Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O'R GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL- MEHEFIN 2016

I ystyried adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio barn yr aelodau ar fersiwn ddiweddaraf y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

11.00 a.m.– 11.30 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd Julian Thompson Hill yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar adolygiad Mehefin 2016 o Gofrestr Cynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Manylodd yr Aelod Arweiniol y prif faterion a amlygwyd yn yr adroddiad ac eglurodd pam fod categoreiddio risg ar gyfer rhai wedi cael eu newid ac eraill wedi cael eu dileu neu eu graddio i lawr i risgiau Gwasanaeth yn hytrach na risgiau corfforaethol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau dywedodd yr Aelodau Arweiniol yn bresennol a'r Prif Weithredwr -

 

·         mewn perthynas â chanlyniad y Refferendwm diweddar ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE) fod y Cyngor wedi gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i gynnal dadansoddiad fesul sir a rhanbarth o effaith y penderfyniad i adael yr UE.  Byddai hyn yn ddarn helaeth o waith, ac oherwydd yr ansicrwydd ynghylch Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ni ragwelwyd y byddai darlun clir yn dod i'r amlwg o’r effaith gwirioneddol ar lywodraeth leol tan yr hydref ar y cynharaf.  Gan fod cronfeydd strwythurol yr UE wedi cytuno arnynt hyd at 2020 pan roedd y cronfeydd strwythurol newydd i fod ar gael, rhagwelwyd y byddai'r effaith ar brosiectau a gytunwyd arnynt eisoes yn Sir Ddinbych yn fach iawn

·         mewn perthynas â Risg Corfforaethol DCC032 yn ymwneud ag ad-drefnu llywodraeth leol roedd yn awr yn amlwg na fyddai llywodraeth leol yn cael ei had-drefnu yn y dyfodol agos gan fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddai etholiadau awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf am dymor o 5 mlynedd yn y Cyngor hyd at 2022. Er hynny, roedd risg yn dal i fodoli mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol yn y dyfodol.

·         bod y risg yn ymwneud â modelau gwasanaeth amgen wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar gyda chasgliadau arolwg Estyn o wasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol Gogledd Cymru, GwE.  Mae swyddogion o Sir Ddinbych wedi cyflwyno cynigion ar sut y gellir diwygio GwE er lles disgyblion Sir Ddinbych, er nad oedd sicrwydd ynghylch a fyddai’r cynigion hyn yn cael eu cefnogi gan awdurdodau addysg lleol eraill a oedd yn rhanddeiliaid yn GwE.  Os nad oedd Sir Ddinbych yn hapus gyda'r ffordd ymlaen gyda'r gwasanaeth rhanbarthol, byddai'n rhoi rhybudd i dynnu'n ôl.  Nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud hyd yma o ran hyn, ond mae cyfarfod wedi ei drefnu gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystod yr haf i drafod sut y gellir gwella’r model.

·         DCC017 – mae’r risg hwn bellach wedi'i dynnu o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ac y byddai yn y dyfodol yn cael ei reoli ar lefel Gwasanaeth gan fod yr holl waith gweithredu TG strategol yn ymwneud â symud i Outlook a'r system teleffoni wedi'i gwblhau.  Materion yn ymwneud ag aelodau etholedig TG yn cael ei drafod mewn Gweithgor Gwasanaethau Democrataidd a TG ar y cyd sydd ar fin cael ei sefydlu yn ystod yr haf i drafod atebion a gofynion TG posib ar gyfer aelodau etholedig ar ôl etholiadau awdurdodau lleol 2017.

·         DCC016 – mae’r risg hwn yn ymwneud ag effaith y diwygiadau lles yn cael effaith mwy sylweddol na ragwelwyd yn wreiddiol wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr Risg Corfforaethol.  Serch hynny, unwaith y cyflwynwyd y Credyd Cynhwysol (UC) fe ymddangosodd risg newydd sy'n ymwneud â’r UC ac o bosib bydd angen ei gynnwys ar y Gofrestr Risg.  Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ‘Torri Brethyn’ wedi edrych ar yr effaith o gael gwared ar yr Uned Hawliau Lles (WRU) a throsglwyddo darpariaeth gwasanaeth i'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) gan ddod i'r casgliad nad oedd yr effaith wedi bod yn waeth nag a ragwelwyd yn wreiddiol.  Yr oedd yn fod i edrych ar y mater eto yn ei gyfarfod ar ddiwedd mis Gorffennaf gan ei bod yn awyddus i weld pa wasanaethau ychwanegol / cyngor y byddai’r CAB wedi gallu ei ddarparu.

 

Dywedodd Aelodau y Rhyl bod Siop Cyngor Budd-daliadau y Rhyl wedi cysylltu â’r Cyngor Tref am gyllid i sicrhau ei ddyfodol yn dilyn diwedd y flwyddyn hon.  Sail eu hachos am gyllid oedd eu bod wedi sicrhau gwerth £4 miliwn o fudd-daliadau, ac ati ar gyfer dinasyddion yn ardal y Rhyl.  Dywedodd y Prif Weithredwr wrth yr aelodau etholedig i fod yn ofalus pan  fydd sefydliadau yn cyflwyno ceisiadau am gyllid sylweddol.  Cyfeiriodd at URC/CAB fel enghraifft o ble mae colli darparwr ddim yn gyfystyr â phreswylwyr yn colli allan ar wasanaeth neu golli allan yn ariannol.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth roedd y Pwyllgor wedi:-

 

PENDERFYNU, yn amodol ar y sylwadau uchod, i nodi'r dileadau, ychwanegiadau a newidiadau i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol a’u derbyn yn unol â hynny.

 

 

Dogfennau ategol: