Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1124/TXJDR
- Meeting of Pwyllgor Trwyddedu, Dydd Iau, 23 Mehefin 2016 9.30 am (Item 4.)
- Gweld y cefndir i eitem 4.
Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1124/TXJDR.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD diddymu
trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gyrrwr rhif 15/1124/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar
unwaith.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –
(i)
addasrwydd Gyrrwr Rhif
(ii)
15/1124/TXJDR i
ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn cronni
40 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am gyflwyno cerbyd
trwyddedig i’w brofi mewn cyflwr anniogel a pheryglus ddwywaith;
(iii)
roedd y Gyrrwr wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor
Trwyddedu ar 10 Mehefin 2015 yn dilyn croniad o 20 pwynt cosb ar gyfer cyflwyno
cerbyd trwyddedig i’w brofi mewn cyflwr anniogel a pheryglus, a oedd wedi
arwain at ataliad dros dro o bythefnos;
(iv)
Roedd manylion y diffygion a nodwyd yn dilyn cyflwyno’r
cerbyd am brawf Cydymffurfio/MOT ym mis Ebrill 2016 a chyhoeddi 20 o bwyntiau
cosb ychwanegol wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â datganiadau tyst a
dogfennau cysylltiedig;
(v)
roedd y Gyrrwr wedi cyflwyno tystiolaeth ddogfennol i
gefnogi'r adolygiad o'i drwydded gan gynnwys Prawf MOT/Tystysgrif Cydymffurfio
ar gyfer y cerbyd dyddiedig 19 Mai 2016, ynghyd â llythyr i apelio yn erbyn y
pwyntiau cosb (gwrthodwyd yr apêl gan swyddogion ar ôl hynny), a
(vi)
bod y Gyrrwr wedi
cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’i
drwydded, ac i ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.
Roedd y Gyrrwr yn
bresennol a daeth ei Gynrychiolydd Undeb gydag o. Cadarnhaodd y
Cynrychiolydd Undeb dderbyn yr adroddiad a'r gweithdrefnau pwyllgor.
Amlinellodd y
Swyddog Gorfodi Trwyddedu yr achos fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Er na chafodd y cerbyd ei gyflwyno ar gyfer ail brawf ar
adeg ysgrifennu'r adroddiad, hysbyswyd yr aelodau bod y cerbyd wedi pasio Prawf
MOT/Tystysgrif Cydymffurfio wedi hynny ar 19 Mai 2016.
Cyflwynodd y
Cynrychiolydd Undeb achos y Gyrrwr gan ddadlau ei fod wedi mynd ati i ofyn am
arweiniad a sicrwydd ynglŷn â chyflwr y cerbyd. Cyflwynwyd y cerbyd ar gyfer prawf MOT ar 4 Ebrill 2016,
a chafodd gwaith atgyweirio ei wneud a arweiniodd at gyhoeddi Tystysgrif MOT ar
13 Ebrill 2016. Methodd y cerbyd yr MOT a’r Dystysgrif Gydymffurfiaeth wedi
hynny yng Ngorsaf Brofi Ddynodedig y Cyngor ar 14 Ebrill 2016 gyda gwahaniaeth
clir ym marn y ddau archwiliwr cerbyd. Ceisiodd y Cynrychiolydd
Undeb dynnu sylw at nifer o anghysondebau yn yr adroddiad a chwestiynu'r LEO yn
hynny o beth. Mewn ymateb, eglurodd y
LEO faint ei ran yn yr ymchwiliad a'i ddibyniaeth ar y dystiolaeth ddogfennol
a’r datganiad a ddarparwyd gan y Peiriannydd Cydymffurfiaeth a oedd wedi cynnal
y prawf ar 14 Ebrill 2016, a ddangosodd fod y cerbyd wedi cael ei gyflwyno ar
gyfer prawf mewn cyflwr anniogel, peryglus a gwael. O ran ymddygiad y gyrrwr, dywedodd y Cynrychiolydd Undeb
ei fod wedi gweithredu'n ddidwyll wrth gyflwyno'r cerbyd i'w archwilio ar 14
Ebrill 2016, o ystyried ei fod wedi pasio Prawf MOT y diwrnod cynt. Roedd y Gyrrwr
wedi cyflwyno nifer o dderbynebau ac anfonebau (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod) i
ddangos y gwaith trwsio’r cerbyd a oedd wedi cael ei wneud. Cyfeiriwyd hefyd at nifer o ddiffygion na chawsant
eu trin yn gyson yn ystod cyfundrefnau profi blaenorol. Amlygwyd y gwahaniaethau
rhwng yr addasrwydd mecanyddol fel y dangosir gan y Prawf MOT a gofynion y
Prawf Cydymffurfio hefyd. Mynegwyd
pryderon hefyd gan y Cynrychiolydd Undeb ynghylch y derminoleg a ddefnyddir yn
yr adroddiad wrth ystyried p’un a yw’r Gyrrwr yn addas a phriodol i ddal
trwydded. Eglurodd yr
Aelodau y rhesymeg y tu ôl i'r defnydd o'r ymadrodd safonol wrth benderfynu ar
addasrwydd. Wrth gloi ei gyflwyniad,
dadleuodd y Cynrychiolydd Undeb fod y Gyrrwr wedi cymryd camau rhesymol i
sicrhau bod ei gerbyd yn cydymffurfio pan gafodd ei gyflwyno ar gyfer prawf ar
14 Ebrill a'i bod yn amlwg nad oedd yn berygl i'r cyhoedd.
Cymerodd yr
Aelodau y cyfle i holi'r Gyrrwr a'i Gynrychiolydd Undeb ar eu cyflwyniad a
ffeithiau'r achos fel y cawsant eu cyflwyno. Gofynnwyd
cwestiynau ynghylch diffygion penodol sydd wedi eu nodi a'r camau a gymerwyd
gan y Gyrrwr i sicrhau bod y cerbyd yn addas i'r diben ar gyfer cludo aelodau
o'r cyhoedd ynghyd â chwestiynau ynglŷn â'i ddefnydd cyffredinol. Gofynnwyd am sicrwydd hefyd ynglŷn gwersi a
ddysgwyd o'r adeg pan y Gyrrwr wedi bod yn olaf cyn y pwyllgor ym mis Mehefin
2015. Ymatebodd y Gyrrwr ei fod wedi cyflwyno ei gerbyd ar gyfer prawf MOT yn
gynharach er mwyn ymdrin ag unrhyw faterion sy'n weddill cyn ei gyflwyno am
Brawf MOT/Cydymffurfiad yng Ngorsaf Brofi Ddynodedig y Cyngor.
Cymerodd y
Cynrychiolydd Undeb y cyfle i wneud datganiad terfynol. Dywedodd fod y Gyrrwr wedi ceisio bod yn ofalus
drwy gyflwyno’r cerbyd ar gyfer prawf MOT ymlaen llaw ac wedi sicrhau bod
gwaith atgyweirio yn cael ei gynnal, a oedd yn golygu bod y cerbyd yn pasio’r
Prawf MOT ar 13 Ebrill 2016. Roedd yn dadlau ei bod yn rhesymol i'r gyrrwr
feddwl bod y cerbyd yn cydymffurfio wrth gyflwyno’r un fath ar gyfer Prawf
MOT/Cydymffurfiad y diwrnod canlynol.
Ar y pwynt hwn,
gohiriodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -
PENDERFYNWYD diddymu
trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gyrrwr rhif 15/1124/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd
ar unwaith.
Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y
Pwyllgor Trwyddedu –
Roedd yr Aelodau
wedi ystyried yn ofalus cynnwys yr adroddiad a’r sylwadau a gyflwynwyd gan y
Gyrrwr yn yr achos hwn a’i ymateb i gwestiynau.
Nid oedd y pwyllgor yn ystyried bod y
Gyrrwr yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded a phenderfynwyd diddymu'r
drwydded ar sail diogelwch y cyhoedd.
Ystyriodd y
pwyllgor fod y Gyrrwr wedi methu yn ei ddyletswydd gofal i'w deithwyr sy’n talu
ffioedd. Ar ei gyfaddefiad ei hun, defnyddiodd y cerbyd i
gario grwpiau o bobl ar noson allan ac i feysydd awyr.
Derbyniwyd
bod y Gyrrwr wedi cyflwyno ei gerbyd ar gyfer prawf MOT ar 4 Ebrill 2016 ac ar
hynny iddo fethu. Ar
y pwynt hwn, nododd y pwyllgor fod hyn ynddo'i hun yn dangos nad oedd y gyrrwr
wedi cynnal ei gerbyd i safon dderbyniol. Yn dilyn hynny,
cafodd y Gyrrwr rywfaint o waith wedi’i wneud ar y cerbyd, a chyflwynodd un
dderbynneb i’r pwyllgor dyddiedig 13 Ebrill 2016. Wrth archwilio, penderfynodd
y pwyllgor nad oedd hyn wedi mynd i’r afael â phob un o'r materion a arweiniodd
at y methiant MOT ar 4 Ebrill 2016. Cafodd y cerbyd ei ail-brofi wedi hynny ar
13 Ebrill 2016, lle bu iddo basio. Yna cafodd y cerbyd ei gyflwyno ar gyfer ei Brawf
Cydymffurfio a Phrawf MOT yng Ngorsaf Brofi Ddynodedig y Cyngor. Ar y pwynt hwn methodd y cerbyd i basio’r ddau
brawf, a nodwyd nifer o ddiffygion difrifol ar y cerbyd. O
ganlyniad, cafodd trwydded y cerbyd ei wahardd ac ni allai'r Gyrrwr ei yrru fel
Cerbyd Hacni na Cherbyd Hurio Preifat.
Cyflwynodd y Gyrrwr nifer o dderbynebau i’r pwyllgor, a ddangosodd ei fod
wedi cael gwneud gwaith ar y cerbyd. On close inspection of these receipts it was evident that
this work had been carried out on the vehicle between July 2015 and December
2015, some many months prior to it being presented for testing in April
2016. Many of the issues and defects listed
in both the MOT Test and the Compliance Test, in the opinion of the committee,
would have been visible and apparent to a lay person, let alone a professional
driver.O edrych yn agos ar y
derbynebau hyn, roedd yn amlwg bod y gwaith hwn wedi cael ei wneud ar y cerbyd
rhwng mis Gorffennaf 2015 a mis Rhagfyr 2015, rai misoedd lawer cyn iddo gael
ei gyflwyno i'w brofi ym mis Ebrill 2016. Byddai nifer o'r materion a’r
diffygion a restrir yn y Prawf MOT a'r Prawf Cydymffurfio, ym marn y pwyllgor,
wedi bod yn weladwy ac amlwg i leygwr, heb sôn am yrrwr proffesiynol.
Ystyriodd y pwyllgor hefyd y ffaith bod y
Gyrrwr wedi cael 20 o bwyntiau cosb y flwyddyn flaenorol am gyflwr ei gerbyd ar
y pryd, ac fe’i gwaharddwyd am bythefnos.
Roedd y pwyllgor yn fodlon nad oedd y
Gyrrwr wedi cymryd camau digonol i gynnal cywirdeb a diogelwch ei gerbyd, a
gadarnhawyd gan y diffygion. Roedd gan y Gyrrwr ddyletswydd i sicrhau bod ei
gerbyd yn cefnogi craffu yn enwedig pe byddai'n cael damwain. Os gwyddai bod yna ddiffygion, ac ym marn
y pwyllgor y farn oedd y byddai llawer o'r diffygion wedi bod yn amlwg iddo,
mae hyn yn adlewyrchiad ar ei ymddygiad fel Gyrrwr, a chwestiynwyd ei uniondeb
a’i addasrwydd i fod yn yrrwr trwyddedig. Teimlai'r pwyllgor fod y Gyrrwr wedi diystyru ei ddyletswyddau a'i
gyfrifoldebau fel gyrrwr trwyddedig i yrru aelodau teithiol o'r cyhoedd.
Dirymwyd y drwydded yn unol ag Adran 61 (1) (b) gan y
Cyngor ar sail unrhyw achos rhesymol arall. Ar ben hynny, yn unol ag Adran 61 (2B),
fel y digwyddodd yn yr achos hwn, ystyriwyd bod yna berygl uniongyrchol i
ddiogelwch y cyhoedd ac, o ganlyniad, bu’n rhaid i ddirymiad ddigwydd ar
unwaith.
Ni fodlonwyd sail diogelwch y cyhoedd ym
marn y pwyllgor am ei fod wedi diystyru ei gyfrifoldebau drwy fethu i edrych ar
ôl ei gerbyd.
·
cyflwynodd ei gerbyd am brawf pan fethodd
ar 4 Ebrill 2016.
·
cyflwynodd
y cerbyd am brawf MOT a phrawf cydymffurfiad pan fyddai wedi bod yn amlwg i
unrhyw un (heb sôn am yrrwr proffesiynol) bod yna ddiffygion gyda'r cerbyd.
·
cyflwr difrifol a pheryglus y cerbyd ei
hun.
·
ei ddiystyrwch blaenorol i’w gerbyd ar ôl
cael 20 o bwyntiau cosb y flwyddyn flaenorol a chael ei atal dros dro yr adeg
honno am bythefnos.
Cafodd penderfyniad y pwyllgor a’u
rhesymau dros hynny eu cyfleu i’r Gyrrwr a’i Gynrychiolydd Undeb, ynghyd â’r
hawl apelio yn erbyn y penderfyniad.
Daeth y cyfarfod i ben am 11.15 a.m.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 4./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 4./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 4./3 yn gyfyngedig