Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 4 – 2015/16
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol
a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn rhoi diweddariad ar ddarparu Cynllun
Corfforaethol 2012 – 17 ar ddiwedd chwarter 4 2015/16.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun
Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 4 o 2015/16.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad
a oedd yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 - 17 ar ddiwedd chwarter 4 o 2015/16.
Roedd yr adroddiad perfformiad yn darparu crynodeb
o ran sefyllfa pob canlyniad ynghyd â dadansoddiad o’r eithriadau allweddol. Roedd yr holl ganlyniadau wedi’u gwerthuso
fel derbyniol neu well ac roedd eglurhad ar gyfer statws pob dangosydd wedi’i
gynnwys gyda materion allweddol wedi’u hegluro ymhellach yn y cyfarfod. Er mae’n debygol y byddai bob amser rai
targedau unigol yn cael eu methu, roedd yr adroddiad yn gyffredinol yn
gadarnhaol iawn. Parhaodd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad i fonitro'r adroddiadau
perfformiad yn rheolaidd.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y meysydd canlynol
-
·
ni ellid
darparu data ar allyriadau carbon o hyd oherwydd namau cynharach yn system
filio Nwy Prydain ond roedd biliau cywir yn dechrau dod drwodd a’r gobaith oedd
y gellid adrodd gwybodaeth am ddefnydd ynni’r llynedd y mis canlynol.
·
Gofynnwyd a oedd gostyngiad y Cyngor mewn allyriadau carbon wedi bod o
ganlyniad i'r rhaglen rhesymoli adeiladau neu waith parhaus i sicrhau bod
adeiladau yn fwy effeithlon. Cytunodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i edrych i mewn i'r mater
ymhellach ac adrodd yn ôl. Roedd y Cynghorydd David Smith yn falch o nodi
cynnydd o ran gwella ffyrdd y sir ond amlygodd ei fod wedi bod yn bosibl yn
unig oherwydd bod cyllid ychwanegol wedi'i ddyrannu'n benodol ar gyfer y diben
hwnnw - gofynnodd am ystyriaeth gael ei roi i gynyddu'r gyllideb sylfaenol i
ddiogelu yn erbyn dirywiad pellach. Cadarnhaodd y Prif
Weithredwr fod ansawdd ffyrdd ar hyn o bryd yn un o brif flaenoriaethau'r
Cyngor ac roedd yn hyderus y byddai'r targed ar gyfer ffyrdd o safon gwell ar y
cyfan yn 2017 o'i gymharu â 2012 yn cael ei gyflawni yn y flwyddyn ariannol
nesaf. Byddai blaenoriaethau a chyllidebau’r dyfodol yn ystyriaeth ar gyfer y
Cyngor nesaf. Cododd y Cynghorydd Bill Cowie bryderon parhaus am gyflwr yr A525 ac roedd
yn aros i weld a oedd sicrwydd a gafodd ynghylch ei thrwsio yn cael ei wireddu.
·
argaeledd
band eang cyflym iawn - roedd yr aelodau yn siomedig bod y dangosydd hwn yn
parhau i fod yn goch a nododd ei fod yn brosiect rhwng Llywodraeth Cymru a BT
i’w gyflawni. Roedd cynnydd o ran cyflwyno wedi cael ei archwilio a'i drafod gyda
chynrychiolwyr BT mewn cyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad ac
adroddodd y Prif Weithredwr ar y canlyniadau allweddol. Roedd y targed gwasanaeth yn ymwneud ag
ardaloedd penodol ac nid y sir gyfan - felly roedd angen ymgysylltu â’r
trigolion hynny a oedd yn disgwyl i elwa ac na fyddent yn cael mynediad. Gwrthododd swyddogion Llywodraeth Cymru i
fynychu'r cyfarfod archwilio ac roedd yn bwysig eu bod yn cael eu dwyn i gyfrif
ac yn darparu ar y prosiect
·
er gwaethaf
yr adroddiad perfformiad cadarnhaol ar y cyfan a’r buddsoddiad sylweddol a
wnaed gan y Cyngor mewn prosiectau penodol fel adeiladau ysgolion, nodwyd bod
canran y trigolion sy’n ymateb yn gadarnhaol i'r datganiadau sy'n ymwneud â (1)
bod y Cyngor yn effeithlon ac yn cael ei redeg yn dda, a (2) yn gweithredu ar
bryderon trigolion, wedi cael eu hamlygu fel dangosyddion coch. Cafwyd rhywfaint o drafodaeth ar y
gwahaniaeth rhwng realiti'r sefyllfa a chanfyddiad y trigolion. Teimlwyd bod y cyhoeddusrwydd a gynhyrchir
gan benderfyniadau mwy amhoblogaidd y Cyngor yn gorbwyso'r straeon newyddion da
ac roedd yn her barhaus i newid canfyddiadau trigolion yn hynny o beth. Teimlwyd y dylai'r Cyngor fod yn fwy
rhagweithiol wrth ymateb i negyddoldeb ac y dylai hyrwyddo’r gwaith da a’r
buddsoddiad sylweddol a wnaed er budd trigolion y sir
·
hefyd,
cafwyd trafodaethau ar effaith canlyniad refferendwm yr UE i adael yr UE gyda
swyddogion yn dechrau dadansoddi'r effaith bosibl ar gyllidebau ac ymgymryd â
phroses asesu - cytunodd y Prif Weithredwr i adrodd yn ôl ar y gwaith wrth iddo
ddatblygu.
Diolchodd y Cynghorydd Thompson-Hill i’r aelodau
am eu hystyriaethau a’u mewnbwn.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun Corfforaethol
2012-17 ar ddiwedd chwarter 4 o 2015/16.
Ar y pwynt hwn
(11.30 am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.
Dogfennau ategol:
- CORPORATE PLAN PERFORMANCE Q4, Eitem 7. PDF 86 KB
- CORPORATE PLAN PERFORMANCE Q4 - APPENDIX, Eitem 7. PDF 2 MB