Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor-

 

·        rhagwelwyd gorwariant net o £0.402 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        rydym ni wedi llwyddo i gyrraedd 42% o’r targed ar gyfer arbedion (£5.2 miliwn), ac yn gwneud cynnydd da ar ganfod 25% arall o’r arbedion - mae nifer o arbedion yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd a bydd y canlyniadau'n cael eu cynnwys mewn adroddiadau monitro yn y dyfodol

·        amlygodd y risgiau cyfredol a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).

 

Cafodd y materion canlynol eu trafod yn ystod y drafodaeth -

 

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd David Smith at yr angen i fynd i’r afael â’r gorwariant parhaus yng nghyllideb Cludiant Ysgol yn y cylch cyllideb nesaf gyda golwg ar ddarparu cyllid ychwanegol i gwrdd â chost lawn y ddarpariaeth.

·         Mae’r Cyngor hefyd yn mynd i gostau ychwanegol yn sgil methiant cwmni GHA Coaches. Mae’r Cyngor wedi ceisio cyflenwi cynifer o’r gwasanaethau bysiau hynny ag y bo modd.

Soniodd y Cynghorydd Smith am gyfarfod sydd ar y gweill gyda'r Gweinidog dros yr Economi a Seilwaith i drafod pa gymorth all Llywodraeth Cymru ei ddarparu yn hynny o beth. Trafodwyd y goblygiadau o ran cost a dichonoldeb llwybrau bysiau penodol yn y dyfodol, ac awgrymwyd y dylid codi’r pryderon ynghylch y posibilrwydd o golli gwasanaethau bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gyda'r Gweinidog. Sicrhaodd y swyddogion fod y broses dendro ar gyfer gwasanaethau yn gadarn, gan gynnwys meini prawf pris ac ansawdd, ac y byddai’n rhaid i gontractwyr basio profion diwydrwydd dyladwy trylwyr cyn caiff y contract ei ddyfarnu. Yn anffodus, yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni, gall amgylchiadau cwmnïau newid yn eithaf cyflym. O ran y ddarpariaeth gludiant yn y dyfodol, efallai y bydd angen model diwygiedig neu ddull arloesol sy’n cynnwys y gymuned. Argymhellodd yr Arweinydd y dylid ail-ffurfio’r Fforwm Cludiant Gwledig, neu ffurfio fforwm tebyg i drafod y pryderon a'r ffordd ymlaen

·         Cyfeiriwyd at y pwysau mewn perthynas â chontract Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, gyda rhai aelodau o staff wedi eu symud i feysydd gwasanaeth eraill er mwyn lleihau costau a gwaith wedi ei gyfyngu i glirio eira a graeanu.

Gellir codi’r pryderon ynghylch rôl Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru gyda’r Gweinidog newydd yn y cyfarfod nesaf ym mis Hydref a gweld a yw o'r un farn â’r Gweinidog blaenorol. Dywedodd y Cynghorydd Huw Williams ei fod yn bryderus ynghylch cyflwr gwael yr A5 ac eglurodd y Cynghorydd David Smith mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyn ac argymhellodd y dylai gysylltu â'r Gweinidog yn uniongyrchol.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at benderfyniad y Cabinet i sefydlu grŵp tasg a gorffen i adolygu balansau ysgolion a dywedodd fod y gwaith wedi dechrau.

Cyfeiriodd hefyd at brosiect Ysgolion Cynradd Rhuthun, fel y manylir yn Atodiad 4 i'r adroddiad, a gofynnodd, er tryloywder, i gyfanswm cost y prosiect yn ogystal â’r dichonoldeb / elfen dylunio gael ei gynnwys yn yr adroddiadau o hyn allan.

·         Dywedwyd y byddai pwysau chwyddiant, fel gweithredu'r Cyflog Byw Cenedlaethol a chynnydd mewn ffioedd cartrefi gofal yn cael eu lleihau drwy gronfeydd wrth gefn y gwasanaethau yn 2016/17. Fodd bynnag, ateb tymor byr yw hyn a bydd angen mynd i'r afael â hyn yn y tymor hwy.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch prosiectau ailwampio ysgolion eraill sydd angen buddsoddiad cyfalaf, dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams fod gwaith wedi ei wneud i nodi meysydd ar gyfer buddsoddi yn barod ar gyfer cyllid Band B a fydd yn cael ei lansio cyn bo hir.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

 

Dogfennau ategol: