Eitem ar yr agenda
AIL-OSOD CARTREFI CYNGOR
I ystyried
adroddiad gan y Swyddog Arweiniol – Tai Cymuned (copi ynghlwm) yn ceisio barn
yr aelodau ar ddeilliant perfformiad ar gyfer ail-osod cartrefi Cyngor a’u
cefnogaeth ar gyfer y dull gweithredu sydd wedi ei fabwysiadau gan y Cyngor a'r
targed perfformiad diwygiedig cysylltiedig.
9.40 a.m.– 10.10 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod
Arweiniol dros Foderneiddio a Thai yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
ar berfformiad y Cyngor wrth ail-osod tai Cyngor a'r dull a gymerwyd mewn
perthynas â sicrhau gwell canlyniadau i denantiaid yn hytrach na bodloni'r
dangosydd perfformiad dynodedig. Diben cyflwyno’r adroddiad oedd ymateb i gais gan aelod etholedig gyda
phryderon nad oedd y Cyngor yn cyrraedd y targed ar gyfer ail-osod eiddo fel y
nodir yn y Cynllun Corfforaethol.
Eglurodd y Pennaeth Cyfleusterau, Tai ac Asedau
a'r Swyddog Arweiniol - Tai Cymunedol er bod y Cyngor wedi cwrdd â Safon
Ansawdd Tai Cymru (SATC), roedd y gwaith i fodloni'r safon honno wedi
canolbwyntio ar agweddau penodol o dai cymdeithasol, hy ceginau, ystafelloedd
ymolchi, ffenestri, systemau gwresogi, ac ati. Ar ôl cyflawni’r gwaith hwnnw
cafodd adolygiad ei wneud ar safonau cartrefi wedi’u hail-osod gan y Cyngor i
denantiaid. Yn ôl yr adolygiad hynny, er bod WHQSs wedi eu cwrdd, i gwrdd â'r dangosydd
perfformiad ar gyfer ail-osod tai cyngor roedd yr awdurdod mewn sawl achos yn
ail-osod tai mewn cyflwr gwael o ran gwaith cynnal a chadw yn fewnol ac yn
allanol. Roedd hyn yn annheg ar y tenantiaid newydd, a oedd yn fwy aml na pheidio
heb ddigon o incwm i’w wario ar wella’r eiddo hyd at safon resymol o addurno,
ac ati. Dangoswyd sleidiau Powerpoint i'r pwyllgor i ddangos cyflwr rhai o'r
tai a ail-osodwyd i denantiaid yn y gorffennol a rhai wedi’u hail-osod rŵan
ers i’r cyngor fabwysiadu dull o sicrhau bod ei eiddo yn cael ei ail-osod hyd
at safonau priodol. Y rhesymeg y tu ôl i'r dull oedd bod eiddo yn cael ei ail-osod mewn cyflwr da yn ogystal â’r
addurno y tu mewn a thu allan, gan gynnwys gerddi twt a thaclus, a fyddai'n
annog tenantiaid i gymryd balchder yn eu cartrefi a hefyd yn lleihau ymddygiad
gwrthgymdeithasol mewn rhai ardaloedd. Mae'r gost i'r Cyngor o adnewyddu’r eiddo hyn ar
gyfartaledd tua £1k fesul eiddo, mae arian i wneud y gwaith ar gael yn y Cyfrif
Refeniw Tai (HRA). Eglurodd y swyddogion y broses o adleoli eiddo’r cyngor a chydlynu'r gwaith
cynnal a chadw ac addurno fel eu bod yn cyrraedd y safon gofynnol cyn eu
hail-osod. Ar hyn o bryd mae’r weithred yn cymryd 43 diwrnod, fodd bynnag, yn y dyfodol
rhagwelir y byddai hyn yn lleihau i tua 35 diwrnod a oedd yn dal i fod yn uwch
na'r targed o 26 diwrnod a osodwyd yn y Cynllun Corfforaethol. Gyda’r bwriad o geisio sicrhau bod targed
newydd o 35 diwrnod yn ymarferol a bod y dull newydd a gymerwyd mewn perthynas
ag ail-osod eiddo'r Cyngor mor dynn ag y gallai fod i sicrhau gwell canlyniadau
i denantiaid, mae’r Gwasanaeth Tai wedi comisiynu Archwiliad Mewnol i adolygu'r
prosesau dan sylw.
Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau dywedodd yr
Aelod Arweiniol a'r swyddogion bod -
·
proses
fonitro lem bellach ar waith i sicrhau bod tenantiaid yn cymryd balchder yn eu
heiddo a’u cynnal yn unol â hynny
·
y
Cyngor wedi gosod tua 200 eiddo y flwyddyn
·
mewn amser
y rhagwelir bod yr amser a gymerir i ailosod eiddo yn lleihau gyda’r gobaith y
bydd tenantiaid a oedd wedi ymrwymo i gytundebau tenantiaeth ar eiddo o safon
uchel yn ymfalchïo ynddynt ac yn eu gadael maes o law mewn cyflwr rhesymol
·
y
Gwasanaeth wedi cymryd penderfyniad ymwybodol i ddefnyddio deunyddiau manyleb
uwch wrth adnewyddu eiddo'r Cyngor gan fod y Cyngor yn teimlo y byddai cynnyrch
o ansawdd uwch yn talu ar ei ganfed yn y dyfodol ac yn sylweddoli gwerth am
arian yn y tymor hir
·
y
Pennaeth Gwasanaeth yn ymweld yn rheolaidd ag eiddo'r Cyngor gydag aelod o'r
Tîm Tai
·
yr
isafswm ar gyfer dangosydd perfformiad ar gyfer ail-osod tai cymdeithasol oedd
20 diwrnod, fodd bynnag mae landlordiaid sy'n cyrraedd y targed hwn yn aml yn
tarfu ar fywydau tenantiaid yn ddiweddarach gan orfod gwneud y gwaith cynnal a
chadw pan oeddent yn byw yno. Nid oedd hyn yn sefyllfa ddelfrydol ar gyfer naill ai y tenant neu'r
landlord
·
hysbysebion
i fod i gael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos ar gyfer pedwar Swyddog Datblygu
Cymunedol i weithio fel rhan o’r tîm Tai. Byddai'r swyddogion hyn yn gweithio'n uniongyrchol
gyda thenantiaid a Chymdeithasau Tenantiaid sy’n ymdrin ag unrhyw bryderon oedd
ganddynt gan gysylltu â'r Cyngor ar eu rhan os oes angen. Byddent hefyd yn dod i adnabod y
tenantiaid yn eu hardaloedd gan ddeall eu hanghenion a'u pryderon gan fod yn
'llygaid' a ‘chlustiau’ y Gwasanaeth Tai yn y cymunedau. Rhagwelwyd drwy gael swyddogion wedi'u
lleoli yn y cymunedau y byddai ymdeimlad o barch, balchder a pherchnogaeth yn eu
cymdogaeth a'r amgylchedd yn cael ei feithrin yn y gymuned ac y byddai hyn
hefyd yn helpu i leihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddai bodolaeth Swyddogion Datblygu
Cymunedol hefyd yn darparu gwasanaeth mwy teg ar draws y sir, gan y byddent yn
gwasanaethu ardaloedd trefol a gwledig. Yn y dyfodol efallai y bydd y gweithwyr datblygu
cymunedol newydd yn dymuno ail-gyflwyno'r ymweliadau i stadau gan aelodau lleol
yn eu ward
·
gyda’r
bwriad i sicrhau bod tenantiaid yn cynnal eu heiddo i safon rhesymol a byddai
gweithwyr y Gwasanaeth Eiddo sy’n edrych ar yr eiddo yn gadael cardiau
'boddhad' i’r tenantiaid i roi adborth ar eu sylwadau ar y gwaith a wnaed. Byddai'r gweithwyr hefyd yn cynnal arolwg
o gyflwr yr eiddo. Yn y dyfodol y gobaith yw cyflawni arolwg 'cyflwr' tebyg gan unrhyw aelod o
staff y Cyngor sy’n ymweld ag eiddo'r Cyngor gan y farn oedd ei fod yn ddull
effeithiol o sicrhau bod safonau disgwyliedig yn cael eu bodloni
·
y
gobaith drwy gynnal safon eiddo'r Cyngor ar ystadau yn rhesymol yn fewnol ac yn
allanol, yw bod perchnogion o gyn-eiddo'r cyngor ar yr un stad yn teimlo bod yn
rhaid iddynt hwythau wella cyflwr eu heiddo a gerddi at o leiaf safon gyfatebol
·
roedd
y Gwasanaeth Tai ar hyn o bryd yn gweithio gyda Cartrefi Conwy gyda'r bwriad o
ddysgu gwers o hyn ac o ganlyniad yn gallu gwella terfynau amser a safonau ar
gyfer ail-osod drwy fabwysiadu unrhyw un o'i harferion, ac i'r gwrthwyneb
·
y
Gwasanaeth yn edrych ar wella ei system TG er mwyn gwella darpariaeth
gwasanaeth
·
yn y
tymor hir yr oedd hi’n uchelgais gan y Cyngor i wella ar y targed o ail-osod o
fewn 35 diwrnod. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar strategaethau tai cymdogaeth er
mwyn deall anghenion tai yn y dyfodol, caffael mwy o stoc tai a thir i adeiladu
tai cymdeithasol ac i ailddosbarthu rhai eiddo presennol i'w gwneud yn haws i'w
gosod i unigolion ar gyfer teuluoedd sydd eu hangen
·
gwaith
amgylcheddol yn ardal Tan yr Eglwys o Ruddlan wedi’i gynnwys yn y cynllun
busnes cyfredol ac y byddai'n cael ei gynnal unwaith y bydd yr holl waith
dichonolrwydd rhagarweiniol wedi ei gwblhau
·
y tîm
Strategaeth Tai wedi bod yn gweithio’n agos gyda Landlordiaid Cymdeithasol
Cofrestredig (LCC) yn yr ardal ac os oedd y Cyngor o'r farn nad yw LCC yn
cynnal ei eiddo neu ardaloedd amgylcheddol hyd at y safonau disgwyliedig y
byddai'n rhoi gwybod bod siawns i ran o'i gyllid gan yr awdurdod lleol (grant
tai cymdeithasol) gael ei ddal yn ôl hyd nes y bydd gwaith cynnal a chadw
gofynnol wedi’i gwblhau
·
y tîm
yn ail-ymweld â’r Cynllun 'Arbed' sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar nifer o
eiddo'r cyngor i edrych ar y manteision yn cynnwys ffiniau eiddo o fewn y
Cynllun yn y dyfodol
·
yn
hyderus bod y gwaith yn cychwyn ar brosiectau tai cymdeithasol yn y sir wedi eu
cyflwyno gan y Cyngor cyn diwedd y flwyddyn gan fod tir eisoes wedi ei gaffael
ac arian wedi'i ddyrannu o fewn Cynllun busnes y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y
gwaith. Roedd trafodaethau ar y gweill gyda'r Adran Gynllunio mewn perthynas â
datblygu briff cynllunio ar gyfer Dinbych, a llwybr i'r farchnad ar gyfer
caffaeliadau tir Gogledd y sir.
Ar ddiwedd y drafodaeth, cytunodd y pwyllgor gyda
swyddogion ac Aelodau Arweiniol bod dull o ddarparu trigolion a chymunedau â'r
hyn y tybir yn angenrheidiol i ddiwallu eu hanghenion a’r hyn oedd yn gydnaws â
gwell ansawdd bywyd yn llawer mwy priodol na thargedau 'mynd ar drywydd'. Felly -
PENDERFYNWYD,
yn amodol ar y sylwadau uchod, i gefnogi'r ymagwedd a fabwysiadwyd gan y Cyngor
o ran ail-osod tai Cyngor a'r targed perfformiad diwygiedig cysylltiedig.
Yn y fan hon (10.30 am) cafwyd egwyl am luniaeth.
Dogfennau ategol: