Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD RHEOLI TRYSORLYS
Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi wedi’i amgáu) ar y Adolygiad Rheoli
Trysorlys.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid wedi
cael ei ddosbarthu yn flaenorol.
Rhoddodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill grynodeb
manwl o'r adroddiad ac Atodiadau 1 a 2.
Roedd yr Adroddiad Blynyddol ar Reoli Trysorlys
2015/16, Atodiad 1 yn sôn am weithgarwch buddsoddi a benthyca'r Cyngor yn ystod
2015/16. Roedd yn rhoi manylion am yr hinsawdd economaidd ar yr adeg honno ac
yn dangos sut y cydymffurfiodd y Cyngor â'i Ddangosyddion Darbodus. Roedd yr
Adroddiad Diweddaru ar Reoli Trysorlys, Atodiad 2, yn rhoi manylion am
weithgarwch Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2016/17.
Roedd y term ‘rheoli trysorlys’ yn cynnwys rheoli
benthyca, buddsoddiadau a llif arian y Cyngor. Roedd oddeutu £0.5bn yn
mynd trwy gyfrifon banc y Cyngor bob blwyddyn, ac roedd swm benthyca’r cyngor
heb ei dalu ar 31 Mawrth 2016 yn £190.17m ar gyfradd gyfartalog o 4.95% ac
roedd gan y Cyngor fuddsoddiadau o £12miliwn ar gyfradd gyfartalog o 0.61%.
Cytunwyd gan y
Cyngor ym mis Hydref 2009 y dylai’r gwaith o lywodraethu Rheoli Trysorlys fod
yn destun archwilio gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Rhan o’r rôl
hon oedd cael diweddariad ar weithgareddau rheoli trysorlys ddwywaith y
flwyddyn ac i adolygu’r Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer
2015/16. Byddai’r tîm Rheoli Trysorlys
yn darparu adroddiadau a hyfforddiant i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
yn unol â'r amserlen yn yr adroddiad.
Roedd Rheoli Trysorlys yn faes cymhleth ac
ystyriwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn fwy priodol na’r Cyngor
i gael y diweddariadau hyn fel y gellid neilltuo cyfanswm yr amser a’r
ymrwymiad i’r maes hwn. Roedd yn ofynnol i’r Pwyllgor gael lefel benodol o
ddealltwriaeth yn y maes hwn a chaiff hyn ei gyflawni drwy ddiweddariadau a
sesiynau hyfforddi rheolaidd.
Roedd rôl y
Pwyllgor yn cynnwys:-
·
deall y Dangosyddion Darbodus
·
deall effaith benthyca ar y sefyllfa refeniw
·
deall y cymhellion ehangach sy’n cael effaith ar
weithgarwch Rheolwyr Trysorlys y Cyngor
·
sicrhau bod y Cyngor bob amser yn gweithredu mewn modd darbodus
mewn perthynas â'i weithgareddau Rheoli Trysorlys
Diben Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol (Atodiad
1) oedd:
·
cyflwyno manylion am gyllid cyfalaf, benthyca, ad-drefnu
dyledion a thrafodion buddsoddi yn 2015/16;
·
adrodd am
oblygiadau risg penderfyniadau a thrafodion y trysorlys;
·
cadarnhau cydymffurfiaeth â therfynau’r trysorlys a
Dangosyddion Darbodus.
Roedd adroddiad diweddaru Rheoli Trysorlys, Atodiad
2, yn rhoi manylion am y canlynol:-
·
Amgylchedd economaidd allanol
·
Risgiau
·
Gweithgaredd
·
Rheolaethau
·
Gweithgarwch yn y Dyfodol
Roedd penderfyniadau buddsoddi a benthyca da yn
caniatáu i adnoddau ychwanegol gael eu cyfeirio at wasanaethau eraill y Cyngor,
ac roedd y Cyngor wedi ymgynghori â'i gynghorwyr trysorlys, Arlingclose
Ltd. Roedd Rheoli Trysorlys yn ymwneud â
gofalu am symiau sylweddol o arian parod felly roedd yn rhan hanfodol o waith y
Cyngor. Roedd angen strategaeth gadarn a rheolaethau
priodol i ddiogelu arian y Cyngor er mwyn sicrhau enillion rhesymol ar
fuddsoddiadau a bod dyled yn cael ei reoli’n effeithiol ac yn ddoeth.
Mabwysiadodd y Cyngor y Cod Ymarfer diwygiedig SSCCCh ar Reoli Trysorlys yn
Chwefror 2012. Roedd yn ofyniad gan y Cod hwnnw i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol gael y wybodaeth ddiweddaraf ar weithgareddau Rheoli Trysorlys
ddwywaith y flwyddyn ac adolygu Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol. Roedd y Cyngor
wedi cymeradwyo Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol sy’n cynnwys buddsoddi tua
£92m i ddarparu ei flaenoriaethau dros y bedair blynedd nesaf. Roedd yn hanfodol
bod gan y Cyngor swyddogaeth Rheoli Trysorlys gadarn ac effeithiol sy’n ategu’r
buddsoddiad hwn a’r holl weithgareddau eraill.
Roedd Rheoli Trysorlys ynddo’i hun yn risg, ond roedd y Cyngor yn monitro
ac yn rheoli’r risgiau hyn fel yr amlinellir yn y prif adroddiad. Fodd bynnag,
roedd yn amhosibl i gael gwared ar risgiau yn gyfan gwbl. Cafodd strategaeth a
gweithdrefnau rheoli trysorlys y cyngor eu harchwilio’n flynyddol ac roedd
adolygiad yr archwiliad mewnol diwethaf yn gadarnhaol ac ni chodwyd unrhyw
faterion sylweddol.
Darparwyd yr ymatebion canlynol i’r materion a godwyd gan Aelodau'r
Pwyllgor:-
-
Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi derbyn rhybuddion a
diweddariadau rheolaidd, o ddydd i ddydd, a chyfeiriwyd yn arbennig at effaith
Brexit.
-
Y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym
mis Gorffennaf 2016.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi:-
(a) perfformiad
swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2015/16 a’i fod yn cydymffurfio
â’r Dangosyddion Darbodus fel y nodir yn yr Adroddiad Blynyddol ar Reoli
Trysorlys 2015/16, Atodiad 1.
(b) cynnwys yr
adroddiad diweddaru Rheoli Trysorlys, Atodiad 2 i'r adroddiad, a
(c) bod yr adroddiad yn
cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Gorffennaf 2016.
(RW, SG i Weithredu)
Dogfennau ategol:
- CGC TM Cover Report, Eitem 7. PDF 100 KB
- CGC App 1 TM Review Report 13 Jul 16, Eitem 7. PDF 165 KB
- CGC App 2 TM Update Report 13 Jul 16, Eitem 7. PDF 61 KB