Eitem ar yr agenda
DIWEDDARIAD STRATEGAETH BAW CŴN
I ystyried
adroddiad gan Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a Rheolwr Gwarchod y
Cyhoedd (copi ynghlwm) ar y cynnydd sydd wedi ei wneud yn erbyn Strategaeth Baw
Cŵn y Cyngor a cheisio cefnogaeth aelodau ar gyfer y gwaith sy’n cael ei
wneud i fynd i’r afael â’r broblem baw cŵn yn y sir.
10.10 a.m.– 10.40 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol dros Dir y Cyhoedd yr adroddiad a'r
atodiadau cysylltiedig (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar y cynnydd a wnaed
gyda’r Strategaeth Baw Cŵn y Cyngor gan nodi'r nifer o achosion a’r
ardaloedd sy’n dioddef o’r broblem yn gyson.
Hysbyswyd yr
Aelodau bod y Strategaeth Baw Cŵn wedi ei ffurfio fel rhan annatod o
flaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor o sicrhau strydoedd glân a thaclus. Ategir
y broblem gan drigolion yn rheolaidd gyda chynghorwyr ynglŷn â’r broblem o gŵn yn baeddu ac er na
allai’r Cyngor fyth gael gwared ar y broblem, mae data diweddar yn bendant yn
dangos gostyngiad yn nifer yr achosion a gofnodwyd ac yn cael ei ystyried yn
llwyddiant yn gyffredinol. Sir Ddinbych yw’r Cyngor cyntaf i
ddefnyddio Kingdom Security Ltd i gynnal rhai agweddau o waith gorfodi
troseddau amgylcheddol, fodd bynnag mae pump allan o'r chwe awdurdod yng
Ngogledd Cymru bellach wedi eu comisiynu nhw i wneud gwaith gorfodi ar eu rhan ac
ledled y DU maent yn gweithredu ar ran 35 o awdurdodau. Gan
ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Warchod y
Cyhoedd a swyddogion Gwasanaethau Stryd fod -
·
Kingdom
yn cael eu rheoli ar ran y Cyngor gan Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch y Gymuned
y Cyngor a bod unrhyw ymholiadau/cwynion ynghylch eu gwaith yn cael eu cyfeirio
ato
·
ar
hyn o bryd nid oes unrhyw orchmynion gwahardd gorfodadwy yn ymwneud â chŵn
ar draethau, efallai bod is-ddeddfau hanesyddol yn bodoli a'r unig ffordd i
orfodi rhain yw trwy gychwyn achos llys
·
bwriad
i wella pwerau gorfodi y Cyngor mewn perthynas â swyddogion baw cŵn drwy
gyflwyno Gorchmynion Gwarchod Gofod Cyhoeddus (PSPOs). Gallai'r
Gorchmynion hyn, lle gallai Cynghorau weithredu dan bwerau a roddwyd iddynt yn
y Ddeddf Trosedd a Phlismona Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2014, gan gynnwys
gwahardd cŵn o dir penodol a/neu ei gwneud yn ofynnol bod cŵn ar
dennyn mewn ardaloedd penodol. Mae'r Cyngor yn disgwyl i fod mewn
sefyllfa i ymgynghori ar y Gorchmynion arfaethedig cyn diwedd y flwyddyn, gan
fod swyddogion ar hyn o bryd yn y broses o nodi'r ardaloedd mwyaf priodol i’w
dynodi o fewn y Gorchmynion
·
er
gwaethaf nifer o geisiadau i'r Heddlu nid oeddent wedi cysylltu â'r Cyngor at
ddiben camau gorfodi mewn perthynas â baw cŵn, maent hefyd yn amharod iawn
i rannu gwybodaeth gyda'r Cyngor ar achosion
baw cŵn
·
dylid
cyfeirio pryderon yn ymwneud â chŵn peryglus at yr Heddlu gan ei fod yn
fater troseddol yn hytrach na mater gorfodi sifil
·
lle'r
oedd cyfanswm uchel o achosion baw cŵn byddai swyddogion yn tynnu sylw at
hynny drwy farcio'r palmentydd gyda sialc melyn unwaith y bydd y swyddogion
Gwasanaethau Stryd wedi clirio llanast.
Mae’r ymagwedd hon yn ffurfio
rhan o'r ymgyrch hyrwyddo i leihau baw cŵn
·
'ardaloedd
problematig' yn cael eu dynodi ar sail y nifer o achosion a adroddwyd gan
gynghorwyr a/neu aelodau o'r cyhoedd mewn ardaloedd penodol a’u cofnodi ar y
system Rheoli Cyswllt Cwsmer (CRM)
·
yn ystod
y chwe mis diwethaf mae’r Cyngor wedi derbyn tua 82 o gwynion yn erbyn Kingdom,
mae hyn yn cyfateb yn fras i lai na 2% o'r Hysbysiadau Cosb Benodedig (FPN) a
gyflwynwyd ar gyfer troseddau amgylcheddol. Ar
ôl derbyn cwyn bydd Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol y Cyngor yn
adolygu’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd, gan gynnwys ffilm o gamera corff y
Swyddog Gorfodaeth, cyn penderfynu a ddylid cadarnhau'r gŵyn ai peidio. Ym
mhob achos byddai'n ysgrifennu at yr achwynydd yn amlinellu ei benderfyniad a'r
sail dros y penderfyniad hynny.
·
os
bernir bod cwynion yn erbyn staff a gyflogir gan Kingdom yn cael eu sefydlu
byddai'r Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol yn rhoi gwybod i Kingdom ac y
byddent yn delio â hwy yn unol â thelerau contract y Cyngor gyda nhw. Cafodd
staff eu symud allan o'r ardal drwy gyfrwng y weithdrefn hon yn ystod cyfnod
contract y Cyngor gyda Kingdom
·
cynhaliodd
Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd a'r Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol
wiriadau ar hap ar ffilmiau camera corff i wirio ymddygiadau ac ati yn fisol
·
bu
achosion lle ymosodwyd ar staff Kingdom gan aelodau anfodlon o'r cyhoedd
·
Archwiliad
Mewnol wedi adolygu gwaith y Gwasanaeth a Kingdom yn ddiweddar gydag adroddiad,
a oedd ar y cyfan yn un cadarnhaol iawn, ac sydd ar fin cael ei gyflwyno i'r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn fuan
·
nifer
uwch o achosion o faw cŵn yn tueddu i gael eu cofnodi yn ystod mis Ionawr,
mae'n debyg oherwydd naill ai fod pobl yn gadael eu cŵn allan ar eu pen
eu hunain ac oherwydd bod llai o oriau o olau dydd roedd hyn yn
effeithio ar welededd sy’n ofynnol i ddangos tystiolaeth o droseddau honedig yn
llwyddiannus. Dylai rotas staff ar gyfer y Gwasanaeth Stryd yn
ystod y gaeaf o hyn ymlaen fod o gymorth i fynd i'r afael â'r broblem hon i ryw
raddau
·
camerâu
teledu cylch cyfyng mewn mannau cyhoeddus wedi cael eu prynu yn ddiweddar er
mwyn eu defnyddio mewn 'ardaloedd problematig' i gasglu tystiolaeth. Roedd
y rhain yn gamerâu compact sy’n cofnodi ffilm pan gaent eu sbarduno gan
symudiad. Fodd bynnag, nid yw'r gyfraith yn caniatáu defnydd
gudd o'r camerâu ac felly rhaid gosod arwyddion yn rhybuddio’n glir bod camerâu
teledu cylch cyfyng yn gweithredu yn yr ardal
·
mae’r
Gwasanaeth yn ystyried yr opsiwn o fabwysiadu dull cronfa ddata o DNA cŵn,
yn debyg i'r un sy'n cael ei ddefnyddio yn Barking a Dagenham ac sy'n cael ei
ystyried yn Sir y Fflint, at y diben o leihau baw cŵn. Fodd
bynnag, cafodd ei ystyried yn opsiwn rhy ddrud i ddelio â'r broblem. Serch
hynny gellir ei ystyried eto rywbryd yn y dyfodol
·
Staff
Gwasanaethau Stryd yn ymgysylltu’n weithgar â cherddwyr cŵn gan roi
sticeri cynghori iddynt yn ogystal â bagiau priodol ac ati tra eu bod hefyd yn
casglu gwybodaeth i’r Cyngor ar unrhyw batrymau neu dueddiadau a oedd yn
digwydd o fewn eu hardaloedd
·
mae’r
Cyngor hefyd yn mynd ati i geisio cael gafael ar gudd-wybodaeth gan aelodau o'r
cyhoedd yn yr ‘ardaloedd problematig' mewn ymgais i ddal troseddwyr hysbys. Fodd
bynnag, er bod y cyhoedd yn barod i roi tystiolaeth ar lafar i swyddogion
roeddent yn amharod i ddarparu datganiadau ysgrifenedig neu i dystio fel
tystion os oes angen. Serch hynny,
gallai unrhyw dystiolaeth di-gadarn a ddarperir i swyddogion fod yn ddefnyddiol
yn y pen draw er mwyn cymryd camau gorfodi
·
roedd
yn ofynnol i swyddogion gorfodi roi gwybod i berson sydd dan amheuaeth o
gyflawni troseddau amgylcheddol bod y cyfweliad yn cael ei recordio. Nid
oedd y camerâu yn cael eu rhoi ar waith hyd nes yr oedd y drosedd honedig wedi
ei chyflawni, ac felly ni fyddai unrhyw ffilm o’r drosedd ei hun
·
bod
hysbysiadau cosb benodedig wedi'u cyflwyno ym Mhen Coed yn Ninbych
·
rhwng
5 a 7 o swyddogion gorfodi yn patrolio'r ardaloedd yn y sir ar unrhyw un adeg,
mae rhai yn patrolio y tu allan i'r amser arferol rhwng 9.00am a 5.00pm er mwyn
ceisio dal troseddwyr parhaus
·
mae
gan swyddogion Kingdom yr hawl i batrolio yn gudd mewn dillad plaen at ddiben
plismona a chyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig am gŵn yn baeddu.
Does ganddyn nhw ddim yr hawl i
batrolio mewn dillad plaen at ddiben canfod mathau eraill o droseddau
amgylcheddol. Achosion pan fydd
y rheolau hyn wedi cael eu torri wedi dod i'r amlwg ac yn yr achosion
hynny mae Kingdom wedi cael ei geryddu am fynd yn groes i reolau’r contract
·
os
oedd gan gynghorwyr neu breswylwyr bryderon am ymddygiad swyddogion Kingdom
dylent roi gwybod ar unwaith i'r Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol neu
Reolwr Gwarchod y Cyhoedd
·
tua
3000 o Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi eu cyhoeddi yn Sir Ddinbych mewn cyfnod
o 12 mis, y nifer uchaf a gyhoeddwyd mewn unrhyw awdurdod lleol yng Ngogledd
Cymru. Mae tua 2% o'r rhai a gafodd eu cyflwyno â HCB
wedi rhoi cwyn ffurfiol yn erbyn y mater hwn ac wedi mynd ymlaen i apelio, a chafodd y lleiafrif o’r
apeliadau hynny eu cadarnhau
·
Mae
incwm Kingdom o'i gontract gyda'r Cyngor yn rhannol seiliedig ar ffi gontract
penodol, ac yn rhannol yn incwm wedi’i gynhyrchu fesul HCB a gyhoeddir
·
dymuniad
y Cyngor oedd i ddarparu’r gwasanaeth yn fewnol, ond byddai angen sicrhau
cyllid i alluogi hynny i ddigwydd
·
sbwriel
yn ac o amgylch ysgolion wedi gostwng yn sylweddol yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae
trafodaethau ar y gweill gyda Cadwch Gymru'n Daclus gyda’r
diben i gyflwyno sesiynau i ddisgyblion blwyddyn 6 i'w haddysgu am bwysigrwydd
cadw'r amgylchedd yn daclus mewn ymgais i feithrin ymdeimlad o falchder ynddynt
a fyddai'n cael ei gynnal trwy gydol eu bywydau ac yn cael ei gynnal o un
genhedlaeth i'r llall. Mae'r posibilrwydd o sicrhau cyllid i
gynnal cynllun peilot o'r rhaglen o fewn ysgolion sy'n bwydo Ysgol Brynhyfryd
yn cael ei archwilio ar hyn o bryd
·
angen
cynnal ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus yn erbyn baw cŵn er mwyn cadw
proffil uchel. Gyda hyn mewn cof mae swyddogion yn trafod â'r
Pennaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata gyda'r bwriad o symud ymlaen â'r
ymgyrch yn rheolaidd drwy gyfryngau cymdeithasol, a
·
bod
archwilio o bosib yn dymuno i ni ymgynghori ar y PSPOs drafft maes o law.
Mewn ymateb i
Hysbysiad Cosb Benodedig am achos o ysmygu honedig yn ymwneud â swyddogion
Kingdom a gŵr oedrannus a adroddwyd yn y wasg yn gynharach yn yr wythnos,
dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth a'r Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol fod
y mater ers hynny wedi'i ddatrys yn foddhaol.
Aelodau -
·
awgrymwyd
unwaith y cytunwyd ar y PSPOs a bod y rhain yn cael eu gweithredu y byddai o
bosib yn briodol i staff gorfodi, gan gynnwys Kingdom i hysbysu ac addysgu pobl
amdanynt yn y lle cyntaf cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi yn erbyn tramgwyddau
·
dywedwyd
y dylid ymweld â Ffordd Ystrad, Dinbych drwodd tuag at Brookhouse, a chae pêl-droed
Parc Canolog Dinbych i benderfynu a ddylid eu cynnwys yn y rhestr o ‘ardaloedd
problematig’ ar gyfer baw cŵn
·
wrth
lunio PSPOs arfaethedig dylid eu cymryd mewn ardaloedd lle mae prinder lle i
ymarfer cŵn er mwyn taro cydbwysedd priodol rhwng yr angen am ardaloedd
hamdden diogel i blant a'r cyhoedd ac i gerddwyr/perchnogion cŵn. Defnyddiwyd
Rhuddlan fel enghraifft, yn arbennig Caeau Chwarae Admiral
·
gofynnwyd
hefyd bod Pen Coed, Dinbych yn cael ei ystyried fel ardal posibl ar gyfer PSPO,
a
·
gofynnwyd
bod elfen o hyblygrwydd a synnwyr cyffredin yn cael ei ddefnyddio wrth gyflwyno
hysbysiadau cosb benodedig yn ystod digwyddiadau mawr, megis Sioe Awyr y Rhyl,
lle na all aelodau o'r cyhoedd roi sbwriel ac ati yn y biniau a ddarperir gan
eu bod yn llawn. Cadarnhaodd swyddogion y byddai staff gorfodi yn
cael eu cynghori i ddefnyddio eu disgresiwn mewn digwyddiadau o'r fath ac yn
ymgymryd â rôl mwy ymgynghorol. Byddai'r Tîm Gwasanaethau Amgylcheddol
hefyd wrth law i wagio biniau ac ati unwaith i’r torfeydd wasgaru.
Ar ddiwedd y
drafodaeth dyma’r swyddogion yn darparu’r aelodau gyda'r wybodaeth ddiweddaraf
am nifer y cwynion a gyflwynwyd yn erbyn Kingdom trwy weithdrefn Cwynion
Corfforaethol 'Eich Llais' y Cyngor ac i ail-gyflwyno'r adroddiad ystadegol
chwarterol i aelodau ar nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd. Felly
-
PENDERFYNWYD,
yn amodol ar y sylwadau uchod, i gefnogi'r gwaith rhagorol a wnaed gan
swyddogion ar draws y gwasanaethau i fynd i'r afael â baw cŵn yn y sir.
Dogfennau ategol:
- DOG FOULING STRATEGY UPDATE, Eitem 6. PDF 93 KB
- DOG FOULING STRATEGY UPDATE - APP 1, Eitem 6. PDF 104 KB
- DOG FOULING STRATEGY UPDATE - APP 2, Eitem 6. PDF 87 KB