Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CANLYNIAD REFENIW TERFYNOL 2015/16

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig), yn manylu ar sefyllfa refeniw’r Cyngor a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet o’r driniaeth arfaethedig o’r balans.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

 (a)      Bod y Cabinet yn nodi'r sefyllfa alldro refeniw derfynol ar gyfer 2015/16 a chymeradwyo’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3, sydd ynghlwm â’r adroddiad, a

 

 (b)      Bod y Cabinet yn sefydlu grŵp tasg a gorffen i adolygu lefel balansau ysgolion a deall y ffactorau sy'n cyfrannu at y lefelau hynny.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar y sefyllfa alldro refeniw terfynol am 2015/16 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a'r atodiadau.  Yn gryno dangosodd y sefyllfa alldro  gyffredinol danwariant yn erbyn y gyllideb gymeradwy a oedd yn cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor, ynghyd â gwell incwm o'r dreth gyngor nag y rhagwelwyd.  O ganlyniad, mae’n bosibl gwneud argymhellion i wasanaethau gario balansau ymlaen a throsglwyddo i arian wrth gefn penodol a fydd yn parhau i helpu i fynd i’r afael â phwysau ariannol y blynyddoedd nesaf.  Tra bu tanwariant cyffredinol ar draws y gwasanaethau unigol a meysydd corfforaethol, dangosodd cyllideb ddirprwyedig yr ysgolion orwariant sylweddol (a ragwelir).  Roedd y sefyllfa derfynol gyda chyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan gynnwys ysgolion) yn orwariant o £0.387m (0.2% o gyllideb refeniw net).  Cyfeiriwyd hefyd at y trosglwyddiadau i ac o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a thynnwyd sylw'r Cabinet i nifer o drafodion diwedd y flwyddyn a argymhellwyd i'w gymeradwyo.

 

Cynghorwyd y Cabinet o'r canlyniadau cadarnhaol o ran bod y Cyngor wedi bod mewn sefyllfa i sefydlu amryw o gronfeydd wrth gefn a dwyn ymlaen arian er mwyn cwrdd â gofynion y gwasanaeth tra hefyd yn cyflawni y rhan fwyaf o'r targed arbedion ar gyfer 2015/16. Roedd y cronfeydd wrth gefn a adeiladwyd i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol wedi'i gostwng yn sylweddol eleni wrth i’r ymrwymiadau hynny barhau i gael eu datblygu.  Yn olaf, cyfeiriwyd at y risgiau o gwmpas balansau ysgolion o ystyried y sefyllfa ariannol sy'n gwaethygu ar gyfer ysgolion.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         cafwyd rhywfaint o drafodaeth ar yr effaith ariannol ar ysgolion oherwydd gostyngiad yn y cyllid grant gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig o ran y cyfnod sylfaen a oedd yn cael effaith sylweddol ar ysgolion babanod, ac roedd materion yn ymwneud demograffeg a chyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol hefyd.

·           Nodwyd y byddai ysgolion mewn diffyg ariannol yn ddarostyngedig i gynlluniau adfer ariannol a chyfeiriwyd hefyd at rôl y Fforwm Cyllideb Ysgolion wrth gefnogi ysgolion.  Fodd bynnag, amlygwyd y pwysigrwydd o sicrhau bod pob ysgol yn gweithio'n effeithiol wrth symud ymlaen er mwyn cynllunio ar gyfer heriau yn y dyfodol gydag ysgolion eraill yn bryderus am gyllid yn y dyfodol.  Cytunodd yr Aelodau bod angen deall yr holl ffactorau sy'n cyfrannu at y sefyllfa ar falansau ysgolion a theimlwyd y dylai mwy o waith gael ei wneud i ganfod y sefyllfa bresennol ysgolion a’r sefyllfa yn y dyfodol.  Cytunwyd bod y Cabinet yn cymryd y rôl honno ymlaen drwy sefydlu grŵp tasg a gorffen a ddylai hefyd gynnwys cynrychiolwyr archwilio.  Nodwyd bod y Cyngor wedi rhagori ar y lefel statudol o ddiogelwch a roddiwyd i ysgolion dros y 4/5 mlynedd diwethaf a bod y cyllid fesul disgybl yn Sir Ddinbych yn uwch nag yn yr awdurdodau lleol cyfagos.  Amlygwyd hefyd yr angen i ddarparu cymorth i ysgolion a llywodraethwyr ysgolion, a chyfeiriwyd at yr adolygiad o'r Polisi Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol i gael ei ystyried yn y Pwyllgor Archwilio Cymunedau yn ddiweddarach yn yr wythnos a'r goblygiadau ariannol posibl a fyddai’n deillio o newidiadau i'r polisi presennol.  Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, er bod ffigwr dangosol wedi'i ddarparu, ni fyddai amcangyfrif fwy manwl gywir o'r gost o weithredu'r polisi ar gael tan Hydref / Tachwedd 2016. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr bwysigrwydd sicrhau bod polisi teg a chyfreithiol yn ei le, gan gynghori na ddylai ansawdd y polisi gael ei beryglu oherwydd goblygiadau cyllidebol.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Meirick Davies bwysigrwydd ymgynghori â rhieni yn ystod y broses adolygu ac awgrymodd y dylid archwilio cyfleoedd cydweithio gydag awdurdodau cyfagos.  Manylodd y Cynghorydd Arwel Roberts ei bryderon ynghylch y llwybr ar gyfer disgyblion o Ruddlan i Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl a'i ymdrechion i ddatrys y mater.  Awgrymodd y Cynghorydd Eryl Williams, mewn achosion nad oedd yn gymwys ar gyfer darpariaeth statudol, y dylai ysgolion chwilio am gyllid allanol ar gyfer darpariaeth cludiant ysgol

·         Ystyriodd y Cabinet a fyddai rhinwedd mewn cyhoeddi costau incwm a gweithredu canolfannau hamdden unigol o gofio eu cynaliadwyedd ariannol.  Nodwyd y gallai echdynnu'r costau perthnasol fod yn anodd o ystyried bod y canolfannau hamdden yn cael eu rheoli fel endidau ar wahân, ac na fyddai lefelau incwm o ganolfannau hamdden sy’n gysylltiedig ag ysgolion gyn uched.  Cytunwyd y gallai'r Cyngor fod yn fwy tryloyw wrth gyhoeddi gwybodaeth o'r fath ond byddai angen amodau i sicrhau nad oedd y ffigurau yn gamarweiniol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

 (a)      Bod y Cabinet yn nodi'r sefyllfa alldro refeniw derfynol ar gyfer 2015/16 a chymeradwyo’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3, sydd ynghlwm â’r adroddiad, a

 

 (b)      Bod y Cabinet yn sefydlu grŵp tasg a gorffen i adolygu lefel balansau ysgolion a deall y ffactorau sy'n cyfrannu at y lefelau hynny.

 

 

Dogfennau ategol: