Eitem ar yr agenda
PROSIECT GWELLA TAI GORLLEWIN Y RHYL
Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) i roi'r
wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cyflwyno un elfen o Raglen Adfywio'r
Rhyl - Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl.
Cofnodion:
Bu i’r Cynghorydd
Joan Butterfield ddatgan cysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei bod yn
Aelod o’r Ymddiriedolaeth Tai Cymunedol.
Estynnodd y
Cadeirydd, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones groeso i dri siaradwr gwadd
i’r cyfarfod, sef:
Ø Peter James – Rheolwr Adfywio, Llywodraeth
Cymru
Ø Graham Worthington – Prif Weithredwr,Tai
Clwyd Alyn / Pennaf, a
Ø Phil Danson – Cyfarwyddwr Datblygu Busnes,
Tai Gogledd Cymru
Yn y fan hon,
ymddiheurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth y Cyhoedd ar ran yr
Arweinydd am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ei rôl fel
Aelod Arweiniol yr Economi oherwydd ymrwymiad blaenorol.
Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth y Cyhoedd yr adroddiad i ddiweddaru
ynglŷn â’r cynnydd a wnaed i ddarparu un elfen o raglen Adnewyddu’r Rhyl
- Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl.
Nod y prosiect fyddai denu mwy o bobl economaidd weithgar i fyw yn ardal
orllewinol y dref, i gefnogi’r economi a sicrhau bod y gymuned yn ffynnu.
Cychwynnwyd y prosiect er mwyn newid canfyddiad pobl o’r ardal ac o’r Rhyl yn
gyffredinol.
Roedd y prosiect yn bartneriaeth amlasiantaeth rhwng Llywodraeth Cymru
(LlC), Cymdeithasau Tai, y Cyngor a phartneriaid sector preifat.
Rhoddwyd
cyflwyniad gan Peter James, Rheolwr Adfywio (LlC) a oedd yn amlinellu’r
canlynol:
Ø Hanes a
chefndir y prosiect
Ø Gwahanol gamau yn y gwaith o gynllunio’r
gwahanol lefelau a mathau o ymyrraeth angenrheidiol
Ø Disgrifiodd yr
ardal ymyrraeth, cyllideb y prosiect ac amserlenni ar gyfer y prosiect
Ø Prosiectau unigol a gwblhawyd, a oedd ar y
gweill ar hyn o bryd neu yn yr arfaeth ar gyfer pob un o’r 6 parth
Ø Materion a oedd
wedi codi yn ystod y prosiect - yn cynnwys y storïau o lwyddiant, materion
cymhleth, sut y cafodd y rheini eu goresgyn a’r gwersi a ddysgwyd wrth
ddarparu’r prosiect, a
Ø Materion yn y dyfodol / camau nesaf.
Eglurodd Peter James (LlC) pam fod LlC wedi penderfynu bod angen ymyrraeth
yn y Rhyl. Ymgais ydoedd i wyrdroi’r dirywiad parhaus yn yr ardal gan fod
amodau tai’n wael, a hynny ynddo’i hun yn rhwystr mawr i adfywio economaidd.
Roedd anghydbwysedd demograffig mawr, gan fod cyfran fawr o’r boblogaeth leol
yn ddynion sengl, ac roedd y ddwy ffactor yma wedi arwain at gylch o ddiffyg
buddsoddi yn yr ardal.
Cynhaliwyd dadansoddiad o anghenion tai a oedd wedi dangos diffyg tai i
deuluoedd yn yr ardal ac anghydbwysedd yn neiliadaeth tai’r ardal. Roedd nifer
fawr o dai yn yr ardal mewn perchnogaeth breifat ond mewn cyflwr gwael iawn, ac
felly, roedd y broses negodi i brynu’r
rhain wedi bod yn hynod o gymhleth ac wedi cymryd llawer o amser. Prynwyd
cyfanswm o 120 o dai, y mwyafrif drwy Orchmynion Prynu Gorfodol. Roedd y broses
honno wedi cychwyn yn 2013 ac mae'n debyg mai hwn oedd y prosiect adfywio
trefol mwyaf cymhleth yng Nghymru yn ymwneud â thai preswyl. Ar ôl cwblhau
Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl roedd tua £27miliwn wedi ei fuddsoddi yng
ngorllewin y Rhyl yn cynnwys arian gan LlC, y Cyngor Sir, cyrff cyhoeddus
eraill a gan y sector preifat.
Yna aeth Peter
James (LlC) rhagddo a:-
Ø Dywedodd mai’r
risg fwyaf ar y dechrau oedd ailgartrefu preswylwyr o’r tai a brynwyd drwy
orchymyn prynu gorfodol. Fodd bynnag, roedd pob o’r preswylwyr wedi eu hailgartrefu’n
llwyddiannus ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau negyddol
Ø Dywedodd fod y
prosiect tua 6-7 mis ar ei hôl hi, ond oherwydd natur gymhleth y prosiect a
chyflwr gwael rhai o’r tai, a oedd wedi golygu bod angen gweithredu Gorchmynion
Prynu Gorfodol, roedd y llithriant yn ddealladwy ac roedd yn bosibl ei reoli
Ø Manylodd ynglŷn â’r amserlen, y
canlyniadau a gynlluniwyd a chynnydd y gwaith ar bob un o’r 7 parth
Ø Dywedodd wrth Aelodau fod parthau 3 a 5
bellach wedi eu cynnwys fel un parth mewn ymgais i ddenu diddordeb o’r sector
busnes gyda golwg ar ddatblygu amrywiaeth o ddatblygiadau busnes / hamdden a
phreswyl
Ø Amlinellodd y gwahanol fathau a
deiliadaeth tai a fyddai’n cael eu hadeiladu neu eu hadnewyddu yn yr ardal
Ø Rhoddodd
drosolwg o’r ymdrechion ar y gweill i sefydlu ethos cymunedol yn yr ardal trwy
ddatblygu cymdeithasau tenantiaid / mentrau cydweithredol yn gyfrifol am redeg
a rheoli’r tai, a siop gymunedol yn cael ei rhedeg gan breswylwyr ar gyfer
preswylwyr
Ø Manylodd ynglŷn â’r mathau o gyrsiau
a oedd yn cael eu cynnal er mwyn paratoi preswylwyr i gyflawni’r dyletswyddau
uchod a’u harfogi â’r sgiliau angenrheidiol i wneud y gwaith
Ø Pwysleisiodd fod cyfathrebu rheolaidd gyda
phreswylwyr yn allweddol i lwyddiant y prosiect adfywio gan fod preswylwyr wedi
bod yn byw ar “safle adeiladu” am gryn amser
Ø Eglurodd tra mai nod y prosiect yn y pen
draw oedd denu partneriaid sector preifat i’r ardal i fuddsoddi a rhedeg eu
busnesau o’r ardal, mai rôl y sector cyhoeddus oedd gosod y sylfaen a dod ag
ymdeimlad o falchder ac uchelgais yn ôl i’r ardal a’r gymuned i geisio denu
buddsoddiad a diddordeb y sector preifat.
Ø Dywedodd fod yr
amserlen a’r costau cychwynnol ar gyfer y prosiect wedi bod yn seiliedig yn
bennaf ar dybiaethau gan nad oedd gan unrhyw un o’r partneriaid bŵer i
archwilio cyflwr y tai cyn cyflwyno’r Gorchmynion Prynu Gorfodol. Dim ond ar ôl
cyflwyno’r Gorchmynion Prynu Gorfodol ac ar ôl i'r Cyngor feddiannu’r tai y
daeth yn amlwg pa mor ddifrifol oedd eu cyflwr. Dysgwyd gwersi drwy gydol y
prosiect ac roedd tystiolaeth o ganlyniadau da i breswylwyr a thref y Rhyl yn
dechrau cael eu hamlygu.
Ø Eglurodd fod diddordeb yn cael ei ddangos,
am y tro cyntaf ers blynyddoedd, mewn prynu a gosod tai i deuluoedd yn yr
ardal; a
Ø Chadarnhaodd y byddai’r holl bartneriaid
yn parhau i ganolbwyntio ar gynlluniau cymdogaeth yn yr ardal er mwyn creu
ymdeimlad o falchder a chymuned ymysg y preswylwyr.
Wrth ymateb i gwestiynau gan Aelodau, dywedodd y cynrychiolwyr:
Ø Fod sylwadau anghywir a ffeithiau anghywir
wedi eu hadrodd o safbwynt honiadau fod
tai ym mhen gorllewinol y Rhyl wedi eu hysbysebu mewn carchardai. Doedd yr un
gymdeithas tai na chorff cyhoeddus arall wedi hysbysebu mewn carchardai
Ø Cadarnhawyd bod Tai Pennaf yn gweithio’n
agos gyda’r gymuned mewn ymgais i leihau a chael gwared ar ymddygiad
gwrthgymdeithasol. Roedd wedi penodi dau swyddog ymddygiad gwrthgymdeithasol ac
roedd yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i honiadau o ymddygiad
gwrthgymdeithasol, yn cynnwys gadael sbwriel yn anghyfreithlon
Ø Dywedwyd bod y
Cymdeithasau Tai’n cymryd rhan amlwg mewn digwyddiadau cymunedau ayb lle’r oedd
rolau a chyfrifoldeb cymdeithasol a chymunedol preswylwyr yn cael eu pwysleisio
a’u hyrwyddo
Ø Dywedwyd y
byddai pobl a oedd wedi bod yn destun cam-drin domestig yn cael cyfle i symud i
lety diogel gan asiantaethau yr oedd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn
gweithio â nhw, neu’n cael mynediad at grwpiau cymorth camdriniaeth
Ø Pwysleisiwyd nad oedd ymddygiad
gwrthgymdeithasol wedi ei gyfyngu i ardaloedd tai cymdeithasol, roedd yn
digwydd drwy’r sir. Roedd y ffigyrau diweddaraf yn dangos bod gostyngiad o 50%
yn lefel ymddygiad gwrthgymdeithasol ers y flwyddyn flaenorol, gyda chyfraddau
troseddu wedi gostwng 30%
Ø Sicrhaodd
Pennaf Aelodau nad oeddent yn ailgyfeirio eu hymdrechion o weddill Prosiect
Gwella Tai Gorllewin y Rhyl i dai ar Stryd Edward Henry. Roedd gwaith wedi
dechrau yno yn sgil astudiaeth beilot ar y cyd gyda LlC a oedd wedi dangos bod
un tŷ angen sylw ar fyrder. Roedd Pennaf yn hyderus y byddai’r Cyngor yn
eu cefnogi yn y gwaith hwn
Ø Cadarnhawyd y
dylid cwblhau tai’r Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol erbyn Medi 2016. Roedd y
gwaith o ddarparu’r tai wedi cael ei effeithio gan dywydd gwael a phrinder
bricwyr
Ø Cadarnhawyd bod
Coleg y Rhyl yn ymwybodol o’r prinder bricwyr. Cynhaliwyd diwrnodau blasu mewn
ysgolion mewn ymgais i ddenu disgyblion i hyfforddi ar gyfer y fasnach. Roedd
datblygwyr tai hefyd yn gweithio gyda’r Coleg er mwyn mynd i’r afael â’r
prinder hwn
Ø Roedd contractau ar gyfer Prosiect Gwella
Tai Gorllewin y Rhyl yn nodi’n benodol
bod angen i gontractwyr a benodwyd gyflogi prentisiaethau er mwyn datblygu
sylfaen sgiliau yn y gymuned a’r economi lleol. Byddai’r Prosiect hefyd yn
destun Archwiliad Budd Cymunedol gan LlC i werthuso graddfa buddion y Prosiect
i’r gymuned a’r economi’n gyffredinol
Ø Dywedwyd eu bod yn awyddus i weld a fyddai
cael amrywiaeth briodol o ddeiliadaeth tai, yn ogystal â thenantiaid yn ymwneud
â’r gwaith o reoli eu tai, yn meithrin ymdeimlad o falchder yn yr ardal
Ø O’r holl dai a brynwyd fel rhan o’r
Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl, dywedwyd mai dim ond tua 12 o’r
landlordiaid oedd yn byw y tu allan i’r ardal. Roedd tri phrif ddeiliaid
portffolio tai yn y Rhyl a’r rheini i
gyd wedi eu lleoli ym Mirmingham
Ø Amlinellwyd eu Polisïau Dyraniadau Tai. Ar
gyfer y sector rhent roeddent yn seiliedig ar anghenion tai’r darpar denant a
lefel bregusrwydd y teulu. Roedd gwaith yn parhau rhwng y Cyngor a’r
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gyflwyno Polisi Dyraniadau Cyffredinol
ar gyfer tai cymdeithasol. Roedd cydweddoldeb systemau TG wedi bod yn broblem
ac roedd Pennaeth Gwasanaeth y Cyngor wrthi’n edrych ar fesurau i oresgyn y
problemau hyn a bwrw ymlaen â’r mater
Ø Eglurwyd bod fforddiadwyedd yn rhan o’r
asesiad ar gyfer tŷ mewn rhan-berchnogaeth
Ø O safbwynt
Parth 4, 14-27 John Street, dywedwyd bod datblygwr lleol wedi dangos diddordeb,
ond gwaetha’r modd, nid oedd yn gallu cael gafael ar adnoddau ariannol digonol
i’w ddatblygu’n unol â manyleb y partneriaid. Serch hynny, bellach roedd gan
ddatblygwr lleol bach ddiddordeb mewn datblygu’r safle ac roedd y Cyngor a
phartneriaid eraill yn gweithio gyda’r Cwmni i sicrhau bod y prosiect yn dwyn
ffrwyth Y bwriad o hyd oedd i’r safle hwn fod yn safle cymysg, yn unol â’r
Canllawiau Cynllunio Atodol. Pe byddai unrhyw un, ar unrhyw adeg, eisiau newid
y cynigion hyn, byddai angen anfon cais
i ddiwygio’r Canllawiau Cynllunio Atodol i’r Adran Gynllunio, a’u cyflwyno i’r
Pwyllgor Cynllunio i gymeradwyo’r amrywiad neu’r newid
Ø Cadarnhawyd bod
diddordeb wedi ei ddangos gan ddatblygwyr ym Mharth 3, gan fod Parth 5 bellach
wedi ei gynnwys ynddo. Tra cydnabuwyd bod cynnydd gyda’r Parth hwn wedi bod yn
arafach nag a ragwelid, roedd partneriaid yn fwy hyderus bellach y byddai’n
cael ei ddatblygu’n unol â’u cynlluniau
Ø Cadarnhawyd bod y simneiau a ddangoswyd yn
y ffotograffau o’r tai preswyl arfaethedig i bwrpas cosmetig yn unig
Ø O blith y 120 o deuluoedd a oedd wedi
symud allan o’r tai yn ardal gorllewin y Rhyl er mwyn gallu cyflawni’r
Prosiect, dywedwyd bod 119 ohonynt wedi aros yn y Rhyl, ac 1, ar ei gais ei
hun, wedi symud o’r ardal
Ø Cadarnhawyd bod
prisiau prynu yn y Gorchmynion Prynu Gorfodol wedi eu pennu heb allu cael
mynediad i’r tai i gynnal arolygon strwythurol, a
Ø Chadarnhawyd bod y lefel rhent ar gyfer y
tai newydd wedi eu gosod ar lefel rhent canolraddol – hanner ffordd rhwng
lefelau rhent y Cyngor/Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a lefelau rhent
preifat. Ni fyddai gostyngiad yn lefel y rhent yn y dyfodol, ond rhagwelid yn y
tymor canolig i hir y byddai nifer o’r tenantiaid yn prynu eu tai.
Ar ôl gorffen
trafod, diolchodd y Cadeirydd i’r holl gynrychiolwyr am fod yn bresennol ac am
ateb cwestiynau’r Aelodau. Roedd y Cadeirydd a’r Pwyllgor o’r farn y byddai
Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl, ar ôl iddo gael ei orffen, yn cyd-fynd yn
dda â’r weledigaeth ar gyfer y Rhyl ac roeddent yn sicr y byddai’r Prosiect yn
cael ei gwblhau’r llawn maes o law.
PENDERFYNWYD
yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn yr adroddiad a’r cyflwyniad ar y cynnydd
hyd yma i ddarparu Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl a
datblygiadau arfaethedig yn y dyfodol i ddarparu’r Prosiect yn llawn.
Dogfennau ategol:
- WHRIP report Welsh, Eitem 2. PDF 113 KB
- App 1 WHRIP .docx, Eitem 2. PDF 1 MB
- App 2 WHRIP, Eitem 2. PDF 494 KB