Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED SAFLE NEWYDD – THE POTS, 22 STRYD FAWR, Y RHYL
Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
o ran The Pots, Stryd Fawr, Y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a phapurau
cysylltiedig ynghlwm).
Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor
(sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais yn destun amodau.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ar -
(i)
gais a oedd wedi dod i law gan Yvette Giblin am Drwydded
Safle newydd mewn perthynas â The Pots, 22 Stryd Fawr, Y Rhyl;
(ii)
yr ymgeisydd a
oedd wedi gofyn am ganiatâd i ddarparu’r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol:
GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG |
DYDDIAU PERTHNASOL |
AMSER O |
AMSER I |
Darparu cerddoriaeth
fyw (Dan do yn unig) |
Dydd Iau dydd Gwener a dydd
Sadwrn |
19:00 19:00 |
23:00 02:00 |
Darparu Cerddoriaeth
wedi’i Recordio (Dan do yn unig) |
Dydd Llun – Dydd Iau dydd Gwener a dydd
Sadwrn Dydd Sul |
11:00 11:00 11:00 |
23:00 02:00 00:00 |
Darparu Alcohol |
Dydd Llun - Dydd
Mercher Dydd Iau dydd Gwener a dydd
Sadwrn Dydd Sul |
11:00 11:00 11:00 11:00 |
23:00 00:00 02:00 00:00 |
(iii)
yr ymgeisydd a oedd wedi nodi y chwaraeir gerddoriaeth
fyw wedi’i chwyddo tan 02:00 ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn unwaith neu
ddwywaith y mis yn unig; gall perfformiadau actiwstig ddigwydd ar ôl 23:00;
byddai cerddoriaeth fyw hefyd yn cael ei darparu ar Nos Galan tan 02:00; byddai
cerddoriaeth wedi’i recordio yn cynnwys cyfuniad o gerddoriaeth gefndir a DJ.
(iv)
yy Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd
Cymru a oedd wedi cyflwyno sylwadau (Atodiad A i'r adroddiad) nad oedd y darpariaethau
diogelwch tân cyfredol ar y safle yn addas a chyfleus ar gyfer y defnydd
arfaethedig, ac yn manylu ar y meysydd pryder ac argymhellion i fynd i'r afael
â'r diffygion yn ymateb i'r cais a oedd wedi ei rannu gyda'r ymgeisydd;
(v)
Heddlu Gogledd Cymru, ar ôl cyflwyno sylwadau ar y cais
ond yn dilyn trafodaethau gyda'r ymgeisydd lluniwyd nifer o amodau sydd wedi eu
cynllunio i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ymhellach (Atodiad B i’r adroddiad)
ac ar y sail honno gofynnodd yr Heddlu, pe byddai’r aelodau o blaid
cymeradwyo’r cais, eu bod yn ystyried cynnwys yr amodau hynny o fewn Atodlen
Weithredu’r eiddo (Atodiad C i’r adroddiad);
(vi)
roedd yr ymgeisydd wedi nodi ei pharodrwydd i weithio
gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i gyflawni eu gofynion ac argymhellion
a’i bod yn gweithio gyda pherchnogion yr eiddo yn hynny o beth;
(vii)
yr angen ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i
Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; i Ganllawiau a gyhoeddwyd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol; i ddeddfwriaeth arall berthnasol ac i sylwadau perthnasol
a dderbyniwyd.
(viii)
yr opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar
y cais.
Cafodd yr Aelodau eu
harwain trwy’r adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu a amlinellodd ffeithiau'r
achos.
SYLWADAU GWASANAETH TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU
Roedd Mr. Bob Mason,
Dirprwy Pennaeth Busnes a Diogelwch Tân a Mr Nigel Day, Swyddog Cydymffurfio yn
bresennol ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac ymhelaethwyd ar
bryderon Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn perthynas â'r safle.
Ar y pwynt hwn,
cyrhaeddodd yr Ymgeisydd, Ms Yvette Giblin y cyfarfod yng nghwmni ei
chynrychiolydd Mr. Sean Jones.
Parhaodd y Swyddogion Tân
gyda'u cyflwyniad a chyfeirio at eu sylwadau ysgrifenedig (Atodiad A i'r
adroddiad) yn tynnu sylw at feysydd o bryder oedd angen mynd i'r afael â hwy
cyn i’r adeilad agor ynghyd â'u hargymhellion i gyflawni'r nod hwnnw. Roedd y pum prif fethiant a
nodwyd i gyd yn faterion diogelwch cyhoeddus o bwys a chyfeiriwyd hefyd at
gyngor ewyllys da ynghylch diogelwch trydanol. Ers eu harolygiad diwethaf, roedd Raven Solar
and Electrical Services wedi cynnal peth gwaith adfer ar y safle o ran y larwm
tân a goleuadau ac roedd Adroddiad Arolygu a Gwasanaethu ar gael i'r aelodau yn
y cyfarfod. Fodd bynnag roedd pryderon
yn parhau dros agweddau eraill a nodwyd o ran diogelwch trydanol a oedd angen
gwaith adferol ar unwaith. Dywedodd y
Swyddog Tân, er bod rhywfaint o waith wedi'i wneud, y byddai ymrwymiadau
pellach yn ofynnol cyn y gellid ystyried yr
adeilad yn addas at y diben. O
ganlyniad gofynnwyd i'r aelodau i ohirio cyflwyno trwydded hyd nes bydd y
gwaith angenrheidiol wedi ei wneud.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD
Dywedodd yr Ymgeisydd,
Ms. Yvette Giblin a'i chynrychiolydd, Mr. Sean Jones bod yr holl waith adfer
angenrheidiol fel y nodwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ei
wneud. Roedd Tystysgrif Trydanol yn
manylu ar y gwaith hynny wedi cael ei roi i Parkers Leisure (perchennog yr adeilad)
a oedd wedi e-bostio copi yn uniongyrchol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd
Cymru. Dywedodd y Swyddogion Tân nad
oeddent wedi derbyn y Dystysgrif Trydanol nac wedi ei gweld.
Ymatebodd yr Ymgeisydd
a'i chynrychiolydd i gwestiynau fel a ganlyn -
·
manylodd ar leoliad y safle a'i fod ar y llawr cyntaf a'r
ail lawr uwchben caffi a siop ddillad gyda mynedfa llawr gwaelod i'r grisiau
·
yn draddodiadol roedd y safle wedi cael ei ddefnyddio fel
neuadd snwcer / pŵl a'r bwriad oedd i barhau â’r traddodiad hwnnw gyda
prif ardal y bar ar y llawr cyntaf
·
byddai'r ail lawr hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer
swyddogaethau eraill a'r bwriad oedd cynnal digwyddiad byw unwaith y mis
·
roedd yr eiddo wedi bod yn wag am 8/9 mis.
Gofynnodd yr Aelodau
hefyd gwestiynau i'r Swyddogion Tân a dywedodd -
·
er bod llwybr dianc digonol ar gael ar y safle pan oedd
yn cael ei ddefnyddio fel neuadd snwcer / pŵl, nid oedd yn lleoliad
delfrydol ar gyfer digwyddiadau megis bandiau byw - felly rhoddwyd ffigwr
uchafswm deiliadaeth o 200 yn y gorffennol
·
Nid oedd y Swyddogion Tân wedi gweld asesiad risg tân a
wnaed mewn perthynas â'r safle eto ond roeddent yn fodlon gweithio gyda'r
ymgeisydd i gyflawni’r canlyniad hwnnw – roedd llawer o'r gwaith hwnnw eisoes
wedi cael ei wneud a byddai'n cael ei atgyfnerthu ymhellach gyda'r Ymgeisydd fel
byddai materion yn symud ymlaen.
CYFLWYNIAD HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Nid oedd cynrychiolydd o
Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am y sylwadau ysgrifenedig a nifer o amodau
a gytunwyd rhwng yr Ymgeisydd a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn hyrwyddo'r
amcanion trwyddedu ymhellach (i'w weld yn Atodiad B i'r adroddiad). Gofynnodd yr Heddlu a fyddai’r aelodau'n
penderfynu caniatáu'r cais pe baent yn ystyried ymgorffori’r amodau hynny o
fewn yr Atodlen Weithredu.
DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD
Wrth wneud datganiad
terfynol dywedodd Mr. Jones fod yr holl waith sy'n ofynnol gan Wasanaeth Tân ac
Achub Gogledd Cymru wedi eu gwneud a bod yr Ymgeisydd yn fodlon gweithio gyda
hwy i sicrhau eu boddhad. Adroddodd am
eu gweithrediad blaenorol o eiddo trwyddedig a oedd wedi bod yn ddidrafferth a
rhoddwyd sicrwydd eu bod yn dafarnwyr cyfrifol.
Cyn trafodaeth yr
aelodau, cytunodd y Cadeirydd i ohiriad byr er mwyn caniatáu amser i'r
Ymgeisydd i gael copi o'r Dystysgrif Trydanol y cyfeiriwyd ati yn ei
chyflwyniad fel tystiolaeth o'r gwaith adferol a wnaed. Nodwyd bod angen tystiolaeth bellach o ran y
Dystysgrif Cynnal a Chadw hefyd ac roedd perchnogion yr eiddo yn disgwyl am hon
ar hyn o bryd.
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (10.30
a.m.) gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais. Yna darparwyd copi o'r Dystysgrif Trydanol yr
ystyriodd yr aelodau yn ystod eu trafodaethau.
PENDERFYNIAD A RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr amodau a nodir isod, rhoi Trwydded Safle
ar gyfer y canlynol -
GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG |
DYDDIAU PERTHNASOL |
AMSER O |
AMSER I |
Darparu cerddoriaeth fyw (Dan do yn unig) |
Dydd Iau dydd Gwener a dydd Sadwrn |
19:00 19:00 |
23:00 02:00 |
Darparu Cerddoriaeth wedi’i Recordio (Dan do yn unig) |
Dydd Llun – Dydd Iau dydd Gwener a dydd Sadwrn Dydd Sul |
11:00 11:00 11:00 |
23:00 02:00 00:00 |
Darparu Alcohol |
Dydd Llun - Dydd Mercher Dydd Iau dydd Gwener a dydd Sadwrn Dydd Sul |
11:00 11:00 11:00 11:00 |
23:00 00:00 02:00 00:00 |
AMODAU
Gwasanaeth Tân ac Achub
Gogledd Cymru -
Rhaid datrys y sylwadau
a roddwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn eu cyflwyniad, ac fel
manylwyd yn Atodiad A i'r adroddiad, i’w boddhad cyn y cyflwynir y
drwydded. Uchafswm deiliadaeth o 200 o
bobl.
Fel y cawsant eu
cyflwyno gan Heddlu Gogledd Cymru -
Atal Trosedd ac Anhrefn
1) TCC
a) Bydd system teledu cylch caeedig yn cael ei gosod
yn yr adeilad a bydd ar waith pryd bynnag y bo’r safle ar agor.
b) Bydd gan y system teledu cylch caeedig gamerâu yn
monitro tu mewn a thu allan yr adeilad.
c) Yn achos tu mewn yr eiddo bydd digon
o gamerâu wedi eu gosod i weld pob rhan o’r adeilad y mae gan y cyhoedd
fynediad iddynt, ac eithrio ardal y toiledau.
d) Dylai bod y TCC yn edrych ar yr holl bwyntiau
mynediad a gadael gan ddangos pen ac ysgwydd yn glir. Bydd y system teledu
cylch cyfyng o safon sy'n gallu darparu delweddau o ansawdd tystiolaethol ac yn
gallu adnabod wynebau ym mhob golau.
e) Bydd gan y system teledu cylch caeedig gyfleuster i
recordio delweddau o bob camera a chaiff y lluniau hyn yn cael eu cadw am o
leiaf 28 diwrnod
f) Bydd y
system teledu cylch caeedig yn cynnwys cyfleuster sy’n cynnwys y dyddiad
a'r amser cywir ar y delweddau sy’n cael eu recordio
g) Bydd gan y system teledu cylch caeedig gyfleuster
er mwyn gallu llwytho delweddau i ryw fath o gyfrwng cludadwy.
h) Cyfrifoldeb deiliad y drwydded safle yw darparu
cyfryngau symudadwy, a phe bai cyfryngau symudadwy yn cael eu hatafaelu, mae'n
gyfrifoldeb ar y safle i sicrhau bod fformatau ychwanegol o gyfryngau symudadwy
ar gael. Bydd delweddau o’r system teledu cylch cyfyng ar gael i Heddlu neu
swyddogion yr Awdurdod Lleol pe baent yn gofyn am hynny.
i) Bydd o leiaf un aelod o staff a fydd wedi'i
hyfforddi i weithredu’r system teledu cylch caeedig ac a fydd yn gallu
darparu'r delweddau a recordiwyd o'r system teledu cylch caeedig ar ddyletswydd
ar bob achlysur pan fo’r eiddo ar agor.
j) Rhaid i'r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig sicrhau bod
gwiriadau wythnosol yn cael eu gwneud ar weithrediad y system teledu cylch
cyfyng – eir i’r afael ag unrhyw ddiffygion yn y system ar unwaith.
k) Rhaid i hyn gynnwys gwiriad gweithrediad y camerâu,
y cyfleusterau recordio, cyfleusterau ar gyfer darparu delweddau a chywirdeb yr
amser a'r dyddiad.
l) Rhaid cadw cofnod ysgrifenedig o'r archwiliadau
hyn, gan gynnwys llofnod y person sy'n cynnal yr archwiliad.
m) Rhaid i’r cofnod ysgrifenedig hwn gael ei gadw ar y
safle bob amser ac ar gael i gynrychiolydd o unrhyw awdurdod cyfrifol ar eu cais.
2) CYN cael caniatâd i ymgymryd â
gwerthu alcohol rhaid i bob aelod o staff heb drwydded bersonol, gan gynnwys
unrhyw aelodau o staff di-dâl, aelodau o'r teulu a phobl achlysurol a allai fod
yn gysylltiedig â gwerthu alcohol ar y safle, gael eu hyfforddi yn eu
cyfrifoldebau o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ac unrhyw ddiwygiadau dilynol i'r
Ddeddf honno - yn benodol byddant yn cael hyfforddiant o ran gwerthu alcohol i
bobl sydd wedi meddwi.
n) Cynhelir hyfforddiant diweddaru mewn perthynas â 2)
uchod ar gyfer pob aelod o staff sy'n ymwneud â gwerthu alcohol bob chwe mis.
4) Dylid cadw cofnod
o'r hyfforddiant cychwynnol a’r hyfforddiant diweddaru dilynol a dderbyniwyd a
dylid gallu eu cyflwyno i Heddlu neu swyddogion yr Awdurdod Lleol ar gais.
5) Llyfr Digwyddiadau a
Gwrthod - rhaid cadw llyfr digwyddiadau a gwrthod (gyda’r tudalennau wedi’u
rhifo) ar y safle a bydd ar gael i'w archwilio gan yr awdurdodau cyfrifol.
Rhaid defnyddio'r llyfr digwyddiadau a gwrthod i gofnodi'r canlynol -
a)
Unrhyw achos o
drais neu anhrefn ar neu yn union y tu allan i'r safle.
b)
Unrhyw
ddigwyddiad sy'n ymwneud â chyffuriau (cyflenwi / meddiant / dylanwad) ar y
safle.
c)
Unrhyw drosedd
neu weithgarwch troseddol arall ar y safle.
d)
Unrhyw
wrthodiad i weini alcohol i bobl sy'n feddw.
e)
Unrhyw wrthodiad
i weini alcohol i rai dan 18 oed neu unrhyw un sy'n ymddangos o dan 18 oed.
f)
Unrhyw alwad am
gymorth yr heddlu i'r eiddo.
g)
Unrhyw un sy’n
cael eu taflu allan o’r safle
h)
Unrhyw gymorth
cyntaf / gofal arall a roddwyd i gwsmer.
6) Mae’n rhaid i'r llyfr
digwyddiadau a gwrthod fod ar gael i'w archwilio gan awdurdodau cyfrifol ar
gais. Gall yr wybodaeth hon hefyd gael ei chofnodi yn electronig trwy
ddefnyddio system til neu system debyg.
7) Dylid adolygu’r
llyfr digwyddiadau a gwrthod bob pythefnos gan y rheolwyr adeiladau a
llofnodi/dyddio i gadarnhau cydymffurfiaeth.
8) Bydd y cofnod llyfr
digwyddiadau a gwrthod ar gael i'w archwilio ar gais swyddogion Heddlu Gogledd
Cymru neu'r Awdurdod Lleol ar eu cais.
9) Ar adegau pan fydd
yr eiddo ar agor y tu hwnt i 00:00, bydd y safle yn cyflogi o leiaf un staff
drws SIA cofrestredig o 22:00 pm tan yr amser bydd y safle wedi cau a bydd yr
holl gwsmeriaid wedi gadael.
10) Bydd y safle’n
cynnal asesiad risg ar gyfer unrhyw ddigwyddiad a bydd yn asesu'r angen am
staff drws. Os yw digwyddiad angen penodi staff drws, yna byddant yn cael eu
cyflogi mewn cymhareb o 1:100 a byddant wedi’u cofrestru gyda SIA.
Amddiffyn Plant Rhag
Niwed
1) Bydd y safle yn
gweithredu polisi gwirio oedran Her 25
2) Bydd yr holl staff,
gan gynnwys unrhyw aelodau di-dâl o staff, aelodau'r teulu a phobl achlysurol
sy'n ymwneud â gwerthu alcohol yn cael eu hyfforddi yn y polisi Her 25 CYN cael
caniatâd i werthu alcohol a byddant yn ymgymryd â hyfforddiant gloywi bob chwe
mis fel isafswm.
3) Bydd cofnodion o'r
hyfforddiant Her 25 yn cael ei gadw a bydd ar gael i'w archwilio ar gais gan
swyddogion Heddlu Gogledd Cymru neu'r Awdurdod Lleol ar gais.
4) Bydd plant (o dan 18
oed) yn cael dod i’r eiddo dim ond os ydynt yng nghwmni oedolyn bob amser.
5) Ni fydd unrhyw blant
(o dan 18 oed) yn cael bod ar y safle ar ôl 21.00 o'r gloch.
Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad
yr Is-bwyllgor i bob parti yn y cyfarfod a rhoddodd y Cyfreithiwr y rhesymau
dros y penderfyniad fel a ganlyn -
Ystyriodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu yr holl gyflwyniadau a'r dystiolaeth a
gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd a phartïon perthnasol. Ystyriodd yr Aelodau fod gosod amodau, fel y
nodwyd uchod, yn angenrheidiol er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu - yn
benodol Atal Trosedd ac Anrhefn, Amddiffyn Plant rhag Niwed a Diogelwch y
Cyhoedd.
Daeth y cyfarfod i ben am 10.50
a.m.
Dogfennau ategol: