Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL - CHWARTER 4 2015/16

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy'n gofyn i’r Pwyllgor fonitro perfformiad y Cyngor o ran cyflawni ei Gynllun Corfforaethol, a nodi meysydd neu wasanaethau penodol a fyddai'n elwa o archwilio manwl er mwyn gwella canlyniadau i ddinasyddion.

9.45 a.m. – 10.15 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd Julian Thompson Hill yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2012-17 fel yr oedd ar ddiwedd Chwarter 4 2015-16.

 

Yn y fan hon, cyflwynodd yr Aelod Arweiniol y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol a benodwyd yn ddiweddar, Vicki Robarts a chroesawodd hi i'w chyfarfod Pwyllgor Archwilio  cyntaf.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol wrth y Pwyllgor fod y gwelliant neu ddirywiad mewn perfformiad o un chwarter i'r llall fel arfer yn fach iawn oherwydd natur hirdymor y Cynllun.  Rhoddodd grynodeb o'r negeseuon perfformiad allweddol ar gyfer Chwarter 4 2015-16 fel y manylir yn Atodiad 1 i'r adroddiad, gan ddweud:

 

·       roedd tri "canlyniad" o dan flaenoriaeth datblygu'r Economi lleol a gafodd eu dosbarthu fel "derbyniol", fodd bynnag, byddai angen gwelliant ym mherfformiad y canlyniadau hyn. Serch hynny, roedd ffactorau allanol sy'n lliniaru yn erbyn gwelliant yn y dangosyddion hyn ar hyn o bryd;

·       roedd canran y plant rhwng 16 a 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn faes arall yr oedd angen ei wella ymhellach. Roedd yn braf nodi bod y duedd tair blynedd o ran y nifer o bobl ifanc oedd wedi’u dosbarthu fel NEET yn dod i lawr;

·       tra bu gwelliant (lleihad) yn nifer yr oedolion sydd angen gofal preswyl, mae angen gwella perfformiad o ran y dangosydd perfformiad sy’n ymwneud â chanran y boblogaeth nad ydynt yn gallu byw yn annibynnol (18 oed a throsodd);

·       mae’r sefyllfa economaidd bresennol a diffyg hyder yn y farchnad dai yn golygu nad oedd datblygwyr yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau tai maint canolig i fawr. Yn ei dro, mae hyn yn cael effaith ar y dangosydd perfformiad (DP) sy'n ymwneud â nifer yr unedau tai fforddiadwy a gafodd ganiatâd cynllunio; a

·       gan nad yw Nwy Prydain, darparwr ynni'r Cyngor wedi gallu darparu dadansoddiad o allyriadau carbon y Cyngor, nid oedd modd i’r Cyngor adrodd yn erbyn y DP hwn. Roedd y Cyngor wedi newid darparwr ynni ers mis Ebrill, felly yn y dyfodol, byddai modd adrodd yn erbyn y DP hwn.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a Swyddogion:

 

·       er y bu llithriad mewn perfformiad o ran nifer y dyddiau calendr a gymerwyd i ail-osod eiddo stoc tai cyngor, roedd rhesymau dilys dros hyn yn gysylltiedig â sicrhau bod yr eiddo o safon uchel wrth gael eu hail-osod (cafodd adroddiad ar berfformiad yn y maes hwn ei drefnu i’w gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf 2016);

·       ar y cyfan roedd yr adborth gan y gymuned fusnes o ran y gefnogaeth sydd ar gael iddynt gan y Cyngor wedi bod yn gadarnhaol. Fodd bynnag, bu angen gwella perfformiad ymhellach mewn perthynas â'r flaenoriaeth hon a gwella cyfathrebu rhwng y gwahanol fudd-ddeiliaid. Roedd angen hefyd i fusnesau fod yn fwy craff, e.e. addasu eu horiau agor i gyd-fynd â gofynion a disgwyliadau'r cyhoedd;

·       byddent yn dilyn pryderon ynghylch glendid strydoedd a'r oedi wrth dorri gwair ym mynwentydd y sir o ganlyniad i broblem gyda'r contractwr. Byddent yn edrych sut y gallai cyfathrebu gydag aelodau lleol o ran oedi neu broblem gyda materion parth cyhoeddus gael eu cryfhau.

 

Mewn perthynas â'r flaenoriaeth "Moderneiddio'r Cyngor i Gyflenwi Effeithlonrwydd", gofynnodd yr Aelodau i'r Swyddogion holi am y nifer o broblemau a dderbyniwyd gan Gynghorwyr mewn perthynas â rhyngweithio rhwng Microsoft Outlook a'u i-pads cyngor i ganfod a oedd yn fater arwyddocaol a oedd yn haeddu ateb hirdymor cyn etholiadau awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf a derbyn Cynghorwyr newydd.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y meysydd a restrir uchod sy'n cael ei archwilio ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor:

(i)    derbyn yr adroddiad a nodi perfformiad y Cyngor o ran cyflawni ei Gynllun Corfforaethol yn ystod Chwarter 4, 2015-16, a

(ii)   bod adroddiad ar berfformiad y Cyngor wrth gyflawni ei Strategaeth Gwrth-Faeddu, gan gymryd camau gorfodi a chyflwyno Gorchmynion Rheoli Cŵn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf (yr adroddiad i gynnwys gwybodaeth am y defnydd a chost o ddefnyddio offer Teledu Cylch Caeedig ar gyfer gweithgaredd gorfodi).

 

 

Dogfennau ategol: