Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISI ARFAETHEDIG CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn rhoi gwybod i aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad am y Polisi Arfaethedig Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

 (a)      Newid y polisi arfaethedig i adlewyrchu'r newidiadau fel y trafodwyd ac y cytunwyd yn ystod y cyfarfod, a

 

 (b)      Rhoi cyfarwyddyd i swyddogion i ymgynghori ymhellach gyda phartïon sydd â diddordeb ac i gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a dderbyniwyd yn fersiwn olaf y polisi a geir eu cyflwyno yn un o gyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn rhoi gwybod i aelodau am ganlyniad ymgynghoriad y Polisi Arfaethedig Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.

 

Roedd manylion y cyfnod ymgynghori o wyth wythnos wedi’u rhoi ynghyd â sylwadau a ddaeth i law; roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion yn bositif gydag ychydig iawn o feysydd dadleuol.  Gan gymryd i ystyriaeth yr ymatebion i'r ymgynghoriad, roedd nifer o ddewisiadau wedi eu cynnig i'r aelodau ystyried ymhellach, a oedd yn Atodiad D y prif adroddiad.

 

Trafododd yr Aelodau pob un o'r meysydd hynny o'r polisi fel a ganlyn -

 

(1)  Amodiad Lliw Cerbydau Hacni

 

Roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn cefnogi'r cynnig yn llawn i osod amodiad lliw, gan ddweud bod dull o'r fath yn gweithio'n dda mewn gwledydd eraill ac wedi gwella strydlun cyfan.  Gan ystyried yr amheuon a fynegwyd ynghylch amodiad lliw du, awgrymodd bod lliw arall yn cael ei ystyried.  Yn ystod y ddadl nid oedd llawer o gefnogaeth gan aelodau eraill i osod gofyniad lliw, yn enwedig o ystyried y gost o weithredu amod o'r fath ac a ddylai’r gost yna ddisgyn ar yr awdurdod lleol neu'r perchennog cerbyd hacni.  Barnwyd y byddai'n well gwario’r arian ar sicrhau diogelwch teithwyr, gan gynnwys cynnal a chadw cerbydau.  O’i roi i’r bleidlais, cytunwyd y gellid dileu’r amod lliw arfaethedig ar gyfer cerbydau hacni.

 

(2)  Oedran Cerbydau Trwyddedig sy’n newydd i fflyd

 

O ystyried dyfodiad technoleg newydd a gwarantau estynedig ar gyfer cerbydau, cytunwyd i gefnogi'r cynnig i gynyddu'r terfyn oedran ar gyfer cerbydau sy’n newydd i fflyd i bwrpas cerbydau hacni i 5 mlynedd (yn unol â cherbydau hurio preifat).

 

(3)  Uchafswm Oed i Gerbydau Trwyddedig mewn fflyd

 

Ystyriwyd rhinweddau gosod uchafswm terfyn oedran.  Yn sgil trefn MOT rheolaidd a Phrawf Cydymffurfio ar gyfer cerbydau trwyddedig, cytunwyd i gadw’r cynnig o derfyn oedran 10 mlynedd ar gyfer cerbydau hacni, a therfyn oedran 12 mlynedd i gerbydau hurio preifat.

 

(4)  Trelars

 

Cytunodd yr Aelodau bod gwerth caniatáu trelars ar gyfer cerbydau hurio preifat, yn enwedig ar gyfer cludo bagiau yn ystod teithiau maes awyr, pan roedd y pris wedi cael ei archebu ymlaen llaw a'r angen am drelar yn hysbys.  Fodd bynnag, ystyriwyd bod y defnydd o drelars gan gerbydau hacni yn amhriodol ar safle tacsi.  Hefyd trafodwyd y mater o hyfforddi gyrwyr a chytunwyd i ystyried derbyn trelars ar gyfer cerbydau hurio preifat yn unig, a hefyd i ystyried a fyddai angen hyfforddiant perthnasol ar gyfer y gyrwyr hynny wedi’u heithrio ar hyn o bryd rhag angen pasio hawliad trelar gyrrwr y DVLA.

 

(5)  Yn hygyrch i gadeiriau olwyn

 

Nododd yr Aelodau fod y rhan fwyaf o dacsis a oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ac wrth nodi rhinweddau i bennu bod hygyrchedd i gadeiriau olwyn yn amod, teimlai'r aelodau cyffredinol y byddai gofyniad o'r fath yn rhy gyfyngol.  O ganlyniad, cytunwyd i beidio â chefnogi’r cynnig i bob cerbyd hacni fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

 

Tynnodd y Swyddog Trwyddedu sylw'r aelodau at sylwadau hwyr a dderbyniwyd mewn ymateb i'r adolygiad polisi cerbyd a oedd wedi ei gylchredeg i aelodau’r  diwrnod blaenorol.  Cytunodd yr Aelodau y dylid delio â’r sylwadau hwyr hynny fel rhan o'r cam ymgynghori nesaf.  Cyfeiriodd y Rheolwr Trafnidiaeth i Deithwyr at ei sylwadau ysgrifenedig a thynnodd sylw at y ffaith y gallai unrhyw newidiadau i'r polisi presennol effeithio ar y gyllideb cludiant ysgol.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       newid y polisi arfaethedig i adlewyrchu'r newidiadau fel y trafodwyd ac y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod, a

 

(b)       rhoi cyfarwyddyd i swyddogion ymgynghori ymhellach gyda phartïon sydd â diddordeb ac i gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a dderbyniwyd yn fersiwn olaf y polisi a fydd yn cael eu cyflwyno yn un o gyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: