Eitem ar yr agenda
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 15/1446/TXJDR
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif 15/1446/TXJDR.
Penderfyniad:
RESOLVED that the application for a
hackney carriage and private hire vehicle driver’s licence from Applicant No.
15/1446/TXJDR be refused.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –
(i)
chais a dderbyniwyd gan
Ymgeisydd Rhif
15/1446/TXJDR am drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;
(i)
swyddogion wedi gwrthod y cais o dan bwerau
dirprwyedig ar ôl ystyried yr
euogfarnau a ddatgelwyd a pholisi euogfarnau’r Cyngor;
(ii)
yr Ymgeisydd wedi apelio ar ôl
hynny yn erbyn penderfyniad y swyddogion i'r Llys Ynadon, lle
daethpwyd i gytundeb wedi hynny y byddai'r
apêl yn dod
i ben a bod y cais yn cael ei gyfeirio
at y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfyniad;
(iii)
manylion yr euogfarnau a
ddatgelwyd yn dilyn y datgeliad manylach i'r Gwasanaeth
Datgelu a Gwahardd ynghyd â pholisi'r Cyngor o ran perthnasedd euogfarnau, ac
(iv)
estyn gwahoddiad
i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod
i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.
Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i Gynrychiolwyr Cyfreithiol a gadarnhaodd ei fod wedi
derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r
adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r
achos.
Amlygodd Cynrychiolydd Cyfreithiol
yr Ymgeisydd rai gwallau ffeithiol yn yr adroddiad
a rhoddwyd rhywfaint o gefndir y cais a sut yr oedd
wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer
penderfyniad, gan gynnwys cyfeiriad at yr achos yn
Llys yr Ynadon
ar apêl. Wrth gyflwyno achos yr Ymgeisydd, cyfeiriodd
at ei gofnod di-fai blaenorol fel
gyrrwr trwyddedig, a'i gymhwysedd wrth ddelio â'r
cyhoedd. Roedd y mater i'w ystyried yn ymwneud
â'r euogfarn mwyaf diweddar ac fe ymhelaethodd
y Cynrychiolydd Cyfreithiol
ar amgylchiadau'r drosedd honno a'i
chyd-destun ym mholisi trwyddedu'r Cyngor mewn perthynas
â pherthnasedd euogfarnau. Fe ddadlodd hefyd, er ei
fod yn ddifrifol,
nid oedd yr euogfarn yn
yr achos hwn yn cael
effaith ar ddiogelwch y cyhoedd, wrth ystyried a
oedd yr Ymgeisydd
yn addas a phriodol i ddal trwydded. Ychwanegodd nad
oedd y drefn drwyddedu wedi’i chynllunio i gosbi eto, ac roedd yr
Ymgeisydd eisoes wedi talu ei
gosb i gymdeithas yn hynny o beth. Tynnwyd sylw'r Aelodau at y tystlythyrau ysgrifenedig a roddwyd (a gylchredwyd yn y cyfarfod), a oedd yn
tystio i gymeriad yr Ymgeisydd a’i
ddidwylledd. I
gloi, cafodd ei gyflwyno bod yr Ymgeisydd wedi
gwneud camgymeriad ofnadwy ac wedi gwneud iawn amdano,
ac roedd yn dymuno dychwelyd i’w broffesiwn fel gyrrwr trwyddedig.
Ymatebodd yr Ymgeisydd a'i Gynrychiolydd Cyfreithiol i gwestiynau'r aelodau ynghylch amgylchiadau'r achos a’r euogfarn dilynol,
ynghyd â chysylltiad yr Ymgeisydd ag eraill a oedd yn ymwneud
â gweithgarwch troseddol. Ymatebodd yr Ymgeisydd hefyd
i sicrwydd a geisiwyd gan y pwyllgor ynghylch ei ymddygiad
yn y dyfodol o ystyried natur a difrifoldeb y drosedd. Wrth wneud datganiad terfynol, esboniodd yr Ymgeisydd sut
roedd yr euogfarn wedi difetha
ei fywyd, a’i awydd i ddychwelyd
fel gyrrwr trwyddedig.
Gohiriwyd y pwyllgor i
ystyried y cais a -
PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 15/1446/TXJDR yn cael ei wrthod.
Dyma oedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –
Roedd yr
aelodau wedi gwrando'n ofalus iawn ar yr holl gyflwyniadau yn yr achos hwn a’r
atebion i gwestiynau, ac wedi ystyried y tystlythyrau a roddwyd yn ofalus. Roedd
y pwyllgor yn glir mai diben eu penderfyniad oedd delio â'r mater trwyddedu ac
i beidio â rhoi mwy o gosb i’r Ymgeisydd yn sgil y drosedd. Derbyniwyd nad oedd yr Ymgeisydd wedi bod
mewn helynt pellach ac nid oedd ganddo unrhyw euogfarnau pellach ers iddo gael
ei ryddhau. Fodd bynnag, ystyriaeth
hollbwysig y pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd, ac o dan y gyfraith, ni ellir
rhoi trwydded oni fodlonir bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol.
Roedd y
pwyllgor â phryderon o ystyried natur a difrifoldeb y trosedd a gyflawnwyd yn
2010 wrth weithredu fel gyrrwr trwyddedig, gan ddefnyddio cerbyd trwyddedig, a
heb glywed digon i'w bodloni ei fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded. Wrth ddod i benderfyniad, roedd yr aelodau'n
ystyried y polisi trwyddedu - nod y polisi yw amddiffyn diogelwch y cyhoedd,
bod person yn berson addas a phriodol, nad oedd y person yn fygythiad i'r
cyhoedd a bod y cyhoedd â hyder yn y defnydd o gerbydau trwyddedig. Wrth bwyso a mesur y cyfrifoldeb i'r cyhoedd
yn erbyn y wybodaeth a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd, nid oedd y pwyllgor yn
fodlon ei fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.
Cafodd
penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu felly i'r Gyrrwr a’i
Gynrychiolwyr Cyfreithiol, a chafodd wybod am ei hawl i apelio yn erbyn y
penderfyniad i Lys yr Ynadon o fewn 21 diwrnod.
[Yn y fan hon,
gadawodd y Cynghorwyr Barry Mellor, Pete Prendergast ac Arwel Roberts y
cyfarfod.]
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 9./1 yn gyfyngedig