Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YSBYTY CYMUNED GOGLEDD SIR DDINBYCH – PROSIECT CYFLEUSTER IECHYD

Ystyried diweddariad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y cynnydd gyda’r Prosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych / Cyfleuster Iechyd.

 

                                                                                      9.35 a.m. – 10.10 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Gareth Evans yr eitem hon yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr y Prosiect.  Trwy gyflwyniad PowerPoint, rhoddodd fanylion ar y gwahanol gamau gofynnol yn y broses achos busnes i wireddu’r prosiect, gan esbonio eu bod bellach yn y cam Achos Busnes Amlinellol. 

 

Byddai’r gwaith o baratoi'r Achos Busnes Amlinellol, a fyddai'n cynnwys nodi dewisiadau dylunio a datblygu'r safle a chynhyrchu’r achos busnes ei hun, yn parhau drwy gydol yr haf i'r hydref yn barod i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn hwyr yn 2016 neu'n gynnar yn 2017 am gymeradwyaeth i symud ymlaen i'r cam Achos Busnes Llawn.  Yn ystod y cyflwyniad pwysleisiodd fod BIPBC wedi’i ymrwymo i gyflawni'r prosiect.  Roedd cwmpas y prosiect wedi cael ei adolygu yn dilyn ymgynghoriad eang a byddai bellach yn cynnwys, ynghyd â gwasanaethau eraill, y ddarpariaeth ar gyfer mân anafiadau mewn uned a allai helpu i gefnogi gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol ehangach yn yr ardal, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a gwasanaethau iechyd rhywiol ar safle hen Ysbyty Brenhinol Alexandra y Rhyl. 

 

Rhagwelwyd hefyd y byddai Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl yn cael ei leoli ar y safle yn ogystal â Gwasanaeth Cleifion Allanol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn.  Fodd bynnag, er byddai 28 o welyau i gleifion mewnol ar y safle, ni fyddai unrhyw un o'r rhain ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl tymor hir.  Roedd BIPBC wedi ymrwymo i gyflawni'r Prosiect ar safle hen Ysbyty Brenhinol Alexandra, er gwaethaf y cymhlethdodau o ailddatblygu adeilad rhestredig a'r premiwm cost sy'n gysylltiedig â'r gwaith, gan mai hwn oedd yr unig safle addas yn yr ardal. 

 

Y cysyniad y tu ôl i'r prosiect oedd datblygu cyfleuster gwasanaeth iechyd modern a oedd yn gallu delio ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn, darparu gofal undydd brys lle bo angen, darparu gofal hygyrch ar gyfer cleifion allanol yn agosach i gartref y claf a lle’r oedd ystod o bartneriaid sy'n ymwneud ag iechyd a lles dinasyddion yn gweithio’n ddi-dor gyda'i gilydd er lles y claf, wrth ddarparu mynediad hefyd at wybodaeth am les ac atal. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd swyddogion BIPBC:

 

·                     Byddai'r Achos Busnes Amlinellol yn cynnwys manylion ar sut y bwriada’r Bwrdd Iechyd gyflawni'r prosiect a'r amserlenni a ragwelir unwaith byddai’r Achos Busnes Llawn yn cael ei gymeradwyo;

·                     Byddai uned cleifion mewnol 28 gwely yn cael ei chynnwys yn yr Achos Busnes Amlinellol, fodd bynnag, nid oedd penderfyniad wedi'i wneud eto ar gyfluniad yr uned cleifion mewnol;

·                     Byddai cyfleusterau parcio ceir a threfniadau cludiant cyhoeddus i'r cyfleuster i gyd yn cael eu cynnwys yn yr Achos Busnes Amlinellol;

·                     Roedd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ym mis Medi 2013 ac roedd yn dal yn awyddus i weld y prosiect yn dwyn ffrwyth. 

Roedd £24 miliwn wedi’i ymrwymo gan Lywodraeth Cymru tuag at y prosiect ar y pryd.  Oherwydd y treigl amser a newidiadau i frîff y prosiect yn dilyn ymgynghori gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid, byddai angen mireinio’r cyllid ar gyfer y prosiect hwn rhywfaint;

·                     Roedd strategaeth ymgysylltu yn y broses o gael ei llunio ar gyfer y diben o hysbysu preswylwyr a rhanddeiliaid ar gynnydd y prosiect;

·                     Byddai rhai rhanddeiliaid yn cymryd rhan yn y broses o lunio'r Achos Busnes Amlinellol;

·                     Byddent yn croesawu unrhyw syniadau gan gynghorwyr o ran cyfathrebu ac ymgysylltu â phreswylwyr ar gynlluniau’r cyfleuster;

·                     Unwaith y bydd y cyfleuster newydd yn weithredol, byddai gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yn cael ei rhannu yn eang gyda phreswylwyr a rhanddeiliaid;

·                     Byddai staff sydd eisoes yn gweithio yn rhywle arall yn y gwasanaethau a fydd yn y pen draw ar gael yn safle Cyfleuster Gofal Iechyd Gogledd Sir Ddinbych yn cael eu trosglwyddo yno, tra byddai gwasanaethau 'newydd' yn destun ymgyrch recriwtio;

·                     Byddai materion yn ymwneud â'r agweddau ymarferol o ddefnyddio adeilad ysbyty Fictoraidd rhestredig ar gyfer arferion gofal iechyd modern, yn cael eu harchwilio yn drylwyr yn y cam Achos Busnes Amlinellol.  Un opsiwn posibl fyddai defnyddio'r adeilad 'rhestredig' ar gyfer gweinyddu a gwaith arall nad yw'n llawfeddygol, gyda gwaith meddygol / llawfeddygol yn cael ei wneud mewn adeiladau modern o'r radd flaenaf;

·                     Gallai datblygu’r cyfleuster gofal iechyd hwn gael ei ddefnyddio fel glasbrint ar gyfer datblygu gwasanaeth gofal iechyd yn y dyfodol ar draws Gogledd Cymru;

·                     Byddai'r rhan fwyaf o wasanaethau a fyddai ar gael ar safle’r Rhyl yn wasanaethau ar gyfer ardal leol Gogledd Sir Ddinbych, gyda rhai o'r gwasanaethau mwy arbenigol ar gael ar gyfer poblogaeth ehangach Gogledd Cymru;

·                     Er y byddai'r safle yn gyfleuster iechyd yn bennaf, roedd cydnabyddiaeth eang y byddai'n lleoliad delfrydol i gyflawni gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles integredig;

·                     Byddai’r cyfleuster yn gwasanaethu poblogaeth Gogledd Sir Ddinbych, gyda’r ardal ddaearyddol yn cael ei diffinio’n gyffredinol fel yr ardal i'r gogledd o'r A55 tuag at y morlin gan gynnwys y Rhyl, Prestatyn, Llanelwy, Bodelwyddan, Dyserth a'u hardaloedd gwledig anghysbell;

·                     Byddai’r math o gyfleuster gofal iechyd sy'n cael ei gynllunio ar gyfer yr ardal yn ategu at fathau eraill o ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol megis trin cleifion o fewn eu cartrefi eu hunain a’u cefnogi i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel am gyhyd ag y bo modd; ac

·                     Roeddent mewn cysylltiad rheolaidd â swyddogion cynllunio awdurdod lleol mewn perthynas â'r effaith bosibl ar y Gwasanaeth Iechyd o ganlyniad i gynigion y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer ardal Gogledd Sir Ddinbych.

 

Cyn casgliad y drafodaeth, gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd y bydd y Capel yn adeilad Ysbyty Brenhinol Alexandra yn cael ei gadw.   Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion y Bwrdd Iechyd am fynychu a briffio aelodau ar gynnydd y Prosiect, a:

 

PHENDERFYNWYD:-

 

(i)            yn amodol ar y sylwadau uchod, i dderbyn y cyflwyniad ar Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych – Prosiect Cyfleuster Iechyd; a

(ii) bod adroddiad diweddaru pellach ar y Prosiect a chynhyrchu Achos Busnes Amlinellol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2016.