Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD AC YMGYNGHORIAD GWASANAETHAU GOFAL MEWNOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Phlant (copi'n amgaeedig) yn rhoi dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau gofal cymdeithasol mewnol y Cyngor ar gyfer pobl hŷn ac yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer swyddogion i edrych ar y dewisiadau ar gyfer pob un o'r pedwar sefydliadau gofal yn fanylach gyda golwg ar wneud penderfyniadau terfynol ar ba opsiynau ddylai cael eu gweithred.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r canlynol –

 

(a)       Hafan Deg (y Rhyl) – Bod y cyngor yn archwilio partneriaeth posibl gyda sefydliad allanol gyda golwg ar drosglwyddo'r adeilad iddynt, comisiynu gwasanaeth gofal dydd o fewn yr adeilad ac, yn ogystal â hynny, alluogi asiantaethau 3ydd sector i ddarparu gweithgareddau ymyrryd cynnar ar gyfer pobl hŷn a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol, cefnogi annibyniaeth a hybu gwydnwch.  Dylai’r gwaith mewn cysylltiad â'r opsiwn hwn gynnwys cost, ansawdd y gofal a dadansoddiad darpariaeth iaith Gymraeg rhwng y darparwr presennol ac unrhyw wasanaeth posibl yn y dyfodol.

 

(b)       Dolwen (Dinbych) – Bod y cyngor yn archwilio partneriaeth bosibl gyda sefydliad allanol gyda'r bwriad o drosglwyddo’r adeilad a'r gwasanaeth cyfan iddynt, tra'n sicrhau bod Dolwen wedi'i gofrestru i ddarparu gofal preswyl a dydd EMH.  Dylai’r gwaith mewn cysylltiad â'r opsiwn hwn gynnwys cost, ansawdd y gofal a dadansoddiad darpariaeth iaith Gymraeg rhwng y darparwr presennol ac unrhyw wasanaeth posibl yn y dyfodol.

 

(c)        Awelon (Rhuthun) – bod y Cyngor yn ystyried yn fanwl y tri opsiwn a gyflwynwyd mewn perthynas â’r sefydliad hwn a bod y gwaith mewn perthynas â’r dewisiadau hyn yn cynnwys costau cymharol, ansawdd y gofal a dadansoddiad darpariaeth iaith Gymraeg rhwng y gwasanaeth presennol a phob un o'r tri opsiwn. 

 

Yr opsiynau yw –

 

·         Opsiwn 1 (yr opsiwn mae’r Cabinet yn ei ffafrio): Bydd y Cyngor yn ymuno mewn partneriaeth â pherchennog Llys Awelon i ddatblygu mwy o fflatiau Gofal Ychwanegol ar y safle, gan ddisodli'r ddarpariaeth breswyl a chymunedol bresennol.  Fodd bynnag, dylid nodi bod y Cabinet wedi cytuno na fydd yn rhaid i unrhyw breswylydd adael os nad ydynt eisiau gadael a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu yn y ddarpariaeth breswyl

 

·         Opsiwn 2: I weithio mewn partneriaeth gyda landlord cymdeithasol cofrestredig, gwasanaethau iechyd a'r 3ydd sector i ddatblygu amrywiaeth o wasanaethau, trosglwyddo hanner yr adeilad i ddatblygu mwy o fflatiau gofal ychwanegol, o bosibl fel estyniad i Lys Awelon, gan ddefnyddio’r gweddill fel uned breswyl fach y gellid ei defnyddio i ddiwallu’r angen am ofal seibiant a sicrhau nad oes rhaid i unrhyw breswylydd presennol symud oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny.

 

·         Opsiwn 3: (Awgrym gan rai Aelodau) Dylai’r Cyngor ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymchwilio i ba mor ymarferol yw datblygu capasiti gofal nyrsio ychwanegol yn Rhuthun a fyddai yn ei dro yn gwella’r cynnig i bobl hŷn yn ardal Rhuthun.

 

(d)       Cysgod y Gaer (Corwen) – Mae'r cyngor yn edrych ar ymuno mewn partneriaeth â rhanddeiliaid perthnasol (gan gynnwys BCU a'r 3ydd sector) i ddatblygu'r safle i 'ganolfan gymorth' sy’n cynnig cyfleusterau preswyl a gofal ychwanegol yn ogystal â gwasanaeth allgymorth gofal cartref a gwasanaeth cefnogi i denantiaid Cynlluniau Tai Gwarchod lleol phoblogaeth ehangach  Corwen a'r ardal gyfagos; ac

 

(e)       O gwblhau'r uchod, cyflwynir dadansoddiad o bob un o'r opsiynau mewn perthynas â phob sefydliad i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad i’w archwilio cyn gwneud penderfyniad gan y Cabinet, gyda bob un yn cael ei gyflwyno fel y caiff ei ddatblygu.

 

 

Cofnodion:

Nododd yr Arweinydd y byddai’n ddefnyddiol darparu peth cyd-destun, gan fod y broses adolygu yn un gymhleth oedd yn cymryd amser.  O ganlyniad, gwahoddodd y rheiny sy’n ymwneud â’r broses i siarad gyda’r Cabinet.

 

Eglurodd y Cynghorydd Meirick Daves, aelod a chyn Gadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i gynorthwyo gyda’r adolygiad, am aelodaeth y Grŵp, ei bwrpas, ei sgôp a’i amserlenni a oedd wedi arwain at eu hargymhellion i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad.  Gofynnwyd i’r Grŵp Tasg a Gorffen archwilio’r opsiynau gwerth am arian ar gyfer darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol o ansawdd uchel yn y Sir.  Manylodd y Cynghorydd Davies ar rôl y Grŵp wrth arolygu’r broses gynllunio ar gyfer yr ymgynghoriad ac archwilio opsiynau posib dros y ddwy flynedd diwethaf, gan arddangos natur gymhleth a gwytnwch y broses.  Talodd deyrnged hefyd i waith y diweddar Gynghorydd Richard Davies a’i gyfraniad tuag at y broses. 

 

Adroddodd y Cynghorydd Barry Mellor, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar archwiliad craff y pwyllgor o ganfyddiadau, casgliadau a chynigion y Grŵp Tasg a Gorffen yn ystod eu cyfarfod ar 12 Ebrill 2016. Roedd wedi ei siomi mai ymateb gwael gafwyd gan y cyhoedd i’r broses ymgynghori er bod y mater yn un uchel ei broffil.  Yn gyffredinol roedd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn fodlon â chanfyddiadau ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen.  Wrth greu argymhelliad y pwyllgor i’r Cabinet cynhwyswyd cafeatau ychwanegol o safbwynt cynnwys dadansoddiad cymharol o gostau, safon gofal a darpariaeth cyfrwng Cymraeg rhwng y darparwr cyfredol ac unrhyw wasanaeth posib.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Mellor ei fod yn gyfforddus gyda’r argymhellion sydd wedi eu rhoi gerbron y Cabinet.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bobby Feeley i aelodau a swyddogion am eu mewnbwn i'r broses hyd yma ac am eu holl waith caled.  Amlinellodd yr achos dros newid gan gymryd i ystyriaeth ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r angen i foderneiddio gwasanaethau mewn ymateb i ddemograffeg newidiol ac anghenion y cyhoedd mewn amgylchiadau ariannol anodd.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r wybodaeth gafodd ei gasglu o’r ymgynghoriad cyhoeddus a barn y Pwyllgor Archwilio Perfformiad wrth ystyried adroddiad y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i ddadansoddi’r wybodaeth ac argymell ffordd ymlaen.  Roedd gwybodaeth a thystiolaeth a ystyriwyd fel rhan o’r adolygiad wedi ei gynnwys mewn atodiadau i’r adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a Phrif Reolwr – Cymorth Busnes gyflwyniad PowerPoint ar y dystiolaeth o’r ymgynghoriad cyhoeddus oedd yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol -

 

·         eglurwyd sut roedd yr egwyddorion cyfreithiol o amgylch yr ymgynghoriad wedi eu cwrdd, a natur yr ymgynghoriad

·         manylodd ar yr achos dros newid gan gymryd i ystyriaeth y gofyn am fathau o ofal cymdeithasol ac anghenion trigolion lleol a darparu deilliannau gwell, gan alluogi pobl i fod yn annibynnol am fwy o amser a chymryd cost darparu gwasanaeth i ystyriaeth

·         manylodd ar yr opsiynau am bob un o’r pedwar sefydliad gofal yn ogystal â’r rhesymau dros bob dewis

·         rhoddodd grynodeb o’r ymgynghoriad cyhoeddus yn ogystal â throsolwg o’r ymatebion a dderbyniwyd, y prif bryderon a godwyd ac ymateb y Cyngor i hynny a oedd wedi ei nodi o fewn yr atodiadau i’r prif adroddiad.

 

Trafododd y Cabinet yr adroddiad gyda’r Aelod Arweiniol a swyddogion a cheisiwyd sicrwydd ynghylch nifer o faterion a chodwyd cwestiynau pellach fel a ganlyn -

 

·         os bydd Cabinet yn cymeradwyo’r argymhellion rhoddwyd sicrwydd y byddai gwasanaethau yn parhau fel arfer yn y cyfamser, gan gynnwys derbyniadau i gartrefi gofal cyn belled ag y gellid cwrdd gofynion yr unigolion hynny.

·         ymhelaethodd swyddogion ymhellach dros yr achos am newid gan gynghori bod galw am wasanaethau gofal dydd a gofal preswyl safonol yn lleihau ond bod galw’n cynyddu am wasanaethau iechyd meddwl a chartrefi nyrsio arbenigol yn ogystal â gwasanaethau eraill sy’n hyrwyddo annibyniaeth.

·         derbyniwyd llythyr gan Gomisiynydd y Bobl Hŷn am ddyfodol gwasanaethau gofal a darparwyd ymateb manwl i’r materion a godwyd – nid wedi nodi nad oes galw bellach am ofal preswyl safonol oedd y Cyngor, ond dweud mai nifer fechan o bobl sy’n gofyn am y ddarpariaeth honno a bod y galw yn lleihau.  Fodd bynnag roedd cynnydd mewn galw am ofal preswyl a gofal nyrsio arbenigol nad oedd y Cyngor yn ei ddarparu.  Byddai'r opsiynau a argymhellwyd yn cynyddu’r amrywiaeth o wasanaeth a ddarperir

·         Nodwyd bod gwrthwynebiad i’r cynigion ac y byddai ansicrwydd ynghylch dyfodol cartrefi gofal yn achosi pryder a straen.  Ceisiodd Cabinet sicrwydd na fyddai unrhyw unigolyn o dan anfantais o ganlyniad i’r broses ac y byddai eu hanghenion yn dal i gael eu cwrdd.  Oherwydd yr effaith bosib ar ddefnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd, staff a’r gymuned ehangach, amlinellwyd pwysigrwydd sicrhau bod pawb yn cael gwybod beth sy’n digwydd yn ystod y broses gyfan fel blaenoriaeth allweddol.  Pwysleisiodd swyddogion y byddai’r gwasanaethau yn parhau fel ag y maent yn y cyfamser a bod y Cabinet eisoes wedi penderfynu na fyddai angen i unrhyw un symud os nad oeddent am wneud hynny ac y gellid cwrdd eu gofynion yno hefyd.  Cytunodd Swyddogion bod cyfathrebu yn fater allweddol ac y byddai pawb yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau wrth iddynt ddigwydd

·         diolchwyd i Unison am gefnogi staff drwy’r broses a dywedodd swyddogion bod cynnig amgen Unison wedi ei ystyried yn ofalus ond nad oedd yn mynd i’r afael â’r lleihad yn y galw am ofal preswyl a'r angen i ddatblygu dewisiadau galluogi amgen i wasanaeth presennol.  Ers mis Chwefror roedd y nifer o breswylwyr parhaol yng nghartrefi gofal y Cyngor wedi lleihau eto yn gyffredinol [roedd un preswylydd ychwanegol yng Nghysgod y Gaer].

 

Roedd manylion am y dewisiadau ar gyfer y pedwar sefydliad gofal yn yr adroddiad a chawsant eu hystyried ar wahân gyda’r drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol -

 

Hafan Deg, (Y Rhyl)

 

Pwysleisiodd y Cabinet bwysigrwydd y ganolfan gymunedol i’r gymuned ehangach, yn enwedig i drigolion War Court Memorial ac roedd am gael sicrwydd o safbwynt hynny.  Cynghorwyd y Cabinet bod pwysigrwydd y ganolfan wedi ei chydnabod yn ystod y broses ymgynghori ac mai’r bwriad oedd cynyddu defnydd yr adnoddau gyda’r gwasanaethau ar gael i’r gymuned ehangach, gan gynnwys tenantiaid War Memorial Court, a fyddai’n gynwysedig mewn unrhyw Gytundeb Lefel Gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Joan Butterfield y gwasanaethau gwerthfawr a ddarperir gan Hafan Deg ac roedd yn teimlo nad oedd y dewisiadau yn ddigon cynhwysfawr.  Roedd yn credu y dylid costio'r elfen breswyl a’r elfen gofal dydd ar wahân a'i fod yn angenrheidiol bod gwasanaethau gofal dydd yn parhau.  Roedd yn teimlo y dylai gwasanaethau adsefydlu a gofal dydd weithio mewn partneriaeth ac y dylent gael eu harchwilio ymhellach gydag opsiynau i gadw’r gwasanaeth yn fewnol.  Bu iddi gwestiynu os oedd digon o ddiddordeb gan ddarparwyr allanol i fynd ymlaen â’r broses, ac os oedd yr opsiwn hwnnw yn cael ei geisio, a ellid rhoi sicrwydd na fyddai’r gwasanaeth yn cael ei ddileu yn y dyfodol.  Cytunodd swyddogion bod gwasanaethau gofal dydd yn bwysig ond nid oedd yn rhaid iddynt gael eu darparu gan y Cyngor.  Roedd gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod gofynion unigol yn cael eu cwrdd petai gwasanaeth yn methu.  Roedd yr argymhelliad yn cynnwys dadansoddiad cost cymharol a fyddai’n golygu y gellid gwneud penderfyniad ar sail costau.  Byddai unrhyw adeiladu a drosglwyddwyd o dan y cynigion yn debygol o fod ar brydles hir dymor gydag amodau’n gysylltiedig, a byddai’r ddarpariaeth o wasanaethau yn ddarostyngedig i gytundeb yn diogelu rhag dileu darpariaeth gwasanaeth.  Pe na gellid dod o hyd i bartner yna byddai’r broses adolygu yn ail ddechrau.

 

Dolwen (Dinbych)

 

Cydnabu’r Cabinet bwysigrwydd y ganolfan gofal dydd a cheisiodd sicrwydd y byddai’r ddarpariaeth yn cael ei hymestyn yn hytrach na’i dileu.  Cadarnhaodd swyddogion bod opsiynau’n cael eu harchwilio ar gyfer yr elfen gofal dydd a’r elfen gofal preswyl er mwyn sicrhau y gallai gofal dydd gefnogi pobl gydag anghenion iechyd meddwl.  Nid yw staff ar hyn o bryd wedi eu cofrestru i ddarparu gofal iechyd meddwl na gofal nyrsio ac roedd angen mynd i’r afael â’r broblem hon yn yr ardal.

 

Nododd y Cynghorydd Ray Bartley bod Dolwen wedi bod yn darparu gofal o safon uchel am hanner canrif a thalodd deyrnged i’r staff am y gofal a geir yno.  Wrth amlygu Dolwen fel adnodd gofal gwbl angenrheidiol cefnogodd y cynnig ar gyfer darpariaeth iechyd meddwl ychwanegol i’r henoed.  Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts o’r farn bod cyllid yn gyrru’r newidiadau arfaethedig ac fe amlinellodd bwysigrwydd darparu gofal drwy gyfrwng y Gymraeg dros yr holl adnoddau gofal a cheisiodd sicrwydd pellach o safbwynt hynny.  Cadarnhaodd swyddogion bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn hollbwysig i ddarparu gwasanaethau gofal boed yn y cartref neu mewn lleoliadau preswyl a bod dadansoddiad o ddarpariaeth Gymraeg wedi ei gynnwys o fewn yr opsiynau a argymhellwyd.  O safbwynt cyllid, cynghorodd swyddogion mai’r prif yrrwr ar gyfer y newid oedd cynaliadwyedd neu wasanaethau ar gyfer cenedlaethau’r presennol a chenedlaethau’r dyfodol drwy ddarparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau a chwrdd gofynion mewn ffyrdd mwy amrywiol.

 

Awelon (Rhuthun)

 

Roedd yr adroddiad yn argymell bod y tri opsiwn yn cael ei archwilio mewn mwy o fanylder.

 

Cododd y Cynghorydd David Smith y materion canlynol:-

 

·         o safbwynt Opsiwn 3 ceisiwyd sicrwydd y byddai'r safleoedd ysgol presennol (Ysgol Pen Barras / Stryd Rhos) yn cael eu hystyried ar gyfer y cynnig hwn yn ogystal â safleoedd posib eraill

·         cynghorwyd bod hanesion celwyddog yn cylchredeg ac fod pobl o ganlyniad yn credu nad oedd derbyniadau i Awelon yn bosib bellach, er nad oedd hyn yn wir. Mae angen neges glir yn nodi bod opsiynau yn cael eu harchwilio ond bod gwasanaethau yn rhedeg fel arfer yn y cyfamser.

·         nodwyd bod llawer iawn yn gwneud defnydd o Ganolfan Awelon a cheisiwyd sicrwydd y byddai adnodd cyfwerth neu well yn cael ei darparu pe byddai rhaid dileu/ail ddylunio'r ganolfan fel rhan o unrhyw gynlluniau yn y dyfodol.

 

Rhoddwyd yr ymatebion canlynol -

 

·         cynghorodd swyddogion bod gwybodaeth am weithrediad Awelon wedi ei atgyfnerthu yn ystod y broses ymgynghori a chadarnhawyd y byddent yn parhau i anfon neges glir allan o safbwynt hynny.

·         cynhaliwyd cyfarfod gyda chynrychiolwyr o Ganolfan Awelon fel rhan o’r broses ymgynghori a rhoddwyd cydnabyddiaeth o’r gwasanaeth gwerthfawr yr oedd yn ei ddarparu i’r henoed yn ogystal ag i’r gymuned ehangach – byddai’r Tîm Rheoli yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau.  Rhoddwyd sicrwydd y byddai’r sefydliad fyddai’n darparu gofal ychwanegol yn darparu gwasanaeth cyfwerth, os nad gwell, na’r ddarpariaeth bresennol.

·         Soniodd y Cynghorydd Eryl Williams bod y potensial o ddefnyddio’r safle ysgol ddeuol bresennol ar gyfer darpariaeth gofal iechyd, unwaith y bydd yn wag, eisoes wedi ei godi.  Ychwanegodd swyddogion bod cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd wedi cael gwybod am y cais gan aelodau am wasanaeth iechyd dwysach yn ardal Rhuthun.  Roeddynt hefyd yn ymwybodol o sut roedd yr opsiynau a argymhellwyd wedi eu datblygu a’r bwriad am wasanaethau mwy integredig yn y dyfodol.

 

Cysgod y Gaer (Corwen)

 

Roedd y Cynghorydd Huw Jones yn falch o nodi’r cynnig i symud ymlaen gyda’r argymhelliad ar gyfer Cysgod y Gaer, sef yr unig gartref gofal yn yr ardal i wasanaethu anghenion Corwen a’r ardal gyfagos.  Roedd yn siomedig o weld yr ymateb isel i'r ymgynghoriad a byddai’n pwysleisio o fewn y gymuned, y pwysigrwydd o fynegi barn a dewisiadau.  Cymrodd y Cynghorydd Jones y cyfle hwn hefyd i ategu pwysigrwydd darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y sir.  Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd, ymatebodd swyddogion fel a ganlyn -

 

·         mae’r nifer o drigolion wedi cynyddu o 16 i 17 ers mis Chwefror

·         nid oedd cynlluniau cyfredol i drosglwyddo staff ond pe byddai angen gwneud hynny rhoddwyd sicrhad y byddai’r undebau’n ymwneud â’r broses hynny.  Byddai trefniadau partneriaeth yn gwella’r gwasanaeth cyfredol ac yn golygu y byddai staff o sefydliadau partner yn gweithio o'r safle.

·         cydnabuwyd pwysigrwydd yr iaith Gymraeg ar draws y sir, oedd yn elfen hollbwysig o'r cynigion.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd cwestiynau am rôl y GIG yn y broses yn gyffredinol a’r angen am gydweithredu gwell wrth ystyried prosiectau gofal cymdeithasol.  Cadarnhaodd swyddogion bod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar lefel strategol a gweithredol er mwyn gwella deilliannau.  Amlinellwyd gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, gan gynnwys sefydlu byrddau rhanbarthol er mwyn ystyried mathau gwahanol o ddarpariaeth, integreiddio gwasanaethau ac anghenion deilliannau.

 

Cyn symud i’r argymhellion ailadroddodd y Cynghorydd Bobby Feeley’r achos dros newid a’r angen i drawsnewid gwasanaethau er mwyn creu gwasanaethau cynaliadwy er mwyn cwrdd gofynion lleol a chyflawni’r deilliannau gorau posib.  Nodwyd y byddai’r gwaith ar opsiynau amrywiol yn dod i ben ar adegau gwahanol.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn cymeradwyo:-

 

 (a)      Hafan Deg (Y Rhyl) – bod y cyngor yn archwilio partneriaeth bosib â sefydliad allanol er mwyn trosglwyddo’r adeilad iddynt, gan gomisiynu gwasanaeth gofal dydd yn yr adeilad ac, yn ogystal, galluogi asiantaethau’r trydydd sector i ddarparu gweithgareddau ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl hŷn a fydd yn lleihau unigedd cymdeithasol, yn cefnogi annibyniaeth ac yn hybu gwytnwch.  Dylai'r gwaith o ran yr opsiwn hwn gynnwys dadansoddiad cymharu costau, safon gofal a darpariaeth iaith Gymraeg rhwng y darparwr presennol ac unrhyw wasanaeth posib yn y dyfodol

 

 (b)      Dolwen (Dinbych) – bod y cyngor yn archwilio partneriaeth bosib gyda sefydliad allanol er mwyn trosglwyddo’r adeilad a’r holl wasanaeth iddynt, gan sicrhau bod Dolwen yn gofrestredig i ddarparu gofal preswyl a gofal dydd iechyd meddwl yr henoed.  Dylai'r gwaith o ran yr opsiwn hwn gynnwys dadansoddiad cymharu costau, safon gofal a darpariaeth iaith Gymraeg rhwng y darparwr presennol ac unrhyw wasanaeth posib yn y dyfodol

 

 (c)       Awelon (Rhuthun) – bod y Cyngor yn archwilio’n fanwl y tri opsiwn sydd wedi eu cyflwyno o safbwynt y sefydliad hwn a bod y gwaith o ran yr opsiynau hyn yn cynnwys dadansoddiad cymharu costau, safon gofal a darpariaeth iaith Gymraeg rhwng y gwasanaeth presennol a phob un o’r tri opsiwn. 

 

Yr opsiynau yw -

 

·         Opsiwn 1 (y dewis a ffefrir gan y Cabinet): Bod y cyngor yn sefydlu partneriaeth gyda pherchennog Llys Awelon er mwyn datblygu fflatiau Gofal Ychwanegol ar y safle, gan ddisodli’r ddarpariaeth cymunedol a phreswyl presennol.  Fodd bynnag, dylid nodi bod y Cabinet wedi cytuno na fydd angen i neb adael os nad ydynt yn dymuno gwneud a bod dal modd i’w hanghenion gael eu diwallu yno.

 

·         Opsiwn 2: Gweithio mewn partneriaeth gyda landlord cymdeithasol cofrestredig, gwasanaethau iechyd a’r trydydd sector er mwyn datblygu amrywiaeth o wasanaethau, gan drosglwyddo hanner yr adeilad i ddatblygu fflatiau gofal ychwanegol, o bosib fel estyniad i Lys Awelon, wrth ddefnyddio’r gweddill o bosib fel uned breswyl fechan a allai gael ei defnyddio i gwrdd gofynion gofal seibiant a sicrhau nad oes raid i unrhyw breswylydd symud oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny.

 

·         Opsiwn 3: (Awgrym gan rai aelodau) Dylai’r cyngor ymgysylltu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu capasiti gofal nyrsio ychwanegol yn Rhuthun a fyddai wedyn yn gwella’r cynnig ar gyfer pobl hŷn yn ardal Rhuthun.

 

 (d)      Cysgod y Gaer (Corwen) – Bod y cyngor yn ffurfio partneriaeth gyda’r budd-ddeiliaid perthnasol (gan gynnwys PBC a’r trydydd sector) i ddatblygu'r safle yn ‘ganolfan gefnogaeth’ gan gynnig cyfleusterau gofal preswyl a gofal ychwanegol ynghyd â gofal yn y cartref a gwasanaeth cefnogaeth i denantiaid Cynlluniau Tai Gwarchod lleol a phoblogaeth ehangach Corwen a’r ardal gyfagos.

 

 (e)      bod dadansoddiad o bob opsiwn o ran pob sefydliad yn cael eu cyflwyno, wedi i’r uchod gael eu cwblhau, yn i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad er mwyn eu harchwilio cyn i’r Cabinet ddod i benderfyniad, gyda phob un yn cael ei gyflwyno fel mae’n datblygu.

 

Ar y pwynt hwn (11.50am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

Yn absenoldeb yr Arweinydd, bu’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Eryl Williams yn Cadeirio am weddill y trafodion.

 

 

Dogfennau ategol: