Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003 – CAIS AM DRWYDDED EIDDO NEWYDD – PRINCE OF WALES, REGENT STREET, LLANGOLLEN
Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
(amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).
9.30 a.m.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y cais yn cael ei ganiatáu, yn amodol ar amodau
a gostyngiad yn yr oriau a ganiateir fel y gwnaed cais amdano.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –
(i)
chais wedi dod i law gan Mr. Steven Evans am Drwydded
Safle newydd mewn perthynas â Prince of Wales, Llangollen;
(ii)
yr ymgeisydd a
oedd wedi gofyn am ganiatâd i ddarparu’r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol:
GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG |
DYDDIAU PERTHNASOL |
AMSER O |
AMSER I |
Darparu cerddoriaeth
fyw wedi’i seinchwyddo (tu mewn yn unig) |
Dydd Llun – dydd Sul |
19:00 |
01:00 |
Darparu Cerddoriaeth
wedi’i Recordio (tu mewn yn unig –
peiriant recordiau) |
Dydd Llun – dydd Sul |
19:00 |
01:00 |
Darparu Perfformio
Dawns (Tu mewn yn unig) |
Dydd Llun – dydd Sul |
19.00 |
01.00 |
Darparu Alcohol (i’w yfed ar ac oddi ar
yr eiddo) |
Dydd Sul a dydd Llun Dydd Mawrth a dydd
Mercher Dydd Iau – dydd Sadwrn |
11:00 11:00 11:00 |
00:00 23:00 01:00 |
*Oriau y bydd y safle
ar agor i’r cyhoedd |
Dydd Sul a dydd Llun Dydd Mawrth a dydd
Mercher Dydd Iau – dydd Sadwrn |
11.00 11.00 11.00 |
01.00 00.00 02.00 |
(iii)
*mae’r ymgeisydd hefyd wedi gofyn bod y safle yn cael
aros ar agor i'r cyhoedd o 11.00am tan 2.00am ar Noswyl Nadolig a Gŵyl San
Steffan, ac yn ychwanegol at yr amseroedd a nodir uchod, mae'r ymgeisydd wedi
gofyn awdurdodiad i ddarparu alcohol o 1.00am tan 2.00am ar Ŵyl San Steffan
a Noswyl Nadolig;
(iv)
un sylw (Atodiad A i'r adroddiad) wedi'i dderbyn gan ddau
sydd â diddordeb ac yn byw ger y safle sydd wedi tynnu sylw at agweddau sy'n
peri pryder mewn perthynas â sŵn, ymddygiad afreolus a sbwriel;
(v)
Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cyflwyno
sylwadau (Atodiad B i'r adroddiad) yn rhoi gwybod bod yna faterion sydd heb dal
heb gael sylw yn nhermau darpariaethau diogelwch tân yn y safle y dylid eu
datrys cyn i'r drwydded gael ei chyhoeddi;
(vi)
Heddlu Gogledd Cymru, ar ôl cyflwyno sylwadau ar y cais
ond yn dilyn trafodaethau gyda'r ymgeisydd wedi llunio nifer o amodau sydd wedi
eu cynllunio i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ymhellach (Atodiad C i’r
adroddiad) ac ar y sail honno gofynnodd yr Heddlu, pe bai’r aelodau o blaid cymeradwyo’r
cais, eu bod yn ystyried cynnwys yr amodau hynny o fewn Atodlen Weithredu’r
eiddo (Atodiad E i’r adroddiad);
(vii)
Adran Rheoli Llygredd y Cyngor wedi cyflwyno sylwadau
(Atodiad D i'r adroddiad) gan godi pryderon ynghylch agosrwydd y safle i eiddo
preswyl a chynigiwyd nifer o amodau (a gytunwyd gan yr Ymgeisydd) i gael ei
osod pe bai'r drwydded yn cael ei rhoi;
(viii)
yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus i
Bolisi Datgan Trwyddedu y Cyngor; Canllaw a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd
Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a
(ix)
yr opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar
y cais.
Arweiniodd y Rheolwr
Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr aelodau trwy’r adroddiad ac amlinellodd
ffeithiau'r achos. Roedd cyfryngu wedi bod yn digwydd rhwng yr Ymgeisydd a'r
trigolion cyfagos er mwyn mynd i'r afael â'u pryderon. Darllenwyd e-bost gan un
o'r trigolion hynny, Mr. Simon Proffitt, yn cynghori bod yr Ymgeisydd wedi
cytuno i ystyried diogelwch cadarn a gwell ar gyfer y ffenestri ochr ac i
orfodi'r gwaharddiad ar gario diodydd agored oddi ar y safle.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD
Roedd yr ymgeisydd, Mr.
Steven Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei gais. Mae problem dechnegol gyfreithiol yn golygu na fu'n
bosibl i drosglwyddo’r drwydded safle presennol ac roedd angen felly cyflwyno
cais newydd. Dywedodd Mr Evans bod yr eiddo
wedi bod yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol o dan y drwydded flaenorol ac na fu
unrhyw faterion gyda'r Heddlu neu Iechyd yr Amgylchedd a’i fod hefyd wedi
cytuno i’r holl fesurau y gofynnwyd amdanynt. Gofynnodd bod y cais yn
cael ei gymeradwyo yn unol â'r drwydded safle blaenorol ac fel y gwnaed cais
amdano.
SYLWADAU GWASANAETH TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU
Mynychodd Mr. David
Roberts, Rheolwr Cydymffurfio a Mr. Nigel Day, Swyddog Cydymffurfio ar ran
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Ymhelaethodd y Swyddogion
Tân ar bryderon mewn perthynas â'r adeilad fel y manylir yn eu sylwadau
ysgrifenedig (Atodiad B i'r adroddiad) ac yn dilyn yr archwiliad Diogelwch Tân
diweddaraf, gan dynnu sylw at faterion yr oedd angen rhoi sylw iddynt cyn y
rhoddir trwydded. Eglurwyd bod materion diogelwch tân a nodwyd yn dilyn
arolygiad ym Mehefin 2015 heb gael sylw llawn, gan gynnwys y mater gyda'r giât
ddwbl i ochr yr adeilad a oedd wedi’i gloi pan oedd pobl ar y safle gan achosi
oedi i fynd allan mewn achos o orfod gadael mewn argyfwng. Yn ogystal, nid oedd y
materion a nodwyd yn yr Asesiad Risg Tân ym mis Mai 2016 heb gael eu
blaenoriaethu, eu gweithredu neu gwblhau. Mae llawer o faterion
wedi cael eu nodi fel risg uchel ac angen mynd i'r afael â nhw mewn amser byr
iawn neu cyn i’r eiddo gael ei feddiannu. Er bod yr Ymgeisydd wedi
rhoi sicrwydd y byddai'r gwaith angenrheidiol yn cael ei wneud, nid oes unrhyw
dystiolaeth wedi ei ddarparu yn y cyswllt hwnnw. Mae'r ffaith bod rhai
materion heb eu datrys ers Mehefin 2015 yn achosi pryder i’r Awdurdod Tân.
Mewn ymateb i gwestiynau
ynghylch y materion sy'n weddill esboniodd yr Ymgeisydd fod gwaith wedi ei wneud
o ran profi a dyddio diffoddwyr tân a byddai'r rhan fwyaf o'r gwaith arall yn
cael ei wneud yn ystod yr wythnosau nesaf. Bu oedi cyn datrys y
larwm tân a materion gyda’r giatiau dwbl o gofio bod yna gynlluniau i greu
fflatiau uwchben y safle. Yn ogystal, mae'r Heddlu wedi mynnu bod y giatiau dwbl yn
cael eu cloi fel mesur rheoli a bod cynllun wedi cael ei rhoi ar waith i
ganiatáu i’r giât i gael ei agor mewn achos o dân. Mynegodd y Swyddogion Tân
bryder ynghylch effeithiolrwydd y cynllun hwnnw ac awgrymodd fecanwaith
electronig i sicrhau bod modd agor y giât yn hawdd.
CYFLWYNIAD GAN BARTÏON Â DIDDORDEB
Derbyniwyd un sylw
ysgrifenedig (Atodiad A i'r adroddiad) gan Simon Proffitt a Jen Sandiford o
Stryd y Rhaglaw yn nodi eu pryderon a oedd yn cynnwys sŵn, ymddygiad
afreolus a sbwriel. Roedd Mr. Proffitt a Ms. Sandiford yn bresennol yn y
cyfarfod.
Cyfeiriodd Mr Proffitt at
y sylwadau ysgrifenedig yn manylu ar ei bryderon. Tra'n derbyn bod rhai materion
y tu hwnt i reolaeth y trwyddedai, mynegwyd pryderon ynghylch pa mor uchel oedd
y gerddoriaeth yn dod o'r eiddo hyd oriau mân y bore a oedd yn achosi
aflonyddwch. Cyfeiriodd hefyd at aflonyddwch wrth i gwsmeriaid adael
yr adeilad gan ymgynnull ger yr eiddo ynghyd â phryderon dros daflu sbwriel,
gan gynnwys gwydrau a photeli yn cael eu taflu. Nodwyd bod y gwaharddiad
ar gwsmeriaid i fynd â diodydd oddi ar safle’r eiddo yn ystod y pythefnos
diwethaf wedi lleihau’r broblem honno yn sylweddol.
Atebodd Mr Proffitt
gwestiynau'r aelodau fel a ganlyn-
·
cwynion wedi eu gwneud i’r Heddlu yn ymwneud â (1) difrod
i arwydd yn eu gardd, a (2) gwydr yn yr eiddo, y ddau ohonynt wedi eu cofnodi
ond heb gymryd camau ar wahân i gyngor a roddwyd gan yr heddlu i gysylltu â nhw
os oedd rhagor o broblemau
·
mae wedi byw yn yr eiddo tua dwy flynedd a hanner ac methu â chofio os oedd problemau wedi gwella
neu waethygu ers i’r Ymgeisydd gymryd drosodd y gwaith o redeg yr eiddo ddwy
flynedd yn ôl. Ers i’r eiddo fod yn gweithredu o dan Hysbysiadau
Digwyddiadau Dros Dro mae pethau wedi gwella.
Aelodau hefyd yn gofyn
cwestiynau i'r Ymgeisydd wnaeth -
·
egluro
trefniadau rheoli ar y safle a chadarnhaodd ei bresenoldeb o 11.00pm ar
ddiwrnodau lle'r oedd trwydded hwyr yn berthnasol
·
gynghori
fod safleoedd ar hyn o bryd yn gweithredu oriau caniataëdig o flaen y drwydded
flaenorol gyda cherddoriaeth yn gorffen am 12.30am; tua 20/30 munud i orffen
yfed; cwsmeriaid yn cael eu hannog i adael y safle erbyn 1.00am, a'r safle
wedi’i glirio yn gyfan gwbl erbyn 1.10am.
·
esbonio fod yr arfer blaenorol yn ymwneud â dosbarthu
gwydrau plastig i gwsmeriaid ond bod gwaharddiad llwyr ar gwsmeriaid yn gadael
gydag unrhyw gynwysyddion agored wedi ei gyflwyno yn ddiweddar - awgrymwyd bod
posibilrwydd eu bod yn dod â chynwysyddion o safleoedd trwyddedig eraill a oedd
yna’n cael eu taflu gan nad oedd y cwsmeriaid yn gallu cael mynediad i'r eiddo
gyda’r gwydrau
·
cadarnhau ei fod wedi siarad â Mr. Proffitt ynghylch ei
bryderon ac eglurodd y byddai'n gosod gwydr dwbl/triphlyg ar y ffenestri ochr
fel yr argymhellwyd gan arbenigwr sain er mwyn lleddfu pryderon ynghylch hynny;
cytunodd hefyd i fesurau rheoli sŵn gyda Swyddog Rheoli Llygredd y Cyngor;
mewn perthynas â chyfyngwyr sŵn, tra byddai'n edrych i mewn i'r mater
ymhellach, gall fod yn gost waharddol;
·
dywedodd fod y safle wedi ei hen sefydlu ac yn adnabyddus
fel lleoliad cerddoriaeth, a heb hynny byddai'n anymarferol.
CYFLWYNO RHEOLI LLYGREDD
Cyfeiriodd Mr. Sean
Awbery o Adain Rheoli Llygredd y Cyngor at ei sylwadau ysgrifenedig (Atodiad D
i'r adroddiad) yn cynnig gosod nifer o amodau ar y drwydded, os y'i caniateir,
er mwyn lleihau'r risg o niwsans cyhoeddus. Cytunwyd ar yr amodau
hynny gyda'r Ymgeisydd. Ers dod yn ymwybodol o'r pryderon sŵn a godwyd gan y
partïon â diddordeb, awgrymodd Mr Awbery y gellir cyflwyno amod pellach ar y
drwydded mewn perthynas â gosod cyfyngwyr sŵn os yw'r newidiadau a
gytunwyd arnynt ddim yn cynnwys lefelau sŵn fel y bo'n briodol.
CYFLWYNIAD HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Nid oedd cynrychiolydd o
Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol. Nododd yr aelodau eu sylwadau
ysgrifenedig a nifer o amodau a gytunwyd arnynt rhwng yr Ymgeisydd a Heddlu
Gogledd Cymru er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu (wedi eu hailgyflwyno yn
Atodiad C i'r adroddiad). Roedd
yr Heddlu wedi gofyn pe bai’r aelodau yn penderfynu caniatáu'r cais eu bod yn
ystyried ymgorffori'r amodau hynny o fewn yr Atodlen Weithredu.
DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD
Wrth wneud datganiad
terfynol atgoffodd yr Ymgeisydd yr Is-bwyllgor fod y safle wedi ei hen sefydlu
fel lleoliad trwyddedig. Er ei fod yn derbyn bod problemau o bryd i'w gilydd yr
oedd wedi gwneud pob ymdrech i'w datrys. Ailadroddodd ei fod yn barod i ymgymryd â'r gwaith
angenrheidiol yn unol â chais yr Awdurdod Tân a Rheoli Llygredd ond gofynnodd
ei fod yn cael cymaint o amser ag y bo modd i wneud y gwaith angenrheidiol o
ystyried y gost, gan bwysleisio'r anawsterau wrth redeg safle trwyddedig yn yr
hinsawdd economaidd bresennol. Ailadroddodd ei barodrwydd i weithio gyda phob parti dan
sylw er mwyn datrys y materion a godwyd.
EGWYL I YSTYRIED Y CAIS
Yn y fan hon (10.15am)
gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.
PENDERFYNIAD A RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr amodau fel y nodir isod, bod y Drwydded
Safle yn cael ei chaniatáu ar gyfer y canlynol -
GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG |
DIWRNODAU PERTHNASOL |
AMSER O |
AMSER I |
Darparu Cerddoriaeth Fyw wedi’i seinchwyddo (Tu mewn yn unig) |
Dydd Sul - dydd Iau Dydd Gwener a dydd Sadwrn |
19:00 19.00 |
00:00 01.00 |
Darparu Cerddoriaeth wedi'i Recordio (Tu mewn yn unig – peiriant recordiau) |
Dydd Sul - dydd Iau Dydd Gwener a dydd Sadwrn |
19:00 19.00 |
00.00 01:00 |
Darparu Perfformio Dawns (Tu mewn yn unig) |
Dydd Sul - dydd Iau Dydd Gwener a dydd Sadwrn |
19.00 19.00 |
00.00 01.00 |
Cyflenwi Alcohol (I'w yfed ar ac oddi ar yr eiddo) |
Dydd Sul - dydd Iau Dydd Gwener a dydd Sadwrn |
11:00 11:00 |
00:00 01:00 |
*Oriau y bydd y safle ar agor i’r cyhoedd |
Dydd Sul - dydd Iau Dydd Gwener a dydd Sadwrn |
11.00 11.00 |
00.30 01.30 |
Rhoddwyd awdurdodiad
hefyd i’r safle i aros ar agor i'r cyhoedd o 11.00am tan 02:00am ar Noswyl
Nadolig a Gŵyl San Steffan.
Yn ychwanegol at yr
oriau a ganiateir ar gyfer darparu alcohol, rhoddwyd awdurdodiad i ddarparu
alcohol o 11.00am tan 01:30am ar Ŵyl San Steffan a Noswyl Nadolig.
AMODAU
Gwasanaeth
Tân ac Achub Gogledd Cymru -
Rhaid datrys y sylwadau
a roddwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn eu cyflwyniad, ac fel
manylwyd yn Atodiad B i'r adroddiad, i’w boddhad cyn y cyflwynir y drwydded.
Fel
y cawsant eu cyflwyno gan Heddlu Gogledd Cymru -
Atal Trosedd ac Anhrefn
1) TCC
a)
Bydd system
teledu cylch caeedig yn cael ei gosod yn yr adeilad a bydd ar waith pryd bynnag
y bo’r safle ar agor.
b)
Bydd gan y
system teledu cylch caeedig gamerâu yn monitro tu mewn a thu allan yr
adeilad. Yn achos tu mewn yr eiddo bydd
digon o gamerâu wedi eu gosod i weld pob rhan o’r adeilad y mae gan y cyhoedd
fynediad iddynt, ac eithrio ardal y toiledau. Yr holl bwyntiau mynediad ac
ymadael i’w gweld gan y TCC a rhaid iddo ddangos pen ac ysgwyddau yn glir
c)
Bydd y system
teledu cylch caeedig yn ddigon safonol i fedru darparu delweddau o ansawdd
tystiolaethol ac yn gallu adnabod wynebau mewn pob math o olau
d)
Bydd gan y
system teledu cylch caeedig gyfleuster i recordio delweddau o bob camera a
chaiff y lluniau hyn eu cadw am o leiaf 28 diwrnod
e)
Bydd y system teledu cylch caeedig yn cynnwys
cyfleuster sy’n cynnwys y dyddiad a'r amser cywir ar y delweddau sy’n cael eu
recordio
f)
Bydd gan y
system teledu cylch caeedig gyfleuster er mwyn gallu llwytho delweddau i ryw
fath o gyfrwng cludadwy. Cyfrifoldeb deiliad y drwydded yw darparu cyfryngau
cludadwy ac os bydd cyfryngau cludadwy yn cael eu hatafaelu, cyfrifoldeb y
sefydliad yw sicrhau bod fformatau ychwanegol o gyfryngau cludadwy ar gael
g)
Bydd delweddau
o'r system teledu cylch caeedig ar gael i’r Heddlu neu swyddogion yr Awdurdod
Lleol ar gais
h)
Bydd o leiaf un
aelod o staff a fydd wedi'i hyfforddi i weithredu’r system teledu cylch caeedig
ac a fydd yn gallu darparu'r delweddau a recordiwyd o'r system teledu cylch
caeedig ar ddyletswydd ar bob achlysur pan fo’r eiddo ar agor.
i)
Mae’n rhaid i’r
Goruchwylydd Eiddo Dynodedig sicrhau gwiriadau dyddiol bod y system teledu
cylch caeedig yn gweithio ar ddechrau busnes bob dydd - bydd unrhyw ddiffygion
yn y system yn cael sylw ar unwaith. Rhaid i hyn gynnwys gweithrediad y
camerâu, y cyfleusterau recordio, cyfleusterau ar gyfer darparu delweddau a
chywirdeb yr amser a'r dyddiad. Rhaid cadw cofnod ysgrifenedig o'r archwiliadau
hyn, gan gynnwys llofnod y person sy'n cynnal yr archwiliad. Rhaid i'r cofnod
ysgrifenedig gael ei gadw ar y safle bob amser a’i wneud ar gael i
gynrychiolydd o unrhyw awdurdod cyfrifol ar gais.
2) CYN cael caniatâd i werthu alcohol
bydd pob aelod o staff heb drwydded bersonol, gan gynnwys unrhyw aelodau di-dâl
o staff, aelodau'r teulu a phobl achlysurol a allai fod yn gysylltiedig â
gwerthu alcohol ar y safle, yn cael eu hyfforddi yn eu cyfrifoldebau o dan y
Ddeddf Trwyddedu 2003 ac unrhyw ddiwygiadau dilynol i'r Ddeddf honno - yn
benodol byddant yn cael hyfforddiant o ran rhoi alcohol i bobl sy'n feddw
3) Cynhelir hyfforddiant diweddaru mewn perthynas â’r
hyfforddiant cychwynnol y sonnir amdano yn 2) uchod ar gyfer pob aelod o staff
sy'n ymwneud â gwerthu alcohol bob chwe mis
4) Dylid cadw cofnod o'r hyfforddiant cychwynnol a’r
hyfforddiant diweddaru dilynol a dderbyniwyd a dylid gallu eu cyflwyno i heddlu
neu swyddogion yr Awdurdod Lleol ar gais
5) Llyfr Achosion a Gwrthodiadau - rhaid cadw llyfr
achosion a gwrthodiadau (gyda’r tudalennau wedi’u rhifo) ar y safle a bydd ar
gael i'w archwilio gan yr awdurdodau cyfrifol. Rhaid defnyddio'r llyfr achosion
a gwrthodiadau i gofnodi'r canlynol -
a)
Unrhyw achos o
drais neu anhrefn ar neu yn union y tu allan i'r safle.
b)
Unrhyw
ddigwyddiad sy'n ymwneud â chyffuriau (cyflenwi / meddiant / dylanwad) ar y
safle.
c)
Unrhyw drosedd
neu weithgarwch troseddol arall ar y safle.
d)
Unrhyw
wrthodiad i weini alcohol i bobl sy'n feddw.
e)
Unrhyw
wrthodiad i weini alcohol i rai dan 18 oed neu unrhyw un sy'n ymddangos o dan
18 oed.
f)
Unrhyw alwad am
gymorth yr heddlu i'r eiddo.
g)
Unrhyw un sy’n
cael eu taflu allan o’r safle
h)
Unrhyw gymorth
cyntaf / gofal arall a roddwyd i gwsmer.
6) Mae’n rhaid i'r llyfr achosion a gwrthodiadau fod
ar gael i'w archwilio gan awdurdodau cyfrifol ar gais. Gall yr wybodaeth hon
hefyd gael ei chofnodi yn electronig trwy ddefnyddio system til neu system
debyg.
7) Dylid
adolygu’r llyfr achosion a gwrthodiadau bob pythefnos gan reolwr yr eiddo a’i
lofnodi/dyddio i gadarnhau cydymffurfiaeth
8) Bydd cofnod
y llyfr achosion a gwrthodiadau ar gael i'w archwilio ar gais swyddogion Heddlu
Gogledd Cymru neu'r Awdurdod Lleol
9) Bydd y safle’n cynnal asesiad risg ar gyfer yr
angen am staff drws. Yn ychwanegol at fasnach y penwythnos bydd hyn yn
cynnwys unrhyw achlysur, Gwyliau Banc, Noswyl Nadolig a Nos Calan.
Atal Niwsans Cyhoeddus.
1) Pan fydd y safle yn cynnal cerddoriaeth fyw ac
adloniant yn yr eiddo y tu hwnt i 9pm, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon a
DJs, bydd rheolwyr yn sicrhau bod drysau allanol wedi eu cau bob amser gan
gynnal gwiriadau rheolaidd i sicrhau nad oes gormod o sain yn gadael yr eiddo.
2) Bydd y rheolwyr yn sicrhau bod pobl y tu allan i'r
adeilad sy'n defnyddio'r ardal ysmygu a’r ardd gwrw ddim yn creu gormod o
sŵn a niwsans
3) Bydd y rheolwyr yn sicrhau bod cwsmeriaid yn gadael
yr eiddo yn dawel ac yn drefnus, gan eu hatgoffa i gadw lefelau sŵn i lawr
os oes angen.
Amddiffyn Plant Rhag
Niwed
1) 1) Bydd y safle yn gweithredu polisi gwirio oedran
Her 25
2) Bydd yr holl staff, gan gynnwys unrhyw aelodau
di-dâl o staff, aelodau'r teulu a phobl achlysurol sy'n ymwneud â gwerthu
alcohol yn cael eu hyfforddi yn y polisi Her 25 CYN cael caniatâd i werthu
alcohol a byddant yn ymgymryd â hyfforddiant gloywi o leiaf bob chwe mis.
3) Bydd cofnodion o'r hyfforddiant Her 25 yn cael ei
gadw a bydd ar gael i'w archwilio ar gais gan swyddogion Heddlu Gogledd Cymru
neu'r Awdurdod Lleol.
Fel
a gyflwynwyd gan Adran Rheoli Llygredd y Cyngor -
1) Rhaid i'r holl fynedfeydd ac allanfeydd, gan
gynnwys y drws i’r ardal ysmygu fod gyda mynedfeydd lobi, pob un gyda 2 set o
ddrysau sy'n cau eu hunain, er mwyn lleihau'r sŵn sy’n gadael yr adeilad;
ac ar unrhyw adeg o leiaf un set o ddrysau ar gau pryd bynnag y mae
cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar lefel a ystyrir uchod fel sŵn 'cefndir'
2) Rhaid i'r holl ddrysau a ffenestri gael eu cadw ar
gau pa fydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar lefel a ystyrir yn uwch na’r
sŵn 'cefndir' uchod er mwyn lleihau'r sŵn sy’n dianc o’r eiddo.
3) Os oes angen awyru ychwanegol, bydd yr eiddo yn
cael ei osod â system awyru / aerdymheru
er mwyn osgoi'r angen i agor drysau a ffenestri pa bryd bynnag y mae
cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar lefel a ystyrir uchod fel sŵn 'cefndir'
4) Ni chaniateir chwarae cerddoriaeth fyw / wedi’i
recordio tu allan yn yr ardd gwrw / ardal ysmygu
5) Rhaid cau yr ardal ysmygu i'r cyhoedd ar gyfer yfed
alcohol ar ôl 11pm
6) Dim ond
rhwng 9am a 9pm y caniateir rhoi poteli mewn cynwysyddion tu allan i'r eiddo er
mwyn lleihau aflonyddwch i eiddo cyfagos
7) Bydd hysbysiadau amlwg, clir a darllenadwy yn cael
eu harddangos ar bob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion trigolion
lleol ac i adael y safle a'r ardal yn dawel
8) Ni chaniateir i unrhyw fflachio neu oleuadau
llachar gael eu lleoli ar neu du allan i'r eiddo a dylai unrhyw oleuadau
diogelwch neu fynediad gael eu gosod a'u gweithredu fel nad ydynt yn achosi
niwsans i eiddo cyfagos.
Mae'r amodau sŵn
i'w cyflawni fel yr uchod ac i gael eu cwblhau i foddhad Swyddog Rheoli
Llygredd y Cyngor o fewn chwe mis i ddyddiad y gwrandawiad. Os,
ym marn y Swyddog Rheoli Llygredd bod yr amodau sŵn ddim yn cyfyngu ar y
sŵn i lefel a fyddai'n cael ei ystyried yn dderbyniol, yna bydd yn rhoi
cyngor lle byddai gosod cyfyngwyr sŵn o fudd i'r eiddo, ac mewn
amgylchiadau o'r fath y bydd yr ymgeisydd yn gosod cyfyngwyr yn yr eiddo. Mewn
achos lle na chynghorir gosod cyfyngwyr sŵn, bydd y Swyddog Rheoli
Llygredd yn cynghori pa gamau eraill y bydd yn ofynnol i leihau effaith
sŵn sy’n achosi aflonyddwch ac annifyrrwch i gymdogion lleol.
Amod
Ychwanegol -
Yn ogystal â'r uchod
bydd yn rhaid i’r Ymgeisydd sicrhau nad yw cwsmeriaid yn gadael yr adeilad
gydag unrhyw gynwysyddion diod agored.
Cyflwynodd y Cadeirydd
benderfyniad yr Is-bwyllgor i'r rhai a oedd yn bresennol ac adroddodd y
Cyfreithiwr y rhesymau dros y penderfyniad fel a ganlyn -
Clywodd yr Is-bwyllgor am yr effaith y mae’r eiddo wedi ei gael ar
drigolion lleol, o dan y gweithrediad presennol o Hysbysiadau Digwyddiadau Dros
Dro. Roedd hyn yn cynnwys poteli gwydr yn cael eu canfod
yn eiddo cymdogion; sbwriel gan gwsmeriaid, gan gynnwys bonion sigaréts,
ymhlith pethau eraill. Clywyd hefyd dystiolaeth bod y lefelau sŵn y
gellir eu priodoli i'r eiddo yn uchel ac yn annerbyniol ac yn achosi niwsans ac
aflonyddwch, yn enwedig yn ystod oriau mân y bore. Clywodd yr
Is-bwyllgor fod cwsmeriaid yn gadael y safle yn y fath fodd a fyddai'n tarfu ar
drigolion lleol, yn enwedig y rhai gyda theuluoedd ifanc.
Ystyriwyd ei bod yn briodol i gyfyngu ar yr oriau a ganiateir ar gyfer
gweithgareddau trwyddedig, ynghyd ag oriau y byddai'r safle ar agor i'r cyhoedd
er mwyn lleihau effaith sŵn yn dod o'r adeilad yn hwyr yn y nos ac yn
oriau mân y bore ac felly hyrwyddo'r amcanion trwyddedu .
Clywodd yr Is-bwyllgor dystiolaeth hefyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd
Cymru, er gwaethaf ymweld â'r safle yn wreiddiol ym mis Mehefin 2015, bod yr
argymhellion a wnaed bryd hynny heb eu cwblhau'n llawn a bod hyn yn hanfodol ar
gyfer gweithrediad effeithiol ac i sicrhau cydymffurfiad â'r amcan trwyddedu ar
gyfer Diogelwch y Cyhoedd.
Mae’r Is-bwyllgor yn rhoi ystyriaeth i amodau a awgrymwyd gan Heddlu
Gogledd Cymru ac yn ystyried y byddent yn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu yn y
rownd y cafodd y rhain eu derbyn gan yr Ymgeisydd ac felly yn cael eu cyflwyno
ar wyneb y drwydded.
Yn ogystal, ystyriodd yr Is-bwyllgor y cynrychioliadau a gyflwynwyd gan
Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a ystyrir y byddant yn cael effaith gadarnhaol ar
liniaru lefel y sŵn yn dod o'r safle ac felly hyrwyddo'r amcan trwyddedu
sy'n ymwneud â Niwsans Cyhoeddus, a Throsedd ac Anrhefn yn benodol . Derbyniodd yr
ymgeisydd yr amodau a osodir ar wyneb y drwydded, i'w gweithredu o fewn 6 mis
ar ôl caniatáu'r drwydded.
Dogfennau ategol: