ymgeisydd yn weddol newydd i’r
diwydiant trwyddedu ond roedd wedi derbyn yr holl gymwysterau angenrheidiol er
mwyn sicrhau ei Drwydded Bersonol – ei fwriad oedd bod yn Oruchwyliwr Eiddo
Dynodedig fel mesur dros dro hyd nes y byddai unigolyn mwy profiadol yn cael ei
recriwtio
·
eglurodd fod yr Ymgeisydd wedi cytuno i ddiwygio’r cais
yn unol â chais yr Heddlu na fyddai dim plant yn cael eu caniatáu ar yr eiddo
wedi 17:00 (21.00 oedd wedi ei nodi yn y cais gwreiddiol)
·
cynghorodd fod yr eiddo yn fenter newydd i’r Ymgeisydd
oedd wedi gweithio â’r holl awdurdodau cyfrifol ac wedi cytuno ar dermau i
sicrhau fod yr eiddo’n gweithredu’n effeithiol ac yn briodol i bawb
·
eglurodd y rhesymau y tu ôl i’r oriau gwreiddiol yn y
cais (8.00 a.m – 3:00 a.m) er mwyn darparu ar gyfer digwyddiadau arbennig
penodol, gan ddweud nad oedd yr Ymgeisydd erioed wedi bwriadu gweithredu yn
ystod yr oriau hynny yn rheolaidd – gan fod yr amseroedd agor cyffredinol hynny
wedi bod yn bryder i'r Heddlu roeddent wedi eu newid o ganlyniad.
·
fod yr eiddo yn hanesyddol wedi ei ddefnyddio fel
tafarn/clwb ond heb ei ddefnyddio ers tua tair blynedd cyn cael ei brynu gan yr
Ymgeisydd yn Rhagfyr 2015 gyda buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud i sicrhau ei
fod yn addas ac yn addas i’r diben fel bod yr holl awdurdodau cyfrifol yn
fodlon.
CYFLWYNIAD Y GRŴP Â DIDDORDEB
Roedd un sylw
ysgrifenedig wedi ei dderbyn (Atodiad B yr adroddiad) gan Mr. N.G. Moorcroft yn
nodi ei bryderon yn ymwneud â'r trafferthion sŵn presennol yn yr ardal o
ganlyniad i eiddo trwyddedig, a’i bryder penodol ynglŷn â sŵn o’r
eiddo pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo heb amodau i atal trafferthion
sŵn.
Cyfeiriodd Mr. Moorcroft
at ei sylwadau ysgrifenedig ac eglurodd ei gysylltiadau personol a busnes yn yr
ardal a’r problemau tymor hir y mae ef ei hun a’i denantiaid wedi eu profi o
eiddo trwyddedig penodol yn yr ardal. Hefyd y problemau o'r cyfnod pan oedd yr
eiddo dan sylw yn arfer gweithredu fel bar/clwb, gan bwysleisio problem
ehangach o niwsans cyhoeddus. Dywedodd ei fod wedi bod mewn trafodaethau â’r Ymgeisydd
a Swyddog Rheoli Llygredd y Cyngor ynglŷn â’i bryderon. Roedd wedi canfod fod
Mrs. Benbow o ddifrif yn ei haddewidion ynglŷn â niwsans sŵn ac roedd
wedi bod yn hapus i nodi’r mesurau rheoli sŵn cynhwysfawr oedd wedi eu
cynnig gan Swyddog Rheoli Llygredd y Cyngor er mwyn ymdrin â phryderon
ynglŷn â sŵn. Ond, pe byddai’r amodau sŵn hynny’n cael eu torri
byddai’n gwneud sylwadau pellach.
Nododd yr Is-bwyllgor
broblemau parhaus Mr. Moorcroft yn nhermau trafferthion sŵn o eiddo
trwyddedig yn yr ardal a oedd yn fater y mae wedi ei godi gydag Adran Rheoli
Llygredd y Cyngor. Hefyd cydnabyddodd aelodau ei bryderon yn ymwneud â’r cais o
ystyried ei brofiad yn y gorffennol. Ond nodwyd gan bawb fod rhaid
trin pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun ac mai dim ond materion perthnasol i’r
cais dan ystyriaeth y byddai’r Is-bwyllgor yn eu hystyried wrth wneud
penderfyniad ar y cais.
Wrth ymateb i
gwestiynau'r aelodau cadarnhaodd Swyddog Rheoli Llygredd y Cyngor ei fod yn
fodlon y byddai’r mesurau rheoli sŵn arfaethedig yn effeithiol pe baent yn
cael eu rheoli’n briodol. Eglurodd sut y byddai’r cyfyngydd sŵn yn
gweithredu’n ymarferol a sut y byddai lefelau sŵn yn cael eu hasesu o
eiddo preswylydd cyfagos er mwyn gosod lefel briodol i fodloni preswylwyr
gerllaw. Byddai’r Ymgeisydd yn gyfrifol am sicrhau rheolaeth
briodol o’r offer y tu mewn i’r eiddo a rhoddodd Mr.Benbow sicrwydd o ran hyn.
DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD
Wrth wneud datganiad
terfynol soniodd Ms. Boswell am fuddsoddiad sylweddol yn yr eiddo ac awydd yr
Ymgeisydd i weithio gyda'r awdurdodau perthnasol a chwrdd â'u gofynion. Dywedodd fod yr Ymgeisydd
yn dymuno creu busnes llwyddiannus ac nid oedd o fudd iddo dorri unrhyw un o’r
amodau a gytunwyd a rhoi ei fusnes mewn perygl. Byddai cais i newid y
Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig yn cael ei gyflwyno yn dilyn mater y Drwydded
Bersonol i Mr. Hassett a byddai gan yr Heddlu gyfle ar yr adeg honno i wneud
sylwadau ar ba mor addas fyddai'r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig fyddai’n cael ei
gynnig. Hefyd roedd gan yr Heddlu rym i sicrhau adolygiad o'r
Drwydded Eiddo ar unrhyw adeg. Rhoddwyd sicrwydd terfynol ar ran yr Ymgeisydd yn ymwneud
â rheoli’r eiddo a gofynnwyd i’r aelodau edrych yn ffafriol ar y cais.
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (10.30
a.m.) gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.
PENDERFYNIAD A RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr amodau a nodir isod, rhoi Trwydded Eiddo
ar gyfer yr oriau wedi eu diwygio fel a nodir yn yr adroddiad ac a
ailgynhyrchwyd fel a ganlyn -
GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG |
DYDDIAU PERTHNASOL |
AMSEROEDD |
Darparu cerddoriaeth fyw (Dan do yn unig) Nosweithiau Band Byw Achlysurol |
Dydd Sul - Dydd Iau Dydd Gwener a dydd Sadwrn |
11.00
– 00:00 11:00
– 02:00 |
Darparu Cerddoriaeth wedi’i Recordio yn ystod oriau
agor (Dan do yn unig) |
Dydd Sul - Dydd Iau Dydd Gwener a Dydd Sadwrn |
11.00
– 00:00 11:00
– 02:00 |
Gwerthu Alcohol (i’w yfed yn a thu allan i’r eiddo) |
Dydd Sul - Dydd Iau Dydd Gwener a Dydd Sadwrn |
11.00
– 00:00 11:00
– 02:00 |
Oriau y bydd yr eiddo ar agor i’r cyhoedd |
Dydd Sul - Dydd Iau Dydd Gwener a Dydd Sadwrn |
11.00
– 00:00 11:00
– 02:00 |
AMODAU
Fel y cyflwynwyd gan
Heddlu’r Gogledd ac y cytunwyd gan yr Ymgeisydd –
Atal Trosedd ac Anhrefn
1.
TCC:
a)
Bydd system TCC
nad oes modd ymyrryd ag o yn cael ei osod a’i gadw yn yr eiddo a bydd yn
weithredol am 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
b)
Bydd gan y system TCC gamerâu digonol yn
monitro tu mewn a thu allan i’r eiddo. Yn achos tu mewn yr eiddo bydd digon o gamerâu wedi
eu gosod i weld pob rhan o’r eiddo y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt, gan
gynnwys ardal y bar ac eithrio ardal y toiledau. Dylai bod y TCC yn edrych ar yr holl bwyntiau
mynediad a gadael gan ddangos pen ac ysgwydd yn glir.
c)
Bydd y system
TCC o safon sy'n gallu darparu delweddau o ansawdd tystiolaethol ac yn gallu
adnabod wynebau ym mhob golau.
d)
Bydd gan y
system TCC gyfleuster i recordio'r lluniau o'r holl gamerâu a bydd y lluniau
hyn yn cael eu cadw am o leiaf 28 diwrnod.
e)
Bydd y system
TCC yn cynnwys cyfleuster sy’n cynnwys y dyddiad a'r amser cywir ar y delweddau
sy’n cael eu recordio.
f)
Bydd gan y
system TCC gyfleuster er mwyn gallu llwytho delweddau i ryw fath o gyfrwng
cludadwy. Cyfrifoldeb
deiliad y drwydded eiddo yw darparu cyfrwng symudadwy, a phe bai cyfrwng
symudadwy yn cael ei feddiannu, mae'n gyfrifoldeb ar yr eiddo i sicrhau bod
fformatau ychwanegol o gyfryngau symudadwy ar gael.
g)
Bydd delweddau
o’r system TCC ar gael i’r Heddlu neu swyddogion yr Awdurdod Lleol pe baent yn
gofyn amdanynt.
h)
Bydd o leiaf un
aelod o staff a fydd wedi'i hyfforddi i weithredu’r system TCC ac a fydd yn
gallu darparu'r delweddau a recordiwyd o'r system TCC ar ddyletswydd ar bob
achlysur pan fo’r eiddo ar agor.
i) Mae’n rhaid i’r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig
sicrhau fod y system TCC yn cael ei wirio’n ddyddiol ar ddechrau pob diwrnod -
bydd unrhyw ddiffygion yn y system yn cael sylw ar unwaith. Rhaid i hyn gynnwys sicrhau fod y camerâu yn gweithio, y cyfleusterau
recordio, cyfleusterau ar gyfer darparu delweddau a chywirdeb yr amser a'r
dyddiad. Rhaid cadw cofnod
ysgrifenedig o'r archwiliadau hyn, gan gynnwys llofnod y person sy'n cynnal yr
archwiliad. Rhaid i'r cofnod
ysgrifenedig gael ei gadw yn yr eiddo bob amser a dylai fod ar gael i
gynrychiolydd o unrhyw awdurdod cyfrifol ar gais.
j) Dylai’r system TCC gael ei drin/ei gynnal a’i gadw bob
deuddeg mis o leiaf a hynny gan gwmni gosod TCC neu berson proffesiynol wedi
cymhwyso'n addas. Bydd dogfen gofnodi yn
cael ei chreu gan y cwmni yn cofnodi'r gwaith o drin y system TCC, bydd hwn ar
gael i unrhyw awdurdod cyfrifol ar gais.
k) Rhaid gosod arwyddion
addas, mewn lleoedd amlwg o fewn yr eiddo, yn hysbysu cwsmeriaid fod system TCC
yn weithredol, gan gynnwys gwybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data a’r Ddeddf
Hawliau Dynol.
l) Os na fydd y system yn
gweithio, rhaid i’r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig hysbysu’r awdurdod trwyddedu
a’r heddlu ar unwaith. Rhaid
gwneud trefniadau ar unwaith i ddatrys y broblem os nad yw’r TCC yn gweithio a
chofnodi camau a gymrir yn llyfr digwyddiadau'r safle.
2. CYN cael caniatâd i werthu alcohol bydd pob aelod o
staff heb drwydded bersonol, gan gynnwys unrhyw aelodau di-dâl o staff,
aelodau'r teulu a phobl achlysurol a allai fod yn gysylltiedig â gwerthu
alcohol yn yr eiddo, yn cael eu hyfforddi yn eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf
Trwyddedu 2003 ac unrhyw newidiadau dilynol i'r Ddeddf honno. Yn benodol
byddant yn cael hyfforddiant o ran rhoi alcohol i bobl sy'n feddw.
3. Bydd hyfforddiant pellach bob chwe mis i’r holl
aelodau o staff sy’n ymwneud â gwerthu alcohol i'w diweddaru ynglŷn â'r
hyfforddiant cychwynnol sef 2) uchod.
4.
Bydd cofnod yn cael
ei gadw o'r hyfforddiant cychwynnol a’r hyfforddiant diweddaru dilynol a
dderbyniwyd a byddant yn cael eu cyflwyno i’r Heddlu neu swyddogion yr Awdurdod
Lleol ar gais.
5.
Llyfr
Digwyddiadau a Gwrthod - rhaid cadw llyfr digwyddiadau a gwrthod (gyda’r tudalennau
wedi’u rhifo) yn yr eiddo a bydd ar gael i'w archwilio gan yr awdurdodau
cyfrifol. Rhaid defnyddio'r llyfr digwyddiadau a gwrthod i
gofnodi'r canlynol:
a)
Unrhyw achos o
drais neu anhrefn yn neu yn union y tu allan i'r eiddo.
b)
Unrhyw
ddigwyddiad yn ymwneud â chyffuriau (cyflenwi / meddiant / dylanwad) yn yr
eiddo.
c)
Unrhyw drosedd
neu weithgarwch troseddol arall yn yr eiddo.
d)
Unrhyw achos o
wrthod gweini alcohol i bobl sy'n feddw.
e)
Unrhyw achos o
wrthod gweini alcohol i rai dan 18 oed neu unrhyw un sy'n ymddangos o dan 18
oed.
f)
Unrhyw alwad am
gymorth yr heddlu i'r eiddo.
g)
Unrhyw un sy’n
cael eu hanfon o’r eiddo.
h)
Unrhyw gymorth
cyntaf / gofal arall a roddwyd i gwsmer.
6.
Rhaid i’r
manylion fydd yn cael eu cofnodi o fewn y llyfr digwyddiad a gwrthod gynnwys y
canlynol:
a)
Amser, diwrnod
a dyddiad digwyddiad neu wrthodiad.
b)
Enw’r sawl sy’n
cofnodi.
c)
Tyst o blith y
staff.
d)
Enw a
chyfeiriad y cwsmer (os yw’n cael ei roi).
e)
Disgrifiad o’r
cwsmer.
f)
Rheswm dros
wrthod neu Natur y digwyddiad.
g)
A gafodd yr heddlu,
ambiwlans neu'r gwasanaeth tân eu galw.
7.
Mae’n rhaid i'r
llyfr digwyddiadau a gwrthod fod ar gael i'w archwilio gan awdurdodau cyfrifol
ar gais. Gall
yr wybodaeth hon hefyd gael ei chofnodi yn electronig trwy ddefnyddio system
til neu system debyg.
8.
Dylid adolygu’r
llyfr digwyddiadau a gwrthod bob pythefnos gan reolwr yr eiddo a llofnodi/rhoi
dyddiad i gadarnhau cydymffurfiaeth.
9.
Bydd y llyfr
digwyddiadau a gwrthod ar gael i'w archwilio ar gais swyddogion Heddlu Gogledd
Cymru neu'r Awdurdod Lleol.
Bob nos Wener a Sadwrn, bob Gŵyl y Banc, Noswyl Nadolig a Nos Galan bydd o leiaf dau staff drws wedi eu cofrestru gydag Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) yn cael eu cyflogi o 21.00 hyd nes y bydd yr eiddo yn cau ar gyfer busnes a’r cwsmeriaid i gyd wedi gadael. Bydd y bobl hyn yn cael eu cyflogi ar gyfer rheoli'r cwsmeriaid sy’n dod i mewn ac allan yn unig, a chadw trefn ar yr eiddo.
Bob nos Sul bydd yr eiddo’n cyflogi o leiaf dau staff drws cofrestredig SIA o 21.00 hyd nes y bydd yr eiddo yn cau ar gyfer busnes a’r holl gwsmeriaid wedi gadael y safle.
12. Ar nosweithiau pan fydd yr eiddo ar agor y tu hwnt
i 00.00 bydd o leiaf dau staff drws cofrestredig SIA yn cael eu cyflogi o 21.00
hyd nes y bydd yr eiddo yn cau ar gyfer
busnes a’r holl gwsmeriaid wedi gadael y safle. Bydd y bobl hyn yn cael eu cyflogi ar gyfer
rheoli'r cwsmeriaid sy’n dod i mewn ac allan yn unig, a chadw trefn ar yr
eiddo.
13. Bydd yr eiddo’n ymgynghori gyda Heddlu’r Gogledd
a’r awdurdod Trwyddedu wrth benodi ac ynglŷn ag unrhyw newid mewn cwmnïau
diogelwch drws sy’n cael eu defnyddio yn yr eiddo.
14. Bydd Cofnod Goruchwyliwr Drws yn cael ei gadw’n
gywir yn yr eiddo. Bydd
hwn yn cynnwys y manylion canlynol:
a)
Enwau’r staff drws, dyddiadau geni a chyfeiriadau
cartref;
b)
Manylion llawn, enw, cyfeiriad a rhif cyswllt yr
asiantaeth gyflogaeth a ddefnyddiwyd
c)
Ac i bob cyfnod unigol o fasnachu:
d)
Enw’r aelod unigol o’r staff drws
e)
Ei rif/rhif
trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch
f)
Yr amser a dyddiad y bydd Ef/Hi yn dechrau a
gorffen eu dyletswydd
g)
Amser unrhyw egwyl sy’n cael ei gymryd
tra ar ddyletswydd
h)
Bydd pob manylyn sy’n cael ei nodi yn
cael ei arwyddo gan y goruchwyliwr drws, Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig neu
berson wedi ei enwebu.
15. Polisi Cyffuriau – Rhaid i reolwr yr
eiddo gyflwyno polisi “dim goddefgarwch” mewn perthynas â defnyddio a/neu
dosbarthu cyffuriau anghyfreithlon yn yr eiddo. Y polisi i gynnwys archwilio’r toiledau
bob 30 munud tra mae’r eiddo ar agor a gosod arwyddion addas mewn ardaloedd
amlwg o fewn yr eiddo.
16. Taflen
archwilio toiledau - bydd taflen archwilio toiledau i'w gweld ar du fewn y drws
mynediad i doiledau’r dynion a’r merched gyda chofnod o archwiliadau bob 30
munud. Bydd
taflenni archwiliadau toiled yn cael eu cadw am o leiaf 6 mis.
Amddiffyn
Plant Rhag Niwed
1.
Y polisi gwirio
oed fydd yr eiddo’n ei weithredu fydd Her 25. Yr eiddo i gadw cofnod o’r holl
heriau sydd wedi eu gwneud. Bydd hyn yn cynnwys:
a) Dyddiad
b) Amser
c) Aelod o staff
d) A oedd y sawl a heriwyd yn gallu darparu dogfen ddilys ac ar ba ffurf.
e) Cam a gymerwyd os y
gwrthodwyd gwerthu
2. Bydd yr holl staff, gan gynnwys unrhyw aelodau
di-dâl o staff, aelodau'r teulu a phobl achlysurol sy'n ymwneud â gwerthu
alcohol yn cael eu hyfforddi yn y polisi Her 25 CYN cael caniatâd i werthu
alcohol a byddant yn ymgymryd â hyfforddiant diweddaru bob chwe mis o leiaf.
3. Bydd cofnodion o'r hyfforddiant Her 25 yn cael eu
cadw a byddant ar gael i'w harchwilio gan swyddogion Heddlu Gogledd Cymru neu'r
Awdurdod Lleol ar gais.
4. Dim ond os ydynt yng nghwmni oedolyn ac yn cael eu
gwylio drwy'r amser y bydd plant (o dan 18 oed) yn cael dod i’r eiddo.
5. Ni chaiff plant ddod i’r eiddo heb oedolyn.
6. Ni chaiff plant fynediad i’r ardal bar na chael
prynu dim yno.
Ni chaiff plant ddefnyddio na chwarae gemau cyfrifiadurol. Peiriannau gemau i’w monitro gan staff i sicrhau cydymffurfiaeth.
8.
9. Ni chaiff
unrhyw blant (o dan 18 oed) fod yn yr eiddo ar ôl 17.00.
Fel y cyflwynwyd gan
Adran Rheoli Llygredd y Cyngor ac y cytunwyd gan yr Ymgeisydd –
Atal Niwsans Cyhoeddus
1.
Bydd lobi yn cael ei gosod wrth bob mynedfa
ac allanfa, gan gynnwys unrhyw ardal ysmygu wrth y drws, a bydd gan bob lobi 2
set o ddrysau yn cau eu hunain i leihau’r sŵn fydd yn cael ei ryddhau.
Bydd y ddau set o ddrysau yn parhau ar gau ac eithrio ar gyfer mynediad a
gadael pan fo adloniant wedi ei reoleiddio yn cael ei chwarae ar lefel sy’n
cael ei ystyried i fod yn uwch na sŵn 'cefndir'.
2.
Bydd yr holl ddrysau a ffenestri yn
cael eu cadw ar gau pan fo cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar lefel yr ystyrir
i fod yn uwch na sŵn ‘cefndir’ i leihau unrhyw sŵn fyddai’n cael ei
ryddhau.
3.
Os oes angen awyru ychwanegol, bydd yr eiddo
yn cael ei osod gydag awyr wedi ei drin yn acwstig / system awyru i osgoi’r
angen i agor drysau a ffenestri pan fo cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar lefel
yr ystyrir i fod yn uwch na sŵn ‘cefndir’.
4.
Bydd cyfyngwyr sŵn yn cael eu ffitio i
offer chwyddo sŵn ac yn cael eu osod ar lefel sydd wedi ei gytuno â
Swyddogion Rheoli Llygredd Cyngor Sir Ddinbych. Bydd cyfyngwyr yn cael eu defnyddio bob tro y
bydd offer chwyddo'n cael eu defnyddio ar gyfer adloniant wedi'i reoleiddio
(cyfyngiadau sŵn i'w ffitio a lefelau sŵn i'w gosod cyn i’r masnachu
ddechrau).
5.
Ni
chaniateir chwarae cerddoriaeth fyw / wedi ei recordio yn allanol.
6.
Bydd yr ardal ysmygu'n cael ei chau i’r
cyhoedd ar gyfer yfed alcohol cyn 09:00 ac ar ôl 23.00.
7.
Er mwyn lleihau aflonyddwch i eiddo gerllaw,
dim ond rhwng 09:00 a 21:00 y caniateir gosod poteli mewn cynwysyddion y tu
allan i'r eiddo.
8.
Bydd arwyddion amlwg a chlir yn cael eu
harddangos ym mhob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion y trigolion
lleol a gadael yr eiddo a’r ardal yn ddistaw.
9. Ni fydd
unrhyw oleuadau llachar neu goleuadau sy’n fflachio yn cael eu gosod ar neu du
allan i’r eiddo a bydd unrhyw oleuadau mynediad neu ddiogelwch yn cael eu gosod
a’u gweithredu fel na fyddant yn achosi niwsans i eiddo gerllaw.
Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad
yr Is-bwyllgor i bob grŵp yn y cyfarfod a rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y rhesymau dros y penderfyniad fel a
ganlyn –
Roedd Aelodau wedi ystyried yn ofalus y materion godwyd gan yr Awdurdodau
Cyfrifol a’r Grŵp o Ddiddordeb a diolchwyd i’r rhai oedd wedi cymryd rhan
am eu cyfraniad.
Y pedwar amcan trwyddedu canlynol oedd bennaf ym meddwl yr Is-bwyllgor
Trwyddedu –
·
Atal Trosedd ac Anhrefn
·
Diogelwch y Cyhoedd
·
Atal Niwsans Cyhoeddus
·
Diogelu Plant rhag Niwed
Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried fod Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd
wedi tynnu eu sylwadau yn ôl.
Hefyd roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y ffaith fod yr Ymgeisydd wedi
cytuno i’r amodau a gynigwyd gan Heddlu’r Gogledd ac Adran Reoli Llygredd y
Cyngor ac y byddant yn hybu pob un o'r pedwar amcan trwyddedu ac yn ymdrin â'r
pryderon godwyd. Ar sail hyn caniataodd yr Is-bwyllgor Drwydded
Eiddo ar yr oriau diwygiedig fel y nodir yn yr adroddiad yn ddibynnol ar yr
amodau sydd wedi eu cytuno ac ar sail fod y cyfyngydd sŵn wedi ei ffitio
a’i osod cyn i’r masnachu ddechrau.
Daeth y cyfarfod i ben am 10.40
a.m.
Dogfennau ategol: