Eitem ar yr agenda
PROSIECT GOFAL IECHYD SYLFAENOL PRESTATYN A RHUDDLAN IACH
- Meeting of Pwyllgor Craffu Partneriaethau, Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2016 9.30 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Ystyried
adroddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar
y cynnydd gyda’r Prosiect Gofal Iechyd Sylfaenol Prestatyn a Rhuddlan Iach.
10.10 a.m. – 10.45 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd Dr.
Chris Stockport yr eitem a thrwy gyflwyniad PowerPoint rhoddodd ddarlun o’r
ardal ddaearyddol a gwmpesir gan y gwasanaeth newydd.
Eglurodd fod y
gwasanaeth yn darparu ystod o wasanaethau gofal iechyd i gleifion sydd wedi
cofrestru mewn 5 meddygfa yn ardal Rhuddlan a Phrestatyn, ac yn darparu
gwasanaethau i'w cleifion, yr oedd rhai ohonynt yn byw yn Sir Ddinbych ac
eraill yn Sir y Fflint. Roedd BIPBC wedi bod yn cynllunio ar gyfer
cyflwyno'r math hwn o gyfleuster gofal iechyd cyfannol yng Ngogledd Cymru ers
peth amser. Serch hynny, roedd yn rhaid brysio i’w gyflwyno yn dilyn tri
ymddiswyddiad contract meddygon teulu yn ardaloedd Prestatyn a Rhuddlan yn hwyr
yn 2015, ddechrau 2016.
O ganlyniad i'r
ymddiswyddiadau hyn, sefydlodd y Bwrdd Iechyd y prosiect Prestatyn a Rhuddlan
Iach. Oherwydd cyfyngiadau amser a chyfyngiadau ymarferol, nid oedd pob
agwedd ar y prosiect yn gwbl weithredol eto, ond o 1 Ebrill 2016 roedd
gwasanaethau craidd wedi bod ar gael. Dywedodd Dr Stockport fod:
·
5 o'r
partneriaid meddyg teulu blaenorol wedi cofrestru ar gyfer y prosiect ar sail
barhaol a 5 o feddygon teulu eraill wedi ymuno â'r fenter. Roedd bob meddyg
teulu bellach yn gyflogedig gan y Bwrdd Iechyd yn hytrach na phartneriaid yn y
feddygfa;
·
Yn
ogystal, roedd aelodau eraill o staff naill ai wedi cael eu trosglwyddo i'r
Prosiect neu wedi ymuno ag ef o rywle arall, roedd y rhain yn cynnwys Cydlynwyr
Tîm (a wnaeth y gwaith gweinyddol a sicrhau bod y gweithwyr proffesiynol yn y
lle cywir ar yr adeg gywir), ymarferwyr nyrsio, therapyddion galwedigaethol,
fferyllwyr clinigol, ffisiotherapyddion ac awdiolegydd. Roedd cael ystod
o sgiliau ar gael yn y prosiect wedi hwyluso’r gwaith o adlinio sgiliau a
lleddfu pwysau ar feddygon teulu, fel y gallent nawr atgyfeirio cleifion at
weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill â chymwysterau priodol yn ôl yr
angen;
·
Pwysleisiodd
nad oedd yr holl atebion i ofal iechyd sylfaenol llwyddiannus yn gorwedd o fewn
y GIG, roedd y Prosiect hwn wedi profi hyn ac roedd ei lwyddiant hyd yma o
ganlyniad i'r dull partneriaeth effeithiol a fabwysiadwyd gan yr holl
sefydliadau sector cyhoeddus a gwirfoddol a oedd yn ymwneud ag ef;
·
Nid yw'r
model sydd bellach yn gweithredu yn ardal Prestatyn a Rhuddlan yn fodel
meddygol o ofal sylfaenol, ond yn hytrach yn fodel seicogymdeithasol lle’r oedd
cleifion yn cael sicrhau apwyntiad ar y diwrnod y maent yn gwneud cyswllt
cychwynnol â'r gwasanaeth, cyn belled â bod y cyswllt wedi'i wneud cyn
4pm. Roedd ffocws y gwasanaeth ar yr unigolyn ac unwaith yn y gwasanaeth,
byddai cleifion yn cael eu dyrannu i dimau a allai reoli a chefnogi eu
hanghenion;
·
Roedd
gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i sefydlu Academi gyda’r bwriad o ddatblygu
sgiliau proffesiynol y staff yn lleol. Rhagwelwyd y byddai cangen lles yr
Academi yn cael ei lansio yn y dyfodol agos ac roedd y posibilrwydd o sefydlu
Campws Lles yn cael ei archwilio, o bosibl ar safle'r hen lyfrgell ym Mhrestatyn;
·
Yn
ystod Gorffennaf 2016 byddai rhywfaint o darfu
ar wasanaethau arferol, gan fod y system TG ar gyfer pob safle yn cael
eu mudo. Roedd cleifion wedi cael gwybod am hyn ac roedd trefniadau
eraill wedi eu gwneud i ddelio ag ymholiadau ac ati yn ystod y cyfnod hwn; ac
·
Roedd
hen adeilad yr awdurdod lleol a chyfleusterau maes parcio cysylltiedig yn
Nhŷ Nant wedi eu sicrhau fel cyfleuster ar gyfer y Gwasanaeth.
Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd
i addasu'r adeilad ar gyfer gofynion y Gwasanaeth, er y bu rhywfaint o
lithriant gyda'r gwaith hwn, roedd disgwyl i’r cyfleuster fod yn barod yn
gynnar yn 2017
Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, cadarnhaodd swyddogion y Bwrdd Iechyd:
·
Ar
hyn o bryd, roedd safle’r Feddygfa Ganolog ym Mhrestatyn yn gweithredu fel
'canolbwynt' y Gwasanaeth, ond roedd pob un o’r pum meddygfa’n dal i ddarparu
gwasanaethau;
·
Bod y
dull partneriaeth a gymerwyd gyda'r prosiect hwn wedi gweithio'n dda ar lawr
gwlad ac wedi bod yn allweddol i lwyddiant y prosiect gan ei fod wedi helpu i
leddfu ofnau cychwynnol yn yr ardal, yn dilyn cyhoeddi ymddiswyddiadau contract
meddygfeydd meddygon teulu;
·
Bod
nifer o ymarferwyr nyrsio a gafodd eu recriwtio’n meddu ar y cymwysterau
angenrheidiol a oedd yn caniatáu iddynt ragnodi cyffuriau / triniaethau yn
barod.
Roedd y rhai nad oedd yn meddu ar y
cymwysterau hyn ar hyn o bryd yn y broses o weithio tuag atynt;
·
Oherwydd
bod y sylfaen sgiliau bellach ar gael o fewn y Gwasanaeth, roedd y gymhareb
Meddyg Teulu i gleifion ar gyfer y gwasanaeth wedi newid;
·
Bod
Fflebotomi’n un o'r gwasanaethau y gellid cael mynediad ato fel rhan o'r
prosiect;
·
Mai
un o amcanion y model newydd o ddarparu gwasanaethau oedd gwrando a deall
achosion o afiechydon a phryderon cleifion, a’u cefnogi i gael mynediad i wasanaethau
a fyddai'n gwella eu lles, a maes o law yn lleihau dibyniaeth ar feddyginiaeth
ac ati
Diolchodd y
Pwyllgor i'r Bwrdd Iechyd am ymgysylltu’n dda â phreswylwyr a'r awdurdod lleol
mewn perthynas â’r Prosiect hwn, ac am friffio Cyngor Tref Prestatyn a
Grŵp Ardal yr Aelodau’n rheolaidd ar ddatblygiad y prosiect. Felly:
PENDERFYNWYD -
(i) llongyfarch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar lwyddiant
prosiect Prestatyn a Rhuddlan Iach, ac
(ii) argymell bod modelau tebyg o ofal iechyd
sylfaenol yn cael eu cyflwyno i ardaloedd eraill o Ogledd Cymru maes o law.