Eitem ar yr agenda
CYFANSODDIAD Y CYNGOR
Ystyried adroddiad
gan y Swyddog Monitro / Dirprwy Swyddog Monitro (copi’n amgaeedig), ar gyfer
sylwadau a mabwysiadu Cyfansoddiad Model Cymru newydd.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd, yr adroddiad (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) er mwyn i’r Aelodau
ystyried a mabwysiadu’r Cyfansoddiad Enghreifftiol newydd a gwneud sylwadau
arno.
Mae gan y Cyngor
Llawn gyfrifoldeb cyfreithiol i fabwysiadu'r Cyfansoddiad yn unol â Deddf
Llywodraeth Leol 2000.
Yn ystod y
deuddeg mis diwethaf mae Gweithgor y Cyfansoddiad, sy’n cynnwys cynrychiolaeth
drawsbleidiol, wedi cyfarfod i ystyried y newidiadau arfaethedig; cyn i’r
Swyddog Monitro adrodd ar bob cam o gynnydd i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol.
Cynhaliwyd
gweithdy Aelodau ym mis Mawrth 2016 er mwyn trafod a chyflwyno aelodaeth
ehangach i’r Cyfansoddiad newydd arfaethedig a galluogi’r Swyddog Monitro i
lywio’r newidiadau arfaethedig.
Tynnwyd sylw'r
Aelodau at y newidiadau canlynol:
· Adran Diffiniad Estynedig
· Adran 2 (2.6) – Caniatáu’r Swyddog Monitro
i wneud mân newidiadau i'r Cyfansoddiad
· Adran 3 – Sut y gall aelodau o’r cyhoedd
gael gwybodaeth a chymryd rhan
· Adran 4 (4.2) – Fframwaith Polisi wedi ei
ddiweddaru
(4.13.2) – Eglurhad o hyd cyfarfodydd.
(4.16) – Eglurhad o gworwm.
(4.17) – Ar hyn o bryd ni chaniateir mynychu unrhyw gyfarfod, pwyllgor nac
is-bwyllgor o bell.
(4.18) – Cwestiynau gan y cyhoedd – wedi ei gyfyngu i 30 munud.
· Adran 7 – Esboniad ychwanegol o’r broses.
· Adran 9 – Rhestru pob pwyllgor rheoleiddio
a phwyllgor arall, gan gynnwys Cydbwyllgorau.
· Adran 11 – Pwy yw swyddogion statudol
‘priodol’ y Cyngor a’u swyddogaethau a’u meysydd cyfrifoldeb.
· Adran 12 – Cyllid, Contractau a Materion
Cyfreithiol a chael gwared ar yr angen i Gadeirydd y Cyngor lofnodi pob
contract yn unigol a thrafodion eiddo a wneir dan sêl.
· Adran 13 – Cynllun Dirprwyo Aelodau
Cabinet diwygiedig a Chynllun Dirprwyo Swyddogion diwygiedig.
· Adran 17 – Rheolau’r Weithdrefn Gontractau
- newidiadau wedi eu hychwanegu yn 2.7.
· Adran 18 – Cod Ymddygiad Aelodau, a
gymeradwywyd yn ddiweddar, wedi ei ychwanegu.
(18.3) – Protocol diwygiedig ar gyfer Perthynas rhwng Aelodau a Swyddogion.
(18.4) – Polisi Rhannu Pryderon newydd wedi ei ychwanegu.
(18.8) – Fersiwn ddiweddaraf cymeradwyo o’r Cod Arferion Gorau i Gynghorwyr
a Swyddogion sy'n delio â Materion Cynllunio wedi ei ychwanegu.
· Adran 20 - Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol
wedi ei diweddaru a'i hychwanegu.
Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:
· Gofynnodd y Cynghorydd Hugh Irving a oes
modd cynnwys egwyddorion Nolan yn y Cyfansoddiad.
Eglurodd y Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd fod Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001
yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru a’i fod yn cynnwys tair egwyddor ychwanegol i
egwyddorion Nolan. CYNIGIODD y Cynghorydd Hugh
Irving y dylid cynnwys Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001
yn y Cyfansoddiad, EILIWYD hyn gan y Cynghorydd Martyn Holland.
· Holodd yr Aelodau ynghylch yr elfen
penderfyniadau dirprwyedig a geir yn y Cyfansoddiad gan nad oeddent yn
siŵr a fyddent yn cael gwybod am unrhyw benderfyniad dirprwyedig
arfaethedig.
Eglurwyd y bydd penderfyniadau dirprwyedig Aelodau Arweiniol yn cael eu
hanfon at yr holl Aelodau cyn i'r adroddiad gael ei wneud, gyda chais am
sylwadau. Unwaith y bydd y penderfyniad wedi ei wneud, os yw’r Aelodau yn
anghytuno â'r penderfyniad, yna fe ellir dilyn y broses "galw i
mewn".
· Cadarnhaodd y Swyddog Monitro/Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y byddai ‘r canllawiau
drafft yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol unwaith y
bydd canllawiau wedi eu gosod ynghylch penderfyniadau allweddol a
phenderfyniadau eraill.
· Holodd y Cyng. Alice Jones a yw’r broses
archwilio yn ddigon cadarn.
Dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod wedi cyflwyno cais archwilio fis
Chwefror, ond nad oedd wedi derbyn unrhyw ymateb. Argymhellodd y dylid
ail-edrych ar Adran 7 yn y Cyfansoddiad i sicrhau bod archwilio yn fwy effeithiol. Ymatebodd Cadeirydd Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio, y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, i’r Cynghorydd Jones gan esbonio bod y cais
cychwynnol yn ymwneud â mater unigol a bod gwybodaeth bellach wedi ei geisio i
ganfod sut y mae'n effeithio ar Sir Ddinbych yn ei chyfanrwydd. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro/Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y byddai'n ystyried
unrhyw fater sy’n cael ei gyflwyno iddo gan Aelodau. CYNIGIODD y Cynghorydd
Alice Jones y dylid ail-edrych ar Adran 7 (Archwilio), a nodi a chytuno ar
weddill y Cyfansoddiad. EILIWYD hyn gan y Cynghorydd Arwel Roberts.
· Diolchodd y Cynghorydd Barbara Smith i
holl Aelodau'r Gweithgor, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd a’r staff am eu gwaith rhagorol.
Mae’r Cyfansoddiad newydd wedi ei llunio gyda chyfraniadau gan Gynghorwyr a
Swyddogion. Mae’n ddogfen fyw y gellid ei newid a'i haddasu pan fo angen.
· Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh
Evans, ei fod yn ddiolchgar iawn o’r gwaith a wnaed ar y Cyfansoddiad.
Bydd y ddogfen hon ar waith i sicrhau na fydd oedi gyda gwneud
penderfyniadau.
· Soniodd y Prif Weithredwr am bwysigrwydd
cael Cyfansoddiad ac i barhau i adolygu’r ddogfen.
Anogwyd
yr Aelodau i gynnig awgrymiadau ar sut i wella'r ddogfen.
Eglurodd y
Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd y byddai’r Aelodau yn pleidleisio ar y diwygiad cyntaf a gynigiwyd
gan y Cynghorydd Hugh Irving ynglŷn â Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion)
(Cymru) 2001 yn y lle cyntaf, ac yna ar y diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd
Alice Jones ynglŷn ag archwilio. Yn dilyn y ddwy bleidlais yma, cynhelir y brif bleidlais ar y
Cyfansoddiad.
Felly, cynhaliwyd
pleidlais ar gynnwys Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 yn
y Cyfansoddiad:
PLEIDLAIS:
O blaid - 27
Ymatal - 0
Yn erbyn - 0
Cytunwyd i
ddiwygio’r Cyfansoddiad i gynnwys Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion)
(Cymru) 2001.
Cynhaliwyd
pleidlais ar adolygu Adran 7 (Archwilio) a chyflwyno adroddiad pellach i’r
Cyngor ym mis Hydref, a chymeradwyo gweddill y Cyfansoddiad:
PLEIDLAIS:
O blaid - 9
Ymatal - 1
Yn erbyn - 16
Gwrthodwyd y
diwygiad.
Cynhaliwyd
pleidlais ar yr argymhelliad sylweddol, gan gynnwys cynnwys Gorchymyn Ymddygiad
Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001:
PLEIDLAIS:
O blaid - 23
Ymatal - 2
Yn erbyn - 1
PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn nodi ac yn mabwysiadu'r Cyfansoddiad, ynghyd â chynnwys Gorchymyn
Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001.
Dogfennau ategol:
- Council Constitution W, Eitem 6. PDF 92 KB
- Appendix 1 - Model Constitution July 2016, Eitem 6. PDF 3 MB